Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

BLWYDDYN Y BEIBL

gan Rebecca Parkinson


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan (Ysgol Eglwys)

Fersiwn Saesneg

Nod

Cyflwyno’r flwyddyn 2011 fel ‘Blwyddyn y Beibl’, ac ystyried tarddiad cyfieithu’r Beibl i Saesneg.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae yna lawer o resymau pam y gellir ystyried 2011 yn flwyddyn arbennig.  Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi datgan eisoes y bydd 2011 yn ‘Flwyddyn Ryngwladol Fforestydd’ a hefyd yn ‘Flwyddyn Cemeg’. I’r Tsieiniaid, Blwyddyn y Gwningen fydd hi.  Ym Mhrydain, fe fydd llawer yn dathlu 2011 fel ‘Blwyddyn y Beibl’.
  2. Trwy gydol y flwyddyn bydd digwyddiadau yn cymryd lle ym mhob rhan o’r wlad i ddwyn i gof  cyfieithiad swyddogol cyntaf o’r Beibl i’r iaith Saesneg.   
  3. Yn dilyn dychweliad Iesu i’r nefoedd, aeth ei ddisgyblion ati i ledaenu’r newyddion amdano; ac yn raddol, lledaenodd Cristnogaeth drwy’r byd. Dechreuodd pobl o lawer o wahanol genhedloedd ddilyn dysgeidiaeth yr Eglwys Gristnogol. Yn y cyfnod hwnnw, fodd bynnag, roedd Rhufain yn parhau i fod y grym mawr oedd yn rheoli’r byd, a mynnodd yr arweinwyr yn Rhufain mai yn Lladin yn unig (iaith Rhufain) y dylai pobl ddarllen y Beibl.  Roedd hyn yn golygu, pryd bynnag yr oedd y Beibl yn cael ei ddarllen mewn eglwysi, neu hyd yn oed gartrefi, doedd gan y mwyafrif llethol o bobl ddim syniad o beth oedd yn cael ei ddarllen! Efallai y byddwch yn awyddus i ddarllen rhan o Efengyl Ioan (gweler y linc uwchlaw). Dewisol: un myfyriwr i ddarllen rhai adnodau o’r testun Lladin, ac yn dilyn hynny myfyriwr arall i ddarllen yr union adnodau o gyfieithiad Saesneg neu Gymraeg.
  4. Yn 1494 cafodd baban ei eni yn Swydd Caerloyw. William Tyndale a roddwyd yn enw arno. Pan dyfodd yn oedolyn, daeth yn glerigwr. Ymhen amser, daeth Tyndale yn fwyfwy ymwybodol mai’r bobl oedd wedi cael addysg dda yn unig allai obeithio deall y Beibl pe byddai’n parhau i fod mewn Lladin.  Roedd yn credu mai neges gan Dduw i’r byd oedd y Beibl, ac fe wyddai y byddai Duw yn dymuno i’r bobl ‘gyffredin’ glywed beth yr oedd y Beibl yn ei ddweud yn union fel yr oedd am i’r bobl gyfoethog ei ddeall. Rhannodd Tyndale ei feddyliau gyda chlerigwyr eraill, ond nid oedd yr un ohonyn nhw yn cytuno ag ef - fel mater o ffaith fe wnaethon nhw labelu Tyndale yn heretic a oedd yn gweithredu yn erbyn yr Eglwys. Fe wnaeth rhai clerigwyr hyd yn oed ddatgan ei bod yn bwysicach gwneud beth oedd y Pab (yn Rhufain) yn ei ddweud, yn hytrach na’r hyn yr oedden nhw’n credu fod Duw yn ei ddweud. 

    Gwnaeth Tyndale y sylw hwn gerbron arweinwyr yr Eglwys a oedd yn gwrthwynebu’r hyn yr oedd ef yn ei gredu: ‘I defy the Pope, and all his laws; and if God spares my life, ere many years, I will cause the boy that driveth the plow to know more of the Scriptures than thou dost!’ - mewn geiriau eraill, byddai Tyndale yn ymladd i sicrhau y byddai gan hyd yn oed mab ffermwr cyffredin well gwybodaeth o’r Beibl nag arweinyddion yr eglwys yn Rhufain!
  5. Roedd Tyndale yn benderfynol o gyfieithu’r Beibl i’r Saesneg ac, yn y diwedd, dihangodd i’r Almaen, ble y gobeithiai allu gweithio ar y cyfieithiad yn gyfrinachol. Cafodd ei gyfieithiad cyntaf o’r Testament Newydd ei gyhoeddi yn 1525, a’r flwyddyn ganlynol cafodd y copïau cyntaf o’r cyfieithiad eu smyglo i Loegr. Roedd yr arweinwyr eglwysig yn gandryll, ond doedden nhw ddim yn gwybod ble roedd Tyndale yn cuddio felly doedd dim modd iddyn nhw ei atal rhag gwneud y gwaith yr oedd yn ei wneud. Yn y cyfamser, dechreuodd Tyndale gyfieithu’r Hen Destament.
  6. Yn 1534, cafodd Tyndale ei fradychu, ei arestio a’i garcharu yng nghastell Vilvoorde, Gwlad Belg. Ar 6 Hydref 1536, cafodd ei lindagu a’i losgi ar y stanc, dan ddedfryd o heresi.  Ei eiriau olaf cyn marw yn y tân, ‘gyda sêl frwd a llais uchel’ oedd: ‘Lord open the King of England’s eyes!
  7. Ymhen pedair blynedd wedi marwolaeth Tyndale, gorchmynnodd Harri VIII i bedwar cyfieithiad Saesneg o’r Beibl gael eu hargraffu yn Lloegr, ac roedd y cyfan yn seiliedig ar gyfieithiad gwreiddiol William Tyndale. Ni fu ei fywyd felly’n wastraff!
  8. Tua 60 mlynedd yn ddiweddarach, rhoddodd y Brenin Iago I ei awdurdod i gyfieithiad newydd o’r Beibl yn Saesneg gael ei wneud. Byddai’r cyfieithiad hwn yn defnyddio’r holl ddatblygiadau mewn cyfieithu o’r testunau Hebraeg a Groeg, a byddai’n cael ei ysgrifennu yn y fath fodd fel y byddai’n addas ar gyfer pawb.  Yn 1611, 400 mlynedd yn ôl, cafodd y ‘King James Version’ o’r Beibl ei argraffu. O’r diwedd, roedd y Beibl ar gael i bawb, waeth beth oedd eu statws cymdeithasol. Fel yr oedd Tyndale wedi breuddwydio, roedd Gair Duw ar gael i’r ‘bobl gyffredin’ i’w glywed.  

Amser i feddwl

Bellach mae’r Beibl wedi cael ei gyfieithu i filoedd o wahanol ieithoedd ac ef yw’r llyfr gorau ei werthiant o hyd. (Cafodd y cyfieithiad cyntaf yn y Gymraeg ei gyhoeddi yn y flwyddyn 1588 gan yr Esgob William Morgan). Ein braint ni yw bod pobl fel William Tyndale wedi bod yn fodlon aberthu eu bywydau yn yr ymdrech i sicrhau ein hawl ni i ddarllen a deall y Beibl. Mae ymdrech Tyndale yn dangos i ni pa mor bwysig yw sefyll yn gadarn dros yr hyn yr ydym yn credu sydd yn iawn, er gwaethaf pob dim sydd yn ein herbyn. Dechreuodd Tyndale ar ei gyfieithiad o’r Testament Newydd oherwydd ei fod yn gwybod y byddai’n haws i bobl ei ddeall. Yn ystod y flwyddyn hon, ‘Blwyddyn y Beibl’, beth am i chi neilltuo amser i ddarllen y Beibl eich hun a gweld pam yr oedd Tyndale mor benderfynol y dylai fod ar gael i bawb?

Gweddi  

Annwyl Dduw,
Diolch i Ti am bobl fel William Tyndale, oedd yn fodlon ymdrechu dros hawliau pobl dlawd a phobl oedd heb gael addysg. Rho i ni galonnau i garu pobl sy’n llai ffodus na ni ein hunain, a rho i ni’r nerth a’r dewrder i sefyll yn gadarn dros yr achosion hynny yr ydym yn gwybod sydd yn iawn, yn deg, ac yn gyfiawn.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>