Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

DOS AMDANI, GWNA RYWBETH

gan Helen Redfern


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg

Nod

Herio’r myfyrwyr ynghylch eu hymateb i ‘angen’ pan fyddan nhw’n dod wyneb yn wyneb â hynny, trwy ddefnyddio hanes digwyddiad enwog o fywyd Iesu a hanes profiad Bob Geldof gyda’r ymgyrch Live Aid.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth    

  1. Arweinydd: Sut byddwch chi’n ymateb pan welwch chi enghraifft o ‘angen’ o’ch blaen? Efallai mai rhywun digartref welwch chi’n begio y tu allan i’ch hoff siop ar y stryd fawr. Efallai mai eitem newyddion am effaith daeargryn neu swnami sy’n dangos ‘angen’ i chi, neu raglen am blant tlawd mewn slymiau yn India. Enghraifft arall fyddai fideos sy’n cael eu paratoi gan yr ymgyrch Comic Relief am blant amddifad sy’n dioddef oherwydd yr afiechyd AIDS yn Affrica.

    Pan fyddwch chi’n gweld angen enfawr fel hyn yn y byd, fyddwch chi weithiau’n teimlo’r awydd i wneud rhywbeth? Mae’n debyg y bydd pob un ohonom yn teimlo’r awydd i ymateb, ond a fyddwn ni’n gweithredu? Y gwir yn aml yw na fyddwn ni’n gwneud unrhyw beth o gwbl yn y diwedd.

    Felly, beth sy’n ein dal ni’n ôl? Beth sy’n ein rhwystro rhag gwneud rhywbeth?
  2. Darllenydd 1: Rhaid i mi gyfaddef fy mod i wrth fy modd gyda’r hwyl a’r gwisgo i fyny ar Ddiwrnod Trwynau Coch neu Ddiwrnod Plant mewn Angen - ond y gwir yw, anaml y byddaf yn cyfrannu llawer yn ariannol. Wel, fy arian i ydi’n arian ac mae gen i eisiau’r hyn sydd gen i er mwyn prynu dillad a mynd allan gyda fy ffrindiau. Does gen i ddim llawer i’w sbario, felly rydw i’n gadael i rywun arall, sydd â mwy o arian na fi - y bobl gyfoethog - i roi at yr achosion da. Wedi’r cyfan, nid fy nghyfrifoldeb i ydi’r bobl anffodus hyn. Ar y pryd, fe fydda i’n teimlo’n anghyfforddus ac yn euog am y peth, ond fe fydda i’n anghofio’n fuan ac yn mynd ymlaen gyda fy mywyd fy hun.

    Darllenydd 2: Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy pan welais i’r rhaglen ddogfen am ddigartrefedd yn ein dinasoedd mawr, yma ym Mhrydain. Roeddwn i’n awyddus i wneud rhywbeth i helpu, ond wnes i ddim. Mae’n debyg bod gen i ofn. Beth pe bawn i’n ceisio trefnu ymgyrch codi arian a’r cyfan yn fethiant? Neu, beth pe bawn i’n ymwneud â phroject ar gyfer pobl ddigartref ond yn methu gwneud dim? Beth oedd gen i i’w gynnig, prun bynnag? Dim ond person cyffredin ydw i, a doeddwn i ddim eisiau methu, felly wnes i ddim byd yn y diwedd.

    Darllenydd 3: Rydw i’n gwylio’r newyddion bob dydd, ac mae’n ymddangos bod trychinebau naturiol yn digwydd yn amlach ac amlach gyda chanlyniadau gwaeth o hyd ac o hyd. Rydw i wir eisiau gwneud rhywbeth, neu roi rhywbeth, ond fydda i byth yn gwneud. Mae gen i ofn beth fyddai fy ffrindiau’n ei ddweud. Allwch chi ddychmygu? Fe fydden nhw’n fy ngalw i yn ‘goody-goody’. Ac fe fydden nhw’n chwerthin am fy mhen.
  3. Arweinydd: Gadewch i mi fynd â chi yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd i ddigwyddiad sy’n cael ei nodi yn y Beibl, ym mhennod 14 o Efengyl Mathew.

    Roedd athro ifanc o’r enw Iesu yn pregethu wrth y bobl, ac roedd llawer iawn o bobl â diddordeb mawr yn yr hyn oedd ganddo i’w ddweud. Roedd ei athrawiaethau’n wahanol i unrhyw beth yr oedd y bobl wedi ei glywed cyn hynny, ac roedd yr hanesion amdano’n gwneud gwyrthiau - yn gwella pobl o bob math o glefydau ac yn gwneud pethau rhyfeddol eraill. Byddai torfeydd yn ei ddilyn er mwyn cael cip arno a chael clywed rhai o’i storïau. Fe fydden nhw’n barod i deithio ymhell o’u cartrefi i wrando arno, heb ofidio ble bydden nhw’n cael bwyd na ble bydden nhw’n aros. Roedden nhw’n ymgolli cymaint yn y cyffro, doedd dim byd arall yn bwysig, dim ond dilyn y pregethwr ifanc a chlywed beth oedd ganddo i’w ddweud.

    Un noson neilltuol, edrychodd Iesu o gwmpas y dyrfa, roedd tua phum mil o bobl yno, ac roedd yn gallu gweld eu bod yn flinedig ac eisiau bwyd. Rhoddodd orchymyn i’w ddisgyblion fwydo pawb. Sut yn y byd y bydden nhw’n gwneud hynny? Doedd ganddyn nhw ddim bwyd i’w rannu, nac arian i fynd i brynu bwyd i gymaint o bobl ychwaith. Ac ar ben hynny doedd unman yn agos ble bydden nhw’n gallu prynu bwyd. Efallai bod gan rywun oedd yn y dyrfa rywfaint y gallen nhw’i rannu . . .
  4. Darllenydd 1: Tynnu fy nghoes i ydych chi, ie? Pam dylwn ni rannu fy mwyd gyda’r bobl eraill yma? Dim ond digon i fy nheulu a minnau sydd gen i. Fe ddylai’r bobl eraill fod wedi gwneud yr un peth â fi, a dod a bwyd iddyn nhw’u hunain i’w fwyta yn ystod y dydd. Faint fyddai gen i ar ôl wedyn i mi a fy mhlant pe byddwn i’n dechrau rhannu ein bwyd ni? Gadewch i’r lleill fynd adref i’w cartrefi eu hunain i gael bwyd. Mae’n ddrwg gen i, ond rydyn ni angen yr hyn sydd gennym ni.

    Darllenydd 2: Ydyn nhw o ddifrif yn disgwyl i ni rannu hynny o fwyd sydd gennym ni? Does neb i’w weld yn gwneud dim. Efallai na fyddan nhw’n hoffi’r hyn sydd gen i. Efallai y byddan nhw’n gwrthod ei ddefnyddio. I mi fy hun y gwnes i ei baratoi – nid i gael ei asesu gan rywun arall! Dydi o ddim yn edrych yn amheuthun iawn, ac mae’r bara wedi sychu’n galed. Mae gen i ormod o gywilydd dangos yr hyn sydd gen i. Fe wna i gymryd arnaf does gen i ddim byd.

    Darllenydd 3: Wel, i ddweud y gwir, mae gen i dipyn bach mwy o fwyd na beth sydd ei angen arna i, ond alla i ddim meddwl am gerdded at Iesu o flaen yr holl bobl. Rydw i’n gwrido wrth feddwl am y peth. Beth fyddai pobl yn ei feddwl ohonof? Fyddai’r ychydig sydd gen i dros ben ddim yn ddigon i fwydo llawer beth bynnag. A wnaiff y bobl ddim ond chwerthin, dwi’n siwr.
  5. Arweinydd: Ond, wrth lwc, fe wnaeth rywun ymateb. Fe aeth rhywun â phum torth a dau bysgodyn at Iesu. Mae rhai’n dweud mai bachgen ifanc oedd y rhywun hwnnw. Bachgen ifanc oedd ddim yn hunanol, oedd ddim ofn methu, ac nad oedd ofn i rywun chwerthin am ei ben. A rywsut, fe gafodd pawb oedd yno ddigon i’w fwyta y noson honno. Efallai bod eraill wedi dewis dilyn esiampl y bachgen ifanc, ac wedi rhannu’r hyn oedd ganddyn nhw. Wedi i bawb orffen bwyta, roedd deuddeg basgedaid o fwyd yn weddill. Anhygoel!
  6. Arweinydd: Nawr, gadewch i ni symud ymlaen mewn amser i adeg sydd lai nag ugain mlynedd yn ôl. Yn 1984, fe welodd Bob Geldof ‘angen’, ac fe benderfynodd ymateb i’r angen hwnnw. Fe newidiodd hynny Bob Geldof o fod yn brif ganwr mewn band o’r enw The Boomtown Rats i fod yn ffigwr cenedlaethol arwyddocaol.

    Ynghyd â gweddill ein cenedl, roedd Bob Geldof wedi gweld yr hanes am filoedd y bobl yn newynu ac yn marw oherwydd y newyn difrifol a effeithiodd ar Ethiopia a gwledydd eraill yn Affrica ar y pryd. Ac fel gweddill pobl Prydain, fe welodd Bob Geldof yr eitemau newyddion ar y teledu am gyflwr y plant oedd yn newynu. Ond, yn wahanol i lawer o bobl yn ein gwlad, fe benderfynodd Bob Geldof wneud rhywbeth. Fe gododd ymwybyddiaeth am yr angen am help dyngarol a gwneud hynny mewn ffordd wahanol i unrhyw beth oedd wedi’i wneud erioed cyn hynny.

    Gyda help Midge Ure, fe gasglodd ynghyd 40 o’r cantorion mwyaf enwog o’r byd pop ar y pryd, a gyda’i gilydd dan yr enw Band Aid, fe wnaethon nhw ryddhau’r sengl - ‘Do they know it’s Christmas?’ Gwerthodd y sengl ar unwaith, 3 miliwn copi ohoni, gan dorri pob record.

    Yn ystod haf 1985, roedd Bob Geldof yn un o brif drefnwyr y digwyddiad Live Aid, a’i nod oedd codi arian ac ymwybyddiaeth am yr angen yn Affrica. Roedd yn ddigwyddiad anferth, cyngerdd roc yn para am 16 awr. Yn wir roedd dau gyngerdd enfawr yn digwydd ar yr un pryd ar ddau gyfandir - un yn Llundain yn Stadiwm Wembley yn Llundain, a’r llall yn yr Unol Daleithiau yn Stadiwm John F. Kennedy yn Philadelphia. Doedd dim byd o’r fath wedi’i gynnal erioed o’r blaen ac fe ddaliodd sylw’r byd. Am un diwrnod - 13 Gorffennaf 1985 - fe wyliodd tua 1.4 biliwn o’r 5 biliwn o bobl sy’n byw ar ein planed, y ‘global jukebox’ a defnwyd gan Bob Geldof, ac roedden nhw’n dystion i’r cyngerdd mwyaf a mwyaf uchelgeisiol a lwyfannwyd erioed. Ar un adeg, yn ôl cyhoeddiad oddi ar y llwyfan, roedd 95 y cant o holl setiau teledu’r bydd wedi eu troi i wylio Live Aid.

    Meddyliwch eto. Ar y pryd, roedd penllanw llwyddiant The Boomtown Rats wedi pasio, a doedd Bob Geldof ddim yn ffigwr dylanwadol iawn. Doedd ganddo ddim arian mawr. Doedd ganddo ddim cyfeillion oedd yn bwerau mawr. Doedd ganddo ddim profiad o’r blaen o drefnu’r math yma o weithgaredd. Ond, gyda’r teliffon yn ei law a’r awydd angerddol i ymateb i’r angen yr oedd wedi bod yn dyst iddo, fe lwyddodd i berswadio bandiau byd-enwog i berfformio am ddim mewn sioe a drefnwyd yn gyfan gwbl mewn chwe wythnos. Anghredadwy!
  7. Ydych chi’n gweld rhyw debygrwydd rhwng yr hyn a lwyddodd Bob Geldof i’w wneud a hanes Iesu’n bwydo’r pum mil?

    Fe welodd Bob Geldof effaith y newyn mawr yn Affrica ac fe wnaeth ymateb i’r angen gyda thosturi, gan roi’r ychydig oedd ganddo. Doedd Bob Geldof ddim yn hunanol, doedd o ddim yn ofni methu, a doedd o ddim ofn i bobl chwerthin am ei ben.

    Ac yna, fe ddigwyddodd y wyrth. Wedi iddo ddangos menter, a rhoi ei hun, ei amser, a’i angerdd, fe ddilynodd cerddorion eraill ei esiampl a rhoi eu hamser a’u doniau. Pan welodd pobl y byd y cerddorion hyn yn rhoi eu hamser a’u doniau am ddim, fe ddilynwyd eu hesiampl hwythau ac fe gyfannodd y bobl eu hadnoddau eu hunain. Ac fe brynodd eu harian fwyd i bobl Affrica. Anhygoel!

 

Amser i feddwl  

Gwrandewch ar eiriau’r myfyrdodau canlynol, ac os hoffech chi, fe allech chi eu troi’n weddi i chi eich hun.

Darllenydd 1
Fe welais i angen, ond wnes i ddim ymateb.
Wnes i ddim ymateb oherwydd fy mod i’n hunanol.
Rydw i’n teimlo’n ddrwg fy mod i wedi heb wneud rhywbeth.
Y tro nesaf, fe wna i ymateb.
Dos amdani, gwna rywbeth!

 

Darllenydd 2
Fe welais i angen, ond wnes i ddim ymateb.
Wnes i ddim ymateb oherwydd fy mod i ofn methu.
 Rydw i’n teimlo’n ddrwg fy mod i wedi heb wneud rhywbeth.
Y tro nesaf, fe wna i ymateb.
Dos amdani, gwna rywbeth!

Darllenydd 3
Fe welais i angen, ond wnes i ddim ymateb.
Wnes i ddim ymateb oherwydd fy mod i ofn i rywun chwerthin am fy mhen.
Rydw i’n teimlo’n ddrwg fy mod i wedi heb wneud rhywbeth.
Y tro nesaf, fe wna i ymateb.
Dos amdani, gwna rywbeth!

 

Arweinydd
Dychmygwch beth fyddai’n digwydd pe byddem i gyd yn gweld angen
ac yn mynd amdani ac yn gwneud rhywbeth am y peth.
Dychmygwch y gwyrthiau fyddai’n digwydd wrth i ni i gyd fynd amdani a gwneud rhywbeth!

DOS AMDANI, A GWNA RYWBETH!

Emyn

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch un o’r senglau a gyhoeddwyd ar gyfer Comic Relief neu Live Aid.

 


Gwasanaethau Uwchradd >>