Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Ydyn Ni’r Un Fath?

gan Ronni Lamont


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2


Nod

Helpu’r plant i werthfawrogi amgylchedd amlddiwylliannol.

Paratoad a deunyddiau

 


Gwasanaeth

  1. Dewiswch ddau dîm i ddod ymlaen i ateb cwestiynau’r cwis.

    Rydw i’n mynd i roi gair Americanaidd i chi, ac rydw i eisiau i chi ddweud beth yw ei ystyr, a beth yw’r gair Saesneg y byddwn ni’n ei ddefnyddio fel arfer am yr un peth. Beth yw:

      (1) Pants – trowsus (trousers)
      (2) Diaper – cewyn neu glwt babi (nappy)
      (3) Vehicle (gyda’r pwyslais ar yr ‘h’) – cerbyd (vehicle)
      (4) Freeway – ffordd ddeuol/ traffordd (dual carriageway/ motorway)
      (5) Recess – egwyl neu amser chwarae (play time)
      (6) ‘Leesure’ – hamdden (leisure)
      (7) Rug – wig neu wallt gosod (wig)
      (8) Faucet – tap (tap)
      (9) Purse – bag llaw (handbag)
    (10) Chips – creision (crisps)
  2. Mae geiriau’n gwahaniaethu gennym ni rhwng de a gogledd Cymru hefyd. Holwch nifer o gwestiynau’n holi beth yw’r gair cyfatebol yn eich ardal chi i’r geiriau sydd ar y rhestr ganlynol. (Yn ddibynnol ar ba ran o Gymru rydych chi’n byw ynddi, rhowch y gair fyddai’n anghyfarwydd i’r plant iddyn nhw ddyfalu ei ystyr.

    (1) mas - allan (out)
    (2) lan - fyny (up)
    (3) menyw - dynes (woman)
    (4) crwt - hogyn (boy)
    (5) ffwrn - popty (oven)
    (6) clwyd - giât (gate)
    (7) llaeth - llefrith (milk)
    (8) allwedd  - goriad (key)
    (9) arllwys  -  tywallt (to pour)
    (10) bwrw - taro (to hit)
    (11) rhaca - cribin (rake)
    (12) pen tost  - cur pen (headache)
  3. Oes unrhyw un yn gwybod am eiriau o rannau eraill o’r wlad dydyn ni ddim yn arfer eu defnyddio yn yr ardal hon? Derbyniwch gynigion, yn enwedig os oes plentyn wedi symud i’r ardal o ran arall o’r wlad.
  4. Gallwch gyfeirio’n fyr at enghreifftiau o wahanol dafodieithoedd yn yr iaith Saesneg hefyd mewn gwahanol rannau o Loegr. Er enghraifft, bydd rhai pobl o swydd Lincoln yn cyfarch ei gilydd trwy ddweud rhywbeth tebyg i hyn, wrth ddweud helo - “Ey up, me duck!” (ceisiwch ddynwared yr acen ogleddol!). Ac yn Llundain, mae geirfa arbennig ganddyn nhw sy’n cael ei galw’n Cockney rhyming slang. Maen nhw’n dweud pethau fel ‘Apples and pears’ am risiau, am fod ‘pears’ yn odli â ‘stairs’, a ‘Rosy Lee’ neu ‘You and me’ am gwpanaid o de, am fod ‘Lee’ a ‘me’ yn odli â ‘tea’. Mae llawer iawn mwy o enghreifftiau difyr o hyn y gallech chi eu trafod, pe byddai amser yn caniatáu.
  5. Ond, weithiau fe fyddwn ni’n gallu teimlo’n anghyfforddus yng nghwmni pobl sydd ddim yn edrych yr un fath â ni neu sydd ddim yn siarad yr un fath â ni. Yn oes Iesu Grist, fe fyddai’r bobl oedd yn perthyn i’r un genedl ag ef, sef yr Iddewon, yn dweud nad oedden nhw’n ffrindiau â’r Samariaiad. Cenedl o bobl oedd yn byw heb fod ymhell oddi wrthyn nhw oedd y Samariaid. Pe byddech chi wedi gofyn i’r Iddewon, bryd hynny, pam nad oedden nhw’n ffrindiau â’r Samariaid, mae’n debyg na fydden nhw wedi gallu rhoi ateb i chi. Fe fyddai’n anodd iddyn nhw egluro oherwydd bod y rheswm am y rhwyg rhwng y ddwy genedl yn mynd yn ôl ganrifoedd cyn hynny.

    Un diwrnod, fe ofynnodd rhywun i Iesu; ‘Pwy yw fy nghymydog?’, a dyma’r stori a ddywedodd Iesu wrtho, fel ateb i’w gwestiwn.

    Darllenwch o Efengyl Luc 10.29 - 37, (stori’r Samariad Trugarog).
  6. Beth oedd neges y stori, ydych chi’n meddwl?

    Ydyn ni’n meddwl weithiau ein bod ddim yn hoffi rhai pobl, ond allwn ni ddim dweud pam, ychwaith? Rhaid cofio bod yn sensitif wrth gynnal trafodaeth fel hon, ond os nad yw’r plant yn gallu cynnig atebion fe allech chi awgrymu rhai pethau cyffredinol. Gallech gyfeirio at y ffaith bod rhai pobl yn erbyn teithwyr sy’n byw’n gymunedau mewn carafannau ac yn setlo am gyfnodau mewn cilfachau yn ein gwlad cyn symud ymlaen i le arall. Neu, efallai bod rhai pobl yn methu bod yn ffrindiau â phobl sy’n perthyn i grwpiau ethnig eraill. A beth am rai cefnogwyr timau pêl-droed sy’n methu bod yn gyfeillgar â chefnogwyr tîm pêl-droed arall?
  7. Ydych chi’n credu ei fod yn iawn casáu pobl, dim ond oherwydd eu bod yn edrych yn wahanol i chi, neu’n siarad yn wahanol, neu’n dod o rywle gwahanol?

 

Amser i feddwl

Myfyrdod

Rhowch gyfle i’r plant feddwl eto am stori’r Samariad Trugarog.

Gweddi

Helpa fi, Arglwydd, i dderbyn pobl am yr hyn ydyn nhw.

Helpa fi i wrando ar eiriau doeth sydd ganddyn nhw,

a dysgu ganddyn nhw am eu ffordd o fyw.

Helpa fi i gofio dy fod ti’n caru pawb yr un fath, dim gwahaniaeth pa mor glyfar ydyn nhw, neu pa mor gyfoethog ydyn nhw, na dim gwahaniaeth o ble bynnag y byddan nhw’n dod.

Amen.

 


Gwasanaethau Cynradd >>