Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

DWEUD Y GWIR

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1


Nod

Dangos ei bod hi’n well dweud y gwir, er bod hynny’n anodd weithiau.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Fe ddigwyddodd ein stori heddiw flynyddoedd lawer yn ôl. Mae’n stori wir, er bod yr enwau wedi cael eu newid.

    Un tro roedd dwy eneth fach. Raisa oedd enw un a Jenny oedd enw’r llall. Roedden nhw’n ffrindiau da iawn a phob amser yn mwynhau chwarae yng nghwmni ei gilydd. Un diwrnod glawog roedd Jenny wedi treulio’r prynhawn cyfan yng nghartref Raisa. Roedd ei mam newydd gyrraedd i fynd â hi adref i gael te. Roedd y ddwy fam yn brysur yn sgwrsio yn yr ystafell fyw, a chafodd Jenny a Raisa eu hanfon i’r gegin i gael diod. 

    Roedd arogl crasu hyfryd yn y gegin, ac yno ar y bwrdd roedd sawl hambwrdd yn llawn o deisennau a thartennau ffres, newydd eu crasu.  Gwnaeth hyn i’r genethod deimlo’n llwglyd iawn.  Roedd y tartennau jam, yn fwy na dim, yn eu temtio gyda’r jam mefus coch yn loyw arnyn nhw.

    ‘Beth am i ni flasu un o’r rhain?’ meddai Raisa. Roedd y ddwy yn gwybod na ddylen nhw gyffwrdd ynddyn nhw, yn enwedig heb ofyn. 

    ‘Fe allwn ni brofi’r jam yn unig,’ meddai Jenny. ‘Yna fydd neb ddim callach.’

    Gwthiodd y ddwy eu bysedd i’r jam coch hyfryd cynnes. Iym, iym, blasus dros ben! Dyma nhw’n penderfynu na fyddai neb yn gwybod dim pe bydden nhw’n cymryd ychydig o jam o bob un darten.  

    Ymhen hir a hwyr daeth y ddwy fam i chwilio amdanyn nhw. Wrth gerdded i mewn i’r gegin fe ddaethon nhw wyneb yn wyneb â dwy eneth fach oedd â’u hwynebau yn ludiog gan jam. 

    ‘Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud?’ gofynnodd mam Raisa, fel pe byddai hi ddim yn gwybod.

    ‘Dim byd,’ meddai’r genethod.

    ‘Ydych chi wedi bod yn bwyta’r tartennau jam?’ gofynnodd mam Jenny.

    ‘Naddo,’ meddai Jenny.

    ‘Wel, pam mae eich wynebau’n goch? Pam mae eich bysedd yn ludiog? Beth ydi hwnna sydd o gwmpas eich cegau?’

    ‘Dwi ddim yn gwybod,’ meddai’r ddwy gyda’i gilydd.

    ‘Dwi’n credu eich bod yn dweud celwydd,’ meddai mam Jenny.

    Dechreuodd y ddwy eneth grio.  Roedden nhw’n teimlo’n euog iawn.

    ‘Pam na wnaethoch chi gyfaddef?’ gofynnodd mam Raisa.

    ‘Am ein bod yn meddwl y bydden ni mewn helynt,’ cyfaddefodd y genethod.

    ‘Dydw i ddim yn flin oherwydd eich bod wedi bwyta’r jam. Rydw i’n poeni mwy am y ffaith nad oeddech chi’n ddigon dewr i gyfaddef y gwir,’ dywedodd mam Raisa. ‘Er ei bod hi’n anodd dweud y gwir weithiau, wyddoch chi fod un celwydd yn gallu arwain at un arall, ac un arall wedyn, ac mae hynny’n gallu gwneud pethau’n waeth byth?’

    ‘Mae’n bwysig i ni wybod y gallwn ni ymddiried ynoch chi, bob amser, i ddweud y gwir,’ meddai mam Jenny.

    Roedd y ddwy eneth yn teimlo’n euog iawn, ac roedd ganddyn nhw gywilydd o’r hyn yr oedden nhw wedi ei wneud. Fe ddywed odd y ddwy ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw. Chawson nhw ddim teisen i de y diwrnod hwnnw.  Ond, roedden nhw wedi dysgu gwers bwysig iawn. 
  2. Efallai y byddech chi’n hoffi treulio ychydig o amser yn trafod y stori. Pwysleisiwch ei bod hi’n ddewrach cyfaddef rhywbeth trwy ddweud y gwir nac i ddweud celwydd amdano.
  3. Gallwch uno’r thema yma gyda stori Pedr yn gwadu’r ffaith ei fod yn adnabod Iesu.  Roedd gan Pedr ofn dweud y gwir rhag ofn iddo yntau gael ei arestio. Y cyfeiriadau Beiblaidd yw: Mathew 26.31–35, 69–75; Marc 14.29–31, 69–72; Luc 22.31–34, 56–62; Ioan 18.25–27.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y ddwy eneth fach yn y stori.

Meddyliwch am Pedr yn dweud nad oedd yn adnabod Iesu.

Ydych chi erioed wedi dweud nad ydych yn ffrindiau gyda rhywun oherwydd yr hyn a allai ddigwydd i chi?

Beth fyddech chi wedi ei wneud?

Gweddi

Duw fo yn fy mhen, ac yn fy neall;
Duw fo yn fy llygaid, ac yn fy edrychiad;
Duw fo yn fy ngenau, ac yn fy llefaru;
Duw fo yn fy nghalon, ac yn fy meddwl;
Duw fo yn fy niwedd ac yn fy ymadawiad.

Amen. 

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>