Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

RHWNG Y DIAFOL A DYFNDER GLAS Y MÔR

Cynhadledd Newid yn yr Hinsawdd Copenhagen

gan James Lamont


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 4/ Cyfnod Allweddol 5

Nod

Archwilio’r ffactorau sy’n rhan o’r gynhadledd bwysig hon.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Rhwng 7 a 18 Rhagfyr eleni, bydd haid o arweinwyr y byd, pobl fusnes ac ymgyrchwyr yn mynd i brifddinas Denmarc, Copenhagen.  Mae dinas ddymunol, ddigynnwrf Copenhagen yn ymddangos yn bell i ffwrdd o gemau grym gwleidyddiaeth ryngwladol.  Eto i gyd, y ddinas hon sydd wedi cael ei dewis i gynnal Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, o bosibl oherwydd ei henw da am faterion amgylcheddol.  Bydd canlyniadau’r cyfarfod hwn yn cael effaith enfawr ar bawb yn y byd.
  2. Nod yr uwchgynhadledd yw cynllunio ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd ar ôl 2012 (mae’r cyfnod hyd at 2012 yn cael sylw dan delerau cytundeb cyfredol Kyoto).  Mae hwn yn fater byd-eang o ddifrif; drwy anwybyddu’r newid mawr yn yr hinsawdd, mae´n bosibl y bydd miliynau’n cael eu lladd drwy gyfuniad o drychinebau naturiol, cnydau’n methu a’r gwrthdaro a fyddai’n dilyn hynny.

    Mae’r effaith a gafodd Corwynt Katrina ar New Orleans yn yr Unol Daleithiau wedi dangos nad effeithio ar bobl dlawd yn unig y bydd y newid yn yr hinsawdd.  Mae gan bawb ddiddordeb hunanol mewn atal trychineb rhyngwladol, ynghyd â’r awydd allgarol, gobeithio, o achub bywydau pobl.  Mae nifer yn credu bod cytundeb Copenhagen yn cynrychioli’r cyfle olaf i droi’n ôl ac atal newid catastroffig.  Os na ellir cytuno, yna bydd unrhyw ymgais i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu gwneud fel ymateb i drychinebau yn unig.
  3. Felly, pam nad oes dim byd wedi cael ei wneud ynghylch y peth?  Er mwyn ateb y cwestiwn hwn, mae angen dealltwriaeth o natur fyd-eang y broblem.  Mae gwledydd ym mhob rhan o’r byd wedi bod yn gosod ac yn gorfodi rhaglenni cymharol wan i ostwng allyriadau.  Eto i gyd, hyd yn oed pe bai’r Deyrnas Unedig, dyweder, yn gostwng ei allbwn carbon i sero, byddai allyriadau gwledydd eraill yn gwneud hynny’n amherthnasol.  Ni fydd yr un wladwriaeth yn arwain ar y mater hwn eu hunain, rhag ofn i wledydd eraill fanteisio arnyn nhw.  Mae’r unig ddwy wlad gyda digon o ddylanwad i allu arwain a dangos y ffordd yn cymryd camau, ond mae ganddyn nhw bryderon eraill.

    Yn ddiweddar, mae’r gyntaf o’r rhain, sef yr Unol Daleithiau, wedi dechrau drafftio cynllun cyfnewid allyriadau, lle mae corfforaethau’n cael trwyddedau i allyrru swm penodol, ac yn gallu gwerthu hawliau allyrru dros ben i fusnesau sy’n llygru rhagor na nhw.  Er hynny, mae’r syniad hwn mewn sefyllfa ddiddatrys yng Nghyngres yr Unol Daleithiau oherwydd cyfuniad o wadu newid yn yr hinsawdd a phryderon am effeithiau posibl rhaglen o’r fath ar bobl dlawd.
  4. Y wlad arall sy’n allyrru llawer yw Tsieina.  Mae llywodraeth y wlad honno yn awdurdodaidd a hierarchaidd dos ben, sy’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn pan fydd angen newidiadau dramatig yn y gymdeithas!  Er hynny, mae poblogaeth enfawr Tsieina a’i datblygiad economaidd diweddar yn cynnig achos moesol i’r wlad beidio â chyfyngu ar ei heconomi: pam ddylai gwlad fwyaf poblog y byd golli ei hawl i weld twf economaidd oherwydd gweithredoedd hunanol gwledydd y gorllewin dros y can mlynedd ddiwethaf?

    Wedi dweud hynny, mae Tsieina wedi cymryd camau i wneud ei heconomi yn fwy gwyrdd.  Mae pwer gwynt ac estyniad anferth o’r rheilffyrdd yn rhan o becyn ysgogi enfawr y wlad sydd wedi’i ddylunio i gadw ei heconomi gorfywiog rhag cronni yn ystod y wasgfa economaidd fyd-eang.  Os gall llywodraethwyr Tsieina helpu i gyfryngu bargen yn Copenhagen, fe fyddan nhw’n cael parch moesol y maen nhw heb ei gael yn y gorffennol, ac fe fyddan nhw nodi eu cyrhaeddiad ar lwyfan pwerau mawr y byd. 
  5. Yn y pen draw, felly, bydd llwyddiant yn Copenhagen yn dibynnu ar genhedloedd yn rhoi'r gorau i wleidyddiaeth grym sydd wedi bod yn nodwedd o gysylltiadau rhyngwladol am ganrifoedd lawer, a dechrau gweld eu hunain fe unigolion ar lwyfan y byd.  Gallai ymateb llwyddiannau i newid yn yr hinsawdd weld twf economaidd anferth, a synnwyr newydd o frawdoliaeth fyd-eang, a fyddai werth y gwariant anferth.  Er hynny, mae pris methiant lawer iawn yn fwy.

Amser i feddwl

(Chwaraewch y gerddoriaeth yn gefndir i’r myfyrdod.)

Nawr, mae’n hanfodol bod cenhedloedd y byd yn gweithredu gyda’i gilydd.  Yn y Gorllewin, rydym yn cyfrannu’n fawr iawn at broblem cynhesu byd-eang.

Mewn moment o dawelwch, myfyriwch ar yr hyn rydych chi wedi ei wneud fel unigolyn i helpu i leihau eich ôl troed carbon.

Nawr, meddyliwch am yr hyn rydych chi’n gwybod y gallech chi ei wneud, ond a allai wneud bywyd ychydig yn anos.  Defnyddio’r car yn llai aml, efallai?  Prynu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol?  Peidio cael y ffôn symudol ddiweddaraf?

Myfyriwch ar yr hyn rydych chi ei eisiau, a beth nad ydych chi ei angen mewn gwirionedd.

Sut y gallem ni weithio gyda’n gilydd i leihau ein hôl troed carbon?

Sut y gallech chi annog arweinwyr y byd i ostwng ôl troed carbon y genedl?

Gweddi

Dduw’r Creawdwr,

Rydym yn cyflwyno cynhadledd Copenhagen o dy flaen.

Boed i arweinwyr y byd weithio gyda’i gilydd i ddod â chytundeb teg

y bydd y gwledydd yn cadw ato.

Boed i ni fod yn weithgar yn ein gofal dros y byd.

Helpa ni i beidio â llygru, ond i lanhau;

nid i fod yn farus ond i sylweddoli beth yw ein hanghenion sylfaenol cyfyngedig;

gan roi anghenion y tlodion y byd o flaen ein rhai ni.

Helpa ni i fod yn weithgar yn ein gofal dros y byd.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>