Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

ARFERION DA


gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2  

Fersiwn Saesneg

Nod

Deall bod yn anodd peidio gwneud rhai pethau unwaith y maen nhw wedi dechrau mynd yn arferiad gennym, ond bod rhai arferion yn werth dal ati i’w gwneud.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Awgrymwch eich bod yn credu bod rhieni’r plant yn siwr o fod wedi dweud wrthyn nhw, ryw dro, am beidio â gwneud y peth yma a pheidio â gwneud y peth arall. Yn aml, fe fydd eu rhieni’n dweud hynny am eu bod nhw’n gwneud rhywbeth sydd wedi dechrau mynd yn arferiad cas. Gwahoddwch y plant i awgrymu beth fyddai rhai o’r arferion hynny a fyddai’n codi gwrychyn eu rhieni neu rywun arall. Dyma rai enghreifftiau y bydd y plant yn eu hawgrymu, o bosib: cnoi ewinedd, pigo trwyn, sugno bawd, gadael drysau ar agor, peidio â diffodd goleuadau, siglo’n ôl ar ddwy goes eich cadair, chwarae cerddoriaeth yn rhy uchel.
  2. Soniwch fod rhai arferion sydd ddim yn rhai cas, ond yn hytrach yn arferion sy’n werth eu datblygu, fel mae’r stori sy’n dilyn yn ei ddarlunio.

    Roedd Mr Huws wedi bod yn gweithio ar y rheilffordd am dros 50 mlynedd, ac wedi bod yn orsaf feistr ym Maes Canol am 20 o’r blynyddoedd hynny. Gorsaf fechan oedd gorsaf Maes Canol, ac roedd Mr Huws bob amser yn gofalu bod y lle yn lân a thaclus, ac yn gofalu ei fod yn lle croesawgar. Fe fyddai’n paentio’r drysau a fframiau’r ffenestri a’r ffensys yn gyson ac yn rhoi farnais ar y meinciau bob gwanwyn. Fe fyddai’n glanhau’r ffenestri’n lân, ac fe fyddai’r ystafell aros yn gynnes a chyfforddus. Fyddai neb yn taflu sbwriel ar y llawr yng ngorsaf Mr Huws. Yn wir, roedd pob man mor lân a thaclus fyddai neb eisiau difetha’r awyrgylch yno. Yn yr haf, fe fyddai Mr Huws yn plannu blodau tlws mewn blychau o gwmpas yr orsaf, ac fe fyddai pawb yn dotio at y lle ac yn dweud pa mor dda oedd Mr Huws am gadw’r orsaf mewn cyflwr mor hyfryd.

    Erbyn hyn roedd Mr Huws bron yn 70 oed, ac roedd hi’n bryd iddo ymddeol. Roedd wedi mwynhau gweithio ar hyd y blynyddoedd, ond nawr roedd yn edrych ymlaen at gael aros yn ei wely am ryw awr yn ychwanegol yn y bore, ac at gael gwneud rhywfaint o waith o gwmpas ei gartref ei hun - gwneud pethau nad oedd wedi cael amser i’w gwneud cyn hynny. Cafodd barti ar ei ddiwrnod olaf yn y gwaith, a chyflwynodd ei gydweithwyr lawer o gardiau ac anrhegion iddo. Cyn iddo ddal y trên olaf adref fe edrychodd am y tro olaf ar yr orsaf gan sychu deigryn o gornel ei lygad wrth iddo feddwl am yr amser hapus a dreuliodd yn y lle hwnnw.

    Am dri mis cyntaf ei ymddeoliad, bu’n gweithio’n galed yn ei gartref. Bu’n garddio ac yn trwsio’r ffens o gwmpas y ty. Bu’n papuro ac yn paentio pob ystafell yn y ty o’r top i’r gwaelod. Ar ôl iddo wneud y gwaith mawr yma, roedd ganddo ddigon o amser wedyn i ymlacio trwy ddarllen a gwrando ar gerddoriaeth, ac fe fyddai wrth ei fodd yn mynd i’r archfarchnad leol bob wythnos gyda’i wraig i siopa. Fe fyddai’n aml yn meddwl am yr amser pan oedd yn orsaf feistr, ac yn cofio am yr amser hapus a dreuliodd wrth ei waith. Un diwrnod, fe awgrymodd ei wraig y gallai Mr Huws fynd am dro ar y trên i’r orsaf er mwyn cael gweld ei gydweithwyr eto.

    A’r diwrnod canlynol, dyna’n union beth a wnaeth. Roedd y staff wrth eu bodd yn ei weld unwaith eto a phawb yn dweud wrtho ei fod yn edrych yn dda. Roedd Mr Huws yn falch o’u gweld ac yn falch o weld bod yr orsaf yn dal i edrych yn dwt ac yn lân. Mae’n amlwg bod rhywun yn gofalu’n dda am y lle, meddyliodd. Sylwodd bod y meinciau wedi cael eu paentio â farnais ffres. Cafodd gwrdd â’r orsaf-feistr newydd a oedd yn edrych yn ifanc iawn yn ei olwg, ond fe berswadiodd Mr Huws ei hun bod ei olynydd yn awyddus iawn i ofalu am yr orsaf yn union fel yr arferai ef wneud hynny.

    Treuliodd Mr Huws ddiwrnod hapus gyda’i hen ffrindiau yn yr orsaf ac fe ddaeth yn amser iddo droi am adref y fuan. Aeth i’r platfform i aros y trên. Safodd yno fel roedd wedi gwneud gannoedd o weithiau o’r blaen yn gwylio’r bobl yn mynd ac yn dod. Cyrhaeddodd trên y platfform, ac fe sylwodd ar fam ifanc yn ymdrechu i gael cadair wthio, cês dillad a dau blentyn ifanc i mewn i’r trên. Gyda gwên, fe helpodd Mr Huws hi gan afael yn y cês a’r gadair wthio a’u rhoi ar y trên fel y gallai’r fam ofalu am y ddau blentyn bach. ‘Diolch yn fawr iawn,’ meddai. ‘Wyddwn i ddim sut roeddwn i’n mynd i allu cael pawb ohonon ni ar y trên.’

    Ar ôl ei helpu hi, fe welodd Mr Huws ddyn oedrannus gyda nifer o barseli, yn ceisio mynd i mewn i’r trên. Cymrodd Mr Huws y parsel mwyaf a rhoi hwnnw ar y trên iddo. ‘Rydych chi’n garedig iawn,’ meddai’r hen wr wrtho. ‘Rhaid i mi gyfaddef fy mod ei bod yn dipyn o ymdrech i mi gario’r cwbl!’ Yn ôl ar y platfform wedyn, fe welodd Mr Huws fachgen ifanc ar faglau gyda’i goes mewn plaster yn cael trafferth mynd i mewn i’r trên. Ond cyn pen eiliad roedd Mr Huws yno i’w helpu, ac aeth i mewn yn ddiogel.

    Dim ond pan welodd Mr Huws y fam ifanc a’r ddau blentyn bach yn codi llaw arno trwy’r ffenestr wrth i’r trên ddechrau symud yn araf allan o’r orsaf y sylweddolodd mai hwnnw oedd y trên yr oedd i fod i fynd adref arno! Roedd wedi treulio’i fywyd yn helpu pobl i fynd i mewn ac allan o’r trên, ac er ei fod wedi ymddeol ni allai roi’r gorau i’r arferiad. Chwarddodd yn dawel gan ddweud wrtho’i hun, ‘O wel, dim ond awr arall nes daw’r trên nesaf - mae gen i amser felly am gwpanaid o de, ac wedyn fe af i weld sut le sydd yn yr ystafell aros!’

Amser i feddwl

Trafodwch rai arferion da eraill y mae’n werth eu meithrin – dweud ‘os gwelwch yn dda’ a ‘diolch’; gwneud eich gwaith cartref mewn pryd; glanhau eich dannedd yn rheolaidd, ac ati.

Roedd Mr Huws wedi arfer helpu pobl a bod yn feddylgar ar hyd y blynyddoedd y bu’n gweithio. Meddyliwch tybed beth fyddai wedi ei wneud pe byddai wedi bod yn athro, yn nyrs, neu’n gofalu am blant yn ystod amser cinio.

Mae torri rhai arferion yn anodd – cnoi ewinedd, sugno bawd, ysmygu, ac ati – pa strategaethau y gallen ni eu defnyddio gyda phethau fel hyn?

Gweddi

Rydyn ni’n gweddïo heddiw y gwnawn ni geisio datblygu arferion da sy’n ein gwneud yn unigolion mwy cymwynasgar a charedig.
Yn union fel y gwnaeth Iesu helpu pobl a oedd yn unig ac yn sâl, gad i ni fod yn feddylgar yn y ffordd rydyn ni’n trin pobl eraill.
Os gwelwn ni rywun heddiw sy’n drist, gadewch i ni geisio’u llonni;

os gwelwn ni rywun heddiw sydd angen ffrind, gadewch i ni fod yn gyfeillgar tuag ato ef neu hi;
os gwelwn ni rywun heddiw sydd wedi brifo, gadewch i ni geisio’u cysuro.


Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>