Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

FFARWEL I’R BEATLES

gan Ronni Lamont


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod


Cydnabod mai dim ond unwaith y cawn ni gyfle i brofi llawer o’r profiadau a gawn yn ein bywyd.

Paratoad a deunyddiau


Gwasanaeth      

  1. Ar 30 Ionawr 1969, cynhaliodd y Beatles eu cyngerdd byw olaf un, ar do adeilad cwmni Apple yn ardal West End, Llundain. Allwch chi ddychmygu hynny? Mae’n ddiwrnod rhewllyd, oer, ym mis Ionawr, ac rydych chi’n cerdded ar hyd y stryd yn ystod eich awr ginio. Yn sydyn, o rywle ymhell uwch eich pen, mae sain y Beatles yn canu’r gân ‘Get Back’, cân y sengl sydd heb ei rhyddhau eto, ac maen nhw’n llythrennol yn perfformio’r gân i’r awyr yn Llundain!

    Roedd anhrefn mawr ar y stryd! Roedd y drafnidiaeth yn dod i stop, roedd torfeydd o bobl yn ymgasglu wrth i weithwyr o’r swyddfeydd cyfagos sylweddoli beth oedd yn digwydd, ac aros i fwynhau’r cyngerdd byrfyfyr. Fe barhaodd am 42 munud, ond wedyn fe ddaeth yr heddlu a rhoi stop ar y cyfan er mwyn dod â’r brifddinas i ryw fath o drefn unwaith eto.
  2. Y rhai oedd yn perfformio yn y cyngerdd neilltuol hwn oedd pedwar aelod band y Beatles – John, Paul, George a Ringo – yn cydweithio â’r chwaraewr allweddellau Billy Preston. Ymddangosodd cerddoriaeth y cerddor hwnnw ar yr albwm olaf a ryddhaodd y band, Abbey Road. Roedden nhw’n chwarae traciau oddi ar yr albwm yma, a oedd i’w ryddhau’n ddiweddarach - yr albwm a enwyd ar ôl y stryd lle’r oedd stiwdio recordio EMI, a’r lle y mae’n parhau i fod. Dyma’r stiwdio lle y recordiwyd holl waith y Beatles, gan eu cynhyrchydd gwych, (Sir) George Martin.
  3. Fyddai’r rhan fwyaf o bobl fu’n dystion i’r cyngerdd hwnnw, a ddaeth wedyn yn ddigwyddiad enwog iawn, ddim wedi sylweddoli ar y pryd na fyddai’r band yn chwarae ar ôl hynny gyda’i gilydd. Roedd pob un o’r pedwar cerddor yn tynnu i gyfeiriadau gwahanol eraill, ac ar ôl deng mlynedd o greu cerddoriaeth a chreu hanes, fe fyddai band y Beatles yn swyddogol yn chwalu y flwyddyn ganlynol. Roedd y cyfuniad o’r ‘Beatle mania’ - yr holl sgrechian hysterig o du’r ‘ffans’ - a’r holl ddiffyg preifatrwydd, y mae sêr heddiw yn ei ddisgwyl, wedi bod yn rhywbeth newydd yn y 1960au. Roedd y pedwar dyn ifanc yn ei chael hi’n anodd iawn dygymod â’r holl sylw a oedd yn cyd-fynd â bod yn sêr y byd pop. Ac fe waethygodd pethau pan gyflawnodd eu rheolwr, Brian Epstein, hunanladdiad ym mis Awst 1967. Roedd eu taith olaf wedi bod yn 1966; roedden nhw wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi wedi i flinder a lludded sylw parhaus gan y wasg eu harwain i greu cerddoriaeth yn y stiwdio yn unig, yn  Abbey Road, am eu tair blynedd olaf gyda’i gilydd.
  4. Wedi hynny, fe ddilynodd aelodau’r band eu llwybrau eu hunain. Ymhen amser, symudodd John Lennon a Yoko Ono i Efrog Newydd, lle llofruddiwyd John yn 1980. Aeth Ringo Starr hefyd i Unol Daleithiau America, lle gwnaeth y gwaith enillfawr fel adroddwr i’r rhaglenni teledu Thomas the Tank Engine. Dilynodd George Harrison yrfa lwyddiannus yn canu ar ei ben ei hun cyn iddo ddioddef â chanser yn ei wddf a marw yn y flwyddyn 2001. Mae Paul McCartney yn parhau i fod yn y newyddion yn creu cerddoriaeth ac yn creu’r penawdau.
  5. Felly, allwch chi ddychmygu hyn? Diwrnod rhewllyd, oer, ym mis Ionawr, a chithau’n cerdded ar hyd y stryd yn ystod eich awr ginio, ac o rywle ymhell uwch eich pen, mae sain cerddoriaeth eich hoff fand yn dod i’ch clyw, ac rydych chi’n sylweddoli bod y band llythrennol yn perfformio’n fyw, yn perfformio i’r awyr yn Llundain!

    Beth fyddech chi’n ei wneud? Aros a gwrando? Neu fynd yn eich blaen gan ddweud, ‘Mae gen i ormod i’w wneud, rydw i’n rhy brysur’.

    Rydw i’n gobeithio y byddwn i’n aros. Rydw i’n gobeithio y byddwn i’n gallu datgysylltu fy hun oddi wrth bwysau bywyd yn ddigon hir i allu aros a mwynhau yr hyn sydd wedi dod i’m rhan mor ddirybudd ar y foment honno - un o’r momentau ‘unwaith mewn bywyd’ rheini.
  6. Gofynnwch i’r darllenydd ddarllen y gerdd, ‘What is this life’ gan W. H. Davies.

    Fe ysgrifennodd y bardd William Davies (1871–1940) y gerdd hon oherwydd ei fod yn teimlo bod pobl yn rhy brysur yn rhuthro o gwmpas. Doedd  ganddyn nhw ddim amser i aros a mwynhau’r foment honno roedden nhw ynddi ar y pryd. Roedd y bardd yn byw mewn cyd-destun mwy gwledig, ac mae’r gerdd yn llawn o gyfeiriadau at fyd natur a chefn gwlad, ond gall pobl mewn unrhyw amgylchedd aros a mwynhau - mae’n golygu cymryd amser i wneud dim mwy na bodoli.
  7. Pa mor aml rydych chi wedi methu gweld golygfa hardd oherwydd eich bod chi’n rhy brysur yn meddwl am bethau eraill? Oherwydd eich bod ar frys i fynd i gwrdd â rhywun, neu i wneud rhywbeth …

    Mae ymadrodd newydd yn cael ei ddefnyddio mewn adran damweiniau ein hysbytai y dyddiau yma - damwain pod neu ‘pod-accident’. Dyma achosion o bobl sy'n cael eu taro i lawr wrth groesi’r ffordd am eu bod wedi methu â bod yn ddigon gofalus oherwydd bod ganddyn nhw declynnau technolegol yn eu clustiau! Neu bobl sy’n baglu ar balmentydd tra byddan nhw’n tecstio, am nad ydyn nhw’n edrych i ble maen nhw’n mynd! Rydyn ni’n rhuthro yma ac acw heb weld beth sydd o’n cwmpas yn iawn. Mae rhai hyd yn oed yn cerdded yn erbyn polion lamp eto!

    Efallai nad yw aros ac edrych ar fyd natur yn union yr un fath ag aros i wrando ar gyngerdd arbennig, yn rhad ac am ddim. Ond mae’r ddau beth yn dangos bod yr unigolyn yn cydnabod bod llawer o brofiadau bywyd yn cael eu cynnig i ni unwaith yn unig. Os na fyddwn ni’n cymryd yr hyn sy’n cael ei gynnig i ni ar y pryd, efallai na chawn y cyfle hwnnw byth eto i brofi’r foment honno na’r digwyddiad hwnnw.

    Doedd gan y bobl hynny oedd yn llenwi palmentydd a strydoedd Llundain, y diwrnod hwnnw yn niwedd Ionawr 1969, ddim syniad eu bod yng nghanol hanes byw. Pwy â wyr pa gyfleoedd fydd yn cael eu cynnig i ni heddiw?

 

Amser i feddwl

Darllenwch y gerdd eto, ac oedi am ysbaid fer.

Beth fydd yn cael ei gynnig i ni heddiw?

Cyfle i wneud ffrindiau newydd,

y posibilrwydd o allu helpu rhywun,

y cyfle i fod yn fi fy hunan -

dyna rywbeth na all neb arall ei wneud.

Beth fydd yn cael ei gynnig i ni heddiw?

Machlud haul hyfryd,

gwynt rhewllyd, oer,

cyfle i dawelu meddwl

rhywun sy’n teimlo’n ofnus.

Beth fydd yn cael ei gynnig i ni heddiw?

Pwy â wyr?

Ond, pan ddaw’r cynnig, helpa fi i afael ynddo’n dynn gyda’m dwy law,

gan fy mod yn gwybod na ddaw’r cynnig byth eto, efallai.

Emyn

Diweddwch y gwasanaeth gyda’r trac o gerddoriaeth, ‘The End’.  

 


Gwasanaethau Uwchradd >>