Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

GONESTRWYDD AC ANONESTRWYDD

gan Jan Edmunds



Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Annog y plant i ddweud y gwir.

Paratoad a deunyddiau

Does dim angen paratoi, er efallai yr hoffech chi gael dau blentyn i gynrychioli’r ddau frawd. Maen nhw’n  cadw cofnod o’r pwyntiau y maen nhw’n eu hennill, naill ai trwy godi eu llaw a chyfrif gyda’r bysedd, neu trwy farcio’r sgôr ar fwrdd du/gwyn neu beth bynnag sy’n gweddu orau i chi.

 

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud eich bod yn mynd i ddweud stori wrth y plant, ac yr hoffech chi iddyn nhw ddweud wrthych chi wedyn beth maen nhw’n ei feddwl o’r stori.

    Y ddau frawd

    Roedd unwaith ddau frawd. Roedd un yn gyfoethog ac un yn dlawd. Fe fydden nhw’n anghydweld â’i gilydd yn aml iawn.

    ‘Ydych chi’n meddwl ei fod o’n beth da bod yn ddyn gonest?’ holodd un o’u cymdogion iddyn nhw. Meddyliodd y brawd tlawd fod gonestrwydd yn beth da, ond credai ei frawd cyfoethog mai’r unig ffordd i lwyddo yn y byd oedd trwy ddweud ambell gelwydd a thwyllo.

    Penderfynodd y ddau gael bet, i weld pa un ohonyn nhw oedd yn iawn. Pwy bynnag fyddai’n ennill y bet, fe fyddai’n  cael holl eiddo’r llall. Felly, aeth y ddau ati i chwilio am yr ateb.

    Yr un cyntaf welson nhw ar eu taith oedd gwas ffarm. Fe ddywedodd y gwas wrthyn nhw ei fod wedi gweithio’n galed a gonest am flynyddoedd i’w feistr, ond roedd ei feistr wedi ei dwyllo, ac erbyn hyn doedd ganddo ddim eiddo. Dyna un pwynt i’r brawd cyfoethog.

    Y diwrnod wedyn, fe gwrddodd y ddau â masnachwr cyfoethog. Dywedodd y masnachwr wrthyn nhw ei fod wedi dod yn gyfoethog trwy ddweud ambell gelwydd yma ac acw. Doedd y masnachwr ddim yn meddwl bod hynny wedi gwneud llawer o niwed i neb. Dyna bwynt arall i’r brawd cyfoethog.

    Y diwrnod wedyn, fe gwrddodd y ddau ag offeiriad. Fe ddywedodd yr offeiriad: ‘Mae ffyrdd y byd yn ddrygionus. Ble gallwch chi ddod o hyd i rywun sy’n wirioneddol onest yn yr oes hon? Er mawr ofid, ofnaf nad yw bod yn onest yn talu erbyn hyn.’

    ‘Ho, ho! Rydw i’n meddwl mai fi sydd wedi ennill y bet,’ meddai’r brawd cyfoethog. ‘Nawr rhaid i ti roi popeth sydd gen ti i mi.’

    Doedd gan y brawd tlawd fawr ddim i’w roi, druan. Ond am ei fod yn ddyn gonest, a phob amser yn cadw at ei air, fe gyflawnodd ei addewid a rhoi popeth oedd ganddo i’w frawd. Aeth allan i’r byd yn waglaw heb ddim eiddo o gwbl. Doedd ganddo ddim cartref nac arian, ac yn fuan roedd yn teimlo’n oer ac yn newynog.

    Aeth i’r goedwig gerllaw i chwilio am loches a rhywbeth i’w fwyta. Wrth iddo swatio yng nghysgod coeden, fe ddigwyddodd glywed lleisiau. Tri chorrach bach oedd yno, ac roedd y corachod wedi bod yn gwneud pethau drygionus.

    Roedd un yn brolio ei fod wedi dweud wrth ffermwr mai’r unig ffordd i gael ei weision i weithio iddo oedd trwy eu curo. Broliai’r ail gorrach ei fod wedi codi argae o gerrig, yn uwch i fyny, ar draws nant oedd yn llifo i’r pentref. Roedd y pentrefwyr yn methu’n lân â deall pam nad oedd ganddyn nhw gyflenwad o ddwr. Dywedodd y corrach wrth y pentrefwyr y byddai’n ef, os talai’r bobl iddo, yn gallu defnyddio’i hud i ddod â’r cyflenwad dwr yn ôl iddyn nhw. Dywedodd y trydydd corrach ei fod ef wedi dweud wrth y brenin fod y dywysoges, ei ferch, wedi addo priodo mab gelyn pennaf y brenin o’r deyrnas agosaf. A beth wnaeth y brenin ond cloi ei ferch mewn twr uchel yn ei gastell a phenderfynu mynd i ryfel yn erbyn ei gymydog! Dywedodd y corrach wrth y brenin, pe byddai ef yn rhoi 20 sach o aur iddo, fe fyddai’n taflu swyngyfaredd dros y dywysoges fel na fyddai eisiau priodi ei elyn wedyn.

    Roedd y corachod yn dawnsio o gwmpas yn teimlo’n falch iawn ohonyn nhw’u hunain ac wrth eu bodd â’r castiau roedden nhw wedi’u chwarae â’r gwahanol bobl. Roedd y brawd gonest wedi dychryn pan glywodd am yr holl bethau anonest roedd y corachod wedi’u gwneud, ac roedd yn benderfynol o helpu’r bobl oedd wedi cael eu twyllo ganddyn nhw.

    Yn gyntaf, aeth i weld y ffermwr, lle'r oedd ei weision mor anhapus fel nad oedden nhw’n gallu gweithio’n dda o gwbl iddo. Dywedodd y brawd gonest wrth y ffermwr, pe byddai’n parchu ei weithwyr yn well, ac yn bod yn garedig wrthyn nhw, fe fydden nhw’n gweithio’n llawer gwell iddo. Fe ddechreuodd eu trin yn well, ac yn fuan iawn roedd y gweithwyr yn gweithio ddwywaith caletach iddo am eu bod yn hapus. Hefyd, wedyn, roedden nhw’n cael mwy o gyflog wrth i’r ffermwr ddod yn gyfoethocach a rhannu’r elw â’i weithwyr.

    Wedi hynny, aeth y brawd gonest i’r pentref a gofyn am help rhai o’r dynion i ddod gydag ef i fyny’r nant i’w helpu i symud y cerrig mawr oedd yn rhwystro’r dwr rhag rhedeg i lawr y nant i’r pentref. Aeth criw o ddynion gydag ef i fyny a dod o hyd i’r cerrig, ac fe fuon nhw’n gweithio’n galed am oriau i’w symud. Yn fuan wedyn llifodd y dwr yn ôl i’r pentref ac roedd gan y bobl ddigon o ddwr unwaith eto. Roedden nhw’n ddiolchgar iawn i’r brawd tlawd.

    Yn olaf, fe aeth i weld y brenin. Dywedodd wrth y brenin fod ei ferch yn hollol ddieuog, ac na ddylai ryfela gyda’i gymydog. ‘Rwyt ti’n ddyn gonest,’ meddai’r brenin. ‘Rwyt ti wedi dangos hynny yn y ffordd rwyt ti wedi helpu fy mhobl, felly rydw i’n dy gredu di.’ Rhyddhawyd ei ferch o’r twr, cyhoeddodd heddwch rhyngddo â’i gymydog, ac fe gafodd y brawd gonest ei wneud yn arwr gan y pentrefwyr.

    Cafodd y brawd gonest, tlawd, wahoddiad i ddod i fyw i’r palas, a’r diwedd fu iddo briodi â’r dywysoges. Pan glywodd y brawd anonest am hyn aeth i weld ei frawd i weld a gâi siâr o’i ffortiwn. Soniodd y brawd gonest wrtho fel roedd wedi digwydd clywed y corachod yn siarad yn y goedwig ac yn brolio am eu campau drygionus. Penderfynodd y brawd anonest y byddai yntau’n mynd i’r goedwig, yn dod o hyd i’r corachod, ac yn gwrando ar eu cynlluniau fel y gallai yntau ddod yn arwr cyfoethog fel ei frawd.

    Do, fe ddaeth o hyd i’r goeden. A do, fe glywodd y corachod yn siarad. Ond waeth y brawd anonest ddim cuddio, fe aeth at y corachod. Ar unwaith, wedi iddyn nhw ei weld, roedd y corachod yn gallu synhwyro ei fod yn anonest. Ac wrth gwrs, am eu bod yn ddrygionus, dyma nhw’n dweud wrtho; ‘Os rhoi di dy holl arian i ni, fe awn ni â thi i ogof sy’n llawn o aur a gemwaith a thrysor, mwy nag a allet ti byth ei ddychmygu.

    Rhoddodd y brawd anonest ei gyfoeth i’r corachod ac fe aethon nhw ag ef i’r ogof. Yno, fe welodd gannoedd o sachau llawn. Brysiodd i’w hagor. Ond er mawr siom iddo, nid aur a gemwaith oedd yn y sachau - roedd pob un yn llawn o gerrig llwydion cyffredin. Roedd y corachod wedi diflannu, ac wedi ei adael yno heb gyfoeth o gwbl.

    Aeth yn ôl i weld ei frawd, oedd erbyn hynny wedi cael ei wneud yn frenin. ‘Wel,’ meddai ei frawd wrtho, yr un a fu unwaith yn dlawd, ‘Rwy’n credu dy fod wedi darganfod drosot ti dy hunan pa un ai bod yn onest neu’n anonest yw’r gorau.’

    Roedd yn ddrwg iawn gan y brawd anonest am yr hyn a wnaeth. Ar ôl hynny, fe fu’n yn byw bywyd syml iawn yn y pentref, ac o’r diwedd fe newidiodd a dod yn ddyn gonest.
  2. Os yw amser yn caniatáu, trafodwch y stori gyda’r plant.

    Pam y penderfynodd y brodyr gael bet?
    Pam yr oedd y gwas ffarm yn anhapus, a sut roedd y masnachwr wedi dod yn gyfoethog?
    Beth oedd yr offeiriad yn ei feddwl o’r byd?
    Pwy enillodd y bet?
    Pan oedd y brawd tlawd yn cysgodi yn y goedwig, beth ddigwyddodd o ei glywed?
    Sut y gwaeth y brawd tlawd helpu’r ffermwr, y pentrefwyr, a’r brenin?
    Sut y cafodd ei wobrwyo?
    Beth ddigwyddodd pan gwrddodd y brawd anonest â’r corachod?

 

Amser i feddwl

Myfyrdod

Ambell dro, byddwn yn meddwl ei bod hi’n haws dweud celwydd bach.

Byddwn yn ei chael hi’n anodd dweud y gwir, rhag darganfod ein hunain mewn rhyw fath o strach.

Rydym yn ofni cael y bai, ac am osgoi mynd i helynt,

A theimlwn yn edifar, ac yn llawn cywilydd, wedyn.

Ond ddylen ni ddim bod yn anonest pan fyddwn ni’n ofni trwbl,

Wynebu ffeithiau sydd orau, bod yn gryf, a chyfaddef y cwbl.

Gweddi

O Arglwydd Dduw, helpa ni i fod yn onest a ffyddlon

ym mhopeth y byddwn ni’n eu dweud a’u gwneud.

Amen.



Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>