Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

GRYM GEIRIAU

Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth (3 Hydref 2013)

gan Manon Ceridwen Parry 

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Nod

Annog y plant i feddwl am rym geiriau, sut mae geiriau’n gallu niweidio a sut mae geiriau’n gallu gwella.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Archwiliwch rym geiriau gyda’r plant. Dywedwch ei bod yn bosib newid y ffordd mae rhywun yn teimlo, dim ond trwy ddweud un gair.

    Rhowch foment i’r plant feddwl am yr hyn rydych chi newydd ei ddweud. Ydyn nhw’n eich credu chi? 

    Arhoswch eiliad eto a dywedwch: ‘Dyma fo – dyma’r gair – SIOCLED!’ 
  2. Sut roedd y plant yn teimlo wedi iddyn nhw glywed y gair siocled (eisiau bwyd, yn gynnes, meddal, hapus?)?

    Pa ddelweddau ddaeth i’w meddwl? Hoff far siocled, efallai? Neu ffownten siocled meddal? 

    Mwynhewch funud neu ddau gyda’r plant (a’r oedolion!) yn archwilio’u hymateb i’r gair. 
  3. Gyda’n geiriau ni, a’r ffordd rydyn ni’n siarad, fe allwn ni nid yn unig newid sut mae’r bobl yn teimlo ond hefyd newid y bobl eu hunain.

    Er enghraifft, fe all rhywun sydd wedi ei ordeinio’n offeiriad, neu’n weinidog mewn eglwys neu gapel, newid pobl a’u gwneud yn wahanol dim ond trwy ddweud ychydig o eiriau.

    Dydych chi ddim yn golygu bod y gweinidog, fel dewin, yn gallu newid rhywun o fod yn fachgen i fod yn froga! Na, nid hud a lledrith felly. Ond, fe all offeiriad neu weinidog weinyddu priodas mewn eglwys neu gapel, er enghraifft. A phan fydd y gweinidog yn dweud y geiriau canlynol mewn priodas, ‘Yr wyf yn datgan eu bod hwy’n awr yn wr a gwraig ynghyd’, mae’r gweinidog mewn gwirionedd yn newid y ddau unigolyn o fod yn ddau berson sengl i fod yn bâr priod. 

    Enghraifft arall yw sefyllfa y gallech chi ei chael mewn llys barn. Pan fydd barnwr neu reithgor yn dweud fod rhywun yn euog neu’n ddieuog o gyflawni trosedd, mae bywyd y person hwnnw’n gallu newid am byth.

    Neu cymerwch ddoctoriaid fel enghraifft arall. Mae’r doctor yn gorfod dweud pethau pwysig yn aml wrth gleifion. Fe allai eu geiriau fod yn newyddion da neu’n newyddion drwg.

    Mae geiriau’n gallu bod yn bethau grymus iawn.
  4. Mae grwp arall o bobl sy’n gwybod am rym geiriau – beirdd. Mae barddoniaeth yn gallu gwneud i ni deimlo gwahanol emosiynau, ac mae beirdd yn gwybod hyn. Cafodd cerdd gan fardd o’r enw Adrian Mitchell ei dewis, yn y flwyddyn 2005, fel y gerdd y byddai pobl yn hoffi ei hanfon allan i’r gofod er mwyn i bawb yn y Bydysawd ei darllen! 

    Cafodd y gerdd ei hysgrifennu ar gyfer pawb, nid ar gyfer plant yn unig, ac mae’n gerdd anodd mewn sawl ffordd. Mae rhai syniadau anodd ynddi, fel pan mae’n sôn am ryfel. Ond mae neges y gerdd yn bwysig iawn – sef fe ddylem ni geisio cyd-dynnu â’n gilydd, oherwydd mae’r bardd yn dweud fod yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol i’n gilydd yn ddim o’i gymharu â’r hyn sy’n ein gwneud ni’n debyg. Rydyn ni i gyd yn fodau dynol! (Darllenwch y gerdd.) 
  5. Dewch i gasgliad trwy ailadrodd bod grym mewn geiriau.

    Sut gallwn ni ddefnyddio ein geiriau i wneud i bobl deimlo’n dda ac yn hapus?

    Beth ddylen ni ddim ei wneud â geiriau? (Peidio â dweud pethau cas na gwneud i rywun deimlo’n drist.)

    Efallai nad oes gennym ni’r un grym â barnwr neu ddoctor neu weinidog eglwys, ond mae ein geiriau’n gallu bod yr un mor nerthol.

 

Amser i feddwl

Ail ddarllenwch rai o’ch hoff rannau o’r gerdd.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

mae grym mewn geiriau –

helpa fi i ddefnyddio’r grym hwnnw’n ofalus heddiw, a phob dydd.

Emyn

 

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>