Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

AR GOLL AC WEDYN WEDI’U CANFOD

gan Vicky Scott

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Helpu myfyrwyr sy’n teimlo ar goll, yn unig neu’n ddryslyd, beth mae'n ei olygu i fod wedi cael eu ‘canfod’ a gallu dod o hyd i arweiniad a chyfeiriad yn ein bywydau.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr beth sy’n gyffredin yn y gwrthrychau. Maen nhw i gyd yn bethau y gallwn eu defnyddio pan fyddwn ar goll, ac maen nhw’n gallu rhoi arweiniad i ni a dangos pa ffordd i fynd. Yna, adroddwch y stori wrthyn nhw am deithiwr a aeth ar goll, dyn o’r enw William Davies.

    Yn Swydd Hampshire, yn y ddeunawfed ganrif, roedd dyn o’r enw Mr William Davis yn marchogaeth adref pan gafodd ei ddal mewn niwl. Roedd wedi ei amgylchynu gan niwl trwchus iawn, ac ymhen dim o amser fe welodd ei fod wedi colli ei ffordd. Yn sydyn, clywodd glychau’r eglwys yn dechrau canu, felly aeth i gyfeiriad y swn a chyrhaeddodd adref yn ddiogel. Ymhellach ymlaen, fe sylweddolodd nad oedd mewn gwirionedd ond rhyw ychydig lathenni o’r chwareli calch, lle'r oedd tyllau dyfnion wedi eu cloddio yn y ddaear. Pe byddai wedi mynd ymlaen ychydig ymhellach, fe allai’n hawdd fod wedi syrthio i un o’r tyllau rhain a chael ei ladd.  Yn 1754, pan fu farw Mr Davies, gadawodd rhywfaint o arian yn ei ewyllys. Roedd yr arian i’w ddefnyddio i dalu’r clochyddion i ganu clychau’r eglwys ddwy waith ar y 7fed o Hydref bob blwyddyn, a hynny am 6.30 o’r gloch y bore a 7 o’r gloch yr hwyr, mewn gwerthfawrogiad am y cymorth fu’r clychau iddo ef pan oedd ar goll. 
  2. Fuoch chi erioed ar goll yn llwyr? Efallai eich bod wedi mynd am dro mewn coedwig a cholli’ch ffordd. Efallai eich bod wedi penderfynu mynd o amgylch drysfa a sylweddoli’n sydyn nad oeddech yn gwybod y ffordd allan ohoni. Efallai eich bod yn gwybod sut deimlad yw bod yn ddieithryn mewn dinas fawr. Efallai eich bod, ryw dro, wedi cael eich gwahanu oddi wrth eich ffrindiau neu aelodau eich teulu mewn canolfan siopa enfawr ac wedi teimlo ar goll. Bydd rhai ohonoch o bosib wedi bod ar daith yn rhywle a chael eich hun ar goll. 

    Treuliwch funud neu ddwy yn meddwl am y ffordd yr oeddech chi’n teimlo pan oeddech chi ar goll. (Gallwch rannu stori yma â’r myfyrwyr am yr amser y buoch chi ar goll a sut y cafwyd hyd i chi.)
  3. Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi ar goll? Galw am gymorth? Gofyn am gyfarwyddiadau? Defnyddio map a chwmpawd? Edrych am arwyddion neu oleuadau fydd yn rhoi arweiniad i chi, ac yna yn eu dilyn?

    Efallai eich bod yn cofio’r stori’n ddiweddar am Jamie Neale, yr heiciwr 18 oed o Brydain, fu ar goll yn nhiroedd gwyllt Awstralia am 12 diwrnod cyn iddo gael ei ddarganfod. Roedd y llanc ar ei ‘flwyddyn allan’ pan ddiflannodd o Hostel Ieuenctid yn Katoomba ar 3 Gorffennaf 2009. Fe ddywedodd wrth yr heddlu ar ôl cael ei achub ei fod yn ofni’r gwaethaf pan wnaeth yr hofrenyddion beidio â hedfan uwch ei ben. Fe fedyddiodd fod y timau achub wedi rhoi’r gorau i chwilio amdano, felly, yn hytrach nag aros mewn un lle a disgwyl cael ei achub, fe benderfynodd symud a chwilio’n ddyfal am ffordd allan o’r gwyllt.
  4. Mae storïau am bobl yn mynd ar goll ac wedyn yn cael eu canfod yn storïau poblogaidd bob amser oherwydd eu bod yn dweud rhywbeth am sut beth yw bod yn rhan o ddynoliaeth, yn dweud rhywbeth am ein lle yn y bydysawd, ac yn gallu dweud rhywbeth am ein taith ysbrydol. Mae yna stori am Robinson Crusoe, llongwr a gollwyd oddi ar long ac a laniodd ar ynys bellennig. Bu raid iddo oroesi ar yr ynys honno. Tom Hanks oedd yn chwarae rhan y Robinson Crusoe modern yn y ffilm Castaway. Efallai eich bod hefyd wedi gweld y ffilm Lost in Translation am ryw actor enwog sy’n teimlo ar goll mewn dinas ddieithr a phoblog iawn.  Fuoch chi erioed ar goll mewn tyrfa?

    Mewn cyfres ddiweddar ar y Teledu o’r enw Lost ceir hanes grwp o bobl sydd wedi goroesi damwain awyren ac sydd wedi’u dal yn gaeth ar ynys ddieithr, yn methu â gwahaniaethu rhwng beth sy’n real a beth sy’n afreal. Mae cyfnodau hefyd pan fyddwn ninnau cael rhyw deimlad o fod ar goll, heb gyfeiriad a phwrpas i’n bywyd. Ar adegau felly mae’n teimlo fel nad oes unrhyw ystyr i fywyd. 
  5. Mae Iesu’n deall y gallwn deimlo fel hyn. Adroddodd nifer o storïau am bethau, a phobl, oedd ar goll ac yna’n cael eu darganfod:  fel y ffarmwr hwnnw sy’n chwilio a chwilio am ei un ddafad golledig nes y daw o hyd iddi, a’r wraig oedd wedi colli un darn o arian gwerthfawr ac sy’n hapus iawn pan gaiff hyd i’r darn hwnnw. 

    Y stori fwyaf enwog, fodd bynnag, yw honno am y mab colledig.  Yn y stori honno mae dyn ifanc yn cymryd ei gyfran o’i etifeddiaeth ac yn gadael cartref. Mae’n teithio ymhell i ffwrdd oddi wrth ei dad, sy’n meddwl y byd ohono. Mae wedyn yn afradu ei arian ar bethau dibwys nes iddo sylweddoli yn y diwedd ei fod wedi gwneud camgymeriad mawr. Roedd wedi gwneud y dewisiadau anghywir ac wedi gwneud rhywbeth o’i le.  Mae’n mynd yn ôl at ei deulu, ac yn cael ei dderbyn yn ôl gan ei dad â breichiau agored.
  6. Mae’r storïau hyn yn adlewyrchu sut y mae Cristnogion yn credu bod y ddynol ryw wedi crwydro oddi wrth Dduw, ond bod Duw bob amser yn aros iddyn nhw ddod yn ôl ato, o fod yn ddieithryn i fod mewn perthynas ag ef.  Addawodd Iesu fod yn oleuni i ni yn y tywyllwch, i’n helpu ni a’n harwain ni yn ein bywydau, os gwnawn ni ymddiried ynddo. Dywedodd, ‘Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.’ (Ioan 14.6).

Amser i feddwl

Dywedodd Iesu ei fod wedi dod i ‘geisio ac i achub y colledig.’ (Luc 19.10).

Efallai eich bod yn teimlo fel eich bod ar goll, neu wedi crwydro oddi ar y llwybr yr hoffech chi fod arno. Efallai eich bod yn teimlo eich bod wedi siomi pobl trwy wneud neu ddweud rhywbeth neu’i gilydd, a bod perthynas wedi cael ei chwalu.  Gall geiriau fod yn boenus, ond mae peidio â maddau yn esgor ar chwerwder a diflastod, tra bod maddeuant yn arwain at dangnefedd a rhyddid.  Peidiwch â gadael pethau nes ei bod hi’n rhy hwyr, a cheisiwch ddeall y gwahanol safbwyntiau sydd gan bobl.  

Efallai eich bod yn meddwl weithiau beth rydych chi’n bwriadu ei wneud â’ch bywyd, ac yn teimlo nad oes gennych gyfeiriad na phwrpas iddo.  Fel y teithiwr coll yn y stori a glywsoch chi heddiw, rydych chithau wedi teimlo ar goll ar daith bywyd. Mae’n bwysig chwilio am ffrindiau gofalgar a theulu pan fyddwn ni’n teimlo’n ddryslyd ynghylch rhai pethau ac angen cael ein rhoi ar y ffordd i fynd i’r cyfeiriad cywir.

Yn y diwedd, os gwnewch chi wrando ar yr hyn wnaeth Iesu ei ddysgu i ni, a chredu ei fod wedi dod i’n harwain allan o anialwch ein profiadau yn ôl at Dduw, byddwch yn clywed ei fod ef hefyd yn canu’r gloch i’ch arwain yn ddiogel adref. 

Gweddi

Arglwydd,

Diolch i ti am y clochyddion hynny arweiniodd y teithiwr coll o’r niwl gyda chnul eu clychau fel ei fod yn cyrraedd adref yn saff.  

Yn ein bywydau ni, arwain ni a rho gyfeiriad i ni pan fyddwn ni’n teimlo ar goll ac yn unig, neu’n syml pan fyddwn yn teimlo nad yw bywyd yn gwneud unrhyw synnwyr.

Yn enw Iesu,

Emyn


Gwasanaethau Uwchradd >>