Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

BYW GYDA CHOLLED

gan Helen Redfern


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Annog myfyrwyr i feddwl am y modd gorau iddyn nhw fyw gyda cholled, ac edrych ar wahanol ffyrdd o ddelio â cholled.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Rydym i gyd yn gwybod sut deimlad yw colli rhywbeth: colli allwedd y ty efallai, neu ein ffôn symudol, ein hoff degan anwes, pâr o glustdlysau arbennig neu un ohonyn nhw o bosib. Fe fyddem yn debygol o deimlo’n rhwystredig, yn drist, ac anobeithiol.

    Efallai eich bod yn gwybod sut deimlad yw colli anifail anwes yr ydych yn meddwl y byd ohono. Neu’n gwybod sut deimlad yw hi i orfod rhoi’r gorau i freuddwyd yr ydym wedi ei byw trwy gydol ein hoes.

    Meddyliwch pa mor anodd fyddai hi arnom ni pe byddem yn colli rhywun sy’n agos i ni.

    Efallai bod rhai ohonom eisoes wedi profi colled o’r math yma. Bydd rhai ohonom yn gwybod sut deimlad yw hynny.
  2. Daw loes bob amser gyda cholled, ond mae pob un ohonom yn teimlo loes neu boen mewn gwahanol ffyrdd.

    Darllenydd 1:  Pan fu farw ci Abbie, fe feddyliodd na fyddai byth yn gallu dod dros y golled. Bob dydd, fe fyddai’n disgwyl iddo fod yno wrth iddi hi ddod drwy’r drws, a phob dydd byddai’r unigrwydd yn ei gorlethu unwaith yn rhagor. Byddai’n osgoi mynd yn agos at y parc gan y byddai’r lle hwnnw yn codi llu o atgofion amdani hi’n mynd yno am dro bob dydd gyda’i ffrind bach ffyddlon, y ci.

    Darllenydd 2:  Pan gerddodd tad Jessica allan o’i bywyd hi a’i mam, roedd Jessica’n teimlo’n  drist, yn unig ac yn ddryslyd. Roedd hi’n meddwl pethau fel efallai y byddai ei thad wedi aros pe byddai hi wedi ymddwyn yn well. Teimlodd ei bod wedi cael ei bradychu wrth iddo gerdded i ffwrdd fel y gwnaeth, ac nad oedd eisiau bod yn ei chwmni hi ddim mwy.

    Darllenydd 3:  Pan gollodd David ei le yn Academi Pêl-droed Caerdydd, yr oedd yn eithriadol o siomedig. Roedd yn teimlo bod y cyfan yr oedd wedi gweithio mor galed i’w gyflawni wedi cael ei ddwyn oddi arno rywsut. Doedd o ddim eisiau gweld neb; doedd o ddim eisiau gadael ei ystafell wely. Yr unig beth oedd ar ei feddwl oedd beth allai fod wedi dod i’w ran pe bai wedi cael aros yn yr Academi.

    Darllenydd 4:  Pan gafodd brawd Steven ei ladd yn Afghanistan, trodd ei loes yn ddicter. Roedd arno fo wedyn eisiau brifo rhywun arall fel yr oedd o ei hun wedi cael ei frifo’n emosiynol. Rhoddodd ei holl egni i wneud ymarferion bob dydd fel y gallai fod y milwr gorau oedd yn bod pan ddeuai’r amser iddo adael yr ysgol. Allai o ddim disgwyl i gael mynd allan ei hun i Afghanistan a lladd cymaint o’r gelyn ag oedd yn bosib, er mwyn talu’n ôl iddyn nhw am yr hyn yr oedden nhw wedi ei ddwyn oddi arno ef.

    Darllenydd 5:  Pan fu raid i Anna adael ei chartref yng Ngwlad Pwyl a symud i Brydain, roedd yn teimlo ei bod hi wedi gorfod gadael rhan fawr ohoni ei hun ar ôl. Yr oedd yn colli ei nain a’i thaid, ei chartref a’i ffrindiau’n fawr iawn. Roedd hi’n credu na fyddai hi byth eto yn gallu gwenu. Doedd hi ddim eisiau byw ym Mhrydain, a chredai na fyddai byth yn gallu mwynhau bod yma.

    Darllenydd 6:  Pan fu farw mam Lewis, doedd o ddim yn gwybod beth i’w wneud ag ef ei hun. Doedd o ddim eisiau mynd ymlaen â’i fywyd hebddi. Doedd o ddim yn gwybod sut i fyw hebddi.  Y cyfan yr oedd arno eisiau oedd cael ei fam yn ôl. Doedd yna ddim byd arall fyddai’n gallu atal y loes yr oedd yn ei ddioddef. 
  3. Gall bob un ohonom deimlo colled a loes, ond mae pawb yn dysgu byw gyda’r golled mewn gwahanol ffyrdd.

    Darllenydd 1:  Doedd ar Abbie ddim eisiau siarad â neb am ei chi. Fyddai hi ddim yn mynd i gartref ffrind os oedd ganddo ef neu hi gi. Rhoddodd bob un o deganau’r ci a’r tenynnau a’r lluniau mewn bocs yn y garej.  Roedd hi’n credu pe na byddai’n meddwl amdano o gwbl, yna fe fyddai’r boen o’i golli yn mynd i ffwrdd.

    Darllenydd 2:  Penderfynodd Jessica mai’r ffordd orau i beidio â chael ei brifo eto fyddai iddi roi tipyn o bellter rhyngddi hi a’i thad a’i mam. Aeth allan gyda’i ffrindiau bob cyfle y byddai yn ei gael. Byddai’n gwneud ei phenderfyniadau ei hun, ac yn byw ei bywyd ei hun. Roedd hi am ddangos iddyn nhw nad oedd hi eu hangen nhw yn ei bywyd.

    Darllenydd 3:  Penderfynodd David na fyddai’n cymryd rhan mewn chwaraeon byth eto. Yn y dyddiau a fu, roedd o bob amser wedi bod yn ofalus ohono’i hun, yn bwyta’n gall ac yn mynd i’w wely ar amser - teimlai nawr bod y cyfan wedi bod i ddim pwrpas. Wedyn, dechreuodd gasglu pob math o wahanol fwydydd, a’u cadw yn ei ystafell wely a gwylio’r teledu tan hanner nos. Doedd o ddim yn poeni am ei waith. Doedd o ddim yn poeni am ei iechyd.

    Darllenydd 4:  Cafodd Steven enw drwg fel un fyddai’n dechrau ffrae gyda rhywun arall heb ddim achos o gwbl. Doedd dim byd yn well ganddo na rhoi cweir iawn i rywun. Wrth i bob dydd basio roedd o’n tyfu’n fachgen cryf ac ymosodol.  Roedd hyd yn oed ei ffrindiau yn ei ofni.

    Darllenydd 5:  Cadwodd Anna at y drefn oedd ganddi bob dydd. Fe anwybyddodd bobl a oedd yn ceisio bod yn gyfeillgar. Doedd hi byth yn mynd allan o’r ty.  Doedd hi ddim yn ymuno ag unrhyw beth. Roedd hi’n ymddangos fel ei bod hi’n benderfynol o wneud ei bywyd yn un diflas a thruenus iddi hi ei hun.

    Darllenydd 6: Ni allai Lewis atal ei hun rhag crio. Roedd yn cymryd arno ei fod yn wael fel nad oedd rhaid iddo fynd i’r ysgol. Roedd yn credu y byddai pawb yn chwerthin am ei ben. Roedd yn ofni na allai byth roi’r gorau i grio.
  4. Fyddwn ni byth yn anghofio’n colled, ond fel y mae’r amser yn mynd yn ei flaen, fe fyddwn ni yn y diwedd yn dysgu byw eto, ond mewn ffordd wahanol.

    Darllenydd 1:  Un diwrnod gwelodd Abbie gi yn y stryd oedd bron iawn yr un fath â’i chi hi. Rhedodd ato a thaflodd ei breichiau amdano a chrio. Sylweddolodd faint oedd ei cholled o beidio â chael anifail anwes. Mae hi’n ymweld â gwarchodfeydd cwn y dyddiau hyn gyda’i mam yn chwilio am gi y byddai hi’n gallu ei helpu, ac a fyddai ar yr un pryd yn rhoi cysur iddi hi yn ei loes a’i cholled.

    Darllenydd 2:  Mae Jessica yn ei chael hi’n anodd o hyd i ymddiried yn ei mam a’i thad. Ond yn awr mae’n sylweddoli cymaint y mae hi’n eu colli, ac mae’n dechrau treulio ychydig mwy o amser gyda nhw. Mae’n mwynhau siopa gyda’i mam ac yn mwynhau mynd i’r sinema gyda’i thad. Fydd hi ddim yn sôn wrthyn nhw sut mae hi’n teimlo, ond mae’n teimlo fod hynny’n ddigon da am y tro.

    Darllenydd 3:  Fe barhaodd David i beidio â gofalu amdano’i hun am gyfnod, ond diflasodd ar ei fywyd a oedd mor wag erbyn hynny. Cafodd hyd i ddigon o blwc i ymuno â thîm pêl-droed lleol, ac mae’n dysgu sut i fwynhau chwarae unwaith eto. Mae’n dechrau meddwl am hyfforddi ei hun i fod yn ddyfarnwr.

    Darllenydd 4:  Cafodd Steven ei hun yn yr ysbyty yn dilyn un o’i frwydrau. Cafodd ei annog i gael sgwrs gydag arbenigwr a oedd yn delio â rheoli dicter, ac er syndod iddo mae’n gweld hynny o fudd mawr iddo. Mae’n dal â’r syniad ei fod am ddilyn ôl troed ei frawd a chael bod yr un math o filwr, ond yn filwr y byddai ei frawd yn falch ohono.

    Darllenydd 5:  Dechreuodd Anna gymryd diddordeb yn ei hamgylchfyd, er gwaethaf pob ymdrech ganddi hi ei hun i osgoi hynny.  Canodd yr adar yn y coed wrth iddi wneud ei ffordd i’r ysgol.  Gwenodd pobl arni yn y coridor.  Llewyrchodd yr haul ar ei chefn wrth iddi fwyta ei chinio. Yn awr, mae’n sylweddoli mai un bywyd sydd ganddi ac mae’n ceisio gwneud y gorau o hwnnw tra mae’n gallu.

    Darllenydd 6:  Nid oedd Lewis yn gallu gwneud ei waith. Roedd ei deulu’n bryderus amdano a chytunodd i gael cymorth arbenigol. Mae o bellach wedi gallu trafod ei broblemau emosiynol ac yn dechrau meddwl am ddychwelyd i’r ysgol.

Amser i feddwl

Gwrandewch ar y geiriau hyn, a myfyriwch arnyn nhw:

Gallwn oll brofi loes a cholled.

Rydym yn cael profiad ohono mewn gwahanol ffyrdd.

Rydym yn gorfod byw gyda’n colled yn ein ffordd ein hunain.

Rhaid i ni adael i eraill fyw trwy eu colled yn eu ffordd eu hunain.

Rhaid i ni gymryd digon o amser gyda’r pethau hyn.

Rhaid i ni adael i eraill gymryd digon o amser hefyd.

Rhaid i ni ddysgu byw eto ar y llwybr gorau i ni.

Rhaid i ni adael i eraill ddysgu byw eto a dilyn y llwybr sydd orau iddyn nhw.

Gallwn fod ar gael i roi sylw i bobl eraill.

Gall pobl eraill fod ar gael i roi sylw i ni.

Nid oedd hwn yn destun hawdd o gwbl i chi ei drafod, ond mae wedi bod yn un pwysig. Os ydych wedi cael eich effeithio mewn unrhyw fodd gyda’r materion sydd wedi cael eu trafod yn y gwasanaeth hwn, yna cofiwch fynd i gael gair â rhywun.

Sut bynnag rydych chi’n teimlo, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>