Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Armada’r Hwyaid Plastig


gan Janice Ross


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Annog plant i beidio â ffurfio barn arwynebol, a’u cael i drin pobl yn gydradd a chyda pharch.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr hwyaid plastig, a holwch y plant pa un o’r hwyaid fyddai  orau ganddyn nhw i fynd gyda nhw i’r bath. Eglurwch y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn dewis yr un newydd, sgleiniog. Ond fe allai’r hen un dolciog fod yn fwy hanesyddol ac efallai’n fwy gwerthfawr hyd yn oed.
  2. Adroddwch stori’r 30,000 o ‘Arnofwyr Cyfeillgar’ neu’r ‘Friendly Floatees’ a olchwyd i’r môr yn 1992, yn ôl fel yr adroddwyd yr hanes yn y papur newydd The Times.

    Plotiwch siwrnai anhygoel yr hwyaid plastig ar y map o’r byd. Eglurwch sut mae’r hwyaid wedi cael eu holrhain, neu wedi’u dilyn a’u darganfod, a sut mae hyn wedi helpu pobl sy’n ymwneud ag eigioneg gyda’u hymchwil i ddadansoddi hinsawdd y byd.

    Holwch y plant ydyn nhw’n meddwl fod eich hen hwyaden chi’n werth £50 tybed, os nad £500 hyd yn oed? Mae’n debyg y byddai rhai o’r plant yn gallu dweud wrthych chi y byddai’r hwyaid sydd wedi bod yn y môr am gyfnod mor hir yn debygol o fod wedi colli eu lliw yn llwyr yn ystod eu taith, ac yn fwy gwelw na’ch un chi. Felly, mae’n annhebygol bod eich hwyaden chi yn un o’r rheini.
  3. Eglurwch i’r plant fod y stori hon am yr hwyaid plastig yn eich atgoffa am rywbeth sy’n cael ei ddysgu i ni yn y Beibl, nid am hwyaid ond am bobl.

    Un o’r henaduriaid yn yr eglwys yn Jerwsalem oedd Iago, ychydig ar ôl cyfnod Iesu Grist, ac roedd yn ysgrifennu llythyr at rai o’r eglwysi mewn llefydd eraill am ei fod wedi clywed eu bod yn cael trafferthion. Roedd rhai Cristnogion yn yr eglwysi hyn yn dangos ffafriaeth i rai pobl neilltuol. Pan oedd rhai pobl yn dod i’r eglwys wedi’u gwisgo mewn gwisgoedd crand ac yn gwisgo gemwaith drud ac ati (mewn geiriau eraill, roedden nhw’n bobl gyfoethog), fe fyddai’r bobl yn yr eglwys yn gwneud sylw arbennig ohonyn nhw. Fe fydden nhw’n ceisio’u gorau i fod yn gyntaf i groesawu’r bobl gyfoethog hyn ac yn ffwdanu o’u cwmpas gymaint, yn ddiddiwedd.

    ‘O, bore da. Mae’n dda eich gweld chi. Dewch i eistedd yma. Dyma’r lle gorau. Rydyn ni wedi cadw’r seddau hyn yn arbennig i chi, ein gwesteion arbennig. Nawr, ydych chi’n siwr eich bod chi’n gyfforddus? Allwn ni fynd i nôl unrhyw beth i chi?’

    Yn drist iawn, doedd y bobl dlawd, a oedd yn gwisgo dillad carpiog, ddim yn cael eu trin yn y fath fodd. Pan fyddai rhywun o’r diwedd yn sylwi arnyn nhw, fe fydden nhw’n cael eu gwthio i mewn i’r eglwys yn sydyn ac yn gorfod sefyll yn y cefn, neu efallai os bydden nhw’n lwcus yn cael eistedd ar y llawr caled. Byddai rhai pobl yn troi eu trwynau arnyn nhw, ac yn aml iawn fe fyddai’r bobl dlawd hynny wedi dod i mewn i’r eglwys a mynd oddi yno heb i neb ddweud un gair caredig wrthyn nhw.
  4. Roedd Iago’n awyddus i atgoffa’r bobl rheini yr oedd yn ysgrifennu atyn nhw, y dylem ni drin pawb yn yr un ffordd, trin pawb yn gyfartal. Yr hyn sy’n bwysig yw nid sut olwg sydd ar bobl ar y tu allan, ond yr hyn sydd yn eu calon. Ac mae’n bosib fod gan rai pobl sy’n edrych yn gyffredin iawn, ac efallai wedi’u tolcio rhywfaint, fel yr hwyaden blastig, galon garedig a hardd, a’u bod yn bobl dda er nad ydyn nhw’n edrych yn grand.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Meddyliwch pa mor aml yr ydym ni’n barnu pobl ar sut maen nhw’n edrych,  

yn hytrach na meddwl sut bobl ydyn nhw ar y tu mewn.

Gweddi:

Annwyl Dduw,

Mae’n hawdd iawn i ni farnu pobl ar yr olwg gyntaf, a hynny’n aml yn anghywir.
Dysga ni i weld gwir werth yn y bobl sydd o’n cwmpas ni.

Amen.


Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>