Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

FFYDDLONDEB 2

gan Janice Ross

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1

Fersiwn Saesneg

Nod

Archwilio’r cysyniad o ffyddlondeb i deulu.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Adroddwch y stori ganlynol:

    Dwy chwaer oedd Sara a Mari. Roedd Sara’n naw oed a Mari’n saith oed. Roedd Sara’n ferch hyfryd, hyderus a phoblogaidd iawn yn ei dosbarth. Doedd hi ddim yn pryderu gormod am bethau. Ond roedd Mari’n ferch dawel, sensitif iawn , ac yn fwy dwys na’i chwaer. Roedd hi’n pryderu mwy am wahanol bethau. Y rhan fwyaf o’r amser, roedd Sara a Mari’n ffrindiau, ond ambell dro fe fydden nhw’n ffraeo – fel mae chwiorydd yn gwneud weithiau. Dyma stori am un o’r dyddiau hynny, diwrnod pan aeth popeth o chwith!

    Mae’n debyg bod pethau wedi dechrau oherwydd bod Mari’n bryderus am ei chlyweliad canu. Roedd ganddi lais canu swynol iawn ac roedd ei hathrawes eisiau iddi ymgeisio am ran Sinderela yn y pantomeim. Roedd pawb yn dweud y dylai Mari roi cynnig arni.


‘Mae gen ti lais hyfryd,’ meddai ei mam.

‘Os ydi Mrs Rowlands yn meddwl y byddi di’n gallu chwarae’r rhan, yna fe ddylet ti fynd amdani,’ meddai ei thad.

Roedd ei nain hefyd yn ei hannog.

Ond, roedd Mari’n pryderu, er y byddai wrth ei bodd yn cael gwisgo fel tywysoges. Roedd hi mewn tipyn o benbleth. Roedd hi’n troi a throsi pethau yn ei meddwl. Beth os hyn ...? A beth os rywbeth arall ...? Felly y meddyliai. Ceisiai pawb ei hannog, ond yn y diwedd fe ddywedson nhw, ‘O, wel, plesia di dy hun!’ Druan o Mari, doedd hynny ddim ond yn gwneud pethau’n waeth, ac fe deimlai ei bod yn siomi pawb arall wedyn.

Y diwrnod hwnnw, rydyn ni’n sôn amdano, aeth Mari i’r ysgol. Roedd hi’n pryderu, yn cnoi ei hewinedd, ac yn wir doedd hi ddim mewn llawer o hwyliau i ganolbwyntio ar ei gwaith ychwaith. Roedd y ddwy chwaer braidd yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol y bore hwnnw am fod Mari wedi anghofio rhoi ei llyfr darllen yn ei bag, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i’r ty i nôl y llyfr. Roedd ffrindiau Mari’n chwarae ar yr iard pan gyrhaeddodd hi, a chymrodd neb fawr o sylw ohoni. Doedd neb yn meddwl sôn am ganu!

Aeth Mari draw i’r fan lle’r oedd Sara yn siarad gyda’i ffrindiau. Fe fyddai gan Sara lawer o ffrindiau o’i chwmpas bob amser. Roedden nhw’n siarad ac yn chwerthin am rywbeth a doedden nhw ddim hyd yn oed wedi sylwi ar Mari. Aeth Mari i’w rhes pan ganodd y gloch, ac roedd hi’n teimlo’n ddig am nad oedd Sara wedi cymryd sylw ohoni. Teimlai yr hoffai fynd adref. Roedd ei chwaer fawr mor boblogaidd! Doedd dim i’w weld yn ei phoeni hi. ‘Pam na allaf fi fod fel Sara?’ meddyliodd Mari.

Yn anffodus, doedd y diwrnod ddim yn gwella i Mari wrth iddo fynd ymlaen ychwaith, a phan ddaeth yn amser chwarae aeth Mari i chwilio am ei chwaer. Eto, fel bob amser, roedd twr o ffrindiau o gwmpas Sara, a doedd ganddi ddim amser i siarad â’i chwaer fach. ‘Rydyn ni’n mynd i gael gem bêl-droed yn erbyn y bechgyn. Wela i di wedyn,’ meddai Sara.

‘Dydi hyn ddim yn deg,’ meddyliodd Mari. ‘Mae Sara i fod yn ffrind i mi.’ Ac fe ddechreuodd Mari deimlo’n ddig iawn. ‘Faswn i ddim yn chwarae gyda Sara pe bawn i’n eich lle chi,’ meddai hi’n gas wrth ffrindiau Sara. ‘Mae ganddi hi ferwcas ar ei thraed. Fe allech chi ddal rhywbeth oddi wrthi!’

Arhosodd Sara’n stond gan edrych mewn syndod ar ei chwaer. Edrychodd ffrindiau Sara ar Mari mewn syndod. Roedd Mari ei hun wedi cael tipyn o syndod hefyd.

‘Oes gen ti ferwca, Sara?’ holodd ei ffrindiau iddi.

‘Oes, mae gen i dri, gwaetha’r modd’ atebodd Sara’n dawel. ‘Mae’n debyg mai ar ôl bod yn y pwll nofio ....’

‘O, rydw i wedi cael rhai hefyd, o’r blaen,’ meddai Medi. ‘Fe alli di gael rhywbeth i’w roi arnyn nhw.’

‘Gallaf, mae gen i rywbeth,’ meddai Sara. Edrychodd yn ddryslyd ar Mari, ac yna fe ddywedodd wrth ei ffrindiau, ‘Dewch, mae’r bechgyn yn disgwyl amdanom ni i ddechrau’r gêm bêl-droed.’

Gadawyd Mari i sefyll ar ei phen ei hun. Roedd hi’n teimlo’n ofnadwy. Yn wir, roedd hi’n teimlo’n waeth yn awr nag erioed.

Ac wrth gwrs, fe glywodd ei mam am hyn ar ôl yr ysgol y diwrnod hwnnw. Roedd Sara wedi sgwrsio â hi’n gyntaf i fyny’r grisiau. Ac fe aeth y ddwy i lawr wedyn, i siarad â Mari. Gallai Mari weld bod ei chwaer wedi bod yn crio.

‘Beth oedd yn bod arnat ti?’ meddai Mam gan ddwrdio. ‘Roedd beth ddywedaist ti am Sara’n gas iawn.’ A gofynnodd i Sara egluro i Mari sut roedd hi’n teimlo.

‘Wel, roeddwn i wedi synnu,’ meddai Sara. ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl i ti ddweud peth mor bersonol amdanaf fi wrth fy ffrindiau. Mae peth felly’n rhywbeth dwyt ti ddim yn dweud wrth bawb amdano. Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael fy mrifo, Mari.’

Dywedodd Mam, ‘Dychmyga, Mari, sut byddet ti’n teimlo pe byddai Sara wedi dweud wrth y merched dy fod ti wedi gwlychu’r gwely y noson o’r blaen?’

Dychrynodd Mari.

‘Wrth gwrs, fyddwn i byth wedi gwneud hynny,’ meddai Sara ar ei hunion pan welodd hi’r olwg ofnus ar wyneb ei chwaer fach. ‘Paid â phoeni, Mari.’

Dechreuodd Mari grio. ‘Mae’n wir ddrwg gen i, Sara,’ meddai.

‘Mae’n iawn,’ meddai Sara wrthi, ac fe roddodd hi gwtsh mawr i Mari. ‘Ac fe alli di siarad efo fi unrhyw adeg am dy glyweliad canu, cofia - ar wahân i’r adeg y bydda i’n mynd i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn y bechgyn, yntê!’

Dechreuodd Mam, Sara a Mari chwerthin, ac roedd pawb yn hapus eto.

  1. Trafodwch: Beth ydych chi’n feddwl wnaeth frifo teimladau Sara fwyaf?

    Eglurwch ei bod hi'n bosib i ni frifo teimladau y rhai sy’n ein caru ni fwyaf.

    Siaradwch am ba mor bwysig yw bod yn ffyddlon i’n teuluoedd.

Amser i feddwl  

Efallai nad yw ein teuluoedd yn berffaith. Does dim un teulu’n berffaith! Ond mae’n bwysig bod aelodau teuluoedd yn gofalu am ei gilydd.
(Agorwch a dangoswch y ffigurau sydd gennych chi wedi’u torri allan  i gynrychioli teulu.)

 

Gweddi

Annwyl Dduw,
diolch i ti am ein teuluoedd.
Maddau i ni pan fyddwn ni’n angharedig wrth ein gilydd.
Maddau i ni pan fyddwn ni’n cymryd y naill a’r llall yn ganiataol.

Gwna ni’n ofalgar o’n gilydd

Emyn

 

 

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>