Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

DWEUD FFARWEL


gan Janice Ross

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1

Nod

Helpu’r plant i ddeall pam bod yr adeg y gwnaeth Iesu ffarwelio â’i ddisgyblion yn adeg hapus i bawb ohonyn nhw.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dywedwch y stori ganlynol wrth y plant.

    Roedd Martha a Ben wrth eu bodd yn cael Nain i ddod atyn nhw i aros. Roedd hi’n dod am wyliau yno bob mis Ebrill. Fyddai Taid byth yn dod gyda hi am ei fod ef yn hoffi garddio a byddai mis Ebrill yn adeg brysur iddo yn yr ardd. Fe fyddai Taid yn aros gartref i balu’r ardd a phlannu’r hadau. Byddai Nain bob amser yn gofalu bod y ty yn daclus cyn iddi fynd am ei gwyliau, gan adael digon o fwydydd blasus i Taid yn y rhewgell, ac yna fe fyddai’n hapus i’w adael am wythnos tra roedd hi’n ymweld â’i theulu.

    Byddai Martha wrth ei bodd yn crasu dynion bach sinsir gyda Nain. Byddai Nain bob amser yn dweud, ‘Cofiwch, golchi’r dwylo’n gyntaf, ac yna ffedog lân i mi a fy nghynorthwyydd bach.’

    Byddai Ben wrth ei fodd yn gwneud jig-sos gyda Nain.  Byddai Nain bob amser yn dweud, ‘Cofiwch ddod o hyd i’r darnau gydag ochrau syth yn gyntaf.’

    Doedd Nain byth yn rhy brysur i ddarllen stori i’r ddau. Y peth cyntaf yn y bore, fe fyddai Martha a Ben yn dringo i’r gwely ati ac yn cael stori, a’r peth olaf gyda’r nos fe fyddai hi’n eistedd ar ymyl eu gwelyau hwythau ac fe fydden nhw’n gwrando arni eto’n darllen stori.

    Yn wir, fe fyddai pob dydd yn braf ac yn llawn hwyl pan fyddai Nain o gwmpas. Ar ddyddiau heulog, fe fydden nhw’n gwisgo’n gynnes ac yn mynd â darnau o fara i’r parc i fwydo’r hwyaid. Ar ddyddiau glawog, fe fydden nhw’n gwneud modelau neu’n chwarae gemau o flaen y tân. Roedd Martha a Ben wrth eu bodd yn cael bod gyda Nain.

    Ond roedd un diwrnod doedden nhw ddim yn ei fwynhau, a’r diwrnod hwnnw oedd y diwrnod pan oedd Nain yn gorfod mynd yn ôl i’w chartref ei hun.

    ‘Dydw i ddim eisiau i chi fynd, Nain,’ meddai Martha’r bore hwnnw. ‘Rydw i eisiau i chi aros yma am byth.’

    ‘Oes raid i chi fynd adref?’ holodd Ben.

    ‘Wel, wrth gwrs, mae’n rhaid i mi fynd’ atebodd Nain. ‘Mae Taid yn gweld fy eisiau i. Mae Taid eisiau dangos i mi yr holl waith mae wedi’i wneud yn yr ardd, yn barod ar gyfer yr haf. Mae’n debyg ei fod wedi bwyta popeth roeddwn i wedi’i adael iddo fo yn y  rhewgell, ac mae eisiau rhywun i sgwrsio efo fo. Rydw innau eisiau ei weld yntau hefyd. Beth bynnag, fe fyddwch chi’n cael dod i aros atom ni ymhen rhai wythnosau. Mae’n well i mi fynd i ddechrau paratoi ar gyfer hynny, dwi’n meddwl.’

    ‘Fyddwn ni’n cael cysgu yn y gwelyau bync, fel arfer, Nain?’ gofynnodd Martha.

    ‘Siwr iawn. Rydw i’n cadw’r rheini ar eich cyfer chi. Ac fe fydda i wedi estyn y teganau allan yn barod i chi, ac wedi glanhau’r hen feics i chi gael mynd am dro arnyn nhw.’

    Gwenodd Martha a Ben. Fydden nhw byth yn hoffi ffarwelio â Nain, ond roedden nhw’n gwybod y bydden nhw’n cael ei gweld yn fuan eto pan ddeuai gwyliau’r haf. Byddai’r teulu’n teithio’r daith hir i’r gogledd i dy Taid a Nain, fel pob blwyddyn. Roedd croeso mawr yn eu haros bob tro y bydden nhw’n mynd yno. 
  2. Rhowch gyfle i’r plant yn y gwasanaeth rannu eu profiadau nhw am ddweud ffarwel wrth bobl y maen nhw’n eu caru. Ydyn nhw’n gallu perthnasu eu teimladau i deimladau Martha a Ben? Ydi gwybod y byddan nhw’n gweld y bobl rheini wedyn yn fuan yn helpu?
  3. Eglurwch i’r plant ei bod hi’n adeg i Iesu ddweud ffarwel wrth ei ffrindiau arbennig. Roedd hi’n amser iddo fynd yn ôl at ei Dad, a  oedd yn y nefoedd. Roedd wedi bod gyda’i ffrindiau am dair blynedd. Roedd wedi adrodd llawer o storïau wrthyn nhw, roedden nhw wedi rhannu ambell bicnic rhyfeddol, ac roedden nhw wedi rhannu adegau cyffrous pan oedd Iesu wedi iachau pobl oedd wedi bod yn wael am hir. Roedd y ffrindiau wedi bod yn drist iawn ar ôl i Iesu farw ar y groes – ac wedi bod yn llawn cyffro wedyn ar ôl iddo atgyfodi!

    Ond, nawr, roedd hi’n amser i Iesu adael ei ffrindiau ar y ddaear a mynd yn ei ôl i’r nefoedd at ei Dad. Fyddai ei ffrindiau ddim yn ei weld ar y ddaear eto.
  4. Gofynnwch i’r plant tybed sut roedd y disgyblion yn teimlo. Yna darllenwch yn adnodau yn Efengyl Luc 24.51-53: ‘Wrth iddo’u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe’i dygwyd i fyny i’r nef. Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelasant yn llawen iawn i Jerwsalem. Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.’
  5. Dyna ryfedd, doedd y disgyblion ddim yn teimlo’n drist iawn. Yn wir roedden nhw’n hapus iawn.

    Eglurwch mai un o’r rhesymau am hyn oedd am fod Iesu wedi dweud wrthyn nhw i ble roedd yn mynd. Fe alwodd y lle yn Nefoedd, ty ei Dad, ac fe ddywedodd ei fod yn mynd yno i wneud y lle hyfryd hwnnw’n barod iddynt hwythau hefyd.

    Yn union fel y byddai Martha a Ben yn gweld eu Nain eto yn ystod y gwyliau, felly’n bendant y byddai’r disgyblion gydag Iesu eto, ac am byth y tro hwn!

 

Amser i feddwl

Myfyrdod

Mae’n anodd dweud ffarwel wrth y bobl rydyn ni’n eu caru.
Meddyliwch am yr holl ffyrdd rhyfeddol y gall pobl gadw mewn cysylltiad â’i gilydd y dyddiau yma.
Gyda phwy y byddwch chi’n cadw cysylltiad heddiw?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti bod Iesu wedi marw, ac wedi atgyfodi wedyn,

ac wedi mynd i’r nefoedd i baratoi lle i’w ffrindiau.

Diolch ein bod ni’n gallu parhau i siarad â Iesu o ddydd i ddydd.

Hela ni i gofio’r rhai rydyn ni’n eu caru, ond nad ydyn ni’n eu gweld yn aml,

ac rydyn ni’n gofyn i ti fod yn agos atyn nhw heddiw.
Amen.



Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>