Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

TEULUOEDD!

Rhan o hanes bywyd Joseff


gan Susan MacLean 

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Nod 

Cydnabod y gall bywyd teuluol fod yn anodd weithiau.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 

  1. Gofynnwch i'r disgyblion ddweud wrthych chi enw un person sy'n arbennig yn eu golwg.

    Dangoswch ddarlun o'ch teulu. Dywedwch wrth y plant pwy sydd yn ymddangos yn y darlun, a pham eu bod yn bwysig i chi. 
  2. Dywedwch eich bod yn mynd i feddwl am ddyn o'r enw Joseff, sydd â'i stori yn y Beibl. Roedd yna dipyn o helynt yn ymwneud â theulu Joseff.

    Roedd Joseff yn byw gyda'i dad, Jacob, a'i fam a deg o hanner-brodyr iddo yng ngwlad Canaan. Ef oedd ffefryn ei dad, ac roedd ei hanner- brodyr yn genfigennus ohono.

    Un diwrnod cafodd y brodyr gyfle i gael gwared â Joseff. Fe wnaethon nhw ei werthu i griw o ddynion oedd ar eu ffordd i werthu perlysiau a phersawrau ym marchnadoedd yr Aifft, tua thri chan milltir i ffwrdd.  Fe ddywedodd ei frodyr wrth eu tad bod anifail gwyllt wedi lladd Joseff.

    Yn yr Aifft, cafodd Joseff ei daflu i garchar am amser hir.  Cafodd ei ollwng yn rhydd ar ôl iddo egluro i’r brenin beth oedd ystyr y ddwy freuddwyd ryfedd roedd y brenin wedi’u cael. Fe ddywedodd Joseff mai ystyr y breuddwydion oedd, y byddai saith mlynedd o gynaeafau da gyda digonedd o fwyd, ac yna saith mlynedd o gynaeafau gwael a newyn mawr. Fe roddodd gyngor i’r brenin storio ddigon o’r grawn neu’r yd yn ystod y blynyddoedd pan oedd digon o fwyd ar gael fel byddai ar gael iddyn nhw i'w fwyta yn ystod y blynyddoedd o newyn. Fe feddyliodd y brenin fod hynny'n syniad da a rhoddodd y swydd i Joseff o gael trefn ar sefyllfa’r bwyd ar gyfer yr amser pan ddeuai'r newyn.

    Daeth breuddwydion y brenin yn wir. Ond yn yr Aifft, roedd Joseff a gweithwyr y brenin yn barod. Pan ddigwyddodd y cynaeafau gwael, roedd bwyd ar gael o hyd, ac ni wnaeth y bobl newynu.

    Ond nid yn yr Aifft yn unig y cafwyd cynaeafau gwael. Roedd y newyn wedi ymestyn ymhell o'r Aifft hyd at wlad Canaan. Fe ddywedodd Jacob, tad Joseff, wrth ei feibion am fynd i'r Aifft i brynu hynny o’r grawn neu’r yd oedd ar gael iddyn nhw, fel na fydden nhw i gyd yn newynu.

    Fe aeth y deg mab, y deg hanner-brawd oedd wedi gwerthu Joseff flynyddoedd ynghynt, i’r Aifft i geisio prynu grawn. Ond wnaeth Jacob ddim anfon Benjamin - y mab ieuengaf. Nid oedd Benjamin wedi cael ei eni pan ddiflannodd Joseff. Roedd gan Jacob ofn y byddai rhywbeth yn digwydd i Benjamin, felly fe'i cadwodd gartref.

    Yn yr Aifft, Joseff oedd y person oedd yn gwerthu'r grawn. Moesymgrymodd brodyr Joseff o'i flaen. Doedden nhw ddim wedi ei adnabod. Ond fe wyddai Joseff pwy oedden nhw. A oedden nhw'n parhau i fod yn genfigennus a chreulon? Fe benderfynodd Joseff y byddai'n rhoi prawf arnyn nhw.

    Fe ddywedodd y brodyr eu bod wedi dod i brynu bwyd. Fe ddywedon nhw eu bod i gyd yn frodyr, a bod yr un ieuengaf wedi aros gartref.  Nid oedd Joseff yn ymwybodol bod ganddo frawd iau. Fe gymrodd Joseff arno nad oedd yn eu coelio ac fe’u rhoddodd nhw yn y carchar am dridiau ar gyhuddiad o fod yn ysbiwyr. 

    Yna, fe ddywedodd Joseff, ‘Profwch eich bod yn dweud y gwir. Bydd un ohonoch yn aros yma yn y carchar.  Y gweddill ohonoch, ewch adref a dewch yn ôl gyda'ch brawd ieuengaf.  Pan welaf eich brawd, byddaf yn gwybod eich bod yn onest ac fe fyddaf yn gollwng eich brawd yn rhydd o'r carchar.’

    Fe arhosodd un o'r brodyr - Simeon - yn y carchar. Fe dalodd y brodyr eraill am y grawn a rhoi'r sachau ar eu mulod. Doedden nhw ddim yn gwybod bod Joseff wedi dweud wrth ei weision am roi'r arian yr oedden nhw wedi ei dalu yn ôl yn eu sachau. 

    Fe gychwynnodd y brodyr ar eu taith hir am adref.  Y noson gyntaf ar y daith, pan wnaethon nhw aros i orffwys, fe agorodd un o'r brodyr ei sach, a chael hyd i'w arian tu mewn iddo.  Ac roedden nhw'n ofnus.

    Ar ôl cyrraedd adref, fe wnaethon nhw ddweud yr holl hanes wrth Jacob am yr hyn a oedd wedi digwydd. Fe ddywedon nhw wrtho fod Simeon yn cael ei gadw'n garcharor nes y bydden nhw'n dychwelyd gyda Benjamin. Yna, dyma nhw'n agor eu sachau a gweld bod yr holl o'r arian wedi cael ei roi yn ôl yn eu sachau - nawr roedden nhw'n pryderu o ddifrif! A Jacob hefyd. Roedd y prawf wedi ei osod am reswm da, ond doedden nhw ddim yn ymwybodol o hynny.  Roedd hyn yn swnio fel trap.

    Roedd Jacob yn gofidio'n fwy na neb oherwydd roedd eisoes wedi colli Joseff, ac yn awr Simeon, ac roedd ganddo ofn y byddai'n colli Benjamin, hefyd. Felly, fe ddywedodd nad oedd yn barod i adael i Benjamin fynd.

    (Mae’r oedd stori’n mynd ymlaen, ond fe wnawn ni ei gadael ar y pwynt hwn am y tro.)

           

Amser i feddwl

Hyd yn oed os ydyn ni'n cweryla gyda'n brodyr a'n chwiorydd, maen nhw'n parhau i fod yn bobl bwysig yn ein bywydau. Gall ein cweryl achosi pob math o drafferthion, felly mae'n well i ni fod yn gyfeillgar gyda’n gilydd cyn belled ag y gallwn ni.

Pan fyddwn ni’n cweryla gyda'n gilydd, gall hyn frifo aelodau eraill o'r teulu hefyd.  Roedd Jacob yn parhau i alaru ers colli Joseff, er bod blynyddoedd wedi mynd heibio.

Os bydd rhywun sydd wedi ymddwyn yn ddrwg tuag atoch chi yn dod atoch chi ac yn dweud ‘sori’, sut gallwch ddweud a yw'r person hwnnw o ddifrif ai peidio?

Gweddi

Diolch, Dduw, am bopeth rwyt ti’n ei roi i ni.

Diolch  i ti am ein teuluoedd.

Helpa ni i garu ein gilydd hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>