Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

DATBLYGIAD CYNALIADWY (2): Y WLEIDYDDIAETH

gan Claire Lamont


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 / Cyfnod Allweddol 5

Nod

Ystyried gwleidyddiaeth gymhleth datblygiad cynaliadwy.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

Darllenydd 1

Mae newid yn yr hinsawdd yn hawlio’r penawdau yn aml ar hyn o bryd.  Mae canlyniadau ymchwil gwyddonol, yn gynyddol, yn debyg i’w gilydd, ac mae'r penawdau yn fwy brawychus: rhewlifoedd anferth yn toddi, miliynau o rywogaethau o bosibl yn debyg o gael eu difodi, a’r Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig a llywodraethau unigol yn cyhoeddi atebion uchelgeisiol - ac eraill yn llawer llai uchelgeisiol - o ran datrys y broblem.

Ond mae’r misoedd diwethaf wedi gweld sylw mawr iawn ar y mater gan y cyfryngau.  Tra’r oedd cynrychiolwyr o bob rhan o’r byd yn cyfarfod yn Poznan, Gwlad Pwyl, i drafod y paratoadau ar gyfer trafodaethau'r Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd, yn Copenhagen yn 2009 (nod y cyfarfod hwnnw yw dod â chynllun gweithredu ôl-Kyoto i ben), bu protestwyr yn gorymdeithio trwy ganol Llundain, ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2008, i fynnu rhoi terfyn ar bob gorsaf pwer glo, a phrotestio yn erbyn y drydedd redfa arfaethedig yn Heathrow.

Yna, ddydd Llun 8 Rhagfyr, tynnodd grwp o’r enw Plane Stupid sylw pawb ohonom drwy sgrialu dros ffensys diogelwch ym maes awyr Stansted a chau rhedfa am ychydig o oriau.  Canslwyd 52 o hediadau, achoswyd anghyfleustra mawr i filoedd o bobl, ac roedd nifer fawr o benawdau gweddill yr wythnos yn cyfeirio at brotestwyr dosbarth-canol a oedd wrth eu bodd eu bod nhw wedi cael eu harestio, a bod eu hachos wedi cael sylw yn y newyddion.

Darllenydd 2

Sut y dylen ni ddehongli’r holl adweithion gwahanol hyn?  A ddylen ni ymddiried yn y Cenhedloedd Unedig a’n llywodraeth, neu a ddylen ni i gyd ddechrau dringo ar redfeydd awyrennau i fynnu bod camau’n cael eu cymryd?

Darllenydd 3

Er bod Gordon Brown wedi cyhoeddi’n ddiweddar ei fod wedi gosod nod heriol o ostwng allyriadau carbon deuocsid y D.U. gymaint ag 80 y cant erbyn 2050, dim ond ar ôl pwysau gan Aelodau Seneddol yr addaswyd hyn i gynnwys allyriadau awyrennau a llongau (dau o’r allyrwyr mwyaf).  Mae nifer o arbenigwyr yn nodi nad yw’r targedau hyn yn cyfateb â pholisïau cyfredol y llywodraeth – sy’n cynnwys adeiladu gorsafoedd pwer glo newydd, a thrydedd rhedfa bosibl yn Heathrow.  Os yw’r llywodraeth yn parhau â’r cynlluniau hyn, nid oes yr un ffordd y bydd allyriadau yn cael eu gostwng gymaint ag 80 y cant mewn 40 mlynedd.

Darllenydd 4

Er ei bod hi’n un o’r goreuon yn y byd am osod targedau, mae’n ymddangos bod ein llywodraeth, efallai, ychydig yn araf wrth geisio cyrraedd y targedau hyn.  A hyd yn oed os yw llywodraethau unigol yn penderfynu gweithredu’n bendant i roi terfyn ar y newid yn yr hinsawdd, a gwneud newidiadau ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy, mae’r mater hwn yn un byd-eang.  Os yw’r D.U. yn gostwng ei allyriadau gymaint ag 80 y cant, ond bod gwlad arall (er enghraifft, India, sy’n moderneiddio’n gyflym iawn ar hyn o bryd) yn cynyddu ei hallyriadau gymaint ag 80 y cant, yna mae’n amlwg nad ydym wedi datrys y broblem.

Darllenydd 1

Mae newid yn yr hinsawdd yn fater sy’n gallu uno’r byd.  Mae’n gofyn am ymrwymiad cydunol i newid, gan bob gwlad yn y byd.  Ond nid yw mor syml ag annog pob gwlad i ostwng ei hallyriadau.  Mae datblygiad cynaliadwy yn gofyn i ni greu byd teg, nid yn unig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond ar gyfer pawb yn ein cenhedlaeth ni nawr.

Ar hyn o bryd, mae gwledydd cyfoethocaf y byd yn defnyddio swm anghymesur o adnoddau ac yn cynhyrchu swm anghymesur o lygredd.  Ni ddylai gwledydd sydd ar hyn o bryd heb eu datblygu, ac sy’n brin o ddigon o fwyd, dwr ac anghenion sylfaenol eraill ar gyfer eu pobl, orfod gwneud yr un aberthau â’r gwledydd cyfoethog, datblygedig sy’n peri’r mwyafrif llethol o’r allyriadau nawr.

Ond, o ymdrin â’r mater yn briodol, gall deddfwriaeth ar newid yn yr hinsawdd nid yn unig arafu newid yn yr hinsawdd, ond gall hefyd fynd i’r afael â rhai o’r anghydraddoldebau rhwng gwledydd gwahanol yn y byd.

Darllenydd 2

Y syniad yw y dylai gwledydd annatblygedig gael datblygu eu hunain ymhellach, a chyrraedd safonau byw sylfaenol rydym yn eu cymryd yn ganiataol yma yn y byd datblygedig.  Gan hynny, mae datblygiad cynaliadwy yn gofyn i wledydd cyfoethog ffrwyno eu defnydd o adnoddau, a defnyddio’r adnoddau sydd ganddyn nhw yn fwy effeithlon (ac yn lanach).  Ond, mae hefyd yn awgrymu mai’r ffordd ymlaen yw datblygu cenhedloedd tlawd, yn unol ag angenrheidiau amgylcheddol cynaladwyedd: ffynonellau ynni glân fel ynni adnewyddadwy, gwell effeithlonrwydd, ailgylchu adnoddau a lleihau’n gyffredinol swm yr adnoddau sy’n cael eu defnyddio.

Darllenydd 3

Sut gellir gwireddu prosiect mor uchelgeisiol? (Ydi hi’n bosibl gwireddu hyn?)  Efallai y byddwch chi wedi clywed am rai mentrau byd-eang sydd ar hyn o bryd yn cael eu profi am y tro cyntaf: enghraifft amlwg yw ‘cynlluniau capio a masnachu’, lle mae cwmnïau yn yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, yn gallu prynu trwyddedau am y carbon maen nhw’n ei gynhyrchu.  Os ydyn nhw’n cynhyrchu rhagor o garbon na’r hyn a ganiateir ar eu trwydded, mae’n rhaid iddyn nhw brynu rhagor o drwyddedau ar farchnad garbon agored; ond, os ydyn nhw’n cynhyrchu llai o garbon na’r hyn mae eu trwydded yn ei ganiatáu, maen nhw’n gallu gwerthu eu trwyddedau i gwmnïau eraill sydd eu hangen nhw.

Mae hon yn un enghraifft yn unig o sut mae syniadau am ddatblygiad cynaliadwy eisoes yn cael effaith.  Mae eraill yn cynnwys gwelliannau mewn systemau trafnidiaeth yn dilyn cyflwyno’r taliadau atal tagfeydd yng nghanol Llundain; gweithredu ffynonellau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, fel ffermydd gwynt a phwer solar; ac adeiladu tai wedi’u hinswleiddio’n well (mae llywodraeth y D.U. yn bwriadu sicrhau bod pob cartref newydd yn ddi-garbon erbyn 2012).

Darllenydd 4

I roi sylw i anghydraddoldebau mewn gwledydd gwahanol, mae cynlluniau hefyd yn ymgorffori ffyrdd i annog cenhedloedd y gorllewin i gyfrannu at brosiectau datblygu mewn gwledydd tlotach, a thrwy hynny eu helpu nhw i dyfu mewn modd sy’n sefydlog yn amgylcheddol.  Mae’r cynllun mwyaf yn cael ei redeg gan y Cenhedloedd Unedig, ac fe’i gelwir yn Fecanwaith Datblygu Glân (Clean Development Mechanism).

Mae’r cynllun hwn yn gweithredu fel cynllun capio a masnachu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer cwmnïau, ond ar lefel genedlaethol: mae’n rhaid i wledydd sy’n mynd dros eu terfynau carbon dalu dirwy i wledydd eraill, tlotach, nad ydyn nhw’n defnyddio eu lwfans carbon.  Mae’r arian hwnnw wedyn yn cael ei ddefnyddio gan y cenhedloedd tlotach i dalu am gynlluniau datblygu glân, er enghraifft cynhyrchu ynni gan ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy.  Y syniad yw nad yw gwledydd annatblygedig yn cael eu cosbi gan newid yn yr hinsawdd: maen nhw’n gallu datblygu tra bod cenhedloedd cyfoethog yn talu am y llygredd maen nhw wedi ei achosi.

Darllenydd 1

Mae’r cynlluniau hyn yn amherffaith, yn newydd, ac yn dueddol o fod yn broblemus.  Er eu bod nhw’n ffyrdd medrus a diddorol o ddatrys problem enfawr, nid yw’n golygu fod y broblem wedi’i datrys: ddim o gwbl.  Mae angen cymryd rhagor o gamau, a hynny’n gyflymach.  Fel dinasyddion, ein cyfrifoldeb ni yw dysgu am y problemau, meddwl am y ffyrdd y gallwn ni helpu’n bersonol, a dangos i lywodraethau ein bod ni’n malio. 

Amser i feddwl

Dangoswch luniau’r protestiadau, a chwaraewch y gân ‘Fragile’ gan Sting.

Rhowch amser i'r myfyrwyr wrando a myfyrio.

Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r geiriau hyn fel gweddi:

Gweddi

Newid yn yr hinsawdd - mae pawb ohonom yn cyfrannu ato.

Rydym yn hoffi ein gwyliau.

Rydym yn hoffi cartrefi cynnes.

Rydym yn hoffi gyrru ein ceir.

Rydym yn hoffi bwyd o bob rhan o’r byd.

Ond beth allaf ei wneud i leihau fy ôl troed carbon?

Sut y gallaf helpu’r ddaear i anadlu’n rhwyddach?

(Chwaraewch y gerddoriaeth wrth i’r myfyrwyr adael.)

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>