Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

PAM ASTUDIO ADDYSG GREFYDDOL?

Mis Mawrth: mis ‘Dathlu Addysg Grefyddol’

gan Helen Bryant


Addas ar gyfer ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Ystyried gwerth Addysg Grefyddol yn y cwricwlwm.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

        

Mae mis Mawrth yn fis ‘Dathlu Addysg Grefyddol’.

  1. Yn aml iawn, pan fyddaf yn dweud wrth bobl mai athrawes Addysg Grefyddol ydw i, fe fyddan nhw’n dweud fy mod i’n ddewr iawn. Wnes i erioed ofyn pam roedden nhw’n meddwl hynny, ond mae’n ymddangos fel man cychwyn da ar gyfer gwasanaeth sy’n trafod pa mor bwysig yw Addysg Grefyddol.
  2. Mae’n od meddwl bod angen dewrder i fod yn athro neu athrawes Addysg Grefyddol. Ai oherwydd bod pobl yn meddwl ei fod yn wastraff amser? Neu, ydyn nhw’n meddwl bod y pwnc yn amherthnasol, neu’n rhywbeth y mae’n rhaid ei oddef? Efallai bod hynny’n wir yn achos rhai o’r genhedlaeth hyn. Wrth gyfeirio yn Saesneg at Addysg Grefyddol rai blynyddoedd yn ôl fe fyddai’r pwnc yn cael ei alw’n RI, Religious Instruction, neu RK, Religious Knowledge. Ac wrth gyfeirio at ‘grefyddol’ bryd hynny yn y wlad hon, Cristnogaeth yn unig oedd dan sylw, ac roedd y rhan fwyaf o’r astudiaeth yn ymwneud ag astudio’r Beibl. Mewn rhai ysgolion fe fydden nhw’n dechrau’r astudiaeth gyda llyfr cyntaf y Beibl, sef Llyfr Genesis, ac fe fyddai’r astudiaeth yn parhau nes y bydden nhw’n cyrraedd Llyfr y Datguddiad, sef llyfr olaf y Beibl. Nawr, mae hynny’n ddefnyddiol iawn wrth gwrs, ac mae lle i astudio’r Beibl fel ffordd o ddeall Cristnogaeth a gwahanol syniadau moesol, ond oni bai eich bod eisiau canolbwyntio ar hynny’n unig, efallai ei fod yn anodd deall sut y gallai hyn fod yn galonogol iawn.
  3. Rwy’n awgrymu y dylech chi feddwl am eich gwersi Addysg Grefyddol chi nawr, a’r cyfoeth a’r amrywiaeth o destunau, materion a chrefyddau rydych chi’n eu hastudio, o’u cymharu â’r hyn yr oedd cenhedlaeth eich rhieni neu eich neiniau a’ch teidiau yn eu hastudio.
  4. Fe fyddwch chi wedi astudio rhywbeth am bob un o’r chwech o brif grefyddau’r byd: Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Sikhiaeth, Hindwaeth a Bwdhaeth. Mae’n debyg eich bod wedi dysgu am eu mannau addoli ac am y llefydd y bydd rhai pobl yn mynd iddyn nhw ar bererindod. Fe fyddwch chi wedi clywed am sylfaenwyr y gwahanol grefyddau, ac wedi dysgu am bobl fel Abraham, Moses, y Bwdha a Guru Nanak. Fe fyddwch chi hefyd yn gallu egluro credoau allweddol fel Pump K y Sikhiaid, Pum Piler Islam a Deg Gorchymyn yr Iddewon a’r Cristnogion.
  5. Ond nid dysgu enwau yn unig a gallu egluro beth mae rhywun yn ei wneud a’i gredu pan fyddan nhw’n perthyn i grefydd neilltuol yw Addysg Grefyddol. Mae hefyd yn cwmpasu pynciau fel bywyd ar ôl marwolaeth, ymateb i ddrygioni a dioddefaint, ac ymdrin â materion moesegol fel erthylu, ewthanasia, rhagfarn a gwahaniaethu, a chamddefnyddio cyffuriau. Mae Addysg Grefyddol yn amrywiol iawn ac yn gyfoethog yn ei faterion pwnc, ond eto mae pobl weithiau’n cwestiynu pa mor berthnasol a pha mor bwysig yw Addysg Grefyddol. Dim ond codi ac agor papur newydd y mae’n rhaid i chi ei wneud i weld trafodaeth ar ryw fater moesegol, fel dioddefaint neu ddigartrefedd, i enwi dim ond dau. Fe fydd eich gwersi Addysg Grefyddol yn rhoi cyfle i chi ystyried pynciau felly, ffurfio barn gytbwys ar y mater a bod yn ymwybodol ar yr un pryd fod gwahanol safbwyntiau i’w hystyried. Mae astudio crefyddau eraill y rhoi cyfle i chi fod yn gwybod mwy am bethau wrth i chi, er enghraifft, ddarllen sylwadau sydd yn ymfflamychol am Fwslimiaid, neu sylwadau sydd efallai’n ffeithiol anghywir am Gristnogion neu Sikhiaid.
  6. Mae Addysg Grefyddol hefyd yn rhoi cyfle i chi adeiladu dealltwriaeth o empathi, o sut beth fyddai bod yn rhywun arall, yn credu rhywbeth sy’n wahanol i’r hyn rydych chi’n ei gredu. Mae’n gwneud i chi gwestiynu eich syniadau a’ch gwerthoedd eich hun ac ystyried cwestiynau fel ‘Beth sy’n digwydd i mi ar ôl i mi farw?’, ‘Ai cael ei greu a wnaeth y bydysawd?’ a llawer iawn mwy o’r cwestiynau mawr. Er na fyddwch yn gallu eu hateb yn ystod eich gwers, mae’n rhoi cyfle i chi feddwl ac ail asesu neu gadarnhau’r hyn roeddech chi’n ei gredu eisoes. Mae’n rhoi’r cyfle i chi gael lle i fod yn chi eich hun ac i gael cylch trafod ble mae’n dderbyniol i gytuno neu anghytuno â’ch cyfoedion. Mae’n rhoi cyfle i chi weld beth mae pobl eraill yn ei feddwl a gallu cymharu eich syniadau chi â’u rhai nhw.
  7. Ac i fynd yn ôl at y syniad o fod angen bod yn ‘ddewr’ i fod yn athro neu athrawes Addysg Grefyddol, yn ogystal â bod yn eich addysgu rydyn ninnau’r athrawon yn dysgu llawer oddi wrthych chithau’r myfyrwyr hefyd. Fe fyddwn ni’n herio barn, yn ymestyn cred, ac yn tyfu yn ein dealltwriaeth ein hunain. Nid mater o fod yn ddewr yw hynny: ond achos o fod yn gallu derbyn bod modd herio syniadau a bod hynny’n beth derbyniol - does dim rhaid i chi fod yn iawn bob tro. Dyna’r llawenydd. Yn wahanol i bwnc fel mathemateg, does dim atebion cywir ac anghywir. A hyd yn oed os oes pethau penodol i’w dysgu a’u hastudio a’u deall, mae’n bosib i ni gael amser da ar y daith tuag at y pethau hyn a bydd pawb yn elwa o hynny.

 

Amser i feddwl

Meddyliwch am y ddealltwriaeth sydd gennych chi o bobl eraill, dealltwriaeth rydych chi wedi’i hennill trwy Addysg Grefyddol.
Sut y gallwch chi gymhwyso’r ddealltwriaeth honno yn eich perthynas â nhw?

Emyn

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>