Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

JONA

Bod yn ddigon dewr i wneud y peth iawn


gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 (Ysgol Eglwys)

Nod

Meddwl am bwysigrwydd bod yn onest a dibynadwy, hyd yn oed pan fydd raid i ni wneud rhywbeth sydd yn groes i’n hewyllys.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 1

Darllenwch stori Jona o’r Hen Destament.  Byddwch angen penodau 1 a 3 (mae pennod 4 yn ddiweddglo diddorol, ond nid ydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y rhan honno o’r stori yn y gwasanaethau hyn).

Trafodwch gyda’r plant beth y maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y stori.  Yn gyffredinol credir bod y stori yn ymwneud â maddeuant ac edifarhau neu ddweud sori; ufudd-dod a chosb, a thosturi a maddeuant Duw.

Efallai bod yna adegau wedi digwydd ym mywyd y plant pan oedd angen iddyn nhw fod yn ddewr wrth iddyn nhw ddod wyneb yn wyneb â rhyw anhawster neu gyfyng-gyngor.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am yr adegau hynny pryd y maen nhw wedi ei chael hi yn anodd gwneud rhywbeth yr oedden nhw’n gwybod a oedd yn iawn.  Sut y gwnaethon nhw ddelio â hynny?

Gofynnwch iddyn nhw feddwl am yr adegau hynny pan oedden nhw’n gwybod eu bod yn gwneud rhywbeth oedd ddim yn iawn.  A wnaethon nhw ddweud ‘sori’ wrth y person arall, ac efallai wrth Dduw hefyd?

Yna, gofynnwch i’r plant feddwl am yr adegau hynny pan wnaethon nhw’r ‘peth iawn’, a pha mor falch yr oedden nhw’n teimlo wedyn ar ôl iddyn nhw gyflawni hynny.

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,

Gwna fi’n gryf

i wrthsefyll yr hyn sydd ddim yn iawn.

Rho nerth i mi i sefyll dros

yr hyn yr wyf yn ei wybod sy’n iawn.  

Emyn

Gwasanaeth 2

Cydweithio

Fe fyddai´n bosib i chi rannu´r cerddi a gosod llinellau i´w darllen i blant unigol neu grwpiau o blant.

Treuliwch ychydig funudau yn adolygu stori Jona cyn i chi gychwyn yr adran hon.

Mae pawb yn hoffi meddwl eu bod nhw’n onest a dibynadwy.  Y dosbarthiadau gorau mewn ysgol yw´r rhai hynny sy’n cynnwys plant sy’n ddibynadwy a chyfrifol.  Weithiau, mae angen i ni gael y dewrder i ddefnyddio amser cylch neu Gyngor yr Ysgol i ddatrys y problemau hynny sy’n peri consyrn i ni.

Dyma enghraifft: Roedd gennym ddosbarth hapus a gweithgar ar un adeg.  Roedd pob athro neu athrawes yn dweud eu bod yn hoffi ein haddysgu, ac o ganlyniad, fe ddigwyddodd llawer o bethau dymunol i ni, ac fe gawsom ni lawer o wobrau a thystysgrifau.

Ond un diwrnod daeth y Prifathro gan gyflwyno bachgen newydd a oedd yn ymuno â ni yn y dosbarth.  Ei enw oedd Peter ac roedd y sefyllfa yn hunllef o’r cychwyn cyntaf.  Roedd Peter yn ymladd â phawb, yn twyllo mewn gemau, ac roedd yn rhegi o hyd.  Roedd ein hathrawes yn gorfod treulio llawer o’i hamser yn datrys y problemau yr oedd Peter wedi eu creu.

Fe ddioddefodd y dosbarth cyfan, ac roedd ein hathrawon yn gorfod dwrdio o hyd ac o hyd.  O dipyn i beth doedd yr athrawon eraill ddim yn fodlon iawn i ddod i’n haddysgu ychwaith.  Fe ddywedodd ein hathrawes na fyddai yna fwy o wobrwyon - dim mwy o wneud darnau gwyddbwyll o glai, canhwyllau ar gyfer ffair yr ysgol na theisennau na melysion i fynd adref.  Roedd pawb yn teimlo’n ddiflas - pawb ond Peter.

Yna, un diwrnod yn y sesiwn amser cylch, fe gafodd Esther ddigon o ddewrder i ddweud yn uchel beth oedd pawb arall yn ei deimlo ac yn ei sibrwd wrth ei gilydd.  Dywedodd wrth Peter ei bod wedi cael llond bol arno - fe ddywedodd hynny yn foneddigaidd ond yn gadarn.  Roedd pawb yn cytuno ac yn  dweud wrtho na fydden nhw’n ymateb iddo nac yn cwffio ag o -  fe fydden nhw’n cerdded oddi wrtho.  Pe byddai’n twyllo mewn gemau, yna ni fydden nhw’n gadael iddo chwarae.  Os oedd Peter yn rhegi, fydden nhw ddim yn gwrando arno.


Roedd y penderfyniad yn un yr oedd y grwp wedi ei wneud trwy gydweithio.  Cyn gynted ag y sylweddolodd Peter na fyddai gweddill y plant yn goddef ei ymddygiad drwg, fe ddechreuodd ymddwyn yn well yn araf bach.  Gwelodd ei byddai hi’n well ar bawb, yn cynnwys ef ei hun, pe byddai’n gwella ei ymddygiad ac yn dod yn rhan o dîm parchus a hoffus.

Mae´n bosib i aelodau o ddosbarth gael cryn ddylanwad da a phositif ar rai eraill.

Cyfaddef

Weithiau fe fyddwch yn gwybod bod rhywbeth o’i le,

Ac na wyddoch chi ddim beth ddylech chi ei wneud.

Ond os byddwch chi´n sôn wrth athro neu rywun am y peth,

Fe fyddan nhw’n gwybod wedyn mai chi fydd wedi dweud.

Weithiau fe fydd pethau yn mynd ar goll,

Efallai eich bod yn gwybod pwy wnaeth, a pha bryd.

Ydych chi´n dweud yn dawel wrth yr athro, ryw dro?

Neu´n smalio na wyddoch chi ddim byd?

Pan fyddwch chi eich hunan wedi gwneud rhywbeth ffôl,

Ac mae gennych chi gywilydd – dim llai -

Peidiwch ag eistedd yn ôl ac aros yn fud,

Gan adael i eraill gael y bai.

A phan gewch eich holi, am y peth yma a´r peth arall

Er mor hawdd fyddai hynny, mae´n beth annoeth yn wir

Dechrau gwneud llu o esgusion

Pan fyddwch chi´n gwybod nad hynny yw´r gwir.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am yr adegau hynny pryd yr oedden nhw wedi wynebu rhyw ddilema neu benderfyniad anodd:  a ydyn nhw’n gadael i’r unigolyn sy’n gas wrthyn nhw barhau i wneud hynny, neu a ydyn nhw’n gofyn iddo fo neu hi beidio ag ymddwyn yn y ffordd honno o hynny ymlaen?

Meddyliwch am y ffordd fwyaf caredig i ddweud rhywbeth felly wrth rywun.

Meddyliwch pa mor ddewr y byddai’n rhaid i chi fod.

Meddyliwch sut y byddech yn cael digon o blwc i fod yn ddewr a gwneud hynny.

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,

Gwna fi’n gryf

i wrthsefyll yr hyn sydd ddim yn iawn.

Rho nerth i mi i sefyll i fyny dros

yr hyn yr wyf yn ei wybod sy’n iawn.

Emyn

Gwasanaeth 3

Ewch dros y ddau wasanaeth blaenorol cyn dychwelyd at stori Jona.

Dyma stori o´r Beibl am ddyn enwog o’r enw Jona.  Fe wnaeth Duw ofyn i Jona wneud rhywbeth nad oedd eisiau ei wneud o gwbl.  Dyma beth ddigwyddodd iddo fo.

Jona

Fe siaradodd Duw â Jona,

Gan roi gorchymyn iddo ef,

‘Rwyf eisiau i ti fynd i Ninefe –

Mae llawer o bobl ddrwg yn y dref.’

Ond doedd ar Jona ddim eisiau mynd yno,

Roedd yn bendant, ‘Na, dim fi! Na, no-wê!

Felly, fe aeth ar long oedd yn mynd ar fordaith

Gan obeithio dianc yn ddigon pell o´r lle.

Ond fe gododd y gwynt

A chododd y tonnau yn uwch

Teimlai pawb ar y llong yn sâl wedyn!

Gwaeddodd Jona, ‘Fy mai i yw hyn.

Taflwch fi dros ochr y llong yn reit sydyn!’

Gostegodd y storm,

Tawelodd y gwynt a´r tonnau,

Ond, druan o Jona,

Mewn braw a dychryn -

Cafodd ei lyncu

Gan glamp o bysgodyn!

Roedd y llong, erbyn hynny,

Yn morio´n ddiogel,

A Jona ym mol y pysgodyn.

Bu´n meddwl o ddifrif am yr hyn a wnaeth,

Am dair noson a thri diwrnod, mewn tywyllwch yn gaeth.

Ac yna, fe ddywedodd, ‘O, wir, mae yn ddrwg gen i.’

Dywedodd Duw, ‘Rwy´n deall yn iawn sut rwyt ti´n teimlo.’

Rhoddodd Duw orchymyn i´r anghenfil pysgodyn

Daflu Jona o´i fol ac allan ohono.

Wedi hynny, fe aeth Jona i Ninefe´n ufudd,

A dweud wrth y bobl sut i fyw.

Ar ôl gwrando ar Jona, fe ddywedodd pawb, ´Sori!`

A chafodd pawb wedyn faddeuant gan Dduw.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am yr hyn a ddysgodd Jona yn y stori yma.  Beth all y plant ddysgu o stori Jona?

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,

Gwna fi’n gryf

i wrthsefyll yr hyn sydd ddim yn iawn.

Rho nerth i mi i sefyll i fyny dros

yr hyn yr wyf yn ei wybod sy’n iawn.  

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>