Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

EIN TAFOD


gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1

Nod

Annog y plant i ddweud y gwir, a’u hannog i beidio â chario straeon.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dewiswch blentyn i ddod i’r blaen a thynnu ei dafod allan i chi. Eglurwch nad ydych chi’n gofyn iddyn nhw wneud ystum digywilydd, ond rydych chi’n mynd i siarad am ein tafodau. (Peidiwch ag anghofio dweud wrth y plentyn am dynnu ei dafod yn ôl i’w geg wedyn, ac yna cewch anfon y plentyn yn ôl i’w le!)
  2. Gofynnwch i’r plant pam fod y rhan hon o’n anatomi yn bwysig. Treuliwch amser byr yn trafod hyn gyda’r plant. Heb ein tafodau, fydden ni ddim yn gallu blasu pethau, a fydden ni ddim yn gallu cyfathrebu trwy siarad.
  3. Gall ein tafodau ysgwyd, i ddweud pethau da a charedig am bobl eraill, ond mae’n bosib hefyd iddyn nhw ysgwyd i gario straeon neu ddweud pethau cas sy’n gallu brifo’n ddrwg. Gannoedd o flynyddoedd yn ôl roedd pobl weithiau’n cael torri eu tafod fel cosb am ddweud anwireddau neu bethau cas.
  4. Weithiau, bydd pobl yn gofyn i ni gadw cyfrinach. Bryd hynny fe fydd hi’n anodd cadw ein tafod rhag dweud pethau dydyn ni ddim i fod i’w dweud. Efallai bydd rhywun yn dweud wrthym beth yw’r anrheg maen nhw wedi’i brynu i rywun ar ei ben-blwydd neu at y Nadolig, ac os byddwn ni’n dweud beth ydyw mae hynny’n difetha’r syrpreis.
  5. Pan fydd bechgyn a merched yn dweud pethau cas neu’n cario straeon am ei gilydd mae hynny’n beth angharedig iawn i’w wneud. Weithiau mae’n anodd dweud y gwir am ein bod yn gwybod y gall hynny achosi trwbl. Er hynny, mae’n well dweud y gwir bob amser gan fod un celwydd yn arwain at gelwydd arall, a gwneud y broblem yn waeth.
  6. Mae ein stori heddiw yn ymwneud â hel clecs. Pwy sy’n gwybod beth yw cario straeon neu ‘hel clecs’? Gwrandewch hyn ofalus.

    Cario straeon  
    addasiad o stori gan Jan Edmunds

    Roedd yr hen Jo a’i wraig Nani wedi bod yn byw yn eu bwthyn am dros 30 mlynedd. Roedden nhw wedi cael bywyd da, ond roedd gan Nani un gwendid: roedd hi’n un am gario straeon. Roedd hi’n hoffi gwybod beth oedd busnes pawb. Doedd hi ddim yn gallu cadw cyfrinach, ac roedd hi’n cario straeon am bawb.

    Un diwrnod, pan oedd Jo yn palu’r ardd, fe drawodd ei fforch yn erbyn rhywbeth caled yn y pridd. Fe dyllodd yn ddyfnach a dod o hyd i hen focs metel. Wedi iddo rwbio’r pridd oddi arno a’i agor, fe welodd fod 12 darn aur yn y bocs. Fe wyddai, pe byddai’n dweud wrth Nani y byddai hi’n dweud wrth bawb, a doedd ar Jo ddim eisiau i bawb ddod i wybod eu busnes. Efallai y byddai rhywrai yn dod yno i geisio’i berswadio mai nhw oedd piau’r arian.

    Felly, penderfynodd Jo ddysgu gwers i Nani. Yn gyntaf, fe guddiodd y bocs yn ei sied yn yr ardd. Yna fe aeth at yr afon a dal pysgodyn mawr. Aeth â’r pysgodyn i’w ardd a’i roi rhwng y rhesi pys. Wedyn fe aeth i’r cae a dal cwningen a’i rhoi yn y rhwyd bysgota wrth yr afon.

    Galwodd ar Nani. ‘Bobol bach !’ meddai. ‘Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn y lle yma! Edrych, mae pysgod yn byw ymysg y pys!’ Yna, fe aeth â Nani at yr afon. ‘Edrych,’ meddai ‘Mae cwningen yn byw yn yr afon! Mae pysgod yn byw ar y tir a chreaduriaid y goedwig yn byw yn y dwr!’

    Allai Nani ddim aros nes cael dweud wrth rywun. Rhedodd i lawr i’r pentref a dweud wrth bawb a welodd yno am y pethau rhyfedd oedd yn digwydd. Daeth rhai pobl i’r bwthyn i weld drostyn nhw’u hunain ond, wrth gwrs, roedd yr hen Jo wedi symud y pysgodyn a’r gwningen erbyn hynny. Doedd dim tystiolaeth, felly doedd neb yn credu stori Nani. Ar ôl hynny doedden nhw ddim am gredu dim o’i straeon.

    Ar ôl peth amser, fe ddywedodd yr hen Jo wrth Nani am y bocs roedd o wedi dod o hyd iddo yn yr ardd, a’r darnau aur ynddo. Ac fel roedd Jo’n disgwyl, fe aeth Nani ar ei hunion i’r pentref i ddweud wrth bawb. Ond, yn naturiol doedd neb yn ei chredu.

    ‘Diolch byth am hynny,’ meddai Jo. ‘Nawr, fe allwn ni fyw’n gyfforddus am weddill ein hoes, a fydd neb yn gwybod ein cyfrinach.’ A dyna beth ddigwyddodd, wnaeth Nani ddim cario rhagor o straeon am ei bod yn gwybod erbyn hynny na fyddai neb yn coelio unrhyw beth a ddywedai. Roedd cynllun yr hen Jo wedi gweithio.
  7. Treuliwch amser byr yn trafod y stori, gan ofyn cwestiynau fel y rhai canlynol:

    Pa mor hir yr oedd Jo a Nani wedi byw yn eu bwthyn?
    Beth oedd gwendid Nani?
    Beth ddaeth yr hen Jo o hyd iddo wrth balu’r ardd?
    Beth oedd i mewn yn y bocs?
    Pam nad oedd Jo eisiau dweud wrth Nani beth oedd wedi dod o hyd iddo?
    Beth wnaeth Jo gyda’r pysgodyn?
    Beth wnaeth Jo gyda’r gwningen?
    Pan ddangosodd Jo y pysgodyn a’r gwningen i Nani, beth wnaeth hi?
    Pam nad oedd y bobl yn ei chredu?
    Pan ddangosodd Jo y darnau aur iddi, beth wnaeth Nani, a beth ddigwyddodd?

 

Amser i feddwl

Myfyrdod

Gad i ni gofio y gall ein tafodau wneud llawer o niwed, felly fe ddylem ni feddwl bob amser cyn dweud rhywbeth.

Ddylem ni ddim dweud pethau cas am bobl eraill, ac fe ddylem ofalu bod y pethau y byddwn ni’n eu dweud, ac yn eu pasio ymlaen i eraill, yn wir. 

Gadewch i ni geisio dod o hyd i’r geiriau iawn, fel na fyddwn ni’n dweud pethau fydd yn ein harwain i drwbl. Mae geiriau drwg yn gwneud i ni swnio fel pobl ddrwg. Gadewch i’r geiriau y byddwn ni’n eu dweud, a’r pethau y byddwn ni’n eu gwneud, ddangos ein bod yn feddylgar tuag at eraill ac yn garedig.


Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>