Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

CALONNAU’N TYFU

gan Janice Ross


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Helpu’r plant i ddeall nad yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn unig sy´n bwysig, ond y cymhelliad y tu ôl i’r weithred, sef bod yr hyn sy’n ein cymell i wneud pethau neilltuol yn bwysig hefyd.

Paratoad a deunyddiau

 

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant bod y gwasanaeth yn ymwneud yn gyfan gwbl â phwysau.  Efallai bod rhai dosbarthiadau o blant yn yr ysgol wedi gwneud gwaith ar bwysau rywdro yn eu gwersi, ac felly gobeithio, fe fyddwch yn gallu cael rhywfaint o help.

    Byddwch yn disgwyl i’r plant allu dweud wrthych beth fyddech chi’n ei ddefnyddio i bwyso’r eitemau canlynol.

    * ychydig o datws
    * rhywfaint o halen
    * lori gymalog
    * llond bag o dywod
    * 10 geiriadur
    * eliffant
    * bag 1kg o siwgr (ceisiwch eu dal nhw efo’r cwestiwn yma!)
    * dwr mewn bwced
    * plentyn ysgol
  2. Yn y Beibl, mae stori am frenin a ddychrynodd yn fawr un noson. Roedd y Brenin Belstesassar yn frenin drwg, ac nid oedd yn rheoli’r wlad yn dda o gwbl.  Doedd Belstesassar ddim yn arweinydd da ar gyfer ei bobl, ac roedd yn bychanu Duw.

    Un noson, roedd Belstesassar yn cynnal gwledd fawr yn ei gartref, ac fe ymddangosodd ysgrifen ar fur y castell, fel pe byddai rhywun anweledig yn paentio’r llythrennau â brwsh paent.  Roedd yr ysgrifen yn darllen, ‘Rwyt ti wedi cael dy bwyso yn y glorian a’th gael yn fyr.’  Gwyddai’r brenin Belstesassar fod ei ddyddiau fel brenin yn dod i ben — wnaeth o ddim byw yn hir wedi hynny!
  3. Beth ydych chi’n feddwl oedd ystyr yr ysgrifen ar y mur?  Doedd y frawddeg ddim yn golygu bod y brenin wedi sefyll ar y glorian a bod rhan o’i gorff ar goll! Na, doedd o ddim wedi colli kilogram neu ddwy ychwaith!  Ystyr y frawddeg oedd bod Duw wedi bod yn edrych ar ei galon, a’i fywyd fel brenin, ac roedd Duw’n drist. Doedd Belstesassar ddim yn cael rhyw lawer o hwyl arni, fel brenin, yn ôl yr hyn a welai Duw.

    Mewn geiriau eraill, fe allai Duw fod wedi dweud wrtho, ‘Mae yna lawer o bethau da ar goll yn dy galon’.
  4. Yn yr hen Aifft, rai miloedd o flynyddoedd yn ôl, roedd y bobl yn credu pe byddech chi’n gwneud drwg, fe fyddai eich calon yn mynd yn drymach ac yn drymach. A phe byddai hynny’n digwydd, fe fyddai duw o’r enw Ammut yn ymddangos yn sydyn ac yn eich bwyta!  Roedd yr Hen Eifftiaid yn credu, pan fyddech chi’n marw, bod yn rhaid i chi gael calon ysgafn er mwyn cyrraedd y lle hyfryd hwnnw yr oedden nhw’n ei alw’n nefoedd. Roedden nhw’n credu, pan fyddech chi’n marw, y byddai eich calon yn cael ei phwyso ochr yn ochr â phluen arbennig.  Pe byddai’ch calon yn ysgafnach na’r bluen, roeddech chi wedi cael bywyd da, ac fe gaech chi fynediad i’r nefoedd yn ddiogel.  Pe byddai’ch calon yn drymach na’r bluen, yna byddai hynny’n arwydd bod eich gweithredoedd wedi bod yn rhai drwg.  Byddai Ammut yn ymddangos yn sydyn . . . ac yn eich traflyncu!
  5. Y dyddiau hyn, dydyn ni ddim yn credu mewn duwiau fel Ammut.  Y gwirionedd yw bod yr hyn a wnawn ni yn dangos sut y dylai ein calonnau fod.  Nid yn unig yr hyn yr ydym yn ei wneud sy’n bwysig, ond hefyd y rheswm dros ei wneud.  Rydym yn galw hynny’n ‘ysgogiad’  neu’n ‘gymhelliad’, sef beth sy’n peri i ni wneud rhywbeth.

    Fe all plentyn bach wneud llun i’w fam, efallai, sydd ddim yn golygu llawer i chi. Ond, cymhelliad y plentyn oedd bod yn garedig a dweud yn ei ffordd ei hun, ‘Rydw i’n eich caru chi, Mam.’  Dyna i chi galon garedig yn tyfu.

    Weithiau, fe fyddwn ni’n ceisio gwneud rhywbeth caredig, ond fe fydd pethau’n mynd o chwith.  Efallai ein bod wedi ceisio pobi teisen i Mam a Dad, a bod honno wedi pantio yn y canol, neu hyd yn oed wedi llosgi. Efallai ein bod wedi ceisio helpu efo’r gwaith o olchi’r car ac wedi cario’r rhan fwyaf o’r dwr gyda ni i’r ty.  Ta waeth!  Dyna i chi galon garedig yn tyfu.

    Weithiau, fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau glas i helpu rhywun arall, ac ni fydd y bobl rheini wedi sylweddoli hynny o gwbl.  Efallai, ar adegau, eich bod wedi ceisio helpu yn yr ysgol, ond bod eich athro neu eich athrawes heb sylwi.  Efallai eich bod wedi bwyta eich cinio i gyd un diwrnod, ond bod yr un sy'n gofalu amdanoch yn ystod amser cinio’r ysgol yn rhy brysur i sylwi ar eich plât glân.  Ta waeth!  Dyna i chi galon garedig yn tyfu.
  6. Drwy’r flwyddyn ysgol sydd i ddod, fe fydd llawer ohonoch chi’n ennill tystysgrifau a gwobrau, yn cael adroddiadau, ac yn cyflawni llawer iawn o waith bendigedig.  Fe fydd yr ysgol yn falch iawn o’ch llwyddiannau chi i gyd.

    Fe fydd eich athrawon yn gwybod hefyd y bydd llawer ohonoch chi’n gallu cael y cyfle yn ystod y flwyddyn ysgol sy’n dod, i dyfu calonnau mwy.  Bydd y pethau a wnewch chi i bobl eraill, a’r rhesymau dros eu gwneud, yn golygu y bydd eich calonnau’n tyfu’n fwy mewn caredigrwydd.  Bydd eich calonnau tyfu ‘mewn pethau da’.  Dyna rywbeth fydd yn gwneud eich athrawon yn hapus ac yn falch iawn!

 

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn dathlu’r galon garedig a da sy’n datblygu y tu mewn i chi.
Meddyliwch am y pethau caredig rydych chi wedi ceisio’u gwneud yr wythnos hon.

Meddyliwch am y pethau caredig a meddylgar rydych chi wedi’u gwneud wrth eraill yr wythnos hon.

Meddyliwch am y meddyliau caredig a chadarnhaol rydych chi wedi’u meddwl yn ystod yr wythnos hon. Does dim gwahaniaeth os na sylwodd neb arall!
Dychmygwch y galon dda hon sy’n tyfu y tu mewn i chi. Da iawn chi!

Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
Rydyn ni eisiau bod yn bobl sydd â chalonnau mawr caredig,

calonnau sy’n fawr ac yn llawn o garedigrwydd a chariad tuag at bobl eraill.

Diolch i ti ein bod yn gallu cael ein hymestyn yn yr ysgol,

nid yn unig ymestyn ein meddyliau, ein cyrff a’n doniau,

ond hefyd yn cael ymestyn ein calonnau.

Emyn


Gwasanaethau Cynradd >>