Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

RHY BRYSUR

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1


Nod

Dangos y dylem ni geisio rhoi amser i helpu’r naill a’r llall.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth  

  1. Weithiau fe fyddwn ni’n rhy brysur yn gwneud ein pethau ein hunain i wneud dim i helpu pobl eraill. Efallai eich bod wedi gobeithio y byddai eich mam neu eich tad yn gallu gwneud rhywbeth i chi, neu wneud rhyw weithgaredd gyda chi, ond eu bod yn rhy brysur ar y pryd. Efallai eu bod nhw wedi gofyn i chi wneud rhywbeth iddyn nhw, ond eich bod yn rhy brysur yn chwarae ar y pryd, a chithau felly’n methu gwneud yr hyn roedden nhw’n gofyn i chi ei wneud.

    Gwrandewch ar y stori sydd gen i heddiw, a meddyliwch ydi hi’n bosib i ni ddysgu rhywbeth o’r stori.
  2. Yr Iâr Fach Goch (addasiad o’r stori wreiddiol)

    Dyma stori’r Iâr Fach Goch. Roedd yr Iâr Fach Goch bob amser yn brysur, yn cadw’r ty yn daclus ac yn cadw’r ardd yn daclus. Un diwrnod, fe brynodd hi hadau i’w plannu yn yr ardd. Fe ofynnodd hi i’w ffrindiau fydden nhw’n hoffi ei helpu. ‘Na!’ meddai Mic y mochyn, ‘Na!’ meddai Carlo’r ci, ‘Na!’ meddai Grwndi’r gath. ‘Rydyn ni’n rhy brysur,’ meddai’r tri.

    ‘Wel! Fe wna i blannu’r hadau fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch. Fe blannodd hi’r hadau, a rhoi dwr iddyn nhw bob dydd a gwylio’r planhigion bach yn dechrau tyfu. ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i roi dwr i’r planhigion?’ gofynnodd yr Iâr Fach Goch i’w ffrindiau.

    ‘Na! Rydyn ni’n llawer rhy brysur,’ meddai’r tri unwaith eto wrth yr Iâr Fach Goch.

    ‘Wel! Fe wna i roi dwr i’r planhigion fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch, ac fe weithiodd yn galed bob dydd yn dyfrio’r planhigion ac yn clirio’r chwyn oedd yn tyfu o’u cwmpas. Roedd hi’n edrych ymlaen at gael llysiau ymhen amser ar y planhigion. Eto, fe ofynnodd hi i’w ffrindiau, ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i glirio’r chwyn sy’n tyfu rhwng y planhigion?’ ‘Na! Rydyn ni’n llawer rhy brysur,’ meddai’r tri unwaith eto wrth yr Iâr Fach Goch.

    Tyfodd y planhigion yn dal a chryf. Tyfu a thyfu, ac roedd llysiau blasus ar y planhigion. Un diwrnod roedd y llysiau wedi aeddfedu ac yn barod i’w casglu. Gofynnodd yr Iâr Fach Goch unwaith eto i’w ffrindiau fydden nhw’n hoffi ei helpu. ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i gasglu’r llysiau sydd wedi tyfu ar y planhigion?’ meddai’r Iâr Fach Goch.

    ‘Na!’ meddai Mic y mochyn, ‘Mae’n ddrwg gen i, rydw i eisiau mynd i rowlio yn y mwd, ac wedyn rydw i’n mynd i gysgu. Rydw i’n rhy brysur o lawer.’

    ‘Na!’ meddai Carlo’r ci, ‘Mae’n ddrwg gen i, rydw i eisiau mynd i chwilio am asgwrn, ac wedyn rydw i’n mynd i gnoi’r asgwrn am hir. Rydw i’n rhy brysur o lawer.’

    ‘Na!’ meddai Grwndi’r gath, ‘Mae’n ddrwg gen i, rydw i eisiau mynd i ddal llygoden, ac fe fydda i’n chwarae am hir gyda’r llygoden cyn ei dal. Rydw i’n rhy brysur o lawer.’

    ‘Wel! Fe wna i gasglu’r llysiau fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch. Fe weithiodd yn galed nes roedd hi wedi casglu’r llysiau i gyd. ‘Nawr, rydw i’n mynd i wneud cawl blasus gyda’r llysiau.’

    Fe ofynnodd hi i’w ffrindiau eto, ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i wneud cawl llysiau blasus gyda’r llysiau sydd wedi tyfu ar y planhigion?’ Ond, unwaith eto, roedden nhw i gyd yn rhy brysur yn gwneud rhywbeth arall i helpu’r Iâr Fach Goch. ‘Wel! Fe wna i’r cawl llysiau fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch.

    Fe biliodd hi’r llysiau a’u torri, ac fe chwiliodd am y sosban fwyaf y gallai ddod o hyd iddi. Rhoddodd ddwr yn y sosban a rhoi’r llysiau i mewn wedyn, a dechrau coginio’r cawl. Roedd arogl hyfryd yn dod o gegin yr Iâr Fach Goch.

    ‘Mmmm, mae arogl hyfryd yn dod o gegin yr Iâr Fach Goch,’ meddai Mic y mochyn.

    ‘Mae’r arogl hyfryd yn codi eisiau bwyd arna i,’ meddai Carlo’r ci. 

    ‘O! Mae’n arogli fel fy hoff gawl,’ meddai Grwndi’r gath.

    Dilynodd y tri eu trwynau i gegin yr Iâr Fach Goch. Roedd yr Iâr Fach Goch wedi eistedd wrth y bwrdd ac roedd hi ar fin dechrau bwyta ei chinio o gawl llysiau blasus. ‘Gawn ni dy helpu di i fwyta’r cawl llysiau blasus?’ gofynnodd ei ffrindiau iddi.

    ‘Na chewch, yn wir!’ meddai’r Iâr Fach Goch. ‘Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i blannu’r hadau. Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i roi dwr i’r planhigion. Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i chwynnu o gwmpas y planhigion. Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i gasglu’r llysiau, a doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i wneud y cawl chwaith! Roeddech chi’n rhy brysur. Ond  nawr, fi sy’n rhy brysur. Rydw i’n rhy brysur yn bwyta’r cawl llysiau hyfryd yma. Rydw i’n rhy brysur i roi dim ohono i chi. Felly, ewch oddi yma. Ta ta, hwyl fawr!’

    Ac i ffwrdd a’r tri anifail bach, yn teimlo’n euog iawn. Roedden nhw’n sylweddoli pa mor hunanol roedden nhw wedi bod. Dyna biti! Roedden nhw wedi bod yn rhy brysur!
  3. Efallai yr hoffech chi dreulio ychydig o amser yn trafod y stori. Mae pob un ohonom ni’n brysur bob dydd yn gwneud gwahanol bethau. Ond mae’n hawdd iawn defnyddio hynny fel esgus dros beidio â helpu pobl eraill.
  4. (Pennill i’w defnyddio os hoffech chi) Rhy brysur

    Pan fyddwn ni’n teimlo’n ofnadwy o brysur, yn gwneud y pethau sy’n ein plesio ni,
    Fe ddylem ni hefyd geisio meddwl am eraill, sydd o bosib yn brysur yr un fath â chi.
    Dim ond gofyn i ni helpu rhywfaint y byddan nhw, wrth ofyn am ychydig bach o gefnogaeth.
    Felly, mae’n bwysig peidio bod yn hunanol, a rhoi i bobl eraill dipyn bach o ystyriaeth

Amser i feddwl

Roedd Iesu’n brysur yn addysgu’r bobl am Dduw, ond doedd o byth yn rhy brysur i helpu’r rhai oedd angen ei help.

Fe allech chi nodi enghraifft o hyn trwy ddarllen stori Merch Jairus o’r Beibl.

Gweddi

Arglwydd y galon garedig, gwna fy nghalon innau’n un garedig.
Arglwydd y dwylo tyner, gwna fy nwylo innau’n rhai tyner.
Arglwydd y traed parod a bodlon, gwna fy rhai innau’n barod a bodlon,
fel y gallaf dyfu’n debycach i ti ym mhob peth y byddaf i yn ei ddweud a’i wneud..


Emyn

 

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>