Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

PEIDIWCH Â CHAEL EICH TWYLLO


Peidiwch â bod ofn dweud beth rydych chi’n ei weld


gan Jan Edmunds




Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Annog y plant i beidio â chael eu dylanwadu gan eraill sydd ddim yn dweud y gwir.

Paratoad a deunyddiau

 

 

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant wrando’n ofalus ar y gerdd. Oedwch rhwng pob llinell i roi cyfle iddyn nhw geisio deall y cynnwys.

    Peidiwch â chael eich twyllo
    Weithiau, wrth edrych, ydyn ni’n gweld pethau fel maen nhw o ddifri?
    Mae pobl yn eich gweld chi, ac maen nhw’n fy ngweld i.
    Os oes rhywun yn dweud bod rhywbeth du yn wyn,
    Peidiwch â dweud, ‘Ydi’, a chytuno â hyn.
    Peidiwch â dweud beth mae eraill eisiau ei glywed,
    Dim ond am eich bod yn credu mai dyna a ddylech.
    Dysgwch ddweud yn union beth sy’n eich meddwl,
    Ac wrth wneud hynny, fe ddaw’r gwir i’r golwg.
  2. Weithiau pan fydd pobl yn gofyn am ein barn, ydyn ni’n dweud yn union beth sydd yn ein meddyliau, neu a ydyn ni’n cael ein dylanwadu gan bobl eraill? Efallai ein bod ni ofn colli ein ffrindiau pe bydden yn meiddio anghytuno, neu ofn i rywun chwerthin am ein pen. (Fe allech chi ddatblygu trafodaeth bellach yma.)

    Weithiau hefyd, fe allai rhywun ofyn i ni wneud rhywbeth y byddwn ni’n anghyfforddus yn ei wneud. Rydym yn ymwybodol nad yw’n iawn i ni wneud y peth hwnnw. Fe ddylem ni beidio â rhoi i mewn i demtasiwn, ac os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, ddylem ni ddim ei wneud.
  3. Mae’r stori ganlynol yn seiliedig ar un o chwedlau Hans Christian Andersen, ac mae’n dangos beth ddigwyddodd i ddyn oedd ddim yn meddwl drosto’i hun.

    Dillad Newydd yr Ymerawdwr
    Un tro, roedd ymerawdwr, a oedd yn hoffi meddwl y gallai blesio’i bobl i gyd, bob amser. Roedd yr ymerawdwr mor rymus fel nad oedd neb yn meiddio tynnu’n groes iddo. Roedd yn ddyn hynod o falch, ac roedd wrth ei fodd yn cael dillad newydd mor aml ag y gallai.

    Gan wybod hynny, fe ddaeth dau dwyllwr i’r palas, yn cymryd arnyn nhw fod yn ddau deiliwr. Gofynnodd y ddau am gael gweld yr ymerawdwr, a chynnig gwneud siwt o ddillad newydd crand iddo ar gyfer gorymdaith ei ben-blwydd.

    Roedd yr ymerawdwr wrth ei fodd, a gofynnodd am gael gweld y defnydd yr oedd y teilwriaid yn mynd i wneud y wisg allan ohono. Smaliodd y ddau rowlio allan lathenni o ddefnydd i’w ddangos i’r ymerawdwr, gan ddweud mai hwn oedd y defnydd gorau yn y wlad. ‘Edrychwch ar liw cyfoethog y defnydd,’ meddai un. ‘A gwelwch fel mae’n disgleirio yn y golau,’ meddai’r llall. ‘Mae’r defnydd yma mor arbennig, fel mai dim ond pobl ddoeth a chlyfar sy’n gallu ei weld.’

    Syllodd yr ymerawdwr, a chraffu, gan geisio’i orau i weld beth oedd y ddau ddyn yn sôn amdano. Doedd o’n gweld dim, ond rhag iddo ymddangos yn dwp, fe ddechreuodd gytuno â phopeth yr oedd y ddau yn ei ddweud. Ac fe gytunodd i’r ddau wneud y siwt newydd iddo.

    Ar ôl rhai dyddiau, fe ddaeth y ddau deiliwr yn ôl i’r palas gan smalio cario parsel mawr. Ac fe dynnodd y ddau y ‘siwt newydd’ allan o’r parsel. ‘Gwisgwch hi amdanoch, eich Mawrhydi,’ meddai’r ddau. Tynnodd yr ymerawdwr ei ddillad ac aeth y ddau dwyllwr ati i gymryd arnyn nhw eu bod yn gwisgo’r siwt am yr ymerawdwr. ‘O! Rydych chi’n edrych yn arbennig o smart ynddi, mae hi’n siwt hyfryd,’ medden nhw wedyn. Eto, teimlai’r ymerawdwr fod yn rhaid iddo gytuno â nhw. Talodd swm mawr o arian i’r ddau deiliwr am eu gwaith, ac fe aeth y ddau o’r palas ar frys wedyn.

    Daeth diwrnod yr orymdaith, a chyda help ei weision - na feiddiai ddweud nad oedden nhw’n gweld ei wisg newydd - fe wisgodd yr ymerawdwr amdano. Fe ofynnodd i’w weision beth oedd eu barn nhw am ei ddillad, a dywedodd pawb ei fod yn edrych yn ardderchog yn ei wisg arbennig. Doedd neb eisiau gwneud i’r ymerawdwr deimlo’n ddig.

    Yn hynod falch ohono’i hun, fe orymdeithiodd yr ymerawdwr ar hyd strydoedd y ddinas. Curodd y bobl eu dwylo a gweiddi hwre wrth iddo fynd heibio iddyn nhw. Pan gyrhaeddodd sgwâr y farchnad, fe basiodd yr ymerawdwr heibio i fachgen bach tlawd yn begio am arian. Clywodd y bobl y bachgen yn gofyn, ‘Pam nad yw’r ymerawdwr yn gwisgo dim ond ei ddillad isaf?’

    Aeth y lle yn hollol ddistaw, a’r bobl yn meddwl beth fyddai’n digwydd nesaf. ‘Dewch â’r bachgen acw ataf fi!’ rhuodd yr ymerawdwr. Gafaelodd y gweision yn y bachgen druan, a dod ag ef yn frysiog o flaen yr ymerawdwr. Ebychodd pawb mewn braw. Beth fyddai’n digwydd?

    Edrychodd yr ymerawdwr ar y bachgen bach yn crynu mewn ofn. ‘Beth ddywedaist ti?’ gofynnodd.

    ‘Os gwelwch chi’n dda, eich mawrhydi,’ meddai’r bachgen yn grynedig, ‘Methu deall roeddwn i pam rydych chi’n gwisgo dim ond eich dillad isaf?’

    Edrychodd yr ymerawdwr arno’i hun a dechrau chwerthin. ‘Wel yn wir!’ meddai. ‘Rwyt ti wedi bod yn ddigon dewr i ddweud y gwir, a dweud yn union beth rwyt ti’n ei weld mewn difri. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi bod yn wirion iawn, ac mae wedi cymryd bachgen bach fel ti i fod yn ddigon dewr i ddweud hynny wrtha i. Rydw i wedi cael fy nhwyllo, a dim ond y ti a ddywedodd y gwir. O hyn allan, fe gei di fyw yn fy mhalas. Fe fydda i’n gallu gofyn i ti am dy farn onest, gan wybod y byddi di bob amser yn dweud y gwir, ac fe fydda i’n gallu dy drystio di.’

    Wrth sylweddoli ei dwpdra, rhoddodd yr ymerawdwr orchymyn i ddal y ddau dwyllwr a’u taflu i’r carchar. O hynny ymlaen fe fyddai’r ymerawdwr yn meddwl drosto’i hun ac ni fyddai byth yn cael ei ddylanwadu gan beth fyddai pobl eraill yn feddwl ohono. Ac wedi i’r bachgen bach hwnnw dyfu, fe ddaeth yn brif gynghorydd i’r ymerawdwr, ac ni cheisiodd unrhyw un dwyllo’r ymerawdwr ar ôl hynny.
  4. Fe allech chi drafod ymhellach yma, er mwyn gofalu bod y plant wedi deall y neges sy’n cael ei chyfleu.

 

Amser i feddwl

Gweddi

Rydyn ni’n diolch i ti , O Dduw, am roi i ni ein meddyliau ein hunain.

Dysga ni i ddefnyddio ein meddyliau yn ddoeth, a helpa ni i feddwl drosom ein hunain.

Dysga ni i wybod beth sy’n iawn, a beth sydd ddim yn iawn, ac i ddweud y gwir bob amser.

Amen.



Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>