Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

CODI OFN

Noson Calan Gaeaf


gan Jan Edmunds


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Atgoffa’r plant i fod yn ystyriol o eraill ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Noson olaf y mis, sef Hydref 31, yw Noson Calan Gaeaf. Dyma noson pan fydd llawer - yn enwedig plant - yn cael hwyl (o ryw fath) wrth godi ofn ar bobl. Fe allech chi dreulio moment neu ddwy yn cyfeirio at draddodiadau Noson Calan Gaeaf.
  2. Beth sy’n codi ofn arnom ni? Mae’n debyg y bydd llawer o’r plant yn awyddus i rannu eu profiadau. Darllenwch y gerdd gyda’ch gilydd:

    Ar Noson Calan Gaeaf, rhyw deimlad o arswyd sy’,
    Pan glywn ni synau dieithr yn y tywyllwch du.
    Mewn gwisgoedd llaes a mygydau hyll, fe  lithra’r plantos trwy y gwyll,
    A’u lampau pwmpen yn eu llaw, gan guro’r drysau i weld beth a ddaw.
    Codi ofn a gweiddi, ‘Trick or Treat,’ – bwganod dychrynllyd ar hyd y stryd!
    I rai, efallai ei fod yn sbort a sbri, ond nid yw hynny’n wir am bawb, cofiwch chi.
  3. Nid yw pawb yn hoffi’r traddodiad Americanaidd sy’n ymwneud â’r ‘Trick or Treat’. Fe ddylem ni i gyd gofio hyn cyn i ni fynd ati i guro drysau tai, yn enwedig tai pobl oedrannus sydd yn byw ar ben eu hunain. Mae’n iawn mynd at bobl rydych chi’n ffrindiau â nhw ac yn eu hadnabod yn dda. Ond ddylen ni dim mynd i guro ar unrhyw ddrws. Gwrandewch ar ein stori heddiw er mwyn clywed beth ddigwyddodd i’r plant sydd yn y stori.

    Mrs Jini Jo
    addasiad o stori gan Jan Edmunds

    Roedd Mrs Jini Jo yn byw ar ben ei hun. Roedd ei gwr wedi marw, ac roedd ei phlant wedi tyfu ac wedi symud i fyw ymhell oddi cartref. Doedd neb yn ymweld â Mrs Jini Jo, a doedd hi ddim yn gwneud llawer â’i chymdogion. Doedd hi ddim yn gyfeillgar iawn, ac roedd hi bob amser yn dwrdio’r plant os bydden nhw’n cicio’u pêl drosodd i’w gardd. A dweud y gwir, roedd ar y plant lleol ychydig o'i hofn. Roedd un neu ddau hyd yn oed yn meddwl bod Mrs Jini Jo yn wrach!

    Wrth i Noson Calan Gaeaf nesu, doedd Mrs Jini Jo ddim yn edrych ymlaen. Roedd hi’n gwybod y byddai’r plant yn curo ar ei drws neu yn canu’r gloch ac yn gweiddi, ‘Trick or Treat’.

    Ond, eleni, roedd hi wedi penderfynu gwneud rhywbeth am y peth. Fe ddaeth hi o hyd i hen ffrog ddu laes, fe wnaeth hi het bigfain ddu iddi hi ei hun, ac fe wnaeth hi hongian rhwyd bysgota fawr uwchben ei drws ffrynt. Fe goginiodd hi deisennau bach hefyd. Ond, fe roddodd hi halen yn lle rhoi siwgr ynddyn nhw. ‘Fe ddysga i wers i’r taclau bach drwg yna,’ meddyliodd.

    Pan ddaeth Noson Calan Gaeaf, rhoddodd fylbiau coch yn lampau’r ty, er mwyn creu awyrgylch mwy annaearol Ac fe roddodd gerddoriaeth wylofus i chwarae ar y peiriant cryno ddisgiau. Ac yna, fe ddisgwyliodd am y plant. Ac yn wir i chi, wrth iddi ddechrau nosi, fe ganodd cloch y drws.

    Edrychodd Mrs Jini Jo heibio ymyl llenni’r ffenestr, ac fe welodd hi ddau wedi’u gorchuddio â chynfas wen ac yn gwisgo mygydau hyll yn sefyll wrth y drws. Roedd hi’n dyfalu mai’r efeilliaid a oedd yn byw'r drws nesaf iddi oedd y ddau, yr efeilliaid drwg Sioni a Sali. A hithau yn ei gwisg gwrach, fe agorodd Mrs Jini Jo y drws yn araf.

    Roedd y plant yn gallu gweld y golau annaearol, ac yn gallu clywed y gerddoriaeth wylofus hefyd. Teimlodd y ddau braidd yn nerfus, ac mewn llais crynedig fe ofynnodd y ddau, ‘Trick or Treat?’

    Tynnodd yr hen Mrs Jini Jo y rhaff a oedd yn dal y rhwyd bysgota a disgynnodd y rhwyd dros ben y ddau blentyn. Dychrynodd y ddau yn ofnadwy a dechrau sgrechian dros y lle! ‘Nawr, fe gawn ni weld beth am y ‘trick or treat!’ gwaeddodd Mrs Jini Jo. ‘Pa un o’r ddau beth hoffech chi ei gael?’

    Yn ofnus iawn, fe ddywedodd y ddau, ‘Treat, treat, plîs Mrs Jini Jo, dim rhagor o driciau!’

    Cododd Mrs Jini Jo y rhwyd a rhoi’r teisennau bach i Sioni a Sali. Roedd yn rhaid i’r ddau dynnu eu mygydau er mwyn gallu bwyta’r teisennau, ac roedd yn werth i chi weld eu hwynebau pan wnaethon nhw flasu teisennau Mrs Jini Jo! ‘Ych!’ meddai’r ddau. ‘Maen nhw’n afiach!’

    Erbyn hyn, roedd Mrs Jini Jo yn gallu gweld ochr ddoniol y sefyllfa, ac roedd hi’n mwynhau ei hun. Wrth iddi hi wenu, fe welodd y plant fod ganddi wyneb llawen wedi’r cwbl, ac fe ddechreuodd Sioni a Sali chwerthin wedyn. Yna, aeth Mrs Jini Jo i’r cefn i nôl teisennau bach eraill, teisennau gwirioneddol hyfryd y tro yma, i´w rhoi i’r efeilliaid yn lle’r rhai oedd â halen ynddyn nhw. Aeth i nôl diod iddyn nhw i’w yfed hefyd, ac fe gafodd y tri ohonyn nhw barti gwerth chweil.

    Ar ôl hynny, fe ddaeth Sioni a Sali yn gyfeillion pennaf â’r hen wraig. Roedd hi’n edrych ymlaen at eu gweld bob tro, ac roedd y ddau bob amser yn barod i helpu Mrs Jini Jo pe byddai hi angen rhywbeth. Pan ddaeth Noson Calan Gaeaf heibio y flwyddyn ganlynol wnaethon nhw ddim poeni’r hen wraig, ac fe wnaethon nhw ddweud wrth eu ffrindiau am beidio â’i phoeni ychwaith. Y noson honno, fe aeth yr efeilliaid i sgwrsio â Mrs Jini Jo ar ôl bod allan yn cael hwyl gan ddweud yr hanes i gyd wrthi. Doedden nhw ddim wedi bod yn chwarae triciau ar neb oedrannus na neb oedd yn byw ar ben eu hunain. Roedden nhw wedi cael hwyl gyda’u ffrindiau ac roedd Mrs Jini Jo wrth ei bodd yn clywed yr hanes.

 

Amser i feddwl

Gad i ni gofio nad yw’r pethau y byddwn ni’n eu mwynhau yn rhoi mwynhad i bobl eraill, bob tro.

Dysga ni i fod yn rhesymol ym mhob peth y byddwn ni’n ei ddweud a’i wneud.

Helpa ni i ystyried pobl eraill bob amser, a bod yn ymwybodol o’r hyn y byddwn ni’n ei wneud.

Emyn


 

 


Gwasanaethau Cynradd >>