Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

TRYSOR WEDI'I GLADDU

gan y Christopher Ruddle

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg

Nod

Edrych ar ddameg Iesu am y trysor a gladdwyd mewn cae, a holi pwy neu beth yn ein bywydau sy’n bwysicach na dim na neb arall ac sy’n werth gweithio’n galed er ei fwyn.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth  

  1. Trysor cuddiedig

    Arwr ein stori yw dyn y gwnawn ni ei alw’n Fred. Dyn hollol gyffredin oedd Fred. Roedd ganddo Xbox. (Fred yn meimio chwarae gyda’r consol chwaraeon). Roedd ganddo gar da (yn meimio gyrru’r car), ac roedd ganddo dy cysurus.

    Un diwrnod, fe aeth Fred am dro trwy’r caeau yn y wlad, heb fod ymhell o’r lle’r oedd yn byw. Roedd yn cerdded ar hyd ymyl y cae pan faglodd ar rywbeth. Trodd yn ei ôl i weld ar beth yr oedd wedi baglu. Wedi iddo glirio ychydig ar y glaswellt a’r pridd, fe welodd mai bocs o ryw fath oedd yno wedi’i gladdu yn y ddaear.

    Yn wir roedd yn tybio bod yno gist fawr.

    Brysiodd adref ac estyn rhaw i fynd yn ôl gydag ef i dyllu o gwmpas y gist yn y ddaear. Tyllodd a thyllodd nes o’r diwedd fe lwyddodd i dynnu’r gist o’r pridd.

    Roedd yn gist fawr iawn. Agorodd y caead ac fe welodd bod y gist yn llawn o drysor - darnau aur, darnau arian, diemwntau, perlau a gemau hardd. Roedd Fred yn llawn cyffro.

    Ond roedd Fred bob amser yn ystyried ei hun yn ddyn gonest. Teimlai na allai gymryd y trysor - fe fyddai hynny fel dwyn rhywbeth. Felly, fe benderfynodd gladdu’r gist yn ôl yn y ddaear, wrth y gwrych lle’r oedd wedi dod o hyd iddi. Ac fe aeth i weld y ffermwr.

    (Daw’r ffermwr ato, ei freichiau ym mhleth a golwg sarrug arno)

    Gofynnodd Fred i’r ffermwr, a oedd yn gymeriad barus braidd, ‘Wnewch chi werthu’r cae i mi, os gwelwch chi’n dda? Faint ydych chi eisiau amdano?’

    ‘£100,000,’ meddai’r ffermwr.

    ‘Beth!’ meddai Fred. ‘Does gen i ddim cymaint â hynny o arian!’

    ‘Wel, hen dro felly!’ meddai’r ffermwr.

    Ond aeth Fred adref, ac fe werthodd ei Xbox i fachgen oedd yn byw i lawr y ffordd. Cafodd Fred £100 gan y bachgen am yr Xbox.

    (Daw’r bachgen i mewn a rhoi arian papur i Fred)

    Oedd hynny o arian yn ddigon i brynu’r cae? (Holwch y gynulleidfa) Na!

    Felly, fe werthodd Fred ei gar hefyd!

    (Daw’r gwerthwr ceir i mewn) Dim ond £900 yr oedd y gwerthwr ceir yn fodlon ei roi iddo am ei gar. Fe ysgrifennodd siec a’i rhoi i Fred. (Mae’r cymeriadau’n meimio hyn)

    Fe wnaeth y gwerthwr hwnnw elw da! Fe werthodd y car wedyn am fwy o arian i wraig oedd yn chwilio am gar iddi hi ei hun. (Daw gwraig i mewn sy’n rhoi llawer o arian papur i’r gwerthwr ceir. Yna mae hi’n meimio gyrru’r car oddi yno, ac yn ffarwelio)

    Oedd gan Fred ddigon o arian wedyn i brynu’r cae? (Holwch y gynulleidfa) Na!

    Felly - fe werthodd Fred ei dy. Daeth gwerthwr tai yno gyda’i glipfwrdd a’i bapurau.

    (Daw’r gwerthwr tai i mewn)

    Edrychodd y gwerthwr tai ym mhob twll a chornel o’r ty - hyd yn oed yn y cwpwrdd llychlyd o dan y grisiau. Yna, fe ddangosodd y ty i wr a gwraig ifanc.

    (Daw’r gwr a’r wraig ifanc i mewn. Maen nhw’n sylwi gyda diddordeb mawr ar y ty)

    Roedden nhw’n hoffi’r ty ac yn awyddus iawn i’w brynu. Cafodd Fred siec o £99,000 am ei dy. (Mae Fred yn meimio chwifio’r siec)

    Nawr, gyda’r arian arall hefyd yr oedd eisoes wedi’i gael, ydych chi’n meddwl bod Fred wedi casglu digon o arian i brynu’r cae? (Holwch y gynulleidfa) Oedd, roedd ganddo ddigon. Roedd Fred wedi gwerthu popeth oedd ganddo i brynu’r cae hwnnw lle’r oedd y trysor wedi’i gladdu.

    Aeth Fred yn ei ôl at y ffermwr sarrug.

    (Daw’r ffermwr i mewn)

    ‘Dyma siec i chi am gan mil o bunnoedd am y cae,’ meddai Fred, gan roi’r siec i’r ffermwr. Ac fe wnaeth y ddau ysgwyd llaw i selio’r fargen.

    Roedd Fred, o ddifrif, yn llawn cyffro erbyn hyn. Brysiodd yn ôl i’r cae a chloddio am y trysor unwaith eto. Oedd, yr oedd yn dal i fod yno, diolch byth! Agorodd y caead eto a theimlo’n hapus iawn.

    Er bod hyn wedi costio llawer o arian iddo - yn wir yr oedd wedi rhoi’r cyfan oedd ganddo amdano - roedd Fred erbyn hyn yn filiwnydd. Teimlai fod y cyfan wedi bod yn werth yr ymdrech. Roedd yn werth llawer iddo.
  2. Holwch: Beth sy’n werth llawer i chi? (Teulu, ffrindiau, dysgu rhywbeth, pêl-droed, pêl-rwyd, neu efallai bod gennych chi uchelgais.) (Nodwch yr awgrymiadau gaiff eu cynnig ar siart troi neu ar PowerPoint.)

    Trafodwch rinwedd pob un o’r awgrymiadau a sut y gallai rhywun roi’r gorau i bopeth er mwyn ffrind neu aelod o’r teulu, neu er mwyn dysgu rhywbeth neilltuol (er mwyn cael swydd dda) neu i wireddu breuddwyd, efallai.
  3. Dywedodd Iesu, un tro, ‘Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe’i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae’n mynd ac yn gwerthu’r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu’r maes hwnnw.’ (Mathew 13.44).

    Yr hyn yr oedd Iesu’n ei ddweud oedd mai adnabod cariad Duw yn eich calon yw’r peth pwysicaf un, mae hynny hyd yn oed yn bwysicach na phob math o bethau gwerthfawr eraill.

Amser i feddwl

Beth sy’n werthfawr iawn i chi?

(Saib)

Oes rhywun neu rywbeth y byddech chi’n rhoi’r gorau i bopeth arall er ei fwyn?

(Saib)

Ydych chi’n teimlo mai adnabod cariad Duw yn eich calon yw’r peth pwysicaf un i chi?

(Saib)

Gweddi  

Annwyl Dduw, diolch dy fod ti wedi rhoi’r stori am y trysor yn y cae i ni.

Helpa ni i geisio gwneud ein gorau gyda’r pethau sy’n bwysig i ni.

Diolch dy fod ti eisiau i ni wybod am dy gariad di sydd yn ein calonnau ni heddiw.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>