Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

HELPU’R TLAWD

gan Janice Ross

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Fersiwn Saesneg

Nod

Ystyried a yw rhai ffyrdd o helpu pobl yn fwy derbyniol na ffyrdd eraill.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth     

  1. Ambell waith mae’r ddawn gan rai pobl enwog i ddweud pethau sy’n ddoeth ac sy’n gwneud i chi feddwl.

    Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am y Fam Teresa, ac maen nhw’n meddwl amdani fel rhywun i’w hedmygu’n fawr. Roedd hi’n gweithio yn  ninas Calcutta, yn India, am lawer o’i hoes. Fe ofalodd hi am bobl fel y rhai tlotaf o’r tlodion, a’r mwyaf truenus o’r trueiniaid, gan roi rhywfaint o urddas iddyn nhw yn ystod oriau olaf eu hoes ac wrth iddyn nhw farw.

    Dyma addasiad o eiriau a lefarwyd gan y Fam Teresa, ‘Heddiw, mae’n beth ffasiynol i siarad am y tlodion. Yn anffodus nid yw’n beth ffasiynol i siarad gyda nhw.’

    Rydyn ni’n mynd i ystyried a ydyn ni’n meddwl bod hyn yn wir am ein cymdeithas ni.
  2. Mae ystadegau’n dangos bod y cyhoedd ym Mhrydain ymysg y bobl fwyaf hael yn y byd. Maen nhw’n dda iawn am roi cyfraniadau ariannol pan fydd apêl yn cael ei gwneud am gymorth ar ôl i drychinebau naturiol ddigwydd mewn unrhyw fan yn y byd. Ac mae canran fawr o’n dinasyddion yn rheolaidd yn gwneud rhyw fath o waith gwirfoddol yn ymwneud ag elusen.

    Ond gwrandewch ar hyn. Dyma ddarn a ysgrifennwyd yn ddiweddar.

    ‘Roedd hi’n ddiwrnod oer iawn. Roeddwn i yn y dref yn siopa. Wrth i mi fynd i gyfeiriad y banc, fe welais rywbeth yn bentwr ar lawr ar y palmant. Wrth i mi fynd yn nes, fe wnes i sylweddoli mai dyn ifanc oedd yno, rhywun digartref yn ôl yr olwg oedd ar ei ddillad. Roedd carton gwag, a fu’n dal byrger neu sglodion, yn ei ymyl ac roedd olion rhywun wedi chwydu yn ei ymyl hefyd. Doedd hi ddim yn olygfa ddymunol.

    Roeddwn i’n pryderu am y dyn ifanc, ac roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n amlwg ei fod yn sâl. Tybed a oedd wedi tagu wrth gyfogi? Roedd yn ymddangos fel pe bai’n anymwybodol. Fe wnes i wyro i lawr ato a cheisio’i ddeffro gan ofyn a oedd yn iawn. Dim ymateb.

    “O! Fyddwn i ddim yn trafferthu, pe bawn i’n chi,” meddai gwr oedrannus a oedd yn mynd heibio. “Jynci ydi o, mae’n debyg.”

    Pasiodd gwraig heibio i mi wedyn, a’r cyfan wnaeth hi oedd troi ei thrwyn ar y llanast budr ar y palmant. Fe allwn i ddeall ei bod hi’n sensitif i’r arogl drwg, ond doeddwn i ddim yn gallu deall ei diffyg consyrn.

    Yna, fe ddaeth bachgen ifanc heibio, gan ddweud, “Mae o wedi bod yn gorwedd yma ers tuag awr bellach. Fe fydd yn well wedi iddo gysgu am sbel.”

    Gan na allwn i ddeffro’r dyn a oedd ar lawr, fe chwiliais am aelod o’r heddlu, a dweud fy mod yn bryderus. Roeddwn i’n meddwl mai dyna’r peth gorau y gallwn i ei wneud ar y pryd.’
  3. Mae stori’r Samariad Trugarog, yn y Beibl (Luc 10.25-37) yn debyg iawn i stori’r olygfa hon o rywbeth sy’n digwydd yn rhy aml ar strydoedd ein dinasoedd, yn anffodus.

    Roedd dyn mewn angen difrifol yn y stori honno hefyd. Roedd hwnnw wedi cael ei guro. Fe gerddodd sawl un, y byddech chi wedi disgwyl iddyn nhw fod wedi ei helpu, heibio’r dyn druan. Ond, o’r diwedd, fe ddaeth rhywun heibio a oedd yn fodlon helpu, ac nad oedd wahaniaeth ganddo faeddu ei ddwylo. Fe helpodd hwnnw y dyn trwy lanhau rhywfaint arno (a phwy a wyr nad oedd yntau hefyd wedi bod yn sâl hefyd ar ôl cael ei guro). Ac yna, fe aeth ag ef i le diogel a thalu iddo gael aros yno nes y byddai’n well. Dywedodd y byddai’n dod yn ôl ymhen ychydig ddyddiau i weld sut y byddai’r dyn, ac fe fyddai’n talu unrhyw beth ychwanegol, os byddai’n rhaid, i berchennog y llety.

    Mae hon yn enghraifft o roi a oedd yn costio mwy.

    Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr, ‘Dos, a gwna dithau yr un modd.’

Amser i feddwl

Ystyriwch y rhai hynny y gallen ni’n bersonol ei chael hi’n anodd dangos tosturi tuag atyn nhw - efallai am ein bod ni’n meddwl eu bod yn atgas, neu oherwydd ein bod yn rhy ofnus i wneud dim â nhw.

Beth am rai felly, a allai fod yn aelodau o gymuned ein hysgol? Oes rhywun yn dod i’ch meddwl?

Ydyn ni’n fodlon, fel y dywedodd y Fam Teresa, i ‘siarad gyda’r trueiniaid’?

Mae’r mymryn lleiaf o anogaeth yn gallu bod yn galondid i rywun sy’n teimlo’n isel, Mae gwên neu air caredig yn aml yn golygu llawer.

Gweddi

Dduw, rydyn ni’n diolch i ti am bob un yn ein cymdeithas

sy’n fodlon baeddu eu dwylo wrth ofalu am y trueiniaid.

Diolch am y rhai hynny sy’n gweithio mewn hosteli ar gyfer y rhai digartref.

Diolch am y rhai hynny sy’n darparu bwyd i rai anghenus mewn ceginau cawl

i gynhesu’r rhai sy’n cysgu allan ar y strydoedd yn ein dinasoedd.

Diolch am y rhai hynny sy’n ddigon gofalgar  

i fod yn fodlon helpu i glirio llanast bywydau pobl eraill.

Helpa ni i ddeall bod angen gan bob un  

i gael ei drin ag urddas, gofal a diddordeb.

Rho i ni galonnau tosturiol.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>