Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

JOSEFF

gan Helen Bryant


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3/ Ysgol Gyfan

Nod

Meddwl am rôl Joseff yn stori’r Nadolig.

Paratoad a deunyddiau

 

Gwasanaeth        

  1. Holwr:  Rydw i’n mynd i’ch cyflwyno i rywun a gafodd rôl ryfeddol o bwysig yn stori’r Nadolig, a na, dydw i ddim yn sôn am yr asyn!  Joseff, hoffech chi ddod i mewn? (Joseff yn dod i mewn).

    Joseff:  Dyna ni, roeddwn i’n gwybod nad oedden nhw’n fy nisgwyl i. Mae pawb eisiau siarad gyda Mair, neu’r bugeiliaid, neu’r brenhinoedd.  Byth fi.

    Holwr:  Croeso Joseff. Rwan, pam rydych chi’n credu nad oes neb byth eisiau siarad gyda chi?

    Joseff:  Wel, rydw i’n credu nad oes llawer o bobl yn meddwl fy mod i’n bwysig o gwbl.  Mair sy’n derbyn y rhan fwyaf o sylw, ac yn addas iawn hefyd wrth gwrs. Ond weithiau, fe hoffwn i pe byddai rhywun yn gofyn i mi sut ydw i’n teimlo am hyn.

    Holwr (yn siarad gyda’r gynulleidfa):  Ys gwn i a ydych chi wedi sylwi sut y mae Joseff yn cael ei gyflwyno i ni ar gardiau Nadolig neu baentiadau o olygfa’r Geni. Os ydyw’n bresennol o gwbl, mae bron bob amser yn cael ei gyflwyno fel hen wr, yn pwyso ar ei ffon, neu’n edrych i gyfeiriad arall.  Dydw i ddim yn siwr beth fyddai wedi bod yn wirionedd hanesyddol, ond efallai mai dyn ifanc, llawn bywyd oedd Joseff. 

    Joseff (yn pesychu):  Esgusodwch fi, Rydw i gystal saer coed ag unrhyw saer coed arall yn yr ardal a dydw i ddim mor hen fel na allaf gerdded o Nasareth i Fethlehem! Mae’n dipyn o daith, wyddoch chi!

    Holwr:  Wrth gwrs, mae’n ddrwg gen i, rydw i’n ymddiheuro.

    Joseff:  Wel, does gen i ddim trwy’r dydd i sefyllian o gwmpas y lle yma yn mân siarad gyda phobl fel chi.  Mae gen i fab bychan sydd angen ei fagu, ac rydw i wedi addo y byddaf yn chwarae efo fo'r pnawn 'ma!  Plant, maen nhw eisiau rywbeth o hyd! (Joseff yn ymadael). 
  2. (Mae’r arweinydd yn parhau). Diolch i chi’ch dau.  Dyna i chi syniad diddorol ynte. Doedd Joseff ddim yn llesg, nac yn hen. I’r gwrthwyneb, roedd yn ddyn heini a oedd yn gallu chwarae gyda’i fab, ac yn ddyn golygus, o bosib, a oedd yn gallu denu dynes ifanc fel Mair yn wraig iddo.  Rydw i’n credu ei fod hefyd yn ddyn â safonau moesol da ac yn ddyn defosiynol.  Achosodd Mair broblem i Joseff yn y ffaith ei bod hi’n feichiog pan oedden nhw heb briodi, dim ond wedi dyweddïo. Fe wnaeth Joseff ymateb yn naturiol ddigon ar y dechrau: fe fyddai wedi amau Mair o fod wedi bod yn anffyddlon iddo, a’i bod wedi beichiogi wrth gael cyfathrach â rhyw ddyn arall, ac felly efallai am foment ei fod wedi amau nad oedd hi’n ddynes fyddai’n deilwng i fod yn wraig iddo. 

    Ond roedd Joseff hefyd yn ddyn tosturiol, oherwydd ar y dechrau roedd wedi cytunodd i roi’r gorau i’r dyweddïad yn ddistaw a pheidio ag achosi unrhyw drafferth.  Fodd bynnag, fe ddigwyddodd rhywbeth od i Joseff. Cafodd freuddwyd lle'r oedd angel wedi ei anfon gan Dduw yn ymweld ag ef ac yn egluro’r sefyllfa iddo.  Dywedodd yr angel wrth Joseff fod y plentyn yr oedd Mair yn ei gario yn dod oddi wrth Dduw:

    ‘Ond wedi iddo gynllunio felly, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, “Joseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti, oherwydd y mae’r hyn a genhedlwyd ynddi yn deillio o’r Ysbryd Glân.  Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.” ’(Mathew 1.20-21)
  3. Wedi hynny, mae Joseff yn gwybod beth oedd yn rhaid iddo’i wneud, ac mae’n ei wneud yn ddi-gwestiwn, oherwydd mae’n ddyn da a chyfiawn. Mae’n rhaid ei fod yn gwybod y byddai pobl yn siarad yn ei gefn, ac yn dweud ei fod yn ffwl i fod wedi priodi Mair, ond roedd yn gwybod yn well, a phenderfynodd y byddai’n aros gyda hi. Roedd yn dosturiol drosti a thros y plentyn yr oedd yn ei gario. Ymhellach ymlaen bu’n rhaid iddo helpu ei wraig pan roddodd hi enedigaeth i’r baban hwnnw, a hynny mewn amgylchiadau ofnadwy mewn stabl. Nid rhywun i’w adael oddi ar y cardiau Nadolig yw Joseff, nac un i’w ystyried fel hen wr chwaith; roedd yn berson cryf oedd yn cynnig gofal.  Roedd yn dad ac yn wr, a dylid ei gofio am gael swyddogaeth barhaol a phwysig yn stori’r Geni. Dychmygwch ef, felly, yn taflu’r baban bach i fyny i’r awyr ac yna’n ei ddal, a’r babi a’r dyn yn chwerthin.  Dyna’r Joseff ddylai fod ar ein cardiau Nadolig. Gwir gynrychiolaeth o ddyn da a chyfiawn, oedd yn fwy na saer coed; roedd yn dad daearol i Iesu Grist, ac yn ôl pob golwg wedi gwneud job ffantastig ohoni!

 

Amser i feddwl

(Fe allai’r myfyriwr oedd yn chwarae rhan Joseff ddarllen y weddi.)

Annwyl Dduw,

Yn ystod cyfnod y Nadolig, paid â gadael i ni anghofio am Joseff yn stori’r Nadolig.

Gad i ni ei weld â llygaid newydd a deall ei rôl,

a deall mai dyn da a chyfiawn oedd o.

Helpa ni i weld y Geni trwy ei lygaid ef a gweld, er bod swyddogaeth rhai yn ymddangos yn fach, bod ganddyn nhw, mewn difrif, fwy o ran i’w chwarae yn y stori.

Emyn

Canwch garol y mae eich myfyrwyr yn ei hoffi, neu gwrandewch ar un.

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>