Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

FFRWYTHAU’R YSBRYD: FFYDDLONDEB

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan (Ysgol Eglwys)

Fersiwn Saesneg


Nod

Archwilio’r syniad o ffyddlondeb.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth   

  1. (Gofynnwch i un o’r ddau sydd wedi gwirfoddoli syrthio wysg ei gefn i freichiau’r llall er mwyn dangos ymddiriedaeth mewn modd gweladwy.)

    Beth ydych chi wedi ei weld yma heddiw?

    Fel yr ydym wedi gweld o’n harddangosiad bach iawn mae A [yn, neu ddim yn] ymddiried digon yn B iddo ei ddal ef/hi.  
  2. Ffyddlondeb yw un o Ffrwythau’r Ysbryd o’r Testament Newydd yr ydym wedi bod yn ystyried, ac mae’n golygu bod yn ddibynadwy. Yn yr enghraifft, roedd yn rhaid i unigolyn A ganfod bod unigolyn B yn ddigon dibynadwy i ddisgyn wysg ei gefn i’w ddwylo heb yr ofn o gael ei ollwng. Yr oedd hyn yn golygu bod A yn credu bod B yn ddigon dibynadwy gyda’i bwysau a’i ddiogelwch am yr eiliadau byr rheini pan oedd yn syrthio trwy’r awyr.  
  3. Mae bod yn ddibynadwy yn rhan hanfodol o unrhyw berthynas rhwng pobl. Meddyliwch am y berthynas sydd rhyngoch chi â phobl eraill o ddydd i ddydd, gyda’ch rhieni a’ch ffrindiau, neu hyd yn oed â’ch cariad. Mae pob perthynas yn cael eu hadeiladu ar sylfaen o ymddiriedaeth a dibynadwyaeth - bod â ffydd yn y person hwnnw na fyddan nhw’n eich siomi, y gallwch chi ddibynnu arnyn nhw ac ymddiried ynddyn nhw i’ch trin yn deg. 
  4. Tybed sawl gwaith yr ydych chi wedi cyflawni'r rhinweddau hynny eich hun a heb sylweddoli eich bod yn arddangos ffyddlondeb. A ydych chi wedi cadw rhywbeth ar ymddiriedaeth oddi wrth rywun arall a chadw eu cyfrinach, er enghraifft, fel pan gawsoch eich rhoi dan bwysau gan ffrind arall oedd yn awyddus i glebran am rywun, eich bod wedi gallu ei atal mewn modd cyfeillgar, gan smalio nad oeddech yn gwybod dim? A gawsoch erioed eich ymddiried â chyfrinach am ryw anrheg annisgwyl neu ryw barti i rywun, a llwyddo i atal a chadw’r gyfrinach honno, hyd yn oed pan oedd hi’n anodd i chi wneud hynny? 

    Mae meddu ar ffyddlondeb yn fodd o arddangos eich bod yn driw i rywun a dangos bod eu cyfeillgarwch a’u hymddiriedaeth yn cyfrif; neu gall fod yn ymwneud â bod yn ffyddlon i dîm pêl-droed, a’ch bod yn cefnogi Man Utd yn unig, er enghraifft. Dyna’r math ar ffyddlondeb gydag ymddiriedaeth ychwanegol sy’n caniatáu i chi gynnal cyfeillgarwch ac i ymddiried mewn pobl eraill. 
  5. Fel sylfaen unrhyw berthynas, caiff ffyddlondeb ei wobrwyo trwy gael ei ddangos yn wirionedd, er na ddylai fyth gael ei wneud er mwyn elw. (Er ei bod hi’n bleserus i dderbyn anrhegion am fod yn ffrind da, ddylech chi ddim disgwyl rhoddion, oherwydd eich gwobr yw’r ffaith eich bod yn ennill ymddiriedaeth a ffyddlondeb yn ôl ganddyn nhw.)

    Ond – ac mae yna ‘ond’ bob amser gyda phobl, oherwydd yr ydym i gyd yn ffaeledig ac yn aml yn cael pethau’n anghywir – pan yw rhywun yn anffyddlon, gall pob math o bethau drwg ddigwydd.  Mae enghreifftiau o hanesion am anffyddlondeb yn y Beibl: Mae Jwdas yn anffyddlon ac yn anfon Iesu i’w farwolaeth; mae Pedr yn gwadu ei fod yn adnabod Iesu; ac nid yw’r disgyblion yn ddibynadwy o gwbl pan yw Iesu’n gofyn iddyn nhw aros yn effro iddo tra roedd ef yn gweddïo yng Ngardd Gethsemane. Bydd gennych brofiad uniongyrchol o’r math yma o boen, mae’n debyg.
  6. Rydych yn ymwybodol pan fydd rhywun yn anwybyddu eich ymddiriedaeth, fe deimlwch eich bod wedi cael eich bradychu, yn drist ac wedi eich siomi. Tybed a glywsoch chi’r geiriau hyn erioed gan eich rhieni: ‘Rwy’n siomedig iawn ynoch chi.’ Byddai wedi bod yn well pe byddai’ch rhieni wedi gweiddi a sgrechian arnoch chi na dweud y geiriau yna. Roedd dweud y geiriau yn dangos cymaint yr oeddech chi wedi eu siomi, wedi torri eu hymddiriedaeth ynoch chi, neu mewn ffordd, wedi bod yn anffyddlon iddyn nhw.

    Mae anffyddlondeb mewn priodas yn cael ei wahardd yn y Deg Gorchymyn oherwydd y niwed a’r boen y mae’n ei achosi. Mae yna, wrth gwrs, wahanol raddau o anffyddlondeb. Nid yw twyllo mewn prawf yr un peth â thwyllo eich gwr neu eich gwraig, ond mae’n weithred o dorri ymddiriedaeth, a bydd angen gweithio’n galed i adfer y berthynas ar ôl hynny. 
  7. Fodd bynnag, gadewch i ni ddychwelyd at y cwestiwn pam y mae ffyddlondeb yn un o ffrwythau’r ysbryd. Mae hynny’n rhannol oherwydd bod Duw yn ffyddlon: Duw yw’r un y gallwn ni bob amser ymddiried ynddo ac nid yw wedi siomi’r ddynoliaeth, hyd yn oed pan fydd y ddynoliaeth yn ei siomi Ef. Mae Duw yn ceisio cael y math yna o ffyddlondeb i fod yn rhywbeth sy’n perthyn i bawb, ac felly mae ffyddlondeb yn ffrwyth, yn rhinwedd y gall yr Ysbryd ei roi i ni. Hyd yn oed pan na wyddoch o anghenraid bod rhywun yn ymddiried ynoch chi neu eich bod yn meddu ar ffyddlondeb, byddwch yn arddangos hynny bob tro y byddwch yn sefydlu perthynas, a phob dydd wrth i chi gynnal a pharhau â’ch perthynas a’ch cyfeillgarwch.

Amser i feddwl

 

(Gofynnwch i’r ddau fu’n eich helpu i arddangos yr ymarferiad sy’n ymwneud ag ymddiriedaeth wneud yr un ymarferiad eto. Saib.)

Heddiw, gadewch i ni ymarfer y ffydd sydd gennym ni yn ein ffrindiau ac aelodau ein teulu, a gadael iddyn nhw ein ‘dal’ a’n cynnal ni!

Gweddi

Arglwydd pob gobaith, ac Arglwydd pob hoen,

Na threchwyd dy ffydd gan na gofal na phoen,

Bydd yma pan godwn, a dyro yn rhydd

Lawenydd i’n calon ar doriad y dydd.

(geiriau gwreiddiol Jan Struther, cyfieithiad D Eirwyn Morgan)

Emyn

 

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>