Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

RHYWBETH YN FY MHOCED


gan Helen Redfern


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Annog y plant i ddefnyddio’u eu dychymyg.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gall bod â dychymyg byw fod yn beth rhyfeddol. Yn achos plentyn bach, gall bocs cardbord fod yn roced yn saethu i’r gofod, gall pabell fod yn balas y dywysoges, a gall ffon fod yn gleddyf morleidr …

    Ond pe byddech chi’n holi oedolion, fe allech chi ddarganfod bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi anghofio sut i ddefnyddio’u dychymyg. Mae’r bocs cardbord yn mynd â gormod o le, ac fe gaiff ei roi allan efo’r deunyddiau sy’n barod i fynd i’w hailgylchu. Dim ond ar gyfer gwersylla y mae’r babell, a chaiff ei chadw o dan y to. Darn o bren budr yw’r ffon, a chaiff ei adael allan i’w daflu i’r ci pan fydd hwnnw’n cael mynd am dro …

    Gwrandewch ar y stori fach yma, ac fe fyddwch yn gweld beth sydd gen i dan sylw.
  2. Rhywbeth yn fy mhoced

    Roedd mam Jo wedi colli allweddi’r car, ac roedd yn chwilio amdanyn nhw ym mhob man. Roedd arni eisiau mynd â Jo i’r Clwb Brecwast cyn mynd i’w gwaith ei hun. Roedd Jo yn gwybod nad oedd ei fam yn hoffi bod yn hwyr, felly aeth ati i wisgo’i got ei hun a’i chau yn ddistaw.

    Yn sydyn, edrychodd ei fam arno gan ofyn iddo,  ‘Jo, wyt ti’n siwr nad wyt ti wedi gweld yr allweddi heddiw?’

    ‘Na, Mam, wir, dydw i ddim yn gwybod ble maen nhw.’ Fe fyddai’n dda ganddo pe byddai’n gwybod ble roedden nhw!

    Fe sylwodd mam Jo bod pocedi ei got yn llawn o rywbeth. ‘Jo, wnei di edrych yn dy bocedi, plîs, rhag ofn eu bod nhw yno. Roedd Jo yn anfodlon. ‘Tyrd Jo, does dim amser i’w golli,’ meddai.

    Yn araf bach, tynnodd Jo nifer o bethau allan o’i bocedi. Gosododd bopeth yn ofalus ar y bwrdd o flaen ei fam. Doedd dim allweddi yno, ac roedd yr holl fân bethau a welai ei fam o’i blaen yn gwneud iddi deimlo’n fwy drwg ei hwyl fyth!

    ‘Wel dyma lanast!’ meddai. ‘Pam rwyt ti eisiau cario’r holl sbwriel yma yn dy bocedi?’

    Sbwriel? Sut gallai ei fam ddweud hynny? Onid oedd hi’n gweld mai hadau hud oedd yr hadau ffrwythau - hadau a fyddai’n tyfu’n goed ffa anferth? Onid oedd hi’n sylweddoli mai creigiau oddi ar y lleuad oedd y cerrig bach - dyna’r darnau creigiau yr oedd Jo wedi eu cario’n ôl efo fo pa fu ar ei daith ddiwethaf i’r lleuad? Fyddai hi byth yn deall mai aur y morleidr oedd y geiniog - rhan o’r trysor yr oedd wedi dod o hyd iddo ar Ynys y Trysor?

    Doedd ar Jo ddim eisiau taflu ei drysorau. Pwy a wyr pa bryd y byddai angen y darn llinyn, yr hoelen honno, neu’r stribed hwnnw o ddefnydd? Wrth i’w fam barhau i chwilio am yr allweddi, Rhoddodd Jo y cyfan o’i bethau gwerthfawr yn ôl yn ei bocedi. Gwenodd, teimlai ei fod yn barod am unrhyw beth wedyn.
  3. Tybed ble daeth mam Jo o hyd i’r allweddi? Tybed a oedd hi’n hwyr yn cyrraedd ei gwaith? Ond, yn bennaf, tybed beth wnaeth Jo â’r llinyn, a’r hoelen, a’r stribed o ddefnydd?  Dyna drueni bod oedolion yn ei chael hi’n anodd defnyddio’u dychymyg.

    Efallai bod gan rai ohonoch chi drysorau arbennig yn eich poced ar hyn o bryd. Rydych chi wrth eich bodd yn defnyddio’ch dychymyg i adeiladu bydoedd newydd sbon. Ond, efallai bod rhai ohonoch chi’n meddwl eich bod chi eisoes yn rhy fawr i’r chwarae dychmygus yma, ac mai rhywbeth i blant bach yn unig yw hynny. Dyna hen dro!
  4. Yn y ffilm Bridge to Terabithia, mae Jesse yn teimlo yr un fath. Mae ei fywyd yn sownd mewn realaeth - yn y gwaith y mae’n gorfod ei wneud o ddydd i ddydd, yn y ffaith nad oes ganddo ddigon o arian i brynu esgidiau rhedeg newydd, yn ei awydd mawr i gael bod y rhedwr gorau yn yr ysgol. Mae ganddo ddawn i dynnu lluniau, ond mae’n cadw hynny’n gyfrinach, fel pe bai ganddo gywilydd o fod yn llawn dychymyg.

    Hynny yw, nes daw Lesley i fyw i’r ty nesaf iddo. Mae hi yn ei gyflwyno i Terabithia, byd lle mae gwiwerod yn angenfilod, a moch coed yn grenadau, a byd lle mae ef yn frenin. Mae’n dod i ddysgu bod bywyd o ddydd i ddydd yn cael ei gyfoethogi wrth i ni ddefnyddio’n dychymyg. Nid peth i blant bach yn unig yw dychymyg byw.

 

Amser i feddwl

Dywedodd rhywun, ryw dro, fod dychymyg yn bwysicach na gwybodaeth.

Imagination is more important than knowledge.’

Ydych chi’n gwybod pwy ddywedodd hynny? Albert Einstein, un o’r dynion mwyaf clyfar erioed a fu’n byw ar y ddaear yma! Fe ddywedodd hefyd, rywbeth fel hyn:

For while knowledge defines all we currently know and understand, imagination points to all we might yet discover and create.’

Neu, mewn geiriau symlach, popeth rydyn ni’n gwybod amdano eisoes yw gwybodaeth; ond mae’r cyfan sydd eto i’w ddarganfod a’i greu, o fewn y dychymyg.

Felly, peidiwch â bod â chywilydd defnyddio’ch dychymyg.

Peidiwch ag anghofio sut mae defnyddio’ch dychymyg.

Peidiwch â thyfu allan o ddefnyddio’ch dychymyg.

Peidiwch â phryfocio eraill am ddefnyddio’u dychymyg.

A chofiwch gadw rhywbeth yn eich poced bob amser i atgoffa eich hun am y rhodd o ddychymyg.


Emyn

 

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>