Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Angharad Amharod


gan Jan Edmunds


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan


Nod

Dangos y dylem ni geisio dyfalbarhau bob amser, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gweld pethau’n anodd.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

Dywedwch wrth y plant bod eich stori heddiw am ferch fach o’r enw Angharad. Roedden nhw’n ei galw’n ‘Angharad Amharod’. Os oes angen, eglurwch ystyr y gair ‘amharod’. Ar ôl dweud y stori, efallai yr hoffech chi dreulio rhywfaint o amser yn ei thrafod.

Angharad Amharod
addasiad o stori gan Jan Edmunds

Chwech oed oedd Angharad. Roedd hi’n blentyn hapus iawn, y rhan fwyaf o’r amser. Fe fyddai hi wrth ei bodd yn cael bod allan yn chwarae gyda’i ffrindiau bob cyfle a gâi hi. Ar y cyfan, roedd hi’n mynd i’r ysgol yn hapus iawn bob dydd. Roedd hi’n hoffi paentio a thynnu lluniau, ac wrth ei bodd yn gwneud pob math o waith celf a chrefft. Roedd hi’n dda am ddawnsio, gwneud ymarfer corff, ac wrth ei bodd yn canu hefyd . Ond roedd hi’n amharod i wneud rhai pethau roedd hi’n eu gweld yn anodd, pethau fel mathemateg a darllen. Doedd hi ddim yn gallu canolbwyntio’n hir ar bethau yr oedd hi’n cael anhawster â nhw, a doedd ganddi ddim amynedd os oedd rhywun yn dweud wrthi am geisio’i gorau i wneud y pethau anodd hyn. Fe fyddai’n dod â llyfr darllen adref gyda hi o’r ysgol bob dydd, ond pan fyddai ei thad neu ei mam yn gofyn iddi ddarllen y llyfr, roedd Angharad yn amharod i wneud hynny.

Dyna falch oedd Angharad pan ddaeth gwyliau’r haf. Fe fyddai wrth ei bodd yn cael mynd i aros gyda’i thaid a’i nain ar eu fferm yn y wlad. Ac yn fwy na dim, roedd hi wrth ei bodd yng nghwmni’r ci defaid, Nel. Roedd Nel yn gi deallus a chlyfar iawn. Byddai’n rhedeg i gasglu’r defaid ynghyd ac roedd yn gallu gwneud pob math o driciau. Pan oedd Nel ddim wrth ei gwaith gyda’r defaid, fe fyddai Angharad a hithau yn treulio llawer o amser gyda’i gilydd, ac yn ffrindiau mawr.

Fe fyddai’r ddwy gyda’i gilydd yn mynd i fwydo’r ieir, ac yn helpu taid i nôl y gwartheg i’w godro. Byddai Nel yn estyn y brwshys i Angharad pan fyddai hi’n brwsio’r ferlen fach, ac fe fyddai Nel yn dilyn y tractor pan fyddai taid yn mynd ag Angharad am dro arno. Ac wrth gwrs, fe fyddai Angharad a Nel yn cael hwyl fawr yn chwarae pêl.

Bob nos, wrth fynd i’r gwely, fe fyddai Nain yn darllen stori iddi. Ac un noson fe ofynnodd Nain i Angharad, ‘Beth am i ni ddarllen y stori gyda’n gilydd heno?’

Gorweddodd Angharad yn ôl ar y gobennydd gyda golwg anfodlon arni. ‘Na, Nain, dydw i ddim yn hoffi darllen. Mae’n rhy anodd i mi.’

‘Wyt ti ddim eisiau dysgu darllen?’ gofynnodd Nain.

Dechreuodd Angharad bwdu. ‘Na, dydw i ddim yn hoffi darllen, o gwbl,’ meddai.

‘Ond mae darllen yn gallu bod yn ddiddorol, Angharad, ac yn hwyl,’ meddai Nain. ‘Mae cymaint o bethau y byddi di’n methu eu gwneud os na fyddi di’n gallu darllen, ac mae cymaint o storïau rhyfeddol, diddorol, i’w darllen hefyd.’

‘Ond mae’n rhy anodd,’ meddai Angharad eto.

‘Dydi bywyd ddim bob amser yn hawdd,’ meddai Nain wedyn. ‘Rhaid i ni ddysgu gweithio’n galed er mwyn gallu gwneud y pethau y byddwn ni eisiau eu gwneud mewn bywyd. Does dim i’w gael heb wneud rhywfaint bach o ymdrech.’ Roedd Nain yn ddoeth. ‘Mae gen i syniad,’ meddai. ‘Fe chwaraewn ni gêm. Pan ddoi di i lawr i gael dy frecwast yn y bore, fe wnaf i adael neges wedi’i hysgrifennu i ti. Fe gei di ddarllen y neges a dilyn y cyfarwyddiadau. Fe fydd yn hwyl, gei di weld.’

Doedd Angharad ddim yn hoff iawn o’r syniad, ond roedd hi’n gwybod na fyddai Nain yn hapus os byddai hi’n gwrthod gwneud rhywfaint o ymdrech. Y bore wedyn, roedd neges yn ei disgwyl ar y bwrdd brecwast. (Daliwch gerdyn 1 i fyny, a gofynnwch i’r plant ddarllen y neges sydd arno.)

‘Tyrd i chwilio amdanaf yn nhy’r ieir.’

Ar ôl ymdrechu am ychydig, fe lwyddodd Angharad i ddarllen y geiriau. Aeth allan ar ei hunion i gyfeiriad ty’r ieir, ond ar y drws yno roedd neges arall. (Daliwch gerdyn 2 i fyny, a gofynnwch i’r plant ddarllen y neges hon eto gyda’i gilydd.)

‘Tyrd i mewn i fy helpu i gasglu’r wyau.’

Aeth Angharad i mewn, ac fe gasglodd Nain a hithau’r wyau. Roedd 35 ohonyn nhw yn y fasged. Wedi iddyn nhw fynd yn ôl i’r gegin, roedd neges arall yno. (Daliwch gerdyn 3 i fyny.)

‘Beth am wneud byns?’

Roedd Angharad wrth ei bodd yn coginio gyda Nain. ‘O, ie plîs,’ meddai Angharad.

Wedi i Angharad fwyta’i brecwast, estynnodd Nain lyfr trwchus oddi ar y silff. ‘Fe fyddai’n well i ni chwilio am y resipi sut i wneud byns, er mwyn i ni gael gwybod yn iawn beth rydyn ni fod i’w wneud,’ meddai, gan chwilio am y dudalen roedden nhw’i hangen. Wrth gwrs, roedd Nain yn gwybod yn iawn sut roedd gwneud y byns, ond roedd hi eisiau dangos i Angharad os ydych chi’n gallu darllen y resipi fe allwch chi wneud pob math o bethau. Gyda help Nain, llwyddodd Angharad i ddarllen y rhestr cynhwysion, a dilyn y cyfarwyddiadau wedyn. Cyn hir roedden nhw wedi gallu gwneud y byns. Roedd arogl hyfryd yn dod o’r gegin, a daeth Taid i’r golwg o rywle yn awyddus iawn i gael bwyta un o’r byns blasus.

Bob dydd, ar ôl hynny, fe adawodd Nain negeseuon i Angharad, a oedd erbyn hynny’n awyddus iawn i ddarllen a dilyn y cyfarwyddiadau. A chyda phob un o’r negeseuon yr oedd Angharad yn eu darllen, roedd y gwaith darllen yn dod yn haws iddi. Fe ddechreuodd helpu gyda darllen y storïau wrth fynd i’w gwely hyd yn oed ymhen ychydig ddyddiau.

Yn rhy fuan o lawer, fe ddaeth yn wythnos olaf ei gwyliau. Fe fyddai Angharad yn mynd yn ôl adref ddiwedd yr wythnos. Roedd hi’n gwybod y byddai ganddi hiraeth am ei Nain a’i Thaid ac am y fferm, ac yn enwedig am Nel. Dyna beth rhyfedd! Doedd hi ddim wedi gweld Nel heddiw, a doedd y ci ddim wedi dod i chwilio amdani ychwaith, yr un fath ag y byddai’n gwneud fel arfer. Awgrymodd Nain efallai bod Nel allan gyda Taid. Dywedodd Nain wrth Angharad hefyd ei bod yn falch iawn o’r ffordd yr oedd hi wedi dyfalbarhau â’i darllen, ac efallai y byddai hi’n cael syrpreis wedi iddi hi ddarllen y negeseuon a dilyn y cyfarwyddiadau heddiw.

Ar ôl darllen nifer o gyfarwyddiadau y bore hwnnw, fe ddaeth Angharad o hyd i un ar ddrws y sied. (Daliwch gerdyn 4 i fyny.)

‘Tyrd at y cwt ci, mae Nel eisiau dangos rhywbeth i ti.’

Doedd gan Angharad ddim syniad beth fyddai’r peth hwnnw. Fe agorodd ddrws y cwt ac edrych i mewn. A dyna syrpreis gafodd hi! Yno roedd Nel a chwech o gwn bach tew du a gwyn yn swatio yn ei hymyl. Daeth Taid a Nain i mewn ar ei hôl.

‘Efallai yr hoffet ti ddewis un o’r rhai bach yma, a phan fydd yn ddigon hen fe allet ti ei gael yn gi bach i ti dy hun,’ meddai Nain. ‘Rwyt ti wedi gweithio’n galed iawn, ac rwyt ti’n haeddu anrheg fach.’

Roedd Angharad wedi ei phlesio’n fawr. Ei chi bach hi ei hun! Dyna wych!

Edrychodd Taid a Nain ar ei gilydd gan wenu. ‘Dydi darllen ddim mor ddrwg â hynny wedi’r cyfan, nac ydi?’

‘Na, mae’n beth gwych!’ meddai Angharad.

Ymhen ychydig wythnosau, cafodd Angharad fynd yn ei hôl i’r fferm i nôl ei chi bach. Roedd ei thad a’i mam yn fodlon iddi ei gael fel anifail anwes. Fe benderfynodd Angharad ei alw’n Nodi oherwydd pe na bai hi wedi gallu darllen y nodiadau roedd ei Nain wedi’u hysgrifennu iddi fyddai hi ddim wedi dod o hyd i’w chyfaill newydd. Erbyn hyn mae Angharad yn mwynhau darllen llyfrau, ac mae’n darllen i Nodi yn aml iawn. Does neb yn galw Angharad yn ‘Angharad Amharod’ erbyn hyn.

Amser i feddwl

Mae mor hawdd rhoi’r gorau iddi pan fyddwn i’n gweld pethau’n anodd. Mae sawl tro, yn yr hanesion sydd yn y Beibl, pryd y gallai Iesu fod wedi mynd am y ffordd rwyddaf allan o sefyllfa. Roedd wedi blino’n aml, ac yn teimlo’n wan, ond ni fyddai’n osgoi gwneud yr hyn roedd yn credu ei fod yn iawn, neu yn peidio â helpu’r rhai a oedd o’i gwmpas.

Gweddi

Arglwydd y galon garedig, gwna fy nghalon innau’n un garedig.
Arglwydd y dwylo tyner, gwna fy nwylo innau’n rhai tyner.
Arglwydd y traed parod a bodlon, gwna fy rhai innau’n barod a bodlon,
fel y gallaf dyfu’n debycach i ti ym mhob peth y byddaf i yn ei ddweud a’i wneud.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>