Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

DYFALBARHAU


gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Nod

Sylweddoli pa mor bwysig yw dyfalbarhau gyda thasg sy’n werth chweil.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

‘Yr helfa ryfeddol’

Un diwrnod, roedd Iesu yn sefyll mewn cwch,

Roedd yn arfer gwneud rhywbeth fel hyn,

Fe siaradai â’r bobl oedd yno,

Wedi ymgasglu ar lan y llyn.

A gwelodd ddau gwch a’r pysgotwyr,

Yn edrych yn anhapus eu byd,

Roedden nhw wedi bod allan trwy’r nos yn pysgota,

Ond wedi dod yn ôl i’r lan heb ddim byd.

Doedden nhw ddim wedi dal ’run pysgodyn,

Edrychai’r pysgotwyr, mewn penbleth, yn syn,

Roedden nhw’n dechrau pryderu o ddifrif,

Doedd dim pysgod ar ôl yn y llyn.

Fe ddywedodd Iesu wrth Simon,

‘Dydi hi ddim ar ben arnoch chi, rwy’n siwr.

Rhwyfa dy gwch allan ymhellach,

A thafla dy rwyd yn ei hôl eto i’r dwr.’

‘Ond, yn wir, Iesu,’ meddai Simon wrtho,

‘Wir i chi, does dim pysgod, rwy’n dweud!

Ond fe daflaf fy rhwyd unwaith eto,

Os mai dyna rydych chi eisiau i mi ei wneud.’

Fe daflodd Simon ei rwyd i’r dwr,

Ymhell i ganol y llyn.

Ac fe ddaliodd gymaint o bysgod -

Roedd ei rwyd yn methu dal pwysau fel hyn!

Galwodd Simon ar ei ffrindiau i’w helpu,

Roedden nhw wedi bod yn gwylio trwy’r pnawn,

A phan daflodd y ffrindiau eu rhwydi hwythau i’r dwr,

Roedd y rheini’n llawn hefyd - llawn iawn!

Gan fethu credu beth ddigwyddodd,

Roedden nhw eisiau diolch i Iesu, yn fawr.

Dywedodd, ‘Popeth yn  iawn - ond -

Dewch, awn i bysgota pobl yn awr.’

Ac fe wnaethon nhw adael eu cychod a’i ddilyn,

Daeth eraill hefyd i ymuno â’r criw,

A nhw oedd y ddeuddeg disgybl,

Helpodd Iesu i ddweud am Dduw.

Enghreifftiau o adegau pan fyddwn ni’n dyfalbarhau

Nofio

Y peth anoddaf i mi, wna i byth anghofio,

Oedd pan wnes i ddechrau dysgu nofio.

Roedd fy mhen yn mynd i lawr, fy nhraed yn mynd i fyny,

Fy mreichiau melin wynt yn gwneud i’r dwr gorddi, 

Does wybod sut na wnes i foddi!

Roeddwn i’n tagu a chwythu, ac wrthi’n bustachu,

Allwn i wneud dim â’r dwr  - ar wahân i’w lyncu!

Ond, wnes i ddim rhoi’r gorau iddi, fe ddaliais ati,

A nawr, hwre! – mae gen i achos dathlu!

Dysgu reidio beic

Mae rhai pobl yn cael ambell beth yn anodd ei ddysgu,

I mi, reidio beic oedd un o’r pethau hynny.

Traed ar y pedalau, ac i ffwrdd â fi,

Ond roedd gen i ofn, goeliwch chi?

Canolbwyntio, ceisio peidio â chwympo,

Ond rhwng dau fin sbwriel y gwnes i landio!

Dywedodd Nain, ‘Dal ati, gwna dy orau.’

Fe basiodd hi ei phrawf gyrru, ac fe basiais innau!

Dyfalbarhau

Mae’n dda cael uchelgais,

A bod yn rhan o’r ras,

Os oes nod gwerth ei gyrraedd,

Rhaid gwneud ein gorau glas.

Felly, rhaid i chi ddal ati,

Peidio ildio ar unwaith,

Os gwnawn ni fethu’r tro cyntaf -

Wel, does neb yn berffaith!

Mae’n hawdd iawn meddwl

Bod bywyd yn anodd,

Os hoffech gael sicrwydd,

Ceisiwch rywun i’ch annog.

Gwnewch ymdrech deg,

Ac os na fyddwch yn llwyddo,

Peidiwch â digalonni,

Rhowch gynnig arni eto.

Rwy’n siwr y byddwch yn cytuno,

Mae’n wir beth mae pobl yn ei ddweud,

Mwyaf yn y byd y gwnewch chi ymarfer,

Gorau yn y byd y byddwch chi’n gwneud!

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw,

Cryfha fy ffydd ynot ti,

Helpa fi hefyd i gredu ynof fi fy hun,

A helpa fi i weld po fwyaf y byddaf yn dyfalbarhau,

Hapusaf yn y byd y byddaf.

Amen.


Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>