Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

MYNYDDOEDD

gan Helen Bryant


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Ferswin Saesneg

Nod

Ystyried pa mor bwysig yw mynyddoedd mewn profiad ysbrydol.

Paratoad a deunyddiau    

 Gwasanaeth        

  1. Pa bryd mae bryn yn bod yn fynydd? Tybed ydych chi’n gwybod yr ateb?

    Mae bryn yn fynydd ar uchder o 305 metr (1,000 troedfedd). Yng ngeiriadur Caergrawnt caiff mynydd ei ddiffinio fel a ganlyn: ‘a raised part of the Earth’s surface, much larger than a hill, the top of which might be covered in snow’. Yn amlwg mae hwn yn ddiffiniad braidd yn amhendant - mwy o lawer na bryn, ac fe allai’r copa fod wedi’i orchuddio ag eira. Ond, pan fydd angen gwahaniaethu rhwng bryn a mynydd mae’n debyg mai’r uchder sy’n bwysig, yr uchder uwch lefel y môr ac, i raddau, yr hyn sydd i’w weld oddi ar y copa.
  2. Ond, tybed ydych chi erioed wedi meddwl pa mor bwysig yw mynyddoedd a mannau uchel mewn gwahanol grefydd ac i bobl ffydd? Mae mynyddoedd yn ymddangos yn aml fel mannau lle mae digwyddiadau ysbrydol pwysig yn digwydd, a lle mae pobl yn cael gweledigaeth neu fewnwelediad arbennig.
  3. Yn y Beibl, mae mynyddoedd wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y berthynas rhwng Duw â’i bobl. Er enghraifft, yn llyfr cyntaf y Beibl, Llyfr Genesis, mae Duw yn gofyn i Abraham fynd i fyny mynydd i aberthu ei fab. Y traddodiad yw mai Mynydd Sinai oedd y mynydd hwnnw (a enwid hefyd yn Fynydd Horeb). Yng ngwlad yr Aifft erbyn hyn, y traddodiad yw mai ar y mynydd a elwir heddiw yn Jebel Musa y digwyddodd hyn. Ac ar y mynydd hwnnw hefyd y rhoddodd Duw y Deg Gorchymyn i Moses yn ddiweddarach.

    Cofiwn hefyd am fynyddoedd Ararat lle’r arhosodd arch Noa ar ôl y Dilyw. Ac am Fynydd Seion, dyma lle’r adeiladodd y Brenin Dafydd ei balas, yn y cadarnle mynyddig a enwyd yn ‘Ddinas Dafydd’. Dyma ddinas Jerwsalem.
  4. Mae mynyddoedd yn bwysig hefyd yn hanes bywyd Iesu. Er enghraifft, aeth Iesu i ben mynydd wrth Fôr Galilea un tro i annerch ei ddisgyblion. Rydym yn galw’r bregeth bwysig honno y bregeth ar y Mynydd. Ac ar y noson cyn iddo farw, i Fynydd yr Olewydd y tu allan i ddinas Jerwsalem yr aeth Iesu a’i ddisgyblion i weddïo.
  5. Ond nid dim ond mewn Iddewiaeth a Christnogaeth mae mynyddoedd yn chwarae rhan allweddol yn y ffordd y mae’r dwyfol yn amlygu ei hun i bobl allweddol. Mae mynyddoedd wedi cael eu hystyried yn gysegredig ac yn arbennig iawn mewn sawl crefydd hynafol. Adeiladwyd temlau ar ben mynyddoedd ac roedd pobl yn mynd i ben mynydd mewn ymgais i ddod yn nes at Dduw - ac yn dod o hyd i’r agosrwydd hwnnw yno.

    -  Yn achos crefydd Islam, mewn ogof ar Fynydd Hira y cafodd Muhammad ei weledigaeth gyntaf o’r angel Jibril, a ddaeth a neges iddo oddi wrth Allah. Y neges gyntaf honno, ynghyd â’r holl negeseuon eraill a ddatgelodd Allah yn ddiweddarach i Muhammad, sydd wedi’u casglu ynghyd i lunio’r Qur’an, llyfr bendigaid y Mwslimiaid.

    -  Caiff Mynydd Fuji, mynydd hardd yn Japan, ei ystyried yn sanctaidd gan y Bwdhyddion yn ogystal â chan ddilynwyr y grefydd Shinto Japaneaidd. Mae rhai yn dweud bod yr enw’n dod o’r un enw ag enw’r dduwies hynafol gynfrodorol, Fuchi, duwies y tân. Mae’r mynydd wedi ei gysegru i’r dduwies Shinto, Sengen-Sama, ac mae cysegr iddi ar y copa.

    -  Yng ngwlad Tibet mae Mynydd Kailash. Mae’r copa siâp diemwnt hwn ym mynyddoedd yr Himalaias yn darddle i rai o’r afonydd hwyaf yn Asia. Mae’n gysegredig gan bedair crefydd: Hindwaeth, Bwdhaeth, crefydd Jain, a chrefydd Bön (un o draddodiadau ysbrydol hynafol Tibet).

    -  Ac mae Machu Picchu yn uchel ar grib mynydd yng ngwlad Periw. Mae Machu Picchu yn hen safle seremonïol, wedi’i chadw’n dda, ac sy’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif. Ar bob ochr o gwmpas y safle mae mynyddoedd a oedd o’r pwysigrwydd crefyddol mwyaf i’r Incas. Mae yno adfeilion palas mawr, temlau ac adeiladau eraill a oedd yn perthyn i’r Incas.

    Waeth pa grefydd roedd pobl yn ei dilyn, mae’n ymddangos fel pe byddai’r mynyddoedd, a’r uchder sy’n perthyn iddyn nhw yn gwahodd Duw i’w defnyddio i siarad â nhw.
  6. Dychmygwch sut beth yw dringo mynydd: yr ymdrech sydd ei hangen i ddringo i’r copa, a’r wobr ar ôl cyrraedd y copa wrth i chi fwynhau’r olygfa. Rydych chi’n gallu gweld am filltiroedd lawer i bob cyfeiriad, pellter nad oeddech chi erioed wedi gallu ei ddychmygu. Mae’r olygfa gyfan yn ymestyn o’ch blaen, i’r ochr, a thu ôl i chi. Mae’r ehangder fel pe bai’n eich lapio yn ei fawredd a’i helaethrwydd. Mae’n debyg bod y teimlad yma’n mynd yn fwy po uchaf y bo’r mynydd. Ac yna, os buoch chi’n dringo i fyny ac yn uwch na’r cymylau, rydych chi’n profi’r teimlad eich bod chi’n mynd ymhellach ac ymhellach oddi wrth y ddaear.

 

Amser i feddwl

Dyma sut y disgrifiodd Stacy Allison ei phrofiad ar ben Mynydd Everest. Hi oedd y ferch gyntaf o’r Unol Daleithiau i ddringo’r mynydd hwnnw, ‘The end of the ridge and the end of the world . . . then nothing but that clear, empty air. There was nowhere else to climb. I was standing on the top of the world.’
Roedd hi ar ben y byd, ac ar ben ei digon.


Efallai mai dyna pam y mae Duw yn dewis mynyddoedd, a pham eu bod wedi cael eu hystyried yn gysegredig ar hyd yr oesoedd.
Pa fyddwch chi ar y copa, does dim byd o’ch cwmpas ond yr awyr glir.
Mae copa mynydd yn rhywle y gallwch chi fyfyrio a deall,
gan fod unrhyw beth sy’n peri gofid i chi, neu’n eich llethu, i lawr yn y gwaelod.
Mae eich amser ar ben y mynydd yn amser i chi eich hun,
i ystyried eich hun a’r hyn sydd islaw i chi.

Efallai mai’r mynydd yw’r lle y mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu cyfarfod Duw, oherwydd am ennyd mae’r mynydd yn rhoi lle iddo siarad â nhw.

Gweddi
Gad i ni allu dy glywed di, Arglwydd,
pan fydd di’n siarad â ni,
pa un ai a fyddwn ni ar ben mynydd
neu’n gwneud ein tasgau dyddiol.

Emyn

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

 ‘Rocky mountain high’ gan John Denver

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>