Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

CARIAD

Gwasanaeth gyda phwyslais Cymreig arno -  Dydd Santes Dwynwen (25 Ionawr)


gan Manon Ceridwen Parry


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Meddwl am ‘gariad’ fel rhywbeth rydyn ni’n ei wneud yn ogystal ag yn ei deimlo.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Atgoffwch y plant bod gennym ni, yng Nghymru, nawddsant cariadon ein hunain, sef Santes Dwynwen. Ac, fel mae rhai yn dathlu Dydd Sant Ffolant (St Valentine’s Day), ar Chwefror 14, fe fydd rhai yng Nghymru’n dathlu gwyl y cariadon ar Ddydd y Santes Dwynwen, ar 25 Ionawr. Fe fydd cariadon yn anfon cardiau ac anrhegion i’w gilydd ar y diwrnod hwnnw’n union fel bydd rhai yn ei wneud ar ddydd Sant Ffolant. Ac fe fydd rhai ysgolion yn cynnal parti neu ddisgo er mwyn dathlu’r diwrnod, ac yn adrodd stori Dwynwen. 
  2. Roedd Dwynwen yn byw yn y bumed ganrif, ym Mrycheiniog, yn Ne Cymru. Roedd hi’n ferch i frenin Cymreig enwog o’r enw Brychan. (Roedd gan Brychan lawer o blant - 36 yn ôl pob sôn. Mae nifer o’r plant wedi cael eu cydnabod yn seintiau, ac mae gwahanol lefydd ledled Cymru wedi cael eu henwi ar ôl plant Brychan Brycheiniog.)

    Yn ôl y stori, roedd dyn o’r Gogledd, a’i enw oedd Maelon, eisiau priodi Dwynwen. Roedd Dwynwen mewn cariad â Maelon hefyd. Ond doedd  Brychan ddim yn fodlon i’r ddau briodi. Er gwaethaf ei siom, ond er mwyn bod yn ufudd i’w thad, fe benderfynodd Dwynwen beidio mynd ymlaen â threfniadau’r briodas. Fe wylltiodd Maelon, roedd yn ddig iawn wrth Dwynwen am wneud hynny, ac roedd Dwynwen â chymaint o ofn wrth ei weld mor ddig fe weddïodd ar Dduw am gael ei gwarchod rhagddo. O ganlyniad i’w gweddi, fe gafodd Maelon ei droi’n lwmp o rew!

    Daeth angel at Dwynwen, ac fe ddywedodd wrth Dwynwen y byddai’n cael tri dymuniad. Dymuniad cyntaf Dwynwen oedd y byddai Maelon yn cael ei droi’n ôl i fod yn ddyn unwaith eto, ac nid yn lwmp o rew. Yr ail ddymuniad oedd na fyddai hi, Dwynwen, byth yn priodi neb. A’r trydydd dymuniad oedd y byddai hi’n gallu helpu pobl eraill a oedd wedi bod mewn cariad ond a oedd wedi bod yn anlwcus.

    Fe benderfynodd Dwynwen fynd yn lleian, a byw mewn lleiandy. A chyda rhai o’r lleianod eraill, neu’r mynachod a oedd yn cydweithio â hi, fe deithiodd ledled Cymru i sôn am Dduw a Iesu Grist. Fe arhosodd i fyw ar ynys Llanddwyn, ynys llanw fechan ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Fe sefydlodd eglwys yno, ac fe ddaeth y lle’n fan pererindod i bobl a oedd yn sâl, ac i bobl mewn cariad.

    Mae pobl yn dal i fynd i ymweld ag eglwys Santes Dwynwen ar Ynys Llanddwyn. Mae’n lle braf i fynd am dro, yn lle rhamantus i gariadon fynd yno, ond dros y canrifoedd hefyd, mae wedi bod yn arferiad gan bobl i fynd yno os oedden nhw’n cael problemau yn eu perthynas.
  3. Yn ogystal â bod hon yn stori garu arbennig (er nad yw’n stori hapus iawn, ychwaith!) mae yng Nghymru draddodiad arall sy’n ymwneud â  chariad - traddodiad y llwy garu.

    Llwy bren arbennig wedi ei cherfio’n hardd yw llwy garu. (Dangoswch y llwy garu, neu luniau o rai.) Mae un o’r llwyau caru cynharaf i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, ac mae’n dyddio’n ôl i’r flwyddyn 1667.

    Pan fyddai dyn ifanc yn cwympo mewn cariad â merch, fe fyddai’n cerfio llwy allan o ddarn o bren iddi, i’w chyflwyno’n rhodd. Os byddai hi’n derbyn y llwy, fe fydden nhw’n ‘gwpl’.

    Weithiau, fe fyddai dynion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, pob un yn ceisio cerfio llwy addurnedig a chrefftus iawn, yn y gobaith o ennill calon merch nodedig a phoblogaidd! Fe fydden nhw’n cerfio patrymau neu siapiau bach yn ofalus yn y pren - siapiau pethau cyfarwydd a oedd yn symbolau o’u teimladau a’u gobeithion. Fe fyddai siâp calon yn cynrychioli cariad, croes yn cynrychioli ffydd, clychau’n awgrymu priodas, ac ati. (Fe allech chi sgwrsio am y symbolau sydd ar y llwy neu’r llwyau rydych chi’n eu dangos.)

    Roedd rhoi llwy garu’n anrheg i ferch yn brawf bod y dyn yn ddyn ymarferol a fyddai’n gallu gofalu am deulu ac ennill bywoliaeth dda. Roedd y llwy garu’n arwydd ymarferol o gariad.
  4. Yn aml, pan fydd sôn yn y Beibl am gariad, mae’n gallu golygu rhywbeth rydyn ni’n ei wneud yn ogystal â bod yn rhywbeth rydyn ni’n ei deimlo. Ar Ddydd Sant Ffolant, fe fydd unigolyn yn aml yn anfon cerdyn neu anrheg i ddangos i rywun ei fod yn caru’r person hwnnw. Mae’r llwy garu yn yr un modd hefyd, yn dangos pa mor bwysig yw gwneud rhywbeth ymarferol i ddangos cariad.

    Felly, sut y gallwn ni ddangos ein cariad ni tuag at aelodau ein teulu a’n ffrindiau heddiw?

    Awgrymwch, os ydyn ni eisiau dangos ein cariad, fe allen ni feddwl am wneud un peth arbennig i rywun arall i’w helpu (golchi’r llestri; helpu ffrind i dacluso’i drôr yn y dosbarth, neu rywbeth tebyg?).
  5. Mae stori Dwynwen yn dweud wrthym nad oes diwedd hapus i bob stori garu! Ond, mae cariad, fel mae i’w gael yn y Beibl, nid yn unig yn ymwneud â beth mae pobl eraill yn gallu ei wneud i ni, a’i roi i ni, ond hefyd yn ymwneud â beth allwn ni ei wneud a’i roi i bobl eraill.

Amser i feddwl

Anogwch y plant i edrych ar y llwy garu, neu ar y llun, a meddwl yn dawel am yr hyn y gallai’r geiriau canlynol o’r Beibl ei olygu iddyn nhw:

‘Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd.’ (1 Corinthiaid 13: 4–6)

‘Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy’n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.’ (1 Ioan 4:7 )

Gweddi

Annwyl Dduw,

helpa ni i ddangos ein cariad trwy’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn ogystal â thrwy’r hyn rydyn ni’n ei ddweud.


Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>