Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

FFRIND DEWR

Gwyl Iddewig Purim, 19 Mawrth 2011

gan Janice Ross

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1

Fersiwn Saesneg

Nod

Meddwl am yr hyn mae’n ei olygu i siarad yn erbyn rhywbeth sydd ddim yn iawn, a meddwl am hynny trwy edrych ar stori neilltuol a hanes dathlu gwyl Iddewig y Purim.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gwisgwch y goron.

    Fyddech chi’n hoffi bod yn frenin neu frenhines? Trafodwch gyda’r plant beth fyddai’r manteision pe byddech chi’n frenin neu frenhines.
  2. Adroddwch y stori ganlynol:

    Mae’r stori sydd gen i heddiw am frenhines hardd a oedd yn byw lawer o flynyddoedd yn ôl. Ei henw oedd Esther. Doedd Esther ddim wedi cael ei geni’n aelod o unrhyw deulu enwog na theulu brenhinol. Yn wir, merch fach amddifad oedd hi, yn byw gyda’i hewythr - dyn caredig o’r enw Mordecai.

    Un diwrnod, fe aeth brenin Persia i chwilio am wraig ac fe ddewiswyd Esther. Yn y dyddiau hynny, fe fyddai’r brenin yn rhywun grymus iawn, ac fe fyddai pawb yn ufuddhau iddo. Fyddai neb yn meiddio ei wrthod neu fe fydden nhw’n cael eu cosbi’n llym. Felly, doedd gan Esther ddim dewis ond ymadael â’r bywyd syml gyda’i hewythr a mynd i’r palas brenhinol i fyw.

    ‘Fe fyddi di’n iawn,’ meddai ei hewythr, Mordecai. ‘Rwyt ti’n ferch garedig a doeth. Fe fyddi di’n dod yn ffrindiau â phobl eraill yn hawdd, ac fe fydd pobl o dy gwmpas di yn y palas a fydd yn dy ddysgu di am bopeth y bydd yn rhaid i ti ei wybod.’

    Ac roedd beth ddywedodd Mordecai’n wir. Roedd pawb yn hoffi Esther. Roedd gweision a morwynion y palas yn ei haddysgu sut i ofalu am ei chroen, pa bersawr oedd yn gweddu iddi, sut i wisgo’n daclus, a sut i gyfarch y brenin hefyd: ‘Eich mawrhydi’, gan roi cyrtsi iddo!

    Cafodd ei hewythr, Mordecai, symud i fyw i lys y palas hefyd,  a chafodd waith pwysig i’w wneud yno.

    ‘Cofia , Esther,’ rhybuddiodd Mordecai hi. ‘Paid â gadael i’r brenin wybod mai Iddewes wyt ti.’

    Bryd hynny, roedd lawer o bobl Iddewig yn ffoaduriaid yng ngwlad Persia. Ac, yn anffodus, doedd pobl Persia ddim yn hoffi’r Iddewon oherwydd eu bod yn cadw’u hunain ar wahân ac yn dilyn eu traddodiadau a’u harferion eu hunain ac yn gwrthod addoli duwiau Persia.

    Roedd Mordecai’n weithiwr da i’r brenin, ac yn fuan iawn fe gafodd ganmoliaeth arbennig gan y brenin am ei wasanaeth ardderchog. Ond, un diwrnod, fe ddigwyddodd rhywbeth ofnadwy. Penodwyd prif weinidog newydd o’r enw Haman - cymeriad ffiaidd a oedd yn casáu Iddewon. Fe ddywedodd Haman rywbeth fel hyn wrth y brenin:

    ‘Fy Arglwydd, am mai ti yw’r dyn pwysicaf yn y wlad, rwy’n meddwl y dylai pawb yn dy deyrnas ymgrymu i ti pan fyddi di’n mynd heibio iddyn nhw.’

    Roedd y brenin wrth ei fodd pan glywodd Haman yn awgrymu hyn. ‘Syniad da iawn, Haman!’ cytunodd.

    Wrth gwrs, roedd hyn yn mynd i achosi problem fawr i’r Iddewon . . . ac roedd Haman yn gwybod hynny. Roedd cyfraith yr Iddewon yn nodi’n glir mai Duw oedd yr unig un yr oedden nhw i fod i ymgrymu iddo.

    ‘Ha ha,’ meddyliodd Haman. ‘Nawr, fe fydda i’n gallu dal Mordecai a phawb o’i bobl fel hyn!’

    Ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach fe aeth Haman at y brenin.

    ‘Fy Arglwydd,’ meddai’n llechwraidd wrtho. ‘Rydw i’n credu y dylai pob un sydd ddim yn ufuddhau i’r gorchymyn, ac sy’n gwrthod moesymgrymu i chi, gael ei ladd. Mae’r Iddewon yn gwrthod plygu i chi - rhywbeth ynghylch bod eu Duw’n bwysicach na chi. Beth hoffech chi i mi ei wneud?’

    ‘Casglwch bawb sy’n gwrthod ymgrymu i mi ynghyd ddydd Sadwrn, a threfnwch eu bod yn cael eu lladd,’ gorchymynnodd y brenin yn ddig.

    Pan glywodd Mordecai hyn, roedd yn hynod o drist. Anfonodd neges at Esther.

    ‘Rwy’n ofni na allwn ni rwystro hyn ddigwydd. Ond pwy a wyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i’r frenhiniaeth?’ Tybed allai Esther wneud rhywbeth?

    ‘Efallai bod yr hyn mae Mordecai’n ei ddweud yn wir,’ meddyliodd Esther yn obeithiol, ond roedd hi hefyd yn gwybod mai dim ond merch ifanc oedd hi. Roedd ar y bobl angen help Duw. Fe anfonodd hi negesydd yn ôl at Mordecai gyda’r neges ganlynol:

    ‘Dos i gasglu’r holl Iddewon ynghyd a dywed wrthyn nhw am ymprydio a gweddïo ar Dduw am dri diwrnod. Peidiwch â bwyta nac yfed, ddydd na nos. Fe wnaf innau a fy morwynion yr un fath, ac ar ôl hynny fe af i weld y brenin.’

    Doedd hi ddim yn arferiad i neb fynd i mewn i weld y brenin heb iddo ef ei hun eu galw. Doedd hyd yn oed y frenhines ddim yn gallu mynd i mewn ac allan o’i ystafell ohoni ei hun. Pe byddai hwyliau drwg ar y brenin (ac roedd Esther yn gwybod ei fod felly’n aml), fe allai’n hawdd ddweud wrthi, ‘Pwy wyt ti’n ei feddwl wyt ti!’ a’i hanfon oddi yno am byth. Ond fe dreuliodd Esther a’i phobl dri diwrnod yn ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw am ei help, a phan ofynnodd am gael gweld y brenin cafodd ganiatâd i fynd ato i siarad.

    ‘Rwyt ti’n edrych yn hardd iawn,’ meddai’r brenin wrthi. ‘Beth sy’n bod? Beth wyt ti eisiau? Rwyt ti mor hardd, fe fyddwn i’n barod i roi hanner fy nheyrnas i ti!’

    Anadlodd Esther yn ddwfn, ac yn ddewr iawn fe ofynnodd iddo:
    ‘Fy Arglwydd, os gweli di’n dda, wnei di arbed fy mywyd a bywydau fy mhobl, oherwydd rydyn ni i gyd yn mynd i gael ein lladd.’

    Synnodd y brenin pan glywodd hyn. Eglurodd Esther iddo mai Iddewon oedd hi a’i hewythr a’i theulu, a bod Haman yn cynllunio i ladd Mordecai y diwrnod wedyn. Gwelodd y brenin yr olwg bryderus oedd ar wyneb ei frenhines ifanc ddewr a phrydferth, a chofiodd am Mordecai a’r gwaith da yr oedd wedi’i wneud yn y llys brenhinol. Dechreuodd deimlo’n ddig, nid gydag Esther, yn ffodus, ond gyda’r bwli, Haman, a oedd wedi ei dwyllo. Rhoddodd y brenin orchymyn i’w swyddogion anfon Haman oddi yno a’i gosbi. Fe wrthododd weithredu’r cynllun oedd gan Haman ac fe achubwyd bywydau’r Iddewon.
  3. Mae pobl Iddewig yn dal i ddathlu’r amser hwn, ac ar wyl Purim maen nhw’n cofio am ddewrder Esther.

Amser i feddwl

Roedd Esther yn gyfforddus iawn yn y palas brenhinol. Roedd hi’n hollol ddiogel am fod y brenin yn ei charu. Ond roedd hi’n gwybod nad oedd gweddill ei phobl yn yr un sefyllfa. Roedden nhw’n cael eu bwlio, ac fe allai gostio’u bywyd iddyn nhw wrthwynebu. Oedd rhywbeth y gallai hi ei wneud?

Bu’n rhaid i Esther fod yn ddewr iawn. Aeth i mewn at y brenin a siarad ag ef gan sefyll dros ei phobl. Haman oedd prif weinidog y brenin, ac roedd yn ddyn cyfrwys iawn. Mae’n anodd iawn gwrthwynebu bwli, yn enwedig pan fydd hwnnw’n rhywun mor rymus.

Ydych chi wedi gweld rhywun yn cael ei drin yn annheg?

Yn union fel y cafodd Esther gyfle i ddefnyddio’i safle yn y palas ‘ar gyfer y fath amser â hwn’, efallai, y cewch chithau gyfle hefyd, ryw dro.

Ydych chi wedi gweld rhywun yn cael ei drin yn annheg? Allwch chi fod yn ddewr fel Esther, a sefyll yn gadarn dros yr hyn sy’n iawn?

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch i ti am achub dy bobl, fel y clywsom yr hanes yn y stori hon.

Diolch dy fod ti wedi ateb cri Esther a’i phobl pan wnaethon nhw alw am dy help.

Helpa fi i fod yn ddewr, fel Esther, pan fydda i’n gweld rhywbeth drwg yn digwydd i rywun arall.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>