Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

CHANUKKAH

21 Rhagfyr 2011

gan Stuart Kerner


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Ystyried pa mor bwysig yw Chanukkah i Iddewon.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth      

  1. Os yw hynny’n bosibl, dechreuwch y gwasanaeth gyda’r goleuadau wedi eu diffodd, a goleuwch un gannwyll.

    Gofynnwch i’ch cynulleidfa ddychmygu sut beth oedd bywyd cyn i rywun ddyfeisio golau trydan. Nodwch y ffaith bod y bwlb trydan wedi newid bywydau pobl, yn enwedig yn nhrymder y gaeaf, trwy oleuo’r nos a’i gwneud hi’n bosibl iddyn nhw allu dal ati gyda llawer o weithgareddau hyd yn oed wedi iddi nosi.
  2. Sir Humphry Davy
    Yn y flwyddyn 1800, dyfeisiwyd y batri trydan cyntaf, gan wyddonydd o’r Eidal, o’r enw Count Alessandro Volta. Y flwyddyn ganlynol, fe ddechreuodd gwyddonydd o Loegr, o’r enw Humphry Davy, arbrofi gyda thrydan trwy ddefnyddio’r batri trydan. Pan fyddai Humphry Davy’n cysylltu dwy roden siarcol carbon â’r batri, fe fyddai golau llachar yn pasio rhwng y ddau ben a oedd yn rhydd ac a oedd tua phedair modfedd oddi wrth ei gilydd. Disgrifiodd Davy hyn fel bwa o olau - gan ddefnyddio’r gair Saesneg ‘arch’, ac yn ddiweddarach fe ddefnyddiwyd y gair ‘arc’ i ddisgrifio hyn.  Fe ddefnyddiwn y gair arcio hefyd yn Gymraeg. Y dyddiad oedd 1809, a dyna pryd y cafwyd yr arc-lamp gyntaf.

    Sir Joseph Wilson Swan 
    Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, fe aeth ffisegydd a chemegydd Prydeinig, Joseph Wilson Swan, ati i wneud bwlb trydan mwy ymarferol a fyddai’n para’n hirach. Ar y dechrau, roedd ei olau yntau’n diffodd yn fuan. Ond o’r diwedd, yn 1878 yn Newcastle, fe ddangosodd lamp drydan newydd a oedd yn defnyddio rodiau carbon tenau mewn bwlb gwydr oedd a dim awyr ynddo, dim ond gwactod (vacuum). Yn 1881, goleuwyd Theatr y Savoy yn Llundain gan fylbiau trydan Swan. Dyma’r adeilad cyhoeddus cyntaf yn y byd i gael ei oleuo gan drydan yn unig.

    Thomas Edison 
    Tra roedd Swan yn arbrofi gyda golau yn Lloegr, roedd  dyfeisiwr arall yng Ngogledd America, o’r enw Thomas Edison, yn arbrofi gyda miloedd o wahanol ffilamentau carbon er mwyn ceisio dod o hyd i’r defnydd iawn i oleuo’n dda a phara’n hir. Yn 1879, fe wnaeth Edison ddarganfod bod ffilament carbon wedi’i wneud o ddarn o edau wnïo wedi’i charboneiddio, a honno wedi’i gosod mewn bwlb heb ocsigen ynddo, yn goleuo am 13.5 awr. Yn y pen draw fe ddyfeisiodd Edison fwlb a oedd yn gallu goleuo am dros 1,200 awr. Yn 1880 fe gododd batent ar ei fwlb golau.

    I’r bobl a welodd y bwlb yn goleuo am y tro cyntaf, mae’n rhaid bod y golau trydan yn ymddangos fel gwyrth: o’r diwedd, doedd machlud haul ddim yn golygu bod yn rhaid i bobl eistedd yng ngolau cannwyll neu lampau olew wedyn wedi iddi dywyllu gyda’r nos.
  3. Mae’r rhan fwyaf o grefyddau a systemau cred yn cynnal rhyw fath o ddathliad yn seiliedig ar oleuni - canhwyllau, llusernau, tân gwyllt neu goelcerthi. Ac nid cyd-ddigwyddiad yw bod y rhan fwyaf o’r gwyliau hyn yn digwydd ar yr adeg dywyllaf o’r flwyddyn, adeg heuldro’r gaeaf, pan fydd oriau golau dydd ar eu byrraf, a’r nosweithiau’n hir.

    Bwriad y gwyliau hyn, a’r goleuadau sy’n cyd-fynd â nhw yw ein cysuro y bydd y gaeaf yn mynd heibio ac y bydd dyddiau hirach a chynhesach yn dilyn, a’r gwanwyn yn dod cyn hir.
  4. Mae’r wyl o oleuni sy’n cael ei dathlu gan aelodau’r ffydd Iddewig yn wyl wyth diwrnod o’r enw Chanukkah (Gwyl y Cysegriad). Mae diwrnod cyntaf y Chanukkah ar y pumed dydd ar hugain o’r mis calendr Iddewig, Kislev, ac fel arfer, ond nid bob tro, fe fydd yn digwydd yn ystod mis Rhagfyr. Eleni, mae’r Chanukkah yn dechrau ar 21 Rhagfyr.

    Er mai gwyl gymharol fechan yw’r Chanukkah yn y calendr Iddewig, mae’r ffaith ei bod mor agos at y Nadolig yn tynnu sylw at yr wyl hon a’i thraddodiad o roi a derbyn anrhegion.

    Ymysg yr hysbysebion Nadolig sy’n dod yn fwyfwy cyffredin, ac yn bygwth boddi a threchu stori’r Nadolig, fe allai ymddangos yn berthnasol iawn fod stori’r Chanukkah yn sôn am oroesiad traddodiad, sef y traddodiad Iddewig, mewn byd sy’n estron iddo.
  5. Chanukkah: sut y dechreuodd yr wyl

    Lawer o flynyddoedd yn ôl, yn 175 CC, fe ddaeth cadfridog Groegaidd o’r enw Antiochus Epiphanes yn frenin Syria ac yn llywodraethwr ar yr Iddewon.

    Yn nhair blynedd olaf ei deyrnasiad, fe geisiodd Antiochus ddinistrio’r ffydd Iddewig. Fe orchmynnodd i’r Iddewon ymwrthod â’u Duw, ymwrthod â’u crefydd, eu traddodiadau a’u cred, a dechrau addoli’r duwiau Groegaidd.

    Roedd hwn yn amser o erledigaeth greulon a gormes i’r bobl Iddewig. Roedd rhai yn ufuddhau i’r gorchmynion, ond roedd y rhan fwyaf o’r Iddewon yn gwrthod rhoi’r gorau i’w crefydd.

    Yn 167 CC, fe fartsiodd byddin Antiochus i mewn i’r Deml yn Jerwsalem. Fe dynnwyd y creiriau Iddewig cysegredig oddi yno, a gosod cerflun o’r duw Groegaidd, Zeus, yn eu lle. Ac yna, fe wnaethon nhw aberthu mochyn yn y Deml. Roedd hynny’n beth gwrthun ac atgas iawn yng ngolwg yr Iddewon.

    Wrth weld hyn, fe ddaeth gwr oedrannus o’r enw Matathias ymlaen. Roedd Matathias yn un o’r rhai a oedd wedi gwrthod addoli’r duwiau Groegaidd, ac fe alwodd ar yr holl Iddewon a oedd yn caru Duw i wrthryfela yn erbyn y brenin Groegaidd. Roedd gan Matathias bump o feibion, ac enw un oedd Judas. Fe ffurfiodd Judas a’i frodyr fyddin a dewis yr enw ‘Maccabeus’ iddyn nhw’u hunain, sy’n golygu morthwyl.

    Ar ôl tair blynedd o ymladd, fe goncrodd y Macaebeaid y brenin a’r Syriaid, a’u hanfon allan o Israel a hawlio’r Deml yn ôl. Aeth y Macabeaid ati wedyn i lanhau’r Deml, a symud oddi yno y cerfluniau a’r symbolau Groegaidd dirmygus. Yn 164 CC, ar y pumed diwrnod ar hugain o fis Kislev, roedd y gwaith wedi ei orffen ac fe ail gysegrwyd y Deml i Dduw.

    Wedi i Judas a’i bobl orffen y gwaith glanhau, roedden nhw’n awyddus i oleuo’r lampau menora, y lampau saith cangen euraid, y golau bythol, a oedd yn arwydd o bresenoldeb Duw yn y Deml. Penderfynwyd, unwaith y byddai’r rhain wedi cael eu goleuo, na ddylai’r lampau olew hyn byth gael eu diffodd. Ond dim ond llond un potyn o olew oedd ar ôl ganddyn nhw – dim ond digon o olew, felly, i barhau am ddiwrnod yn unig. Er hynny, llanwyd y lampau a’u goleuo. Yna fe ddigwyddodd gwyrth. Arhosodd y lampau ynghyn, nid am ddiwrnod yn unig ond am wyth diwrnod!!! A galwyd hynny’n wyrth y Chanukkah.
  6. Mae’r bobl Iddewig yn dathlu’r Chanukkah er mwyn cofio am y fuddugoliaeth dros y Syriaid, ac am ailgysegru’r Deml. Am wyth diwrnod, fe fydd canhwyllau Chanukkah yn goleuo yn ffenestri eu cartrefi i oleuo’r nos. Fe fydd teulu a ffrindiau’n dod i helpu i oleuo’r canhwyllau yn y chanukkiyah - y ganhwyllbren sydd ag wyth cangen i ddal canhwyllau (ac un gannwyll ychwanegol sy’n cael ei defnyddio i oleuo’r wyth cannwyll). Ar noson gyntaf y Chanukkah, un gannwyll sy’n cael ei goleuo, un arall ar yr ail noson, ac ymlaen felly nes bydd y goleuadau i gyd ynghyn erbyn yr wythfed noson.

    Fe fydd y bobl yn bwyta bwyd wedi’i goginio mewn olew i gofio am y wyrth yn y Deml: crempogau, sy’n cael eu galw’n latkes, wedi’u gwneud o datws wedi’u ffrio, a thoesenni sy’n cael eu galw’n sufganiyot.

    Fe fyddan nhw hefyd yn chwarae gêm gyda thop sy’n cael ei alw’n dreidel. Roedd rhieni Iddewig yn defnyddio’r top troi hwn ar adeg y Macabeaid wrth addysgu eu plant yn herfeiddiol am y ffydd Iddewig.

    Caiff anrhegion eu cyfnewid, fe fyddan nhw’n canu caneuon, ac fe fydd y stori am Judas Macabeus ddewr a phenderfynol yn cael ei hadrodd.
  7. Yn y pen draw, efallai bod neges bwysicaf y Chanukkah i’w chael yn enw’r wyl ei hun: Cysegriad. Pan fydd Iddewon wedi cysegru eu hunain i’r gorchwyl o ddelfrydau dynol a chrefyddol, gan roi eu hunain i wasanaeth Duw trwy weddi a gweithred, a hynny’n aml yn wyneb yr anawsterau mwyaf anghyffredin, yna mae Iddewiaeth wedi para’n gryf.

    Trwy gydol eu hanes, mae Iddewon wedi dioddef erledigaeth goresgynwyr a llywodraethwyr, yn nodedig felly yn ein hoes ni yn ystod yr Holocost, pryd y llofruddiwyd chwe miliwn o Iddewon gan y Natsïaid.

    Mae’r angen i fod yn gryf, a dal yn driw i’w crefydd, yn parhau i fod yn gêm bwysig i Iddewon ledled y byd ym mhob oes a phob cenhedlaeth.

 

Amser i feddwl

Ddydd ar ôl dydd, wedi gweithio diwrnod 16 awr ofnadwy yn y gwersyll hunllefus yn Bergen-Belsen, fe fyddai’r carcharorion Iddewig yn dod yn bethau i chwarae â nhw ac yn destun sbort i’r swyddogion Natsiaidd a oedd i fod i ofalu amdanyn nhw.

Yng nghamp Belsen, y swper i’r carcharorion bron yn ddi-ffael fyddai cawl diflas tenau iawn, bara sych a braster llysiau wedi ei wneud yn rhyw fath o fargarin. Roedd y margarin hwn yn dod mewn cynhwysydd enfawr. Pan fyddai’r cynhwysydd yn wag, fe fyddai’r swyddogion yn caniatáu i’r carcharorion fynd i mewn iddo i lyfu gweddillion y margarin oddi ar ochrau’r cynhwysydd.

Roedd gwylio’r trueiniaid tenau hyn, a oedd yn orffwyll gan newyn, yn llithro o gwmpas yn y cynhwysydd, yn destun digrifwch di-ben-draw i’r swyddogion cas.

Ond bob tro y digwyddai’r olygfa od hon, fe fyddai un carcharor yn parhau’n herfeiddiol. Arhosai’n llonydd, er gwaetha’r ffaith ei fod yn newynu, ac fe wrthodai fod yn rhan o olygfa ofnadwy a oedd mor waradwyddus. Mewn rhyw ffordd, roedd ei gyd garcharorion i raddau’n cael mymryn o nerth o’i herfeiddiad tawel.

Ond un noson, pan oedd gwyntoedd mis Rhagfyr yn chwythu’n oer, a llawer o’r rhai a oedd yn dioddef dan ormes y Natsïaid yn marw o hypothermia a gorludded, fe ddigwyddodd rhywbeth a ysgydwodd y carcharorion hyd fêr eu hesgyrn brau. Y noson honno, fe ddigwyddodd rhywbeth na wnaethon nhw erioed feddwl y byddai’n digwydd.

Cyn gynted ag y nododd y swyddogion y gallai’r carcharorion dynnu eu dillad a mynd i mewn i’r cynhwysydd i hel y mymryn braster oddi ar yr ochrau, fe gododd y carcharor neilltuol hwnnw, a oedd wedi gwrthod cymryd rhan yn y weithred honno ar hyd yr amser, ar ei draed. Fe neidiodd i mewn i’r cynhwysydd yn ei ddillad. Ac fel pe byddai rhyw ysbryd drwg wedi ei feddiannu, fe ddechreuodd droi a throsi, a rowlio a rowlio, yn ôl ac ymlaen ar hyd y gwaelod a thros arwynebedd ochrau’r cymhwysydd yn hollol wallgof..

Chwarddodd y swyddogion am ei ben yn aflywodraethus. Iddyn nhw, roedd hon yn olygfa chwerthinllyd dros ben. Roedden nhw’n chwerthin wrth weld yr Iddew hwn, a fu mor llonydd ac mor urddasol, yn awr yn ymgreinio fel anifail. Roedd y swyddogion yn cael boddhad mawr wrth weld penderfyniad cadarn y dyn yn cracio o’u blaenau.

Wedi i bethau dawelu, aeth y swyddogion o’r bloc a swn eu chwerthin yn atseinio yng nghlustiau’r carcharorion. Roedd y rheini ofn edrych ar yr un roedden nhw wedi bod yn ei edmygu ar hyd yr amser ac wedi bod yn meddwl amdano fel yr un a oedd yn geidwad eu hurddas. Hynny yw, tan y noson honno. Ond yna, fe dynnodd y dyn ei grys a dechrau ei rwygo’n stribedi. Yn naturiol roedd ei gyd-garcharorion yn cymryd bod ei feddwl wedi drysu’n lân, a’i ysbryd wedi torri’n llwyr.

Ond yn hytrach, fe gododd y dyn ei ben ac edrych yn ddifrifol a dwys ar y lleill, cyn dweud yn bwyllog a thawel: ‘Ydych chi’n sylweddoli ei bod hi’n noson gyntaf Chanukkah heno?’ Yna, fe edrychodd eto ar y stribedi dillad wedi eu rhwygo, ac edrych yn fanwl un darn neilltuol, a oedd yn wlyb gan fraster, cyn ei rwygo eto.

Y noson honno, fe oleuodd dynion un bloc yn y gwersyll eu lampau chanukkiyah eu hunain, y wic oedd y carpiau crys wedi’i mwydo â’r braster. Trwy ymroddiad un dyn dewr, fe ddigwyddodd gwyrth y Chanukkah unwaith eto.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

mae’r ddaear yn llawn o dy ddaioni di,

dy fawredd di a dy ddealltwriaeth,

dy ddoethineb a chytgord.

Mor rhyfeddol yw’r goleuadau rwyt ti wedi eu creu.

Fe ffurfiaist ti’r goleuadau gyda dy nerth a’th gryfder

i oleuo’n rhyfeddol iawn ar y byd,

yn odidog yn eu hysblander.

Maen nhw’n codi mewn disgleirdeb ac yn mynd i lawr mewn llawenydd.

Yn llawn parch, maen nhw’n cyflawni dy ewyllys dwyfol.

Maen nhw’n deyrnged i dy enw

wrth iddyn nhw fawrygu dy lywodraeth oruchaf mewn cân.

(addasiad o emyn cyfriniol Iddewig

 


Gwasanaethau Uwchradd >>