Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

DIWRNOD Y CADOEDIAD

11 Tachwedd


gan y Parch. Alan M. Barker

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Fersiwn Saesneg

Nod

Ystyried arwyddocâd 11 Tachwedd, Dydd y Cadoediad, yn enwedig eleni am mai’r dyddiad yw 11/11/11.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Atgoffwch gymuned yr ysgol fod 11 Tachwedd yn aml yn cael ei alw’n Ddydd y Cofio neu Ddydd y Cadoediad.

    Eglurwch fod y gair Cadoediad yn cyfuno dau air arall, sef ‘cad’ ac ‘oedi’ neu ‘oediad’.  Gwahoddwch bawb i egluro ystyr y geiriau hyn drwy gyfeirio at eiriau tebyg fel cadfridog, cadlywydd, a’r cadlanciau, enwau sy’n ymwneud â milwyr neu’r fyddin. Ystyr cadoediad yw ‘rhoi’r gorau i frwydro’ – sef bod yn llonydd. Mae’r un peth yn wir am y gair Saesneg, ‘Armistice Day’ hefyd. Y geiriau Lladin y tarddodd y gair hwnnw ohonyn nhw yw: arma (arfau) a sistere (stopio) sy’n golygu ‘rhoi’r gorau i ddefnyddio arfau’.

    Mae 11 Tachwedd yn cael ei alw’n Ddydd y Cadoediad gan mai ar y dyddiad hwn y daeth y Rhyfel Mawr, sef y Rhyfel Byd Cyntaf, i ben yn 1918.  Cytunwyd y dylai’r brwydro ddod i ben ar ‘yr unfed awr ar ddeg o’r unfed diwrnod ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg’.
  2. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dechrau yn y flwyddyn 1914. Mewn ychydig dros bedair blynedd, roedd 8.5 miliwn o bobl wedi marw, a 20 miliwn yn rhagor wedi cael eu hanafu yn y gwrthdaro.  Roedd y golled mor enfawr fel bod dynion o bron pob un pentref a thref yn y wlad heb ddychwelyd adref ar ôl bod yn rhan o’r brwydro.

    Caiff y digwyddiad ei adlewyrchu mewn cerdd gan fardd o’r enw Edward Thomas. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i ymateb i’r gerdd ‘The Cherry Trees’.  Roedd y bardd yn un o’r rhai a gafodd ei ladd yn ddiweddarach yn y rhyfel. Mae’n canu o’i brofiad pan oedd wrthi yn ymladd yn y rhyfel. Mae’n darlunio golygfa hardd o betalau blodau’r gwanwyn wedi disgyn o’r coed ar hyd ffordd wledig. Mae’r petalau tlws yn edrych fel conffeti priodas. Ond, mae teimladau o dristwch mawr yn pylu llawenydd y gwanwyn. Hon oedd y ffordd y martsiodd y dynion ar ei hyd wrth iddyn nhw ymadael i fynd i ymladd yn Ffrainc, a dydyn nhw ddim yn dod yn ôl.  Un o ganlyniad tristaf y Rhyfel Mawr oedd bod cymaint o’r dynion ifanc heb ddod yn ôl, roedden nhw wedi cael eu lladd. Oherwydd hynny roedd llawer o ferched ifanc heb briodi wedi iddyn nhw golli eu cariadon yn y rhyfel.

Neu, os byddwch chi’n dewis trafod y gerdd ‘Rhyfel’, gan Hedd Wyn, mae hon yn gerdd fwy cignoeth. Cafodd y bardd hwn hefyd ei ladd wedyn yn y Rhyfel, gwaetha’r modd. Mae yntau’n canu o brofiad. Mae’n sôn am y ‘gwaed yn gymysg efo’r glaw’ ac yn dweud bod cysgod y rhyfel ‘ar fythynnod tlawd’. Yr un yw’r teimlad o golled y mae’r teuluoedd, a’r rhai sydd wedi cael eu gadael ar ôl, yn ei deimlo ag yng ngherdd Edward Thomas.

  1. Yn 1919, flwyddyn ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, gofynnodd y Brenin Siôr V i’r bobl gofio ac anrhydeddu pawb a fu farw wrth wasanaethu eu gwlad.  Cynhaliwyd dau funud o dawelwch am 11 o’r gloch, ar yr unfed diwrnod ar ddeg, o’r unfed mis ar ddeg.  Yna, flwyddyn ar ôl diwedd y rhyfel, nid swn gynnau a dawelwyd ar Ddydd y Cadoediad hwnnw ond swn y strydoedd prysur a swn y traffig.
  2. Heddiw, bron ganrif yn ddiweddarach, mae Dydd y Cadoediad yn parhau i fod yn amser i gofio’r rhai a fu farw mewn rhyfeloedd.

    Yn anffodus, nid y Rhyfel Mawr oedd ‘y rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel’, fel yr oedd rhai wedi ei obeithio.  Caiff y diwrnod ei ddefnyddio i gofio hefyd am bawb a fu farw mewn rhyfeloedd ers 1918 – yn yr Ail Ryfel Byd, yn Rhyfel y Gwlff, ac yn y gwrthdaro sy’n parhau i ddigwydd mewn llefydd fel Afghanistan, er enghraifft.
  3. Amlinellwch sut y bydd y ddau funud o dawelwch yn cael ei gadw gan gymuned yr ysgol.  Bydd yn gyfle i bawb sefyll yn llonydd.

    Beth fydd aelodau cymuned yr ysgol yn ei feddwl ac yn ei deimlo yn ystod y cyfnod hwnnw pan fyddwch chi’n sefyll yn llonydd? Awgrymwch y gallwch chi feddwl am sawl peth, a phrofi amrywiaeth o deimladau fel:

    –  y tristwch a’r gofid a ddaw yn sgil rhyfel
    –  diolchgarwch am waith y rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog
    –  teimlad o falchder ac o berthyn
    –  synnwyr cryf o’r angen i weithio a gweddïo dros heddwch.
  4. Efallai yr hoffai Ysgolion Eglwys gyfeirio at adnod o Salm 46: ‘Ymlonyddwch, a dysgwch mai myfi sydd Dduw’ (adnod 10).  Gall sefyll a bod yn llonydd ein helpu ni i feddwl am bethau sy’n bwysig iawn.

Amser i feddwl

Fe fyddai’n bosibl cyflwyno cyfnod o dawelwch trwy ddarllen ‘The Cherry Trees’, neu’r gerdd ‘Rhyfel’, neu drwy adrodd anogaeth syml fel a ganlyn:
Gadewch i ni ymdawelu a chofio.

Yna, fe fyddai’n bosibl cloi’r gwasanaeth gyda’r geiriau traddodiadol yn y Gymraeg, neu o’r gerdd Saesneg wreiddiol (cerdd Laurence Binyon, ‘For the Fallen’) :

Pan elo’r haul i lawr, ac ar wawr y bore, ni â’u cofiwn hwy.

(Pawb gyda’i gilydd) Ni â’u cofiwn hwy

Neu, os yw’r geiriau Saesneg yn fwy cyfarwydd i chi, dyma nhw:

‘At the going down of the sun, and in the morning, we will remember them.’

(Pawb gyda’i gilydd) We will remember them.

Gweddi

(Efallai yr hoffech chi ddiweddu’r gwasanaeth gyda’r Weddi Heddwch Fyd-eang yn cael ei hoffrymu gan aelodau o gymuned yr ysgol.)

Y Weddi Heddwch Fyd-eang

Arwain fi o farwolaeth i fywyd,
o anwiredd i wirionedd.

Arwain fi o anobaith i obaith,
o ofn i ymddiriedaeth.

Arwain fi o gasineb i gariad,
o ryfel i heddwch.

Boed i heddwch lenwi ein calonnau,
ein byd, ein bydysawd.

Emyn 

 


Gwasanaethau Cynradd >>