Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

COLLWYD A CHAFWYD 

gan Helen Brydant


Addas ar gyfer yr Ysgol gyfan (Ysgol Eglwys)

Nod

Ystyried cymaint o ryddhad rydyn ni’n ei deimlo pan fyddwn ni wedi dod o hyd i rywbeth pwysig roedden ni wedi’i golli.

Paratoad a deunyddiau 

Gwasanaeth

        

  1. Llefarydd 1  Dwi’n gwybod fy mod i wedi ei rhoi hi’n rhywle. Y tro diwethaf y gwelais i hi oedd yr wythnos diwethaf yn y dosbarth. Ydych chi wedi ei gweld hi?

    O, esgusodwch fi! Rydw i wedi colli fy ffeil TGAU. Alla i ddim dod o hyd iddi yn unman. Os na ddof i o hyd iddi, fe fydda i wedi colli blwyddyn gyfan o waith! Ac fe fydd fy athrawes i’n fy mlingo i! (Rhewi)

    Arweinydd  Tybed oes rhywbeth fel hyn wedi digwydd i chi erioed? Ydych chi wedi colli rhywbeth, rywdro, sy’n wirioneddol bwysig? Does dim rhaid i’r peth hwnnw fod yn ffeil. Fe allai fod yn unrhyw beth. Wedi colli un o’ch clustdlysau, efallai, neu'n methu dod o hyd i’ch hoff CD, neu efallai eich bod yn methu cofio lle gwnaethoch chi adael eich ffôn symudol. Efallai eich bod yn un sydd bob amser yn colli eich beiro neu eich sbectol.

    Llefarydd (Dadrewi)  Rydw i’n flin efo fi fy hun. Pe bawn i ddim ond ychydig bach yn fwy trefnus, neu dipyn bach yn llai anghofus, yna fe fyddwn i wedi cofio mynd â’r ffeil efo fi o’r dosbarth.

    Arweinydd  Dychmygwch, felly, bod yr amser yn pasio a chithau’n methu’n glir â dod o hyd i’r ffeil, neu beth bynnag rydych chi wedi’i golli.

    Sut rydych chi’n teimlo? Yn bryderus, yn rhwystredig, neu’n anhapus? Mae’n debyg y bydd rhaid i chi ail ysgrifennu’r holl waith sydd wedi mynd ar goll; efallai y bydd rhaid i chi ddweud wrth eich rhieni eich bod wedi colli eich sbectol, neu fod yn rhaid i chi brynu beiro newydd, eto.

    Rhaid i chi dderbyn bod y peth oedd unwaith gennych chi, yn awr ar goll, am byth o bosib.

    Llefarydd 2  Esgusoda fi! Hon ydi dy ffeil di?

    Llefarydd 1  O, ie! Lle cefaist ti hi? (Yn cofleidio’r person arall) O! Dwi’n falch! Gwych! Fe fydd popeth yn iawn, diolch byth. Dyna ryddhad!
  2. Arweinydd  Mae’r peth a oedd ar goll wedi dod i’r golwg, ac rydyn ni wrth ein bodd, yn teimlo’n falch, yn teimlo rhyddhad - a phob math o wahanol emosiynau eraill. Mae hyn oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r peth roedden ni’n meddwl oedd wedi diflannu am byth.

    Rydw i’n gwybod yn iawn sut deimlad yw hynny. (Darluniwch hyn gyda stori bersonol, neu defnyddiwch y stori sy’n dilyn.)

    Ychydig yn ôl fe wnes i golli fy nghlarinét. Dim gwahaniaeth mawr am hynny, fe fyddech chi’n meddwl, efallai. Fe allwn i brynu un arall. Ond na, dyma’r clarinét a brynodd fy rhieni i mi pan oeddwn i’n 12 oed. Hwn yw’r unig glarinét sydd wedi bod gen i erioed, ar hyd y blynyddoedd. Mae wedi bod gen i mewn cerddorfeydd, bandiau, gwasanaethau carolau, cyfarfodydd gwobrwyo, ac arholiadau cerdd. Mae’n rhywbeth sy’n fy nghysylltu i â mi fy hun yn 12 oed.

    Roedd y ffaith fy mod wedi colli’r offeryn yn rhywbeth ofnadwy i mi. Ond peth arall oedd yn fy mhoeni oedd sut roeddwn i’n mynd i ddweud wrth fy rhieni. Peth rhyfedd, fyddech chi’n meddwl, yn fy oed i y byddwn i’n poeni sut i ddweud wrth fy rhieni am rywbeth felly. Ond rydw i’n gwybod ei bod hi wedi bod yn ymdrech arbennig iddyn nhw brynu’r offeryn. Ar y pryd, roedd eu harian yn brin, ac roeddwn i’n ofni y bydden nhw’n teimlo nad oeddwn i wedi gofalu am y clarinét a oedd wedi costio cymaint o arian ac ymdrech iddyn nhw.

    Pan ddaeth y clarinét i’r golwg ymhen sbel, fe wnes i ei gofleidio fel pe bai’n ffrind annwyl doeddwn i ddim wedi ei weld ers talwm. Fe wnes i adduned y byddwn i’n gofalu am yr offeryn yn well o hynny ymlaen.
  3. Fe wnaeth y llawenydd hwnnw, a deimlais i bryd hynny, i mi feddwl am y ddameg a adroddodd Iesu am y teimlad o golled a brofodd y tad pan wnaeth ei fab adael y cartref, a’r teimlad o falchder a brofodd y tad wedyn pan ddaeth y mab yn ei ôl adref. Ac fe wnaeth i mi feddwl hefyd am ddamhegion eraill Iesu sy’n sôn am dristwch rhywun wrth golli rhywbeth, a’r llawenydd wrth ddod o hyd i’r peth hwnnw wedyn.

    Yn y ddameg am y ddafad a oedd ar goll, mae’r bugail yn gadael ei 99 dafad arall yn ddiogel yn y gorlan ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll. Wedi iddo ddod o hyd iddi mae’r bugail yn llawenhau.

    Mae Iesu’n defnyddio’r damhegion hyn i ddangos pa mor hapus yw Duw’r Tad pan fydd rhywun sydd wedi pechu’n edifarhau ac yn mynd yn ôl ato ef.

    Pan fyddwn ni’n troi i ffwrdd oddi wrth yr hyn y mae Duw eisiau i ni ei wneud (hynny yw, pan fyddwn ni’n pechu), yna fe fydd Duw ‘wedi ein colli’. Pan fyddwn ni’n penderfynu dod yn ôl at Dduw, ac yn gofyn am faddeuant, mae fel petai Duw wedi dod o hyd i ni eto.

Amser i feddwl

I’r rhai ohonoch chi, sydd fel fi, yn dueddol o golli pethau, gadewch i mi ddweud wrthych chi am sant y gallech chi, efallai gyflwyno gweddi iddo – Sant Antwn. Mae llawer o Gristnogion yn credu mai Sant Antwn yw nawddsant pethau colledig. Ar ôl i chi ofalu eich bod wedi chwilio’n ofalus am beth bynnag rydych chi wedi’i golli, yna efallai ei bod yn amser galw am gymorth Sant Antwn. 

Eisteddwch mewn man tawel, os yw hynny’n bosib, a meddyliwch am beth bynnag rydych chi wedi’i golli. Yna adroddwch y weddi fach syml hon:


Sant Antwn, Sant Antwn,

ein cymorth ni oll,

tyrd yma i’m helpu,

mae rhywbeth ar goll.

neu dyma’r fersiwn Saesneg,


‘St Anthony, St Anthony,

please come around. 

Something's been lost

and cannot be found.’ 

Ail adroddwch y pennill unwaith neu ddwy tra rydych chi’n meddwl am yr eitem golledig. Wyddoch chi ddim, pan ewch chi ati i chwilio eto efallai y dewch chi o hyd i’r peth roeddech chi wedi’i golli!

Emyn

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>