Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

YR YMCHWIL AM WYBODAETH

Wikipedia

gan Tim a Vicky Scott

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg

Nod

Helpu myfyrwyr i ystyried y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth, gwirionedd a doethineb, wrth i Wikipedia ddathlu ei 10fed pen-blwydd.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddisgrifio ystyr y gair ‘gwybodaeth’ a chofnodi eu hatebion ar siart fflip.  Ar dudalen arall, gallech wneud yr un ymarfer gyda’r gair ‘doethineb’.
  2. Dychmygwch fyd lle gallai pob unigolyn gyfrannu’n rhwydd at gronfa gwybodaeth yr holl ddynoliaeth.  Dyna’r nod y tu ôl i ddatblygiad un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd ar y rhyngrwyd heddiw.  Allwch chi ddyfalu pa wefan yw honno?
  1. Ddeg mlynedd yn ôl ar 15 Ionawr 2001, cafodd Wikipedia, y gwyddoniadur cydweithredol ar-lein, ei lansio’n swyddogol.  Gwyddoniadur am ddim yw Wikipedia, ac mae’n cynnwys tua 30,000 o erthyglau Cymraeg, dros 3.5 miliwn o rai Saesneg ac mae Wikipedias eraill yn cael eu datblygu mewn mwy na 125 iaith.  Dyma un o’r pum gwefan sy’n cael y mwyaf o ymweliadau drwy’r byd i gyd.  Ers sefydlu Wikipedia yn Ionawr 2001, mae twf y wefan wedi bod yn syfrdanol.  O gyfuno holl ieithoedd Wikipedia, mae mwy na 16,100,000 erthygl ar y wefan.  Gellir golygu bron y cyfan o’i erthyglau gan unrhyw un sydd â mynediad i’r safle.
    Mae’r enw ‘Wikipedia’ yn dod o ddau air: ‘wiki’ (technoleg ar gyfer creu gwefannau cydweithredol, yn deillio o air Hawaiaidd sy’n golygu ‘sydyn’) ac ‘encyclopedia’.  Oherwydd bod gan y wefan faint disg diderfyn, bron â bod, gall gynnwys llawer mwy o bynciau na’r hyn y gellir ei gynnwys mewn unrhyw wyddoniadur confensiynol wedi’i argraffu.
  1. Sefydlwyd Wikipedia gan Jimmy Wales, entrepreneur y rhyngrwyd o Unol Daleithiau America.  Yn 1999, cafodd Jimmy Wales syniad am wyddoniadur y gellid ei ddosbarthu’n rhwydd, a sefydlodd Nupedia.  Huriodd yr athronydd Larry Sanger fel prif olygydd a phenododd ddau raglennydd i ysgrifennu meddalwedd ar ei gyfer.  Methodd Nupedia, ond ar ôl dwy flynedd o weithio gyda chysyniad Nupedia, agorodd yr un tîm Wikipedia i helpu’r gwaith o sianelu cynnwys i mewn i Nupedia.  Daeth Wikipedia yn llwyddiant ar unwaith, ond nid yn y ffordd roedden nhw wedi ei ddisgwyl, a chaewyd Nupedia.  Yn 2003, sefydlodd Jimmy Wales sefydliad o’r enw Wikimedia Foundation, sefydliad nid er elw, i gefnogi Wikipedia a’i chwaer brosiectau.  Ei fwriad yw rhoi’r grym i bobl o gwmpas y byd, a’u hymgysylltu, i gasglu a datblygu cynnwys addysgol dan drwydded ddi-dâl neu’n eiddo cyhoeddus, a’i ledaenu’n effeithiol a thrwy’r byd i gyd - ‘to empower and engage people around the world to collect and develop educational content under a free license or in the public domain, and to disseminate it effectively and globally.’
  2. Gallu unrhyw un gyfrannu gwybodaeth at Wikipedia, ac mae cannoedd ar filoedd o wirfoddolwyr yn cyfrannu cynnwys ato o bob rhan o’r byd.  Mae hyn yn cael ei weld gan nifer fel ei brif gryfder, ond mae eraill yn ei weld fel ei brif wendid.  Mae gwybodaeth yn ddemocrataidd.  A yw hynny’n golygu fod unrhyw un, waeth bynnag beth yw lefel eu cymhwysedd mewn maes penodol, yn cael ymuno yn y gwaith?  Ar Wikipedia, mae cyfraniad pawb yn gydradd.  Pan wneir newidiadau i erthygl, maen nhw ar gael ar unwaith i unrhyw un ar y we, cyn cael eu golygu mewn unrhyw fodd, pa un ai a ydyn nhw’n cynnwys gwall, yn gamarweiniol, neu hyd yn oed yn nonsens llwyr.  Mae’r wefan wedi ei sefydlu ar gonsensws; er hynny, mae’r rhai sy’n feirniadol ohoni yn dweud nad yw hynny’n arwain at frasamcan gwell o’r gwirionedd.
  3. Mae angen i wybodaeth gael ei wirio cyn iddo fod o unrhyw werth gwirioneddol i ni.  Mae gwirio’n dangos a yw gwybodaeth yn wir neu’n anwir, yn ddiduedd neu’n dangos tuedd.  Os yw’r wybodaeth yn wir, mae’n ddibynadwy ac mae modd ymddiried ynddi; os yw’n anwir, mae’n annibynadwy ac yn ddiwerth.  Tra bod nifer o erthyglau rhagorol, cytbwys neu ‘ddiduedd’, wedi cael eu hymchwilio’n dda, o bryd i’w gilydd bydd erthyglau gwael, camarweiniol, sy’n dangos tuedd, a hyd yn oed yn fwriadol anwir, yn cael eu llwytho i fyny, gan wneud Wikipedia yn ffynhonnell gyfeirio annibynadwy a gwallus mewn rhai achosion.  Mae Wikipedia yn tueddu i adael i olygyddion blismona a chywiro camgymeriadau sy’n digwydd drostyn nhw eu hunain.  Er hynny, mae gwaith gan ysgolheigion wedi dangos nad yw’r erthyglau sy’n cael eu ‘fandaleiddio’ yn para’n hir, ac o’i gymharu â chronfa gyfeirio enwog yr Encyclopaedia Britannica, daeth deunydd Wikipedia yn agos ato o ran lefel ei gywirdeb.
  4. A yw hi’n iawn i gyfranwyr hawlio gwybodaeth nad ydyn nhw’n ei meddu, ac nad ydyn nhw erioed wedi gweithio tuag ati?  A yw Wikipedia yn arwain at ormod o amaturiaid yn cael gormod o rym i berswadio pobl fod ganddyn nhw wybodaeth o ddifrif am bwnc penodol?

    Mae myfyrwyr ysgolion a phrifysgolion yn aml yn cyfeirio at erthyglau Wikipedia fel dewis arall ar gyfer eu hesboniadau eu hunain ar gysyniadau neu ddisgrifiadau o ddigwyddiadau.  A yw Wikipedia yn arwain at lên-ladrad (twyllo) a gwrth-ddeallusrwydd? Beth yw eich barn chi?

Amser i feddwl

… oherwydd bydd doethineb yn dod i’th feddwl, a deall yn rhoi pleser i ti. (Diarhebion 2.10)

Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim.
(1 Corinthiaid 13.2)

Beth yw gwybodaeth, a sut mae hynny’n wahanol i ‘ddoethineb’?

Gweddi

Arglwydd, diolch am adnoddau fel Wikipedia.

Helpa ni i ddefnyddio adnoddau o’r fath yn ddoeth a chyfrifol.

Dduw’r gwirionedd, helpa ni nid yn unig i ddod yn fwy gwybodus
ond yn fwy doeth, fel y gallwn fyw’n ddoethach,
gan wybod am dy gariad at eraill, a dangos y cariad hwnnw.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>