Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

COFIWCH DDWEUD DIOLCH

gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 (Ysgol Eglwys, gwasanaeth dosbarth)

Nod

Meddwl pa mor bwysig yw bod yn foneddigaidd.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

Ruth:  Rydym yn derbyn newyddion bod Iesu o Nasareth wedi cyflawni gwyrth arall, y tro hwn ar y ffin rhwng Galilea a Samaria. Rydyn ni wedi bod yn clywed cryn dipyn am y dyn rhyfeddol hwn a’r modd y rhoddodd fwyd i filoedd o bobl, er nad oedd ganddo ond ychydig i’w rannu.  Fe glywsom hefyd sut y gwnaeth Iesu droi dwr yn win, ac yn fwy gwyrthiol fyth, sut y daeth â merch fach oedd wedi marw yn ôl yn fyw. Yn awr, mae’n ymddangos, bod Iesu wedi iachau deg o wahangleifion o’u hafiechyd cas. Gadewch i ni fynd draw at ein gohebydd sydd wrthi’r funud hon yn sgwrsio gyda’r dynion gafodd eu hiachau.

Marc:  Diolch, Ruth. Mae hi wedi bod yn ddiwrnod rhyfeddol yma ac mae’n braf clywed ychydig o newyddion da. Fe hoffwn i ofyn i’r dynion yma i gyd ddweud wrth y gwrandawyr yn union beth ddigwyddodd iddyn nhw.  Ioan, fedrwch chi egluro, os gwelwch yn dda?

Ioan:  Wel, Rydw i wedi bod yn dioddef o’r gwahanglwyf ers rhyw ddeng mlynedd a’m ffrindiau yn y fan hyn hefyd. Mae’n afiechyd ofnadwy iawn, wyddoch chi.  Fe aeth fy nghroen yn gennog iawn ac roedd o wedi ei orchuddio â chornwydydd.  Weithiau, fe allwch chi golli eich bysedd a’ch bodiau, fel Simon a Daniel fan hyn. Mae’n gyflwr sy’n codi ofn ar rywun.

Daniel:  Alla’ i ddim egluro’n iawn i chi pa mor ofnadwy yw dioddef o’r gwahanglwyf.  Roedd yn rhaid i ni fyw mewn ardal oedd ar wahân i bawb arall - ymhell i ffwrdd oddi wrth ein teuluoedd ein hunain hyd yn oed. Dychmygwch hynny  - ddim yn gallu cydio yn llaw eich plentyn eich hun na rhoi cusan iddyn nhw cyn iddyn nhw fynd i gysgu.  Roedd yn rhaid i ni ganu cloch i rybuddio pob ein bod ni ar y ffordd, a gweiddi, ‘Aflan, aflan,’ er nad oedden ni’n fudr, dim ond yn wael. Rydw i’n dal yn methu credu fy mod i wedi cael fy iachau.

Simon:  Roedd pawb yn edrych arnom ni mewn ofn ac atgasedd, ac maen nhw’n dal i wneud hynny, er ein bod wedi cael ein hiachau.  Does neb yn gallu dechrau dychmygu sut y mae hi arnom ni.

Marc:  Ond rydych chi’n dweud dydych chi ddim yn wael erbyn hyn?  Fedrwch chi ddweud wrthym ni beth ddigwyddodd?

Ioan:  Roedden ni wedi bod yn clywed ers wythnosau rwan am y dyn hwn o’r enw Iesu, ac wedi clywed am y ffordd yr oedd yn tosturio wrth bobl a oedd yn wael, ac roedd yn eu hiachau.  Ym mhob pentref y mae Iesu wedi bod ynddo, mae pobl yn siarad amdano. Does fawr neb yn aflonyddu arnom ni - maen nhw ofn dal yr afiechyd eu hunain, a welwch chi ddim bai arnyn nhw. Ond mae’r dyn yma yn wahanol.  Wyddoch chi, rydw i’n Samariad, a dydy’r Iddewon ddim yn hoff ohonof fi beth bynnag, ond mae Iesu’n trin pawb yn yr un modd.

Amos:  Mae’n annog pobl i garu eu gelynion. Chlywsom ni erioed y fath beth o’r blaen!

Ioan:  Fodd bynnag, roedden ni’n sefyll o hirbell, fel arfer, pan welsom ni Iesu’n nesáu atom ni. Roedd yn hawdd ei adnabod oherwydd roedd tyrfaoedd o bobl o’i amgylch.  Wel, roedd hwn yn gyfle rhy dda i’w golli.  Fe wnaeth fy ffrindiau a finnau ddigon o swn, yn galw arno i drugarhau wrthym ni.

Saul:  Fedrwn i ddim coelio rywsut pan wnaeth o stopio, a chymryd sylw ohonom ni!

Marc:  A beth ddywedodd o wrthych chi?

Philip:  Fe ddywedodd wrthym ni am fynd a dangos ein hunain i’r offeiriaid.

Marc:  A wnaethoch chi hynny?

Philip:  Do, ond ar y ffordd yno, fe ddechreuodd fy nghroen deimlo’n od ryfeddol.  Fedra’ i ddim dechrau egluro’r peth – rhyw fath o gosi – a phan wnes i edrych ar fy nwylo, wel, roedden nhw’n edrych yn normal!

Ioan:  Ac nid ei ddwylo yn unig. Fe wnes i sylwi fod ei wyneb yn well a’i draed hefyd.  Roedd y peth yn wyrthiol.  Roedden ni i gyd yn teimlo’r un fath. Roedden ni i gyd wedi cael ein hiachau.  Roedden ni ar ben ein digon.

Marc:  Fe ddywedodd rhywun yn y dorf wrthyf fi mai chi, Ioan, oedd yr unig un a aeth yn ôl at Iesu i ddweud diolch wrtho fo, a bod Iesu wedi ei blesio'n arw gyda chi.

Ioan:  Wnes i ddim meddwl am y peth, fe ddigwyddodd yn naturiol.  Yn fy nheulu i, pan fydd unrhyw un yn cyflawni gweithred o garedigrwydd, neu sy’n gwneud rhywbeth meddylgar, dim bwys pa mor fach, rydyn ni bob amser yn dweud diolch.  Pan mae dyn sydd ddim yn fy nyled o gwbl yn fy iachau a rhoi fy mywyd yn ôl i mi, beth sydd fwy naturiol na fy mod i’n canu ei glod? Byddaf yn diolch i Dduw am weddill fy oes.

Marc:  A beth am y gweddill ohonoch chi, oeddech chi ddim yn teimlo’r un angen i ddiolch iddo fo?

Daniel:  Nid fy mod i’n anniolchgar, cofiwch, ond wnes i anghofio, dyna’i gyd.

Saul:  Roeddwn i yn gwneud beth a ofynnwyd i mi ei wneud.  Fe ddywedodd wrthyf am fynd i siarad gyda’r offeiriaid yn y deml, felly fe wnes i hynny.

Amos:  Ddywedodd neb wrthym ni am ddweud diolch na dim arall.

Philip:  Dydyn nhw ddim yn eiriau dw i erioed yn cofio eu clywed.  Does yna neb wedi dweud y gair diolch wrthyf fi. 

Marc:  Wel, wrandawyr, dyna i chi’r diweddaraf am y stori ryfeddol hon. Fe gaiff Ioan, sydd bob amser yn dweud diolch, y gair olaf.  Sut ydych chi’n teimlo, Ioan?

Ioan:  Rwy’n teimlo’n braf oddi mewn ac oddi allan.  Prin y medra’ i gyfleu’r teimlad mewn geiriau. Yr unig beth yr hoffwn ei wneud yw dweud diolch yn fawr wrth bawb sydd wedi fy nghefnogi i, ac wedi sefyll gyda mi trwy’r afiechyd ofnadwy yma.

Marc:  A chyda hynna, rwy’n eich cyflwyno’n ôl i Ruth yn y stiwdio, gan ddiolch i bob un ohonoch am wrando ar y rhaglen heddiw.   

Cofiwch ddweud diolch

(Fe fyddai’n bosib i blant eraill ddarllen y penillion canlynol).

Byddaf yn dal y drws ar agor ac yn gwenu’n glên bob tro,

ond bydd rhai yn fy mhasio heb ddweud bw na be - weithiau hi, weithiau fo.

Byddaf yn edrych yn syn, ac yn disgwyl fel hyn,

ond ddywedan nhw ddim, dyna dro!

‘Diolch,’ sibrydaf. ‘Popeth yn iawn,’ dywedaf wedyn,

wrth iddyn nhw fynd heibio yn swta a sydyn.

‘Ga i fenthyg pensel ?’ bydd rhai’n gofyn i mi.

Rhoddaf fenthyg fy mhensel, ond wir i chi,

waeth heb â disgwyl iddyn nhw ddiolch i mi!

Dydi o ddim yn drafferth, dydi o ddim yn strach,

Dydi o ddim yn waith anodd dweud un gair bach - Diolch.

***

Pan oeddech chi’n fach, ydych chi’n eu cofio nhw’n dweud,

wrth roi rhywbeth i chi, ‘Beth wyt ti’n ddweud?’

Chithau yn ateb yn ufudd bob amser,

‘Diolch!’ ac wedyn roedd pawb yn llawen.

Ond nawr rydych chi’n hyn, ddylai neb orfod eich atgoffa

i gofio dweud diolch am bob rhodd a chymwynas.

***

Cofiwch bob amser,

Cofiwch bob awr,

Cofiwch ddweud diolch, ‘Diolch yn fawr!’

Ac yn olaf …

Os yw pobl yn ddigon cwrtais i ddiolch i chi am y pethau meddylgar yr ydych chi’n eu gwneud, cofiwch gydnabod hynny.  Efallai y gellwch chi ddweud, ‘Mae’n bleser,’ neu, ‘Croeso'.

Amser i feddwl

Am beth yr hoffech chi ddeud diolch heddiw?

Gweddi

Diolch i ti am y byd,

Diolch am ein bwyd bob pryd,

Diolch am yr haul a’r glaw,

Diolch, Dduw, am bopeth ddaw.  

Amen.

Emyn

Unrhyw emyn sy’n sôn am ddiolch

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>