Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

YSTYR BYWYD

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 /Cyfnod Allweddol 5

Nod

Myfyrio ar ystyr bywyd.

Paratoad a deunyddiau      

Gwasanaeth      

  1. Wrth ofyn beth yw ystyr bywyd,  rydyn ni’n gofyn cwestiwn athronyddol sy’n ymwneud â beth yw pwrpas bywyd, a’i bwysigrwydd. Mae’n bosib mynegi’r syniad trwy amrywiaeth o gwestiynau cysylltiedig. Tybed ydych chi wedi gofyn cwestiynau fel a ganlyn i chi eich hunan ryw dr:

    –  Pam rydyn ni yma?
    –  Beth sy’n digwydd mewn bywyd?
    –  Beth yw ystyr y cyfan?

    Neu, efallai eich bod chi’n eistedd yma’n meddwl: Dydw i ddim eisiau pendroni am bethau fel hyn. Mae’n well gen i ddal ati heb bryderu.
  2. Mae’n hollol deg i chi fod yn y naill grwp neu’r llall: weithiau fe fyddwn ni â diddordeb mewn cwestiynau fel hyn, dro arall fe fydd y pethau hyn ymhell iawn o’n meddyliau. Allwn ni ddim bod yn pendroni trwy’r adeg am faterion dwys a dyrys fel y rhain.

    Nid fy mwriad yw ceisio ateb y cwestiynau hyn mewn gwasanaeth byr fel hwn. Mae cwestiynau fel rhain wedi bod yn destun trafod a dyfalu athronyddol , gwyddonol  a diwinyddol trwy’r oesoedd. Maen nhw wedi bod yn mynd â sylw meddylwyr o lawer o wahanol gefndiroedd diwylliannol  ac ideolegol. Hyd yn hyn, does neb wedi dod o hyd i atebion terfynol, ac mae’n debyg na wnaiff neb byth.

    Gall damcaniaethau am beth yw ystyr bywyd fod yn amrywiol iawn. Mae’r damcaniaethau’n cael eu llunio gan ein safbwyntiau athronyddol a chrefyddol ar fywyd, a sut rydyn ni’n gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas.
  3. Rhaid bod ein dealltwriaeth o ystyr bywyd yn ymwneud â’r hapusrwydd y byddwn ni’n dod o hyd iddo yn ein bywydau ein hunain, sut rydyn ni’n ymateb i eraill, lle rydyn ni’n gweld ein hunain mewn perthynas â  phobl eraill, a’r effaith gawn ni arnyn nhw a hwythau arnom ninnau.

    Mae hefyd yn cyffwrdd â’r mater o’r hyn a ystyriwn ni’n werthfawr ac yn bwysig. Er enghraifft, efallai bod y pwyslais y byddaf i yn ei roi ar foesgarwch ac ymddygiad yn wahanol iawn i safbwynt rhywun arall.
  4. Mae’r cwestiwn yma’n gwneud i ni feddwl am foeseg hefyd – beth rydyn ni’n feddwl sy’n iawn a beth rydyn ni’n feddwl sydd ddim yn iawn. Er enghraifft, fe fydd rhai ohonoch chi’n gweld erthylu’n rhywbeth drwg iawn, a rhai eraill yn anghytuno ac yn deall pam bod rhai merched ambell waith yn gorfod cael triniaeth o’r fath.

    O ddydd i ddydd, rydyn ni’n wynebu cysyniadau o dda a drwg.

    –  Pam fod rhai plant yn marw o afiechydon nad oes modd eu gwella?
    –  Sut mae bodau dynol yn gallu bod mor greulon tuag at y naill a’r llall?
    –  A pham y mae miloedd ar filoedd o bobl wedi colli eu bywydau mewn trychinebau naturiol?

    Mae’r ffordd rydyn ni’n delio â chwestiynau o’r fath yn rhoi ychydig o help i ni geisio deall ystyr ein bodolaeth a’n lle yn y byd.
  5. Mae’n bosibl i bobl ddod o hyd i ystyr trwy eu crefydd a’u cysyniad o Dduw. Mae hyn yn ymwneud â chwestiynau fel:

    –  A yw Duw yn bod?
    –  Os yw Duw yn bod, sut un yw Duw?
    –  Pa lwybr y mae’n rhaid i ni ei ddewis i gyrraedd at Dduw?
  6. Mae ein cred am fywyd y byd sydd i ddod, a phwysigrwydd yr enaid a’i fodolaeth, neu’r gred nad oes y fath beth ag enaid, hefyd yn ffactor bwysig yn y ffordd rydyn ni’n gweld ystyr i’n bywyd.

    -  A oes bywyd ar ôl y bywyd hwn?
    -  A oes gennym ni enaid?
    -  Ydyn ni ar y ddaear i wneud daioni, ac yna’n cael ein gwobr yn y nefoedd wedyn?
    -  Ai ‘hyfforddiant’ yw’r bywyd hwn ar gyfer y bywyd sydd i ddod? Neu pan fyddwn ni’n marw, ai dim ond dadfeilio a wnawn ni?
  7. Mae ymateb gwyddonol yn fwy anuniongyrchol. Trwy ddisgrifio’r ffeithiau empirig am y bydysawd (empiraeth yw’r gred os ydych chi’n gallu profi rhywbeth gyda’ch pum synnwyr, yna mae’n rhaid ei fod yn wir), sut y daethom i fodolaeth, a’n lle yn y byd, mae gwyddoniaeth yn symud y cwestiwn o ‘Pam?’ i ‘Sut?’ ac yn darparu fframwaith gwahanol ar gyfer ateb rhai o’r cwestiynau sydd dan sylw gennym.

    Mae ffordd arall, sydd ddim yn ffordd grefyddol. Mae hon yn gofyn: Beth yw ystyr fy mywyd i? Pa bwrpas sydd i mi, a sut y gallaf fi gyflawni’r pwrpas hwnnw?

    Mae’r dyfyniad canlynol o eiriau Leo Rosten yn gofyn i ni feddwl am y pwrpas hwnnw. Fe ddywedodd, ‘I cannot believe that the purpose of life is to be happy. I think the purpose of life is to be useful, to be responsible, and to be compassionate. It is, above all, to matter and to count, to stand for something, to have made some difference that shows you lived at all’ (http://www.goodreads.com/quotes/show/136287.html).
  8. Rwy’n meddwl y gallwn ni gymryd rhywbeth o’r dyfyniad a’i gymhwyso i’n bywydau o ddydd i ddydd.

    Pa mor ddefnyddiol ydyn ni? Ydyn ni’n ddefnyddiol, nid yn unig i bobl eraill ond ni ein hunain hefyd? Weithiau mae’n anodd iawn bod yn garedig wrthym ni ein hunain, ond a ydym ninnau’n dda i rywbeth? Mae pawb yn ddefnyddiol iddyn nhw’u hunain.

    A ydyn ni’n gyfrifol amdanom ein hunain, am ein hymddygiad. A hefyd ydyn ni’n gallu ysgwyddo’r cyfrifoldebau rheini pan fyddan nhw’n cael eu rhoi arnom ni? Neu a ydyn ni’n cuddio rhagddyn nhw?

    A ydyn ni’n dosturiol? Ystyr tosturi yw meddwl am eraill, dangos cariad a gofal am bobl ym mha sefyllfa bynnag rydyn ni’n cael ein hunain ynddi, a pheidio â’u barnu’n annheg.

    -  Yn olaf, yn achos Rosten, mae pwrpas bywyd yn ymwneud â  sefyll yn gadarn dros bethau, waeth pa mor fach, ond sy’n bethau rydyn ni’n eu hystyried yn bwysig. Does dim rhaid i ni fod yn rhywun fel Martin Luther King neu Emmeline Pankhurst i ddangos ein bod yn sefyll dros rywbeth ac yn credu’n ddigon cryf yn y peth hwnnw iddo fod yn cyfrif. Mae Rosten yn dweud, os ydych chi’n sefyll i fyny ac yn cael eich cyfrif, fe fyddwch chi’n cael eich cydnabod. Y gydnabyddiaeth honno yw’r peth sy’n rhoi i chi yr egni i wneud gwahaniaeth. Fe fydd eich pwrpas wedi cael ei weld a’i nodi. Ac yn eich ffordd fach eich hun, fe fyddwch chi wedi rhoi ystyr i’ch bywyd ac i fywyd pobl eraill 

 

Amser i feddwl

I cannot believe that the purpose of life is to be happy. I think the purpose of life is to be useful, to be responsible, and to be compassionate. It is, above all, to matter, to count, to stand for something, to have made some difference that shows you lived at all.’

Sut y gallwch chi wneud y dyfyniad hwn yn amlwg yn eich bywyd heddiw?

Emyn

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>