Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

ACHUBYDD

(ar gyfer Gwyl Fair y Canhwyllau, 2 Chwefror)

gan Janice Ross

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 (Ysgol Eglwys)

Nod

Adrodd stori cyflwyno’r baban, Iesu, yn y Deml, a chyflwyno Iesu fel goleuni’r byd ac achubydd ei bobl.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y lluniau sydd gennych chi gan sgwrsio ychydig am bob un wrth eu dangos. Pwy yw’r rhai sydd angen cael eu hachub? Pwy yw’r bobl sy’n eu hachub?
  2. Eglurwch eich bod yn mynd i ddweud stori am ddau o bobl oedrannus a oedd yn disgwyl am rywun i ddod i’w hachub. Roedden nhw’n byw lawer iawn o flynyddoedd yn ôl. Roedden nhw’n disgwyl am rywun i ddod i’w hachub, ond doedden nhw ddim wedi bod mewn damwain nac wedi cael eu dal mewn storm. Doedden nhw ddim yn gaeth, ddim hyd yn oed yn sâl. Yn wir, wrth edrych arnyn nhw, fyddech chi ddim yn meddwl eu bod mewn unrhyw berygl nac anhawster. Eu henwau oedd Simeon ac Anna, ac roedden nhw’n ffrindiau. Roedd gwr Anna wedi marw pan oedd hi’n wraig ifanc, ac ers yr amser hwnnw roedd hi wedi bod yn gofalu am Deml Dduw yn Jerwsalem ac yn byw yn y Deml. Roedd Simeon yn byw yn Jerwsalem hefyd. Roedd Simeon ac Anna’n caru Duw yn fawr iawn. Fe fyddai Anna’n treulio ei diwrnod yn glanhau’r Deml, sef ty arbennig Duw, ac fe fyddai’n canu wrth wneud ei gwaith ac yn addoli Duw. Fe fyddai Simeon yn dod i’r Deml yn aml hefyd ac yn treulio ei ddyddiau’n gweddïo ac yn gwrando ar Dduw.

    Felly, pam tybed yr oedd y ddau’n disgwyl am rywun fyddai’n dod i’w hachub? Wel, roedd y ddau’n gofidio am eu gwlad ac am bobl eu gwlad. Israel oedd eu gwlad, ac roedd rhywun dieithr wedi trechu’r wlad ac yn rheoli yno. Ac yn waeth na hynny, roedd llawer o bobl y wlad, a oedd yn arfer caru Duw cyn hynny, wedi anghofio popeth am Dduw ac roedd eu byd mewn tipyn o anhrefn.

    Roedd  Simeon ac Anna, ill dau, yn dechrau mynd yn hen, ond roedd y ddau’n disgwyl i rywbeth arbennig ddigwydd. Roedd Duw wedi addo y byddai’n anfon rhywun i achub pobl Israel. Fe fyddai’r achubydd hwnnw’n eu helpu i ddod i garu Duw eto. Roedd Anna’n sicr y byddai’n cwrdd â’r rhywun arbennig hwnnw, ac roedd Simeon hefyd yn sicr y byddai’r un arbennig hwnnw’n dod rhyw ddydd.

    Un diwrnod, pan oedd Anna wrthi’n brysur yn glanhau fe agorodd drysau mawr y Deml ac fe ddaeth gwr a gwraig ifanc i mewn yn cario babi bach. Roedd hyn yn digwydd yn aml, gan fod rhieni oedd wedi cael babi bach yn arfer dod â’u babi i’r Deml er mwyn cael rhoi diolch arbennig i Dduw am y babi. Fe fyddai Anna wrth ei bodd bob tro y digwyddai hyn. Fe fyddai hi’n rhoi’r gorau i’w gwaith am ychydig er mwyn cael gweld y babi bach newydd a chroesawu’r teulu i’r Deml. Y diwrnod hwnnw, Mair a Joseff oedd wedi dod â Iesu eu babi bach i’r Deml. Dim ond chwe wythnos oed oedd Iesu. Roedd Mair wedi lapio Iesu mewn siôl gynnes ar gyfer eu taith i Jerwsalem. Tybed ai’r un asyn bach ffyddlon oedd wedi eu cario eto y tro yma?

    ‘O babi bach newydd!’ meddai Anna. ‘Dyna braf.’

    Ar foment honno fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfedd. Fe gyrhaeddodd ei hen gyfaill Simeon i’r Deml. Y bore hwnnw pan oedd Simeon yn gweddïo ar Dduw, fe deimlodd bod yn rhaid iddo ddod ar ei union i’r Deml. Aeth at y gwr a’r wraig ifanc a’u babi bach ac ar ôl edrych yn annwyl ar y babi fe ofynnodd am gael ei ddal yn ei freichiau.

    ‘Dyna beth rhyfedd,’ meddyliodd Anna. ‘Dydw i erioed wedi gweld Simeon yn gofyn am gael gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen.’

    Ac yna, fe welodd hi Simeon yn gwenu’n braf. ‘O, Dduw!’ meddai Simeon. ‘Fe wnest ti addo anfon rhywun i achub y bobl, ac yn awr rydw i wedi gweld yr un arbennig hwnnw. Y babi bach yma! Dyma oleuni i’r byd.’

    Gwenodd Anna hefyd a llawenhau. Roedd hithau wedi gweld y babi bach arbennig hefyd. Dyma’r achubydd yr oedden nhw wedi bod yn disgwyl am hir am gael ei weld. Ond, babi bach! Doedd hi ddim wedi disgwyl mai babi bach fyddai’r achubydd! Gwenodd eto a chwerthin yn hapus, ac yna roedd hithau hefyd eisiau cael dal y babi bach yn ei breichiau. Fe dreuliodd hi weddill y dydd yn dweud am Iesu wrth bawb a ddaeth i mewn i’r Deml! Wnaeth hi ddim llawer o waith glanhau y diwrnod hwnnw!

 

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll.

Mae llawer o eglwysi yn cynnal gwasanaeth arbennig ar ddechrau mis Chwefror i gofio am y stori hon, ac yn goleuo canhwyllau. Maen nhw’n galw’r wyl yn Wyl Fair y Canhwyllau.

Treuliwch foment yn meddwl am sut y daeth Iesu a goleuni a gwirionedd i’r byd.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch i ti am anfon Iesu i’r byd i fod yn achubydd.

Diolch ei fod yn wir wedi dod â goleuni a gwirionedd a chariad i’r byd trwy’r ffordd y bu’n byw ac y bu’n dysgu’r bobl.

Gofynnwn i ti helpu ein byd ni heddiw yn yr un ffordd ag y gwnest ti helpu byd Simeon ac Anna.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>