A

Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Y PASG IDDEWIG

gan Helen Bryant

Addasiad yw’r gwasanaeth hwn o wasanaeth sydd wedi ei gymryd allan o’r llyfr More Secondary School Assemblies, gol. Ronni Lamont (SPCK, 2009).


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Deall y cysylltiad rhwng y Pasg Iddewig a rhyddid.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth     

  1. Fe hoffwn i chi gau eich llygaid am foment. Nawr, ymlaciwch am ychydig eiliadau. Y peth gorau am ein dychymyg yw y gall fynd â ni i unrhyw le. Fe hoffwn i chi fynd yn ôl i adeg ymhell bell yn ôl. Fe hoffwn i chi ddychmygu eich bod yn gaethwas. Rydych chi’n gweithio i feistr creulon sy’n mynnu eich bod chi’n dal ati i weithio hyd yn oed pan fyddwch chi wedi blino ac yn teimlo na fedrwch chi wneud dim mwy. Hyd yn oed pan fyddwch chi wedi gorffen eich diwrnod gwaith, ac wedi mynd adref, dydych chi ddim yn teimlo’n ddiogel yno wedyn. Mae’r rhai sydd o’ch cwmpas chi’n eich trin fel rhywun israddol, ac mae’n rhaid i chi arfer eich crefydd yn gyfrinachol. Caiff aelodau eich teulu a’ch ffrindiau eu curo os nad ydyn nhw’n ymateb mewn ffordd neilltuol. Rydych chi eisiau dianc allan o’r wlad lle rydych chi’n cael eich cadw’n garcharor, rydych chi eisiau cael mynd i Wlad yr Addewid - y wlad y mae Duw wedi’i haddo i'ch cenedl. Rydych chi o ddifrif eisiau teimlo’n obeithiol, ond pan fyddwch chi’n dechrau meddwl tybed sut y bydd hi arnoch chi pan ddaw pethau’n well, dydych chi ddim eisiau gobeithio gormod, rhag ofn na ddaw hynny byth yn wir.
  2. Nawr, agorwch eich llygaid. Sut roeddech chi’n teimlo wrth ddychmygu? (Efallai yr hoffech chi ofyn am ymateb rhai o’r gynulleidfa.) Oeddech chi’n teimlo’n gaeth, yn unig, yn drist neu’n ddig? Pob un o’r teimladau yma efallai, yn ogystal ag amryw o emosiynau eraill. Fe allwn i fod yn sôn am unrhyw adeg yn ein hanes: y bobl ddu yn gaethweision yn America, pobl sydd wedi’u carcharu oherwydd eu cred, neu hyd yn oed y Cristnogion ar ôl cyfnod Iesu Grist. Fodd bynnag, rydw i heddiw yn mynd i siarad am yr adeg pan oedd yr Israeliaid yn gaethweision yn yr Aifft.
  3. Tua’r adeg hon o’r flwyddyn, Mawrth neu Ebrill, fe fydd Iddewon yn dathlu un o’u prif wyliau: y Pesach, neu’r Pasg Iddewig. Mae’r wyl yn dwyn i  gof hanes Moses, a sut yr arweiniodd ef yr Israeliaid i ryddid o’u caethiwed yn yr Aifft.

    Mae Moses yn ffigwr allweddol i’r Iddewon, a dyna pam y maen nhw’n dathlu’r Pesach neu’r Pasg Iddewig. ‘Passover’ yw’r enw Saesneg ar yr wyl, ac mae’n cofio am yr amser pan oedd Moses wedi dod i’r Aifft yn dilyn cyfarwyddyd gan Dduw. Roedd i fod i fynd at y Pharo a dweud wrtho: ‘Gollwng fy mhobl yn rhydd.’ Ond roedd y Pharo’n ddyn balch, ac roedd arno eisiau’r cadw’r caethweision oedd ganddo i adeiladu gwlad yr Aifft a’i gwneud yn wlad fawr bwysig. Wrth gwrs, gwrthod y cais i ryddhau’r bobl a wnaeth y Pharo.

    Ar ôl hynny, fe anfonodd Duw sawl pla i wlad yr Aifft er mwyn ceisio perswadio’r Pharo i newid ei feddwl: troi’r dwr yn waed, pla o locustiaid, tywyllwch, pla o gornwydydd, a phethau eraill. Ond, er hynny, doedd y Pharo ddim am ryddhau’r Israeliaid.
  4. Ar ôl naw pla, fe ddaeth y degfed. Fe fyddai’r pla yma’n sicr o wneud i’r Pharo newid ei feddwl. Roedd Angel Marwolaeth yn mynd i basio trwy’r wlad a lladd pob plentyn gwryw cyntaf-anedig. Roedd yr Israeliaid wedi cael neges arbennig gan Dduw, pe bydden nhw’n aberthu oen ac yn paentio gwaed yr oen hwnnw uwchben drysau eu tai, fe fyddai’r angel yn pasio’r cartrefi rheini a byddai eu plant yn ddiogel. Gwelwch arwyddocâd yr enw Saesneg ‘Passover - the angel would ‘pass over’ their homes, ac fe fyddai’r plant yn cael eu harbed. Fe fyddai’r gwaed uwchben y drws yn arwydd eu bod yn bobl ddewisedig Duw.

    Fe wnaeth yr Israeliaid hyn, fe basiodd yr angel heibio eu cartrefi ac roedd eu plant yn ddianaf. Ond roedd pob plentyn gwryw cyntaf-anedig yr Eifftiaid yn marw. Hyd yn oed mab y Pharo’i hun. Ar ôl colli ei fab, fe ryddhaodd y Pharo’r Israeliaid o’r diwedd, a dweud wrthyn nhw am fynd allan o wlad yr Aifft.

    Mae’r hanes i’w gael yn llyfr Exodus yn y Beibl. Ystyr y gair ‘exodus’ yw ymgilio neu ffoi. Roedd yr Israeliaid ar gymaint o frys i ymadael â’r Aifft fel nad oedd ganddyn nhw amser i adael i’r bara, yr oedden nhw’n ei baratoi ar gyfer y diwrnod canlynol, godi. Felly, fe aethon nhw â bara fflat, heb furum ynddo i’w godi, gyda nhw i’w fwyta drannoeth.
  5. Mae gwyl y Pasg Iddewig yn cofio’r digwyddiad neilltuol yma: angel marwolaeth yn pasio heibio, a rhyddhau’r Iddewon o’u caethiwed yn yr Aifft. Mae’r wyl yn parhau hyd at wyth diwrnod, ac yng ngwlad Israel mae’r wyth diwrnod llawn yn cael eu hystyried yn ddyddiau gorffwys. Mewn gwledydd eraill, sydd ddim yn wledydd Iddewig, dau ddiwrnod sy’n cael eu hystyried yn ddyddiau gorffwys, sef y cyntaf a’r olaf o’r wyth.

    Ar noson gyntaf yr wyl, daw Iddewon at ei gilydd fel teulu a bwyta pryd arbennig y maen nhw’n ei alw’n Seder. Ystyr y gair Seder yw ‘trefn’ ac mae’r seremonïau sy’n gysylltiedig â’r pryd yn cael eu cyflawni mewn trefn neilltuol. Caiff llestri arbennig eu defnyddio, a bydd y rheini’n cael eu cadw i’w defnyddio ar y Pasg Iddewig yn unig.
  6. Mae testun Iddewig o’r enw Haggadah yn nodi, mewn 14 cam, hanes profiadau’r Iddewon yn yr Aifft a hanes yr Exodus a datguddiad Duw. Mae’n cynnwys caneuon, bendithion, salmau a’r Pedwar Cwestiwn, a bydd y rhain i gyd yn cael eu canu a’u darllen yn ystod y pryd bwyd.

    Wrth i stori pob un o’r deg pla gael ei darllen bydd diferyn o win yn cael ei arllwys er mwyn atgoffa’r Iddewon bod gwawr o dristwch yn ymwneud â’u rhyddid oherwydd bod yr Eifftiaid wedi dioddef hefyd.

    Mae plant yn allweddol yn y dathliadau, ac mae gemau arbennig iddyn nhw’u chwarae, sydd wedi’u bwriadu i ddal sylw’r plant. Yn wir, y plentyn ieuengaf sy’n gofyn y Pedwar Cwestiwn yn ystod y pryd bwyd Seder, ac mae hynny’n dangos pwysigrwydd y symbolaeth:

    Darllenydd 1:  Pam rydyn ni’n bwyta bara croyw?

    Darllenydd 2:  Rydyn ni’n bwyta bara croyw neu matzo i gofio am yr Exodus pan wnaeth yr Israeliaid ffoi o’r Aifft gyda’r toes nad oedden nhw wedi gallu ychwanegu’r burum ato.

    Darllenydd 1:  Pam rydyn ni’n bwyta perlysiau chwerw?

    Darllenydd 2:  Bydd y perlysiau chwerw, marchruddygl (horseradish) fel arfer, yn cael eu cynnwys yn y pryd bwyd i gynrychioli chwerwder caethwasiaeth.

    Darllenydd 1:  Pam rydyn ni’n dipio ein bwyd mewn hylif?

    Darllenydd 2:  Ar ddechrau’r pryd bwyd, caiff darn o daten ei dipio mewn dwr halen i gofio am ddagrau’r Iddewon pan oedden nhw’n gaethweision.

    Darllenydd 1:  Pam rydyn ni’n lledorwedd wrth fwyta?

    Darllenydd 2:  Yn yr hen amser, roedd pobl rydd yn lledorwedd ar soffa tra bydden nhw’n bwyta. Heddiw, caiff clustogau eu rhoi ar y cadeiriau i gynrychioli’r rhyddid a’r ymlacio, o’i gymharu â bod yn gaethweision.
  7. Mae pob elfen o’r pryd bwyd yn arbennig, ac mae plât arbennig yn cynnwys y cyfan o’r pethau symbolaidd canlynol. (Gofynnwch i’r wyth gwirfoddolwr ddal y delweddau i fyny, i’w dangos, neu gallwch eu dangos ar gyflwyniad PowerPoint, tra byddwch chi’n eu hegluro, fel a ganlyn:)

    Matzo (bara croyw) sy’n cael ei fwyta dair gwaith yn symbolaidd yn ystod y pryd bwyd.

    Asgwrn oen, i gynrychioli’r oen oedd wedi’i aberthu.

    Wy, hefyd i gynrychioli aberth, ond sydd hefyd â symbolaeth arall. Mae wyau’n mynd yn galed wrth eu coginio. Felly mae’r wy yn symboleiddio penderfyniad yr Iddewon i beidio â rhoi'r gorau i’w cred o dan ormes yr Eifftiaid.

    Dail gwyrdd (letys, fel arfer) i gynrychioli bywyd newydd.

    Dwr halen i gynrychioli dagrau’r caethwas.

    Pedair cwpanaid o win i gofio am y pedair gwaith yr addawodd Duw iddyn nhw y bydden nhw’n cael eu rhyddhau. Mae pawb, yn cynnwys y plant, yn yfed o’r cwpanau gwin yma.

    Charoset (past wedi’i wneud o afalau, cnau, sinamon a gwin) i gynrychioli’r morter a ddefnyddiwyd gan yr Israeliaid i adeiladu palasau’r Aifft.

    Bydd cwpanaid ychwanegol o win yn cael ei gosod ar y bwrdd, a’r drws yn cael ei adael ar agor, yn barod am ddyfodiad Elias. Mae’r Iddewon yn credu y bydd y proffwyd Elias yn ail ymddangos i gyhoeddi bod y Meseia’n dod, ac fe fydd yn gwneud hynny yn ystod y Pesach neu’r Pasg Iddewig.
  8. Mae’r Haggadah yn dod i ben gyda’r geiriau: ‘Y flwyddyn nesaf yn Jerwsalem, y flwyddyn nesaf fe fyddwn yn rhydd.’

    Mae’r wyl hon yn hynod o bwysig am ei bod, nid yn unig yn galw i gof hanes y ffoi o’r Aifft, mae hefyd yn atgoffa Iddewon am yr adegau y cawson nhw’u herlid yn y gorffennol. Mae hefyd yn eu hatgoffa bob amser y bydd Duw yn eu rhyddhau o’r cadwyni hynny, am eu bod yn credu mai nhw yw pobl ddewisedig Duw.

Amser i feddwl

Gweddi

Pan fyddaf yn teimlo fy mod wedi fy nghaethiwo, rho i mi le.

Pan fyddaf yn teimlo fy mod yn cael fy erlid, rho i mi ddewrder.

Pan fyddaf yn teimlo fy mod yn anobeithio, rho i mi obaith.

Pan fyddaf angen rhywun i’w barchu, rho i mi arweinydd.

Pan fyddaf yn teimlo nad oes neb arall i’m helpu, atgoffa fi dy fod ti yno.

Amen

 


Gwasanaethau Uwchradd >>