Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

MEWN DRYSFA

gwasanaeth ar gyfer dechrau blwyddyn ysgol newydd

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Tawelu meddwl y plant wrth iddyn nhw newid dosbarth neu ymuno â’r ysgol am y tro cyntaf.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Nawr bod y gwyliau drosodd mae cyffro a phryder, o bosib, wrth i chi ddechrau tymor newydd, rhai ohonoch chi mewn ysgol sy’n newydd i chi efallai. Fe fydd llawer o’r plant newydd sydd yma heddiw yn teimlo’n bryderus wrth feddwl am fod mewn ysgol am y tro cyntaf neu mewn adeilad mawr, dieithr, am y tro cyntaf. Fe fyddan nhw’n gorfod wynebu trefn newydd a dod i adnabod pobl doedden nhw ddim yn eu hadnabod o’r blaen.
  2. Efallai bod rhai ohonoch chi sydd wedi bod yn yr ysgol yma y flwyddyn ddiwethaf , a chyn hynny, yn cofio sut roeddech chi’n teimlo ar eich diwrnod cyntaf yma. Roedd fel bod mewn drysfa neu ‘maze’, a chithau ddim yn gwybod pa ffordd yr oedd yn rhaid i chi fynd er mwyn cyrraedd rhywle arbennig. Ac wedyn, yn gorfod dod o hyd i’ch ffordd yn ôl i ble roeddech chi cyn hynny.
  3. Mae’r  stori heddiw yn ymwneud a hynny:

Drysfa
addasiad o stori gan Jan Edmunds

Roedd Sita yn dechrau teimlo’n bryderus. Roedd hi a’i theulu wedi symud i fyw i dy newydd, ac mewn ychydig ddyddiau fe fyddai hi’n dechrau ei gyrfa mewn ysgol newydd. Roedd hi’n teimlo’n drist am ei bod wedi gorfod symud i ffwrdd oddi wrth ei ffrindiau ac o’r ysgol lle’r oedd hi’n arfer mynd.

Ychydig o ddyddiau cyn i’r ysgol ddechrau, fe aeth rhieni Sita â hi i barc antur a oedd yn ymyl eu cartref newydd. Fe welodd Sita arwydd yno yn dangos y ffriodd i’r ‘MAZE’.

‘Beth ydi maze?’ holodd Sita.

‘Drysfa ydi maze,’ meddai ei thad. ‘Mae fel rhyw fath o bos y mae’n rhaid ei ddatrys. I mewn yna mae llawer o lwybrau gyda gwrychoedd uchel bob ochr iddyn nhw. Mae rhai o’r llwybrau’n dod i ben yn sydyn, ac mae rhai o’r llwybrau’n eich arwain rownd mewn cylchoedd. Y gamp yw dod o hyd i’ch ffordd i ganol y ddrysfa ac allan wedyn o’r canol.’

‘Gawn ni roi cynnig arni?’ gofynnodd Sita.

‘Ie, iawn,’ meddai ei mam. ‘Fe gawn ni hwyl, dwi’n meddwl.’

Felly, fe wnaethon nhw brynu tocynnau a mynd drwy’r porth i’r ddrysfa. Aethon nhw ar hyd y llwybrau, y ffordd yma a’r ffordd acw. Doedd rhai ddim yn arwain i unman, dim ond dod i stop, ac roedd yn rhaid iddyn nhw droi’n ôl. Roedd rhai o’r llwybrau fel cylch yn eu harwain yn ôl i’r un lle bob tro! Ymhen amser fe ddaethon nhw o hyd i’r ffordd i’r canol. Y peth nesaf yr oedd yn rhaid ei wneud oedd mynd yn ôl allan o’r ddrysfa. A dyna pryd y dechreuodd Sita deimlo’n bryderus. Roedden nhw’n methu’n glir â dod o hyd i’r llwybr iawn.

Erbyn hynny, doedd Sita ddim yn meddwl bod hyn yn hwyl. Roedd hi’n dechrau mynd yn hwyr. Roedden nhw’n poeni y byddai’r parc yn cau a hwythau’n methu dod allan o’r ddrysfa mewn pryd. Fyddai’n rhaid iddyn nhw aros yno trwy’r nos? Ar ôl mynd rownd a rownd a chyrraedd yn ôl i’r un lle bob tro, dyna falch oedd Sita o glywed llais dyn ifanc a oedd yn gweithio yn y parc yn gofyn iddyn nhw, ‘Ydych chi ar goll?’

‘Ydyn, rydyn ni ar goll yn llwyr,’ meddai tad Sita.

‘Peidiwch â phoeni,’ meddai’r dyn ifanc. ‘Dilynwch fi.’ A chyn pen ychydig funudau roedd pawb yn ddiogel wrth fynedfa’r ddrysfa. Roedden nhw’n falch iawn o gael dod allan ac yn ddiolchgar iawn i’r dyn ifanc am ddangos y ffordd iddyn nhw. ‘Nid chi yw’r unig rai i fynd ar goll yn y ddrysfa,’ meddai’r dyn ifanc. ‘Ond peidiwch â phoeni, fydden ni byth wedi mynd oddi yma a’ch gadael chi yno. Rydyn ni bob amser yn cadw golwg ar y lle ac yn cyfrif faint o bobl sy’n mynd i mewn a faint sy’n dod allan.’


‘Wel, dyna beth oedd antur!’ meddai Sita wedi iddyn nhw gyrraedd adref.

Daeth dydd Llun, a diwrnod cyntaf y tymor ysgol. Aeth mam Sita a hi i’w hysgol newydd. Roedd yr adeilad yn edrych yn fawr iawn, ac roedd Sita’n teimlo’n nerfus wrth fynd i mewn.

‘Mae’r lle yn debyg i’r ddrysfa,’ meddai. ‘Gobeithio y bydd rhywun yno i ddangos y ffordd i mi o gwmpas y lle, neu fe fydda i ar goll.’

Doedd dim rhaid iddi fod wedi pryderu gan fod merch gyfeillgar wedi dod i’w chyfarfod wrth y drws ac wedi dweud wrthi ei bod wedi cael ei dewis i fod yn ffrind arbennig iddi a fyddai’n gallu ei helpu i ddod i adnabod yr ysgol. Teimlai Sita’n falch iawn o’i chwmni, ac mewn ychydig o ddyddiau roedd wedi dod i adnabod yr ysgol yn dda ac wedi dysgu ei ffordd o gwmpas y lle a gwneud llawer o ffrindiau newydd.

‘Roedd y lle’n debyg iawn i ddrysfa ar y dechrau,’ meddai wrth ei rhieni. ‘Ond, rydw i wedi gallu datrys y pos a dod o gyd i fy ffordd o gwmpas yn iawn. Roedd Sita yn hapus yn ei hysgol newydd wedyn.

  1. Dewisol - addasiad o gerdd Jan Edmunds:

Rownd a rownd, yn ôl a blaen, a throi i’r chwith a’r dde,

Methu’n glir â ffeindio fy ffordd … ble rydw i, wir? O! Ble?

Mewn drysfa fawr, ar goll yn awr, yn ôl yn yr un lle bob tro,

Dal i drio nes fy mod, yn wir, bron iawn a mynd o ’ngho!

Dyna sut deimlad yw hwn yma heddiw, methu gwybod pa ffordd i fynd.

Mae arnom angen ychydig bach o help, mae’n dda cael cymorth ffrind.

Wrth sylwi ar y naill beth a’r llall, a chofio beth ydi be,

A chydag ychydig o amser a gofal iawn, fe ddown i adnabod y lle.

Amser i feddwl

Felly, ceisiwch fod yn garedig wrth y plant newydd sydd yn ein hysgol heddiw, a chofio’u helpu.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Pan fyddwn ni’n teimlo ar goll ac yn ansicr, bydd yno gyda ni i’n harwain ni.

Bydd gyda ni yn ein gwaith, yn ein chwarae, a bydd yn nerth i ni ar hyd llwybr ein bywyd.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>