Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

BOD YN FFRINDIAU A CHWERYLA


gan Janice Ross

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1

Fersiwn Saesneg

Nod

Arddangos sut mae un peth yn gallu cael effaith ar bethau eraill.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Adroddwch y stori ganlynol.

    Un tro, roedd ynys - ynys fawr iawn. A dweud y gwir, roedd hi’n ynys ddigon mawr i’w galw’n wlad. Roedd llawer o bobl yn byw ar yr ynys, a phob math o wahanol greaduriaid hefyd, ac roedd pawb yn byw’n ddigon hapus. Roedd yr ynys yn bell oddi wrth dir mawr gweddill y byd, ac felly roedd y bobl yn byw’n heddychlon gyda’i gilydd ac yn gofalu am eu hamgylchfyd yn dda. Roedd eu tir yn wyrdd ac yn ffrwythlon ar hyd y flwyddyn, ar wahân i dymor y gaeaf pan oedd y gwynt oer yn chwythu dros y bryniau, a’r wlad wedi’i gorchuddio dan eira. Roedd y bobl yno wedi arfer â thywydd oer y gaeaf, ac fe fydden nhw’n swatio yn eu cartrefi clyd, yn sgwrsio gyda’i gilydd, yn darllen, yn gwau, ac yn canu ac ati, i ddifyrru eu hunain.

    Yn yr haf, fe fyddai’r dynion yn mynd allan i’r môr i bysgota, byddai’r gwartheg yn cael mynd allan i bori’r caeau ac fe fyddai’r twristiaid yn cyrraedd. Fe fyddai adar y môr yn nythu ar y clogwyni, fe fyddai’r geisers neu’r ffynhonnau poeth yn chwythu eu cawodydd cynnes i’r awyr, a’r ymwelwyr yn dotio at hynny . . . ac fe fyddai’r llosgfynydd yn gwneud twrw rwmblan yn ddwfn, ddwfn, o dan wyneb y ddaear.

    LLOSGFYNYDD, ddywedsoch chi?’

    O, ie, fe wnes i anghofio sôn am y llosgfynydd. Mae’n debyg i mi anghofio sôn, oherwydd hyd at y flwyddyn ddiwethaf doeddwn i ddim yn sylweddoli hyd yn oed bod llosgfynydd yn y wlad honno. Enw’r wlad yw Gwlad yr Iâ (Iceland). Cyn hyn, pan fyddai pobl yn sôn am Wlad yr Iâ, doedden nhw ddim yn meddwl am losgfynyddoedd. Fe fyddai’r bobl yn meddwl am y wlad braf, gyda’i geisers poeth, y tai Sgandinafaidd, ac am dir yr haul canol nos.

    Roedd pethau wedi bod yn mynd yn dda yng ngwlad yr Iâ, tan y diwrnod hwnnw ym mis Mawrth 2010 ... ac yna POW! fe ffrwydrodd y llosgfynydd Eyjafjallajökull. Ydych chi’n gallu dweud yr enw Eyjafjallajökull? (Ceisiwch ei ddweud gyda’ch gilydd.)

    Fe wnawn ni roi’r enw byr, Eyjaf, iddo am y tro.

    Nawr roedd problem Eyjaf yn broblem ddigon cyffredin, problem fydd yn dod i ran pobl fel chi a minnau o dro i dro. Doedd neb yn cymryd llawer o sylw o Eyjaf. Doedd llawer o bobl ddim wedi clywed sôn amdano hyd yn oed. Roedd enw Eyjaf ar y map, oedd, ond doedd neb o’r ymwelwyr yn trafferthu mynd i weld y mynydd. Wyddom ni ddim pam, oherwydd roedd Eyjaf yn dipyn o gawr mewn gwirionedd. Wel, fe ddaeth yr amser pan benderfynodd Eyjaf ddangos ei hun.

    ‘Fe wnaf fi ddangos iddyn nhw! O, gwnaf!’ meddyliodd. A po fwyaf y meddyliai am y peth, mwyaf dig y teimlai. Roedd ei deimladau’n corddi y tu mewn iddo, ac roedd yn mynd yn fwy ac yn fwy piwis, nes iddo ddechrau poethi ac yn y pen draw ddechrau berwi ....

    A’r hyn a wnaeth iddo wylltio o ddifrif, meddai rhywun, oedd pan ddaeth nifer fawr o bobl sy’n hoffi gwylio adar i’r wlad mewn cychod ac awyrennau i weld un aderyn. ‘Cannoedd o bobl yn heidio yma i weld un aderyn bach pitw!’ meddyliodd Eyjaf. ‘A finnau  yma ers canrifoedd! Does neb yn cymryd unrhyw sylw ohonof fi!’ A POW! Ffrwydrad! Nawr, roedd pawb yn gwybod bod Eyjaf yno. Ysgydwodd yr ynys gyfan. Tasgodd lafa tawdd coch berwedig i fyny o ganol y mynydd, a chododd cymylau duon o lwch a lludw i’r awyr. Wel, roedd pobl yn cymryd sylw o Eyjafjallajökull nawr! Roedd yn rhaid cau cartrefi a ffermydd, a symud pobl ac anifeiliaid yn ddigon pell oddi wrth y mynydd. ‘Dyna ni,’ meddyliodd, ‘mae pobl yn methu fy anwybyddu i nawr.’

    Roedd sôn am Eyjaf ar bob bwletin newyddion yn y wlad, ac aeth y sôn am y llosgfynydd trwy’r byd i gyd. Dyna gyffro! Fe ddaeth un neu ddau o ymwelwyr yno, ond edrych ar y mynydd o bell wnaethon nhw. Doedden nhw ddim eisiau mentro’n rhy agos.

    Daliodd Eyjaf ati i rwmblan. Roedd wrth ei fodd gyda’r holl sylw, ac yn ymwybodol iawn ei fod wedi creu tipyn o sefyllfa. Roedd y cwmwl lludw llwyd o’r tan a ddaeth o’i fol yn codi’n uchel i’r awyr ac yn cuddio’r awyr las. Diflannodd y cymylau gwynion hyfryd, diflannodd yr adar, diflannodd yr haul hyd yn oed, ac aeth pob man o gwmpas yn llwyd a thywyll. Roedd pob man yn llonydd ac roedd arogl drwg yn yr awyr yng Ngwlad yr Iâ. Roedd y wlad mewn anhrefn llwyr! Doedd yr un awyren yn gallu hedfan oddi yno, doedd hi ddim yn ddiogel i’r awyrennau godi i’r awyr rhag i’r llwch fynd i’r peiriannau a pheri i’r awyren gwympo. Doedd dim awyrennau o wledydd eraill yn gallu glanio yn y wlad ychwaith. Doedd y bobl busnes ddim yn gallu teithio oddi yno. Doedd y twristiaid ddim yn gallu teithio oddi yno. Roedd hi’n anodd cael bwyd i mewn i’r wlad, ac roedd hi’n anodd allforio dim cynnyrch oddi yno.

    Yna, fe ddechreuodd y gwynt chwythu’r cymylau tua’r de, a chyn pen dim roedd y llwch yn effeithio ar rannau eraill o’r byd. Doedd yr awyrennau yn yr Alban wedyn ddim yn gallu hedfan, nac awyrennau yn Iwerddon, Cymru na Lloegr ychwaith. Ac wedyn, roedd awyrennau gwledydd Ewrop ar stop, a hyd yn oed rhai yng ngwledydd Affrica! Ar raglenni newyddion y byd, roedd adroddiadau o feysydd awyr fel Heathrow, Amsterdam, a Nairobi yn dangos bod teithiau’r holl awyrennau yn y llefydd hynny wedi cael eu canslo. Roedd teithwyr wedi cael eu dal mewn meysydd awyr ledled y byd. Roedd y cwmnïau awyrennau wedi colli miliynau  o bunnoedd wrth fethu hedfan . . . ac roedd Eyjaf yn dal i rwmblan a thaflu lludw i fyny i’r awyr. Doedd dim y gallai unrhyw un ei wneud i’w rwystro. Roedd pawb ar drugaredd y llosgfynydd!
  2. Gofynnwch i’r plant pa rannau o’r stori hon sy’n wir.

    Rydyn ni’n gwybod fod llosgfynydd wedi ffrwydro yng Ngwlad yr Iâ, a bod hynny wedi effeithio’n fawr ar bobl ymhell mewn gwledydd eraill, wedi effeithio ar gwmnïau awyrennau, ac wedi achosi trafferthion i filoedd o bobl.

    Eglurwch y term ‘effaith taro ymlaen’, neu ‘knock-on effect’, trwy ei gymharu â tharo rhes o ddominos i lawr. (Dangoswch hyn).
  3. Nodwch beth oedd wedi gwneud y llosgfynydd yn ddig yn y stori.
    A yw’r plant yn gallu perthnasu â’r teimlad o gael eu gadael allan o bethau, neu eu hanwybyddu?
    Rhannwch brofiadau o sut mae dicter yn gallu corddi y tu mewn i chi a ffrwydro’n sydyn.
    Trafodwch sut mae hynny’n gallu effeithio ar gyfeillgarwch.
  4. Mae nifer o resymau eraill hefyd pam y mae ffrindiau’n cweryla o dro i dro. Ac fel arfer, pan fyddwn ni’n ffrwydro, fel y llosgfynydd, mae llawer o bethau eraill yn gallu digwydd o ganlyniad, a dyna ni’n cael yr effaith taro ymlaen, neu’r ‘knock-on effect’. Mae’n bosib brifo teimladau ffrindiau, ac fe fyddan nhw’n cerdded i ffwrdd, fe fydd Dad neu Mam yn dweud y drefn, ac fe fydd yr athro neu’r athrawes yn dwrdio os bydd hyn yn digwydd yn yr ysgol. Weithiau, fe all pethau fynd o chwith am y diwrnod cyfan, ac fe all gymryd amser hir i bethau ddod yn ôl i’w lle.

    Pan fydd hyn yn digwydd i ni, fe wyddom ni bod llawer o bethau y mae’n bosibl i ni eu gwneud i wella’r sefyllfa - os byddwn ni’n dymuno hynny!

    Ac efallai y byddai’n dda i ni, ar adeg felly, gofio am Eyjaf. Gan amlaf fe fydd pethau’n tawelu ac yn dod yn ôl i drefn gydag amser. Mae pethau fel hyn yn digwydd weithiau i bob un ohonom - hyd yn oed i losgfynyddoedd!

Amser i feddwl

(Dangoswch rai delweddau o losgfynydd Eyjafjallajökull a’r cymylau llwch.)

Yn y stori, fe ffrwydrodd Eyjaf oherwydd ei fod yn teimlo nad oedd unrhyw un yn cymryd sylw ohono.

Beth sy’n peri i chi ffrwydro?

Sut y gallwch chi rwystro hynny rhag digwydd?

Gweddi

Annwyl Dduw, diolch fy mod i’n cytuno’n dda gyda fy ffrindiau ac aelodau fy nheulu y rhan fwyaf o’r amser.

Helpa fi i ddeall beth sy’n achosi i mi deimlo’n ddig,

a helpa fi i weld yr effaith y bydd hynny’n ei gael ar bawb o fy nghwmpas.

Helpa fi i fod yn awyddus i gael pethau’n ôl i drefn yn gyflym.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>