Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

DOD ADREF  

gan Paul Hess

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg

Nod

Archwilio beth yw ystyr y gair ‘cartref’, a myfyrio ar alwad Duw ar bob un ohonom i ddod ‘adref’.

Paratoad a deunyddiau  

Gwasanaeth

     

  1. Yn gyntaf, fe fydd angen i chi roi enghraifft neu ddwy o beth mae ‘gartref’ yn ei olygu i chi, neu beth sy’n cynrychioli eich tref enedigol i chi. (Yma, fe welwch enghraifft o rywbeth tebyg i’r hyn y byddai’r awdur yn bersonol yn ei ddweud.)

    Un o Cape Town yn Ne Affrica ydw i. Mae pobl Cape Town - a finnau yn eu mysg - yn tueddu i hawlio bod rhyw fath o gysylltiad ysbrydol rhyngom ni â Table Mountain, sy’n amlwg ar nenlinell y ddinas.  Un peth sy’n sicr, pa bryd bynnag y byddaf yn teithio’n ôl i Cape Town, yr eiliad y byddaf yn gweld cip ar y mynydd hwnnw, naill ai o’r car neu o awyren - rwy’n cael teimlad o gyffro yn fy enaid.  Mae’r mynydd, i mi, yn symbol o gysylltiad â’m plentyndod, cysylltiad gyda fy nheulu a’r gymuned roeddwn i’n byw ynddi, gyda’r lle y cefais fy ngeni, a’r lle yr wyf yn teimlo fy mod yn perthyn iddo. Yn gryno, pan fydda i’n gweld Table Mountain, rydw i’n gwybod fy mod i gartref.
  2. Mae gan fodau dynol ddau gymhelliad mewnol sy’n ymddangos fel pe bydden nhw’n groes i’w gilydd. Ar un llaw mae’r ysfa i grwydro, a mynd i weld llefydd eraill, ac ymwthio y tu draw i ffiniau ein byd fel y gwyddom ni amdano. Ar y llaw arall, fe fydd yno ddyhead am gael dod adref i’r lle mae rhywun yn perthyn iddo, y lle cyfarwydd lle cawson nhw ofal a’u meithrin, lle llawn o gariad. Dyma’r hollt rydych chi’n ei deimlo’n ddwfn yn ystod eich arddegau - adeg pan fyddwch chi, wrth gwrs, yn barod i lacio’ch gafael yn awenau eich rhieni ac yn barod i wynebu’r byd ar eich pen eich hun. Eto, fe fyddwch chi ar rai adegau, ar ryw lefel ddofn, yn ceisio’r gofal a’r warchodaeth ddiogel oedd i’w cael yn eich cartref, a chithau eisiau cael mynd yn ôl i’r lle rydych chi’n perthyn iddo, y lle rydych chi’n cael  eich caru.
  3. Mae hon yn thema sy’n ymddangos yn aml mewn llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd. Yn y ffilm ffug wyddonol boblogaidd a ryddhawyd yn 1982, E.T.: The Extra-Terrestrial, mae’r bod bach hoffus yma ymhell o’i gartref, filiynau o filltiroedd i ffwrdd, yn dweud y geiriau teimladwy  iawn cyntaf yn Saesneg. Mae’r geiriau hynny erbyn hyn yn rhan o lên gwerin byd y ffilmiau  – ‘ET phone home!
  4. Mae llawer o enghreifftiau o ganeuon sy’n sôn am gartref neu am fynd adref. Un enwog yw’r gân ‘Take Me Home, Country Roads’ gan y canwr gwlad John Denver, lle mae’n galw ar ffyrdd y wlad i’w arwain adref - ‘take me home to the place I belong’. Enghraifft arall yw’r gân ‘Exodus’ gan y cerddor o Jamaica, Bob Marley. Yn y gân yma mae Bob Marley yn gweld pobl orthrymedig y byd fel pe bydden nhw ar daith o’r man lle roedden nhw’n cael eu cadw’n gaeth, sef  Babilon, ac yn mynd tua Gwlad yr Addewid. Roedden nhw’n cael eu gwaredu felly o’r lle roedden nhw’n gaeth, ac wedyn yn cael bod yn rhydd yn eu gwir gartref. Mae hen gân Gymraeg enwog yn sôn am gartref yn cynnwys y frawddeg enwog, ‘Does unman yn debyg i gartref.’ A beth am y gân fodern ‘Adref’ gan Gwyneth Glyn. Efallai y gall y myfyrwyr awgrymu rhai caneuon eraill y maen nhw’n gyfarwydd â nhw sy’n sôn am gartref.
  5. I fynd yn ôl at hanes yn y Beibl am bobl yn gaethion mewn gwlad arall, fe welwn ni yn Salm 137, sôn am boen y bobl oedd mewn caethglud, y boen o fod oddi cartref a’r teimlad llethol o fod yn ddieithriaid. Roedd pobl Israel yn galaru tra roedden nhw’n alltud, ac yn dweud – ‘Sut y medrwn ganu cân yr Arglwydd mewn tir estron?’
  6. Yn achos y rhai hynny a gafodd eu rhwygo o’u cartrefi yn Affrica mewn cyfnod diweddarach gan greulondeb caethwasiaeth, roedd atgof am eu cartrefi hefyd yn ganolog i’w hysbrydoliaeth nhw. Roedd ‘cartref’ ar adegau’n cynrychioli eu gwlad, Affrica, dro arall yn cynrychioli Jerwsalem, ac yn y pen draw yn cyfeirio at y nefoedd ei hun. Mae’r caneuon ‘spirituals’, fel ‘Swing low, sweet chariot’, yn fynegiant o hiraeth am gael mynd ‘adref.’
  7. Fe welwn ni felly, bod hyn i gyd yn awgrymu nad un lle penodol yw cartref bob tro. Mae’n rhywle sy’n rhoi diogelwch ysbrydol ac emosiynol i ni, man lle byddwn ni’n teimlo ein bod yn perthyn yno, a man lle mae cariad. Yn achos pobl o ffydd, maen nhw’n credu mai wrth wneud y daith at Dduw y byddwn ni’n cyrraedd ein cartref o ddifrif. I lawer ohonom, fe fyddwn ni’n profi adegau pryd y byddwn ni’n teimlo ar goll, yn ddryslyd, ac efallai’n teimlo nad ydym yn perthyn rywsut. Ar yr adegau rheini - os gwrandawn ni’n astud - y byddwn ni’n gallu clywed galwad Duw arnom i ddod adref ato.

 

Amser i feddwl

Yn y darlleniad sy’n dilyn, cawn stori mab colledig sy’n clywed galwad i ddod adref, ac yntau’n teimlo ei fod ar ddibyn anobaith.

Darllenwch o Efengyl Luc 15.11–31 (does dim rhaid i chi ddarllen yr holl adnodau, y rhan allweddol yw adnodau 17–22).

Gweddi

Arglwydd Dduw, rydym yn aml yn teimlo ar goll ac yn unig mewn byd dieithr a dryslyd.

Diolch dy fod ti’n ein galw ni i gyd adref i fan lle rydyn ni’n perthyn, lle diogel llawn cariad.

Amen.

Cerddoriaeth a awgrymir

Chwaraewch un o’r traciau y mae sôn amdanyn nhw yn y testun, neu gân arall gyfarwydd o’ch dewis ar yr un thema.

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>