Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

HELBUL Y BLWCH OFFER

Gweithio gyda’n gilydd

gan Laurence Chilcott 

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod 

Ein helpu i ddeall y gallwn ni wneud i rywbeth fod yn fwy o lwyddiant wrth i ni weithio gyda’n gilydd.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth  

  1. Helbul y blwch offer

    Storïwr  O! Roedd helbul mawr yn y blwch offer! Roedd yr holl offer gwaith saer wedi cael eu taflu i’r blwch, pawb ynghyd, fel unigolion yn nhy Big Brother, ac roedden nhw’n dechrau mynd ar nerfau ei gilydd. Roedd y Llif yn meddwl bod ganddi hi statws uwch na’r lleill, ac roedd hi’n teimlo’n eithaf pwysig.

    Llif  Yn wir, fi yw’r offeryn pwysicaf o’r holl offer sydd yn y blwch. Mae fy nannedd miniog yn gallu torri trwy’r pren caletaf. Heb fy help i fyddai’r saer ddim yn gallu torri’r pren i’r maint cywir, a fyddai dim yn ffitio’n iawn.

    Storïwr  Yna fe ychwanegodd y Tâp Mesur ei bwt.

    Tâp Mesur  A sut y byddai’r saer y gallu gofalu bod y pren wedi’i dorri i’r maint cywir? Wrth fy nefnyddio i wrth gwrs! Fe fyddai’n fy nefnyddio i yn gyntaf, i fesur ac i farcio’r pren cyn ei dorri. Rydw i’n bwysicach na ti.

    Storïwr  Yna, fe fentrodd y Plaen ddweud ei bwt.

    Plaen  Heb fy help i, fe fyddai’r saer yn dal â phren cras a blêr, a fyddai’n brifo dwylo pwy bynnag fyddai’n cyffwrdd y pren. Mae’r llafn miniog sydd gen i’n llyfnhau’r ymylon garw ac yn gadael arwyneb llyfn a pherffaith. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth wedi’i orffen yn hyfryd, yna fi yw’r un i chi. Peidiwch â chwilio ymhellach am yr offeryn pwysicaf - dyma fi!

    Storïwr  Torrodd y Cyn ar ei draws.

    Cyn  Ond beth am waith cywrain hardd? Pa werth yw llif neu blaen pan fydd angen torri siapiau yn y pren, a gwneud gwaith cerfio cywrain? Pan fydd y saer angen gwneud rhywbeth arbennig, fe fyddai ar goll heb gyn. Felly peidiwch â meddwl bod yr un ohonoch chi’n bwysicach na fi.

    Storïwr  Ar yr union adeg yr oedd y Sgriwdreifer yn mynd i ddweud rhywbeth, fe gododd y saer y blwch a’i daflu i gefn ei fan. Felly, fe dawelodd pawb, ond roedd pob un yn benderfynol o barhau â’r ddadl yn nes ymlaen.

    Cyn bo hir fe agorodd y saer y blwch a daeth yr offer i olau dydd unwaith eto. Y gwaith yr oedd ar y saer eisiau ei wneud y diwrnod hwnnw oedd gosod drws newydd. Felly, y peth cyntaf a estynnodd o’r blwch oedd y tâp mesur er mwyn iddo gael mesur hyd a lled ffrâm y drws, a mesur y drws ei hun er mwyn gwneud iddo ffitio’n iawn. Roedd y tâp mesur yn gwenu’n braf am fod y saer wedi ei ddewis ef yn gyntaf o flaen pawb arall. Ond fe ddiflannodd ei wên wedyn pan welodd y saer yn estyn y llif.

    Defnyddiodd y saer y llif i lifio gwaelod y drws yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod y maint iawn, fel na fyddai’n llusgo dros y carped ac yn methu cau’n iawn. Wedi cael ei rhoi’n ôl yn y blwch fe ddechreuodd y llif wenu, ond fe ddiflannodd ei gwên hithau pan afaelodd y saer yn y plaen. ‘Nawr, gad i ni gael gwared â’r ymylon garw,’ meddai’r saer.

    Ac yn ofalus iawn eto, fe wthiodd y saer y Plaen ar hyd yr ymyl a fyddai’n waelod i’r drws, yn ôl ac ymlaen, nes roedd y pren yn hollol lyfn. Gan nodio’n fodlon, rhoddodd y saer y plaen yn ôl yn y blwch offer, ac fe dynnodd y Cyn allan.

    Erbyn hyn, roedd hi’n amser gosod y colfachau, ac er mwyn gwneud hynny roedd yn rhaid i’r saer dorri darn bach o bren y drws, yn y lle iawn, yn union yr un faint â’r colfachau cyn eu gosod. Ac yn dyner a gofalus iawn eto, fe fu’r saer yn taro top y Cyn gyda’r Morthwyl er mwyn i lafn y Cyn dorri trwy’r pren.

    Wrth gwrs, roedd ar y saer angen y Sgriwdreifer wedyn er mwyn gwthio’r sgriwiau trwy’r tyllau yn y colfachau a oedd wedi eu gosod ar ymyl y drws, ac i wthio’r sgriwiau trwy’r tyllau i osod ochr arall y colfachau ar ffrâm y drws.

    Wedi iddo orffen gosod y drws yn ei le, fe edrychodd y saer yn fanwl i weld a oedd popeth yn ffitio’n iawn, a’r drws yn cau ac yn agor yn rhwydd. Cadwodd bopeth yn daclus yn y blwch offer, cau’r caead, a mynd am baned o de cyn gosod yr handlen a’r clo.

    Bu’r offer yn ddistaw am hir. Roedden nhw i gyd wedi dysgu rhywbeth y bore hwnnw. Y Morthwyl oedd y cyntaf i siarad. Roedd gwên lydan ar ei wyneb ef nawr.

    Morthwyl  Mae’n debyg ein bod ni i gyd yn gwneud tîm da!
  2. Mae llwyddiant yn aml yn dibynnu ar gyd-ddibyniaeth, hynny yw, pobl yn gweithio gyda’i gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd - er enghraifft, adeiladwyr, criwiau badau achub, aelodau tîm ras gyfnewid.

    Mewn ysgol lwyddiannus mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd fel tîm. Mae gennym ni i gyd wahanol ddoniau a chryfderau, a ddylen ni ddim bod yn hunanbwysig nac yn chwyddo gan falchder. (Mae dihareb Saesneg sy’n dweud, ‘Pride goes before a fall!’ Gwyliwch rhag i chi gwympo wrth fod yn rhy falch.)

Amser i feddwl

Dim ond yn nwylo’r saer y mae’r offer yn ddefnyddiol – fe allwn ninnau fod yn ddefnyddiol os byddwn ni’n barod i adael i Dduw ddefnyddio’n doniau ni.

Gweddi

Dduw Dad,

diolch am yr holl wahanol ddoniau sydd gennym ni;

gad i ni eu defnyddio’n ddoeth, a pheidio â chwyddo gan falchder.

Helpa ni i ddeall y gallwn ni gyflawni mwy wrth i ni weithio gyda’n gilydd

nag a allwn ni wrth weithio ar ben ein hunain.

Rydyn ni’n diolch i ti am yr holl bobl yn y gorffennol,

a phobl sydd heddiw, wedi rhoi eu bywyd yn dy ddwylo di

ac wedi gwneud pethau rhyfeddol.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>