Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

EI STORI HI, HANES

Y merched cyntaf i gyrraedd Auschwitz, mis Mawrth 1942

gan Helen Redfern


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Dangos bod gan bawb stori i’w hadrodd, ac o ddweud yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud, mae hanes yn cael ei greu a bywydau’n gallu cael eu newid.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 

  1. Y pwnc mwyaf diflas erioed

    (Mae athro’n dod wyneb yn wyneb â myfyriwr sy’n ymdroi ar ei ffordd i’w wers)

    Athro  Ddylet ti ddim bod yn dy wers gyntaf erbyn hyn? Pam dy fod ti mor hwyr? Fe fyddai rhywun yn meddwl does gen ti unlle i fynd iddo!

    Myfyriwr 1  O! Dydw i ddim ar frys. Fe fyddai’n well gen i fynd i unrhyw le na mynd i’r wers.

    Athro  Pam? Pa wers sydd gen ti, bore ma?

    Myfyriwr 1  Hanes. Rydw i’n casáu hanes! Hanes yw’r pwnc mwyaf diflas erioed. Y cyfan sydd gennym i’w ddysgu mewn gwers hanes yw dyddiadau sy’n amhosibl eu cofio, niferoedd sy’n golygu dim i ni o faint sydd wedi eu lladd mewn rhyfeloedd, enwau di-wyneb pobl na chlywais amdanyn nhw erioed o’r blaen, a hanesion diflas am ddigwyddiadau gannoedd o flynyddoedd yn ôl sydd â dim i’w wneud â fy mywyd i. Mae’n hollol anniddorol ac amherthnasol. Waeth pa mor hwyr y byddaf yn cyrraedd y wers, fe fydd hynny’n rhy fuan!

    Athro  Iawn! Os mai dyna sut rwyt ti’n teimlo, fydd dim gwahaniaeth gen ti os gwna i gymryd munud neu ddau o dy amser di i adrodd hanes un person arbennig wrthyt ti. Fydd dim gwahaniaeth gan dy athro hanes di ychwaith, mae’n debyg. Yn wir, efallai y bydd yn diolch i mi! Fe weli di pam yn fuan.
  2. Auschwitz

    Athro
     Y dyddiad oedd 26 Mawrth 1942. Yn achos nifer o ferched ifanc Iddewig, roedd y dyddiad hwn yn un tyngedfennol. Fyddai eu chwiorydd na’u brodyr, eu mamau na’u tadau, eu ffrindiau na’u cymdogion byth yn anghofio’r diwrnod hwnnw ychwaith.

    Dyma’r dyddiad pryd y cyrhaeddodd y cludiad cyntaf o Iddewon Auschwitz, un o’r gwersylloedd crynhoi a ddefnyddiwyd gan y Natsiaidd i garcharu a difodi’r Iddewon. Merched ifanc oedd y cyfan o’r carcharorion yn y cludiad cyntaf hwnnw. 

    Eleni, ar 26 o fis Mawrth, roedd 70 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r merched ifanc rheini gael eu cludo i Auschwitz. Nodwyd yr achlysur i gofio am hyn 70 mlynedd yn ddiweddarach gan Heather Dune Macadam, awdur a helpodd un o’r merched, sef Rena Kornreich, i adrodd ei stori. Enw’r llyfr a ysgrifennwyd ar y cyd gan y ddwy yw Rena’s Promise. (Mae’r teil yn cyfeirio at yr addewid a wnaeth Rena i’w mam, a oedd hefyd wedi ei charcharu yn Auschwitz. Pan orfodwyd i’r teulu ymrannu, fe addawodd Rena i’w mam y byddai hi’n gofalu am ei chwaer Danka.).

    Yn ystod mis Mawrth 2012, er mwyn anrhydeddu a chofio am y merched hyn, fe aeth Heather yn ôl i Auschwitz i ailadrodd y daith.
  3. A dyma’r niferoedd.

    Doedd y niferoedd canlynol ddim yn ddiystyr i’r carcharorion.

    -  fe gyrhaeddodd 999 o ferched ifanc Iddewig y gwersyll ar y diwrnod hwnnw ym mis Mawrth 1942.
    -  roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 16 a 22 oed (21 oedd Rena).
    -  At bwrpas ceidwaid y carchar dim ond rhifau oedd y merched - doedd eu henwau’n golygu dim iddyn nhw. Rhif 716 oedd Rena Kornreich, ac roedd hynny’n nodi mai hi oedd y 716ed merch i’w rhifo yn y gwersyll.
    - Rena oedd un o’r ychydig rai wnaeth bara'n fyw. Fe barhaodd ei phrofiad caled yn y gwersylloedd crynhoi - yn gyntaf yng Ngwlad Pwyl ac yn ddiweddarach yn yr Almaen - hyd ddiwedd y rhyfel: 3 blynedd a 41 diwrnod yn ddiweddarach.
  4. Stori Rena

    Allwn ni ddim galw stori Rena’n stori ddiflas. Ei llyfr hi yw’r unig lyfr sydd wedi cael ei ysgrifennu gan un o’r rhai a oroesodd, o’r merched cyntaf rheini gafodd eu cludo i Auschwitz.

    Mae’n disgrifio sut y llwyddodd i bara’n fyw am amser mor hir, er gwaethaf y newyn a’r poenau mawr a’r gamdriniaeth a ddioddefai, yn treulio deg neu ddeuddeg awr bob dydd yn gwneud llafur gorfodol.

    Ynghanol yr holl ddioddef, mae’n disgrifio munudau o lawenydd a chariad. Mae’n sôn amdani ei hun un gwneud campau ac yn troi fel olwyn trol, ac yn disgrifio fel y byddai’n cael nerth gan ei chwaer Danka - a gyrhaeddodd Auschwitz dri diwrnod ar ôl Rena.

    Mae’n amlygu ei hofn parhaus hefyd, fe wyddai pe byddai’n gwneud unrhyw beth o’i le y byddai’n cael ei saethu’n farw gan y rhai a oedd yn goruchwylio.

    Mae’n sôn amdani’n rhannu gwybodaeth, trwy ffenestr y llofft, gyda’r dynion a oedd yn y bloc yr ochr arall i’r ffens weiren bigog.

    Mae’n adrodd yr hanes sut y gwnaeth osgoi, o drwch blewyn, arbrofion meddygol y Dr Mengele, ac mae’n cyfeirio at ei chyfarfyddiadau â’r wraig ddrwg-enwog o’r SS, Irma Grese.
  5. Stori ar gyfer heddiw

    Mae’r stori bersonol hon o ddewrder a thosturi yn parhau i gyffwrdd bywydau heddiw. Ar y wefan gymdeithasol Facebook, mae tudalen lle gall pobl o bob cwr o’r byd rannu eu meddyliau a’u profiadau gyda’r un a oedd wedi ysgrifennu stori Rena ar y cyd â hi, sef Heather Dune Macadam, a hefyd gyda merch Rena, sef Sylvia, a merch Danka, sef Sara. Mae’r rhain yn bobl go iawn. Mae Rena’n berson go iawn. Ac mae hon yn stori go iawn.

    Mae’r stori wir hon yn ein hatgoffa pa mor wydn a chryf yw’r ysbryd dynol.

    Mae’n dangos y nerth sydd gan bobl i helpu ei gilydd mewn sefyllfaoedd sy’n anodd iawn i ni eu dychmygu.

    Mae’n rhoi her i bob un ohonom, gyda neges am sut i garu cyd-ddyn hyd yn oed ar ôl gweld beth yw’r peth gwaethaf sydd ganddo i’w gynnig.

    Mae stori Rena’n cynnwys dyddiad y mae’n rhaid i ni beidio â’i anghofio, ac yn cynnwys cofnod o niferoedd sydd o arwyddocâd enfawr. Mae’n stori gyffrous sy’n ein hysbrydoli, ac yn stori sydd yn berthnasol i’n bywydau ni heddiw.

    Dyma ei stori hi. Dyma hanes.

Amser i feddwl

Arweinydd   Gadewch i ni fynd a hyn un cam ymhellach. Gwrandewch ar eiriau’r myfyrdod canlynol.

Myfyriwr 2  Nid rhestr o ffeithiau diflas a ffigurau, enwau a llefydd yw hanes.

Casgliad o gannoedd o filoedd o storïau unigol yw hanes. Mae hanes dynol yn orlawn o berthnasoedd, emosiynau, syniadau a gweithredoedd.

Myfyriwr 3  Gadewch i ni wrando ar storïau’r gorffennol.

Gadewch i ni gael ein hysbrydoli ganddyn nhw, a dysgu oddi wrthyn nhw.

Does dim rhaid i hanes ailadrodd ei hun.

Gadewch i ni helpu i newid y byd, un gair ar y tro.

Myfyriwr 2  Ledled y byd heddiw, mae penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n llunio cwrs hanes.

Mae storïau unigol am ecsploetiaeth, dioddefaint, poenydio a marwolaeth yn digwydd yn rhywle yn y byd bob munud o’r dydd.

Mae lleisiau’n crio ledled y byd, yn gweiddi storïau y mae angen i rywun eu clywed.

Myfyriwr 3  Gadewch i ni wrando ar y storïau o bedwar ban y byd.

Gadewch iddyn nhw fod yn her i ni weithredu arnyn nhw.

Gadewch i ni benderfynu gwneud ein rhan i newid cwrs hanes.

Gadewch i ni helpu i newid y byd, un gair ar y tro.

Myfyriwr 2  Mae pob un ohonom yn gwneud penderfyniadau bob dydd sy’n effeithio ar stori ein bywyd ni.

Mae ein bywydau’n bwysig.

Mae ein storïau’n bwysig.

Mae gan bob un ohonom stori i’w hadrodd.

Myfyriwr 3  Gadewch i ni wrando ar storïau’r rhai sydd o’n cwmpas.

Gadewch i ni sylweddoli arwyddocâd ein stori ni ein hunain.

Gadewch i ni wneud gwahaniaeth. 

Gadewch i ni helpu i newid y byd, un gair ar y tro.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>