Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Dameg yr Heuwr

Gwneud y peth iawn


gan Jenny Tuxford


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Nod

Ystyried y syniad o wneud yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n iawn, heb adael i bethau dynnu ein sylw.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

Awgrymiadau ar ddefnyddio elfennau’r gwasanaeth yma: 

  1. Dameg yr heuwr

    Byddai Iesu’n adrodd storïau arbennig,
    I’n helpu ni ddeall ei neges yn iawn.
    Storïau am bobl gyffredin fyddai ganddo,
    Storïau am bysgotwyr neu ffermwyr a gawn.

    Yn aml, eisteddai mewn cwch,
    A’r bobl i gyd ar y lan.
    Roedd ei storïau’n ymddangos yn syml,
    Ond roedd ynddyn nhw neges lawn.

    Roedd un yn stori am ffermwr o’i wlad,
    Aeth allan un dydd ar ei dir,
    I blannu hadau er mwyn tyfu planhigion,
    Gobeithiai gael cnwd da, yn wir.

    Fe soniodd am y ffermwr yn hau yr had,
    Nid gyda pheiriant fel sydd gennym ni heddiw,
    Ond eu hau â llaw o’i fasged fawr,
    Gan eu taflu yma ac acw.

    Felly, gwrandewch ar y stori
    Am y ffermwr hwn aeth i hau ei hadau.
    Tybed ydych chi yn tyfu yn dda,
    A phob amser yn gwneud eich gorau?

    Wel, fe fu’r ffermwr wrthi yn hau yr had,
    Ond syrthiodd peth ar hyd y llawr.
    Hedfanodd yr adar i lawr a bwyta’r rhain,
    Eu pigo, a’u bwyta, a’u mwynhau yn fawr.

    Syrthiodd rhai hadau ar dir caregog,
    Roedd yn anodd iddyn nhw dyfu yno.
    Mae ar bob hedyn angen pridd i dyfu,
    Fel mae pob ffermwr a garddwr yn gwybod.

    Tyfodd y rhain yn bur sydyn,
    Tywynnodd yr haul yn gryf arnyn nhw,
    Ond gan nad oes ganddyn nhw fawr o wreiddiau,
    Buan y gwywodd y cyfan - a marw.

    Syrthiodd hadau eraill ymysg yr ysgall,
    Doedd y rheini ddim yn gallu tyfu’n iawn.
    Unrhyw beth gaiff ei dagu gan chwyn fel yma,
    Does ganddo fawr o obaith, na fawr o siawns.

    Ond syrthiodd peth o’r hadau ar dir da,
    A thyfu, tyfu, a thyfu.
    Wedyn cynhyrchodd y planhigyn ffrwythau,
    Yn wir, yn union fel y dylai …
    A gobeithio mai dyna fydd eich hanes chithau!
  2. Dameg y ffa

    Dydd Llun

    Miss Heulwen:  Wel, blant, mae gennym ddigon o amser i chi blannu eich ffa cyn amser chwarae.

    Twm: Rydw i wedi golchi'r jar jam sydd gen i, Miss, fel roeddech chi wedi dweud.

    Tesni:  Mam wnaeth olchi'r jar sydd gen i.

    Ben:  A Dad olchodd fy un i.

    Sharon:  Fe wnes i roi fy un i yn y peiriant golchi llestri.

    Lisa:  Ych! Mae picl yn dal i fod yn jar Rob!

    Rob:  Oes ots?

    Miss Heulwen:  Dyna ddigon! Mae’n rhaid na chafodd Rob amser i’w olchi’n iawn, naddo Rob?

    Sali
    :  Wyt ti wedi dod â phridd i dyfu dy ffa, Rob?

    Rob:  Paid â bod y wirion, Sali. Roedd gen i bethau gwell i’w gwneud neithiwr na gwastraffu fy amser yn tyllu am bridd.

    Ben:  Rwy’n siwr mai edrych ar Rownd a Rownd oedd o.

    RobAc roedd gen i eisiau cyfrif fy sticeri pêl-droed.

    Wena:  Fe ddylet ti wneud beth wnes i, fe gefais i bridd o’r pentwr pridd lle mae’r adeiladwyr yn gweithio.

    Rob:  O! Twpsyn!  Nid pridd yw hwnnw. Graean i wneud concrid ydi o.

    Wena:  Miss Heulwen, mae Rob newydd fy ngalw i’n dwpsyn.

    Miss Heulwen:  Wel, fe fydd yn rhaid i ni ddysgu rhai geiriau newydd gwell iddo felly, ydych chi’n meddwl?

    Peredur:  Miss Heulwen? Wyddoch chi pan oedd Mr Huws y Pennaeth yn sôn am y Samariad Trugarog, a sut y dylem ni feddwl am helpu pobl eraill? Wel, rydw i wedi bod yn meddwl. Ydych chi’n meddwl y gallem ni gynnal taith noddedig oddi amgylch cae yr ysgol, a chasglu arian tuag at yr uned i fabanod cynamserol, yn yr ysbyty lleol?

    Miss Heulwen:  Dyna syniad ardderchog, Peredur.

    Wena:  Plîs, Miss, beth yw cynamserol?

    Miss Heulwen:  Ystyr cynamserol yma yw rhywbeth sy’n dod cyn yr amser yr oedden nhw fod i ddod.

    Wena:  O! ’Run fath â Rob, Miss. Roedd o yn yr ysgol am wyth o’r gloch heddiw. Mae’n rhaid ei fod o’n gynamserol.

    Rob: Nac ydw, dydw i ddim! A chynamserol i chdithau hefyd!

    Miss Heulwen
    :  Gawn ni fynd yn ôl i siarad am y daith noddedig, Peredur. Fe fydd yn rhaid i ni ofyn i Mr Huws y Pennaeth yn gyntaf. Os bydd ef yn cytuno, fe fydd arnom ni angen trefnu dyddiad a llunio ffurflen noddi a’i dyblygu. Fe wnaf i eich helpu a’ch cefnogi. Beth am drefnu’r daith ar gyfer wythnos i ddydd Gwener? Os gallwch chi gerdded am awr ar ôl yr ysgol, yna fe fydd gennych chi’r penwythnos i ddadflino.

    Peredur:  Mae hynny’n swnio’n iawn. Gawn ni weld pwy sydd â diddordeb, os gwelwch yn dda?

    Rob:  Fydda’ i ddim yn gallu dod. Fydd dad ddim yn gadael i mi ddod, a beth bynnag fe fydda’ i’n llawer rhy brysur.

    James:  Sut rwyt ti’n gwybod na fydd dy dad yn gadael i ti ddod, dwyt ti ddim wedi gofyn iddo fo eto?

    Wena:  Fe ddof fi ar y daith, Peredur. Fe af fi rownd a rownd y cae, a chodi lot fawr o arian ar gyfer y babanod bach. Gewch chi weld!

    Simon:  A fi hefyd. Mae gen i esgidiau rhedeg newydd. Costio pres! Fydd o’n esgus i mi gael eu gwisgo nhw. Dydw i ddim yn gwneud dim ar ôl yr ysgol ar ddydd Gwener. Rho fy enw i lawr.

    Miss Heulwen:  Da iawn, bawb. Rydych chi’n garedig iawn. Nawr, mae’n rhaid i ni blannu’r ffa. Maen nhw wedi bod yn mwydo yn y dwr dros y penwythnos, felly fe ddylen nhw fod yn barod i’w plannu.

    Len:  Fe dyfodd fy hadau berwr i yn well ar y wlanen ymolchi.

    Tariq:  Dyna pam rwyt ti heb ymolchi ers wythnosau?

    Peredur
    :  Fe af i yn gyntaf, os hoffech chi. Mae gen i gompost John Innes Number 3. Mae fy nhaid yn arddwr. Mae wedi bod â chynnyrch ei ardd i’w arddangos yn Sioe Llanelwedd. Ond nid ffa, ’chwaith. Fe fydd gen i ddigon ar ôl wedyn, os oes rhywun eisiau peth.

    Wena:  Rwy’n barod i fetio mai fy ffa i fydd yn tyfu orau. Fe wna’ i wthio’r ffeuen i mewn i’r gro mân sydd gen i, gyda fy mhren mesur, wedyn fe wna’ i ei roi yn ymyl y gwresogydd. Fe ddylai dyfu’n dda yno. (Naill ochr) Ha ha! Sgwn i pam na wnaeth Peredur feddwl am roi ei ffa yno i dyfu?

    Rob:  Mae golwg ofnadwy ar dy bridd di, Simon. Mae’n llawn o chwyn. Wnaiff dy ffa di ddim tyfu yn hwn.

    Simon:  Paid â busnesa, Rob. O leiaf rydw i wedi dod â phridd, sy’n fwy nag a wnest ti!

    Rob:  Ac mi rwyt ti wedi rhoi gormod o lawer o ddwr.

    Simon:  Wel, does gan dy ffa di ddim pridd na dwr  - dim ond picl!

    Miss Heulwen
    :  Iawn, mae’n amser chwarae blant, allan â chi!
  3. Dydd Gwener

    Nedw:  Hei, edrych, mae gwreiddyn bach yn dod ar fy ffa i!

    Siân:  A f’un innau hefyd.

    Cadi:  Welwch, mae eginyn yn dod ar fy un i hefyd.

    Helen:  A dail bach.

    Peredur:  Mae fy un i’n fawr!

    Gwen:  Fel dy ben di.

    Wena:  Fy un i yw’r talaf, hwn yw’r gorau. Fi sydd wedi ennill.

    Marian:  Ond does gan dy un di ddim gwreiddyn.

    Wena:  Dim ots gen i am hynny. Fi sydd wedi ennill.

    Gari:  Wena – nid cystadleuaeth ydi hi.

    Wena:  Wel, y fi sydd wedi ennill, beth bynnag. Does gan Peredur ddim dail hyd yn oed ar ei un o.

    Sophie:  Ond mae’r dail ar dy un di yn frown ac wedi crebachu.

    Nabil:  Mae ffeuen Rob yn bendant wedi’i chael hi!.

    Nedw:  Beth oedd o’n ei ddisgwyl? Doedd ganddo ddim pridd, a wnaeth o ddim trafferthu rhoi dwr i’r ffeuen ychwaith.

    Rob:  Nid fy mai i ydi o – rydw i wedi bod yn rhy brysur.

    Sarah:  Rhy brysur yn ysgrifennu llinellau.

    Wena:  O na! Mae fy ffa yn dechrau gwywo.

    Miss Heulwen:  Rwy’n gwybod sut mae’r planhigyn yn teimlo! Efallai ei fod wedi bod mewn lle rhy boeth, mor agos at y gwresogydd. Wyt ti’n meddwl y dylet ti fod wedi ei symud?

    Wena:  O na, Miss. Rydw i eisiau iddo dyfu mwy eto dros y penwythnos. Efallai y bydd ffa yn tyfu ar y planhigyn erbyn hynny.

    Miss Heulwen:  Dydw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd ar hyn o bryd, a dweud y gwir. Dewch, mae bron yn amser mynd adref. Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos da. Peidiwch ag anghofio’ch ffurflenni noddi. A chofiwch peidiwch â mynd i ofyn i ddieithriad – dim ond eich ffrindiau ac aelodau eich teuluoedd.

    Pawb:  Iawn, Miss Heulwen. Penwythnos da i chithau. Welwn ni chi dydd Llun
  4. Dydd Llun

    Bryn:  O, edrychwch! Mae ffa Wena wedi crebachu’n llwyr!

    Laura:  Waw! Edrychwch ar un Peredur! Welwch fel mae wedi tyfu?

    Sali:  O diar! Beth sydd wedi digwydd i blanhigyn Simon?

    Arwel:  Mae’r holl chwyn wedi’i dagu. Bydd rhaid i ti gael chwynladdwr, neu rywbeth, Simon.

    Miss Heulwen:  Oes rhywun wedi dod â’i ffurflen noddi i’w dangos i ni? (Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn codi eu dwylo.) Da iawn!

    Wena:  Fe wnes i lenwi fy un i ond mae’r ci wedi ei chnoi hi.

    Simon:  Fe ddof i â fy un i fory. Mae  30 o bobl wedi fy noddi, ond rydw i eisiau gofyn i un neu ddau o bobl eraill ar ôl i fi fod yn jogio heno.

    Rob:  Sori. Roeddwn i’n rhy brysur.
  5. Dydd Gwener

    Miss Heulwen:  Wel, dyma ni! Rydw i’n  gobeithio eich bod chi i gyd yn barod i gerdded i godi arian at achos da.

    Pawb:  Ydyn, Miss, mae pawb yn barod!

    Miss Heulwen:  Ar y marc - yn barod - ewch! (Y plant yn cerdded oddi amgylch y neuadd, fel pe bydden nhw ar eu taith noddedig.)

    Rhiant 1:  C’mon, Sali, gwna dy orau!

    Rhiant 2:  Rheola dy gyflymdra, Bryn!

    Rhiant 3:  Arafa, Arwel!

    Rhiant 4:  Brysia, Helen!

    (Mae Laura’n llithro, ac mae Peredur yn ei helpu i godi.)

    Peredur:  Wyt ti’n iawn, Laura? Wyt ti eisiau i mi fynd â ti at y nyrs?

    Laura:  Na, ond diolch i ti, Peredur. Rhaid fy mod i wedi baglu ar draws coes matsien!

    Nedw:  Helpu dy gariad, wyt ti, Peredur?

    Peredur:  Mae hi’n rhan o’r tîm, Nedw. Rydyn ni i gyd yn rhan o dîm.

    Miss Heulwen (wrth y nyrs ysgol): Mae natur hyfryd gan Peredur. Fe fyddai’n braf pe byddai pawb yn y dosbarth mor ystyriol â fo. (Mae hi’n curo’i dwylo wrth i’r daith noddedig ddod i ben.) Ac fe fyddai’n braf pe byddai pawb yn y dosbarth wedi cymryd rhan.

    Len:  Wnaeth Rob ddim dweud unrhyw beth, dim ond cerdded oddi yma ar ôl yr ysgol.

    Cadi:  Ac fe aeth Wena adref hefyd, heb ddweud dim.

    Helen:  Roeddwn i’n meddwl ei bod hi wedi dweud ei bod yn mynd i gerdded rownd a rownd a rownd y cae.

    Bryn:  A beth ddigwyddodd i Simon a’i holl noddwyr - 30 wedi’i noddi ddywedodd o'r diwrnod o’r blaen?

    Ioan:  Mae o wedi mynd i rywle efo un o’i ffrindiau. Roedd o’n dweud ei fod o wedi bod yn ymarfer ar gyfer y daith noddedig ar hyd yr wythnos, ond bod un o’i ffrindiau wedi gofyn iddo pe byddai’n ei helpu i olchi ceir fe fydden nhw’n ennill rhagor o arian poced. Ac na fydden nhw’n gorfod ei roi at achos da.

    Miss Heulwen:  Wel, mae’n amlwg fy mod i’n siomedig â rhai, ond rydw i’n falch iawn ohonoch chi i gyd. Gafodd pawb ddiod oren a bisgedi?

    Peredur:  Do diolch. Fe wnaeth Bryn yn dda ’ndo? Dim ond 20 lap fedrais i eu gwneud, ond fe wnaeth Bryn 25. Rydw i’n meddwl mai fo yw’r un ddylai gael mynd i’r ysbyty i gyflwyno’r siec, pan fyddwn ni wedi casglu’r arian i gyd. Mae gen i swigod ar fy nhraed!

    Sali:  Fe wnes i gasglu sbwriel welais i ar fy ffordd o gwmpas.

    Miss Heulwen:  Da iawn yn wir! Da iawn, bawb. Fe wnaethoch chi i gyd eich gorau, a dyna sy’n cyfrif. Ac wrth gwrs, fe gaiff Bryn ein cynrychioli ni trwy fynd i gyflwyno’r siec i’r ysbyty - a tithau hefyd, Peredur, am mai ti gafodd y syniad.

    Nabil:  Wel, edrychwch mewn difrif! Edrychwch ar ffa Peredur! Mae wedi tyfu’n anferth.

    Arwel:  Mae fel rhywbeth allan o stori tylwyth teg - Peredur a’r goeden ffa!

    Peredur:  Fyddai hi’n iawn i mi fynd â’r planhigyn adref a’i blannu yng ngardd taid?

    Helen:  Allwn ni ddim gweld ffa Simon - dim ond llwyth o chwyn. Hen dro na allen ni fwyta’r chwyn.

    Sophie:  Mae ffa Wena wedi mynd yn frown a gludiog, tebyg i bapur dal pryfed.

    Tariq:  Ac mae ffeuen Rob wedi sychu’n grimp. Waeth i ni ei thaflu allan i’r adar, ddim.

    Bryn:  Dydw i ddim yn meddwl y byddai’r adar eisiau peth fel yna!

    Miss Heulwen:  Dydw i ddim yn amau nad ydych chi’n iawn. Nawr, adref â ni. A diolch i chi am aros ar ôl heddiw, i gerdded er mwyn yr achos da. Rydych chi’n garedig iawn.

    Peredur:  A diolch i chi am ein helpu i drefnu’r daith noddedig, Miss Heulwen, ac am roi eich amser chithau hefyd. Gobeithio y cewch chi seibiant dros y penwythnos. Welwn ni chi dydd Llun.
  6. Ystyr dameg y ffa

    Rob:  Roeddwn i’n debyg i’r had a ddisgynnodd ar y llawr, lle daeth yr adar a’i fwyta. Wnes i ddim gwneud unrhyw ymdrech, naddo?

    Wena:  Roeddwn i’n llawn bwriadau da, ond wnes i ddim ymdrechu llawer. Roeddwn i fel yr hedyn a grebachodd.

    Simon:  Fe wnes i ymarfer yn barod ar gyfer y daith noddedig, gyda’r bwriad o fod yno, ond yna roedd y cyfle i wneud rhywfaint o arian  poced wrth lanhau ceir yn ormod o demtasiwn i mi. Fi oedd yn hedyn gafodd ei dagu gan yr ysgall a’r chwyn.

    Peredur:  Ac roeddwn i, mae’n debyg, fel yr hedyn a ddisgynnodd ar bridd da, ac fe wnes i fy ngorau i wneud beth oedd yn iawn.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw,

Pan fydda’ i’n gwybod beth yw’r peth iawn i’w wneud,

Helpa fi i beidio â gadael i bethau dynnu fy sylw,

fel y gallaf ddal ati a gwneud yr hyn sy’n iawn.

Amen.


Emyn


Gwasanaethau Cynradd >>