Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Stori Joseff

gan Ronni Lamont

Addasiad yw’r stori hon o un a gyhoeddwyd yn y gyfrol The God Who Leads Us On gan Ronni Lamont (SPCK, 2008).

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Clywed stori’r geni ar wedd newydd.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

Gadewch i’r myfyrwyr ymdawelu, ac yna eglurwch fod gwasanaeth heddiw yn cynnwys stori yr ydych chi’n eu gwahodd nhw i wrando arni.

Stori Joseff

Roeddwn i wedi adnabod Mair erioed, ers iddi gael ei geni.  Roedd ei theulu yn byw drws nesaf i Rachel a minnau, ac rydw i’n cofio Mair yn cael ei geni; fe ddaeth hi â llawer o lawenydd i Jacob ac Anna ar ôl yr holl flynyddoedd o aros.  Roedd golwg bell ar Mair o hyd, wrth iddi freuddwydio am y gorffennol a’r dyfodol, ond yn bur anaml am y dyfodol.  ‘Mae hi’n meddwl gormod am y nefoedd i fod o unrhyw werth ar y ddaear’ - dyna sut y disgrifiodd mam Rachel Mair pan soniais wrthi - ond roedd hynny i’w ddisgwyl, a sut bynnag, rydw i’n rhoi'r drol o flaen y ceffyl rwan.

Roedd Rachel yn wraig dda, ac fe gawson ni nifer o flynyddoedd hapus gyda’n gilydd.  Welwch chi’r hogiau?  Mi gawson ni fechgyn mawr, cryf gyda’n gilydd, ac roedd y merched yr un fath – yn galed a chraff, yn debyg i’w mam.  Ac eithrio Susanna, y baban olaf y rhoddodd Rachel enedigaeth iddi, oherwydd bu Rachel farw ar enedigaeth Susanna.  Roedd Susanna yn fychan, yn eiddil, a sensitif – nid yn gorfforol, ond roedd hi’n wahanol.  Roedd o fel petai hi’n gwybod mai’r pris a dalwyd am ei bywyd hi oedd marwolaeth ei mam .…

Ar ôl i mi golli Rachel, roedd Mair yn aml yn y ty, yn fy helpu i a’r plant, felly roedd hi’n ymddangos yn anorfod y dylwn i ofyn iddi fod yn wraig i mi.  Roedd hi’n caru’r plant, ac roeddwn i’n gwybod fy mod i’n ei charu hi.  Yn swil a thawel, fe fyddai hi’n bywiogi pan fyddai hi’n adrodd storïau wrth y plantos acw.  ‘Mwy! Mwy!’ fyddai cri Aaron, ac fe fyddai hi’n chwerthin ac weithiau’n adrodd un arall, ac weithiau’n distewi.  Er ei bod hi’n dawel a diymhongar, ganddi hi oedd y llaw uchaf bob amser.  Allech chi ddim adnabod Mair a pheidio â’i charu - nid oedd dichell na drygioni yn perthyn iddi.

Roedd Jacob wrth ei fodd pan wnaethon ni ddyweddïo.  Roedd Mair wedi bod yn drist ar ôl i Anna farw, ac roedd yn poeni am ofalu amdani - ac roedd o’n dechrau mynd i oed.  Felly, mi wnaethon ni ddyweddïo; a dyna pryd y dechreuodd y drafferth.

Wna i byth anghofio ei hwyneb, wrth iddi adrodd y stori wrtha i – angel, meddai.  Baban arbennig, meddai.  Y Meseia.

Wna i ddim dweud wrthych chi beth ddywedais i wrth i mi ruthro allan gyda fy arfau saer i naddu tipyn ar goedyn, a phenderfynu sut roeddwn i’n mynd i ddatrys hyn.  Ond, roedd ymwelydd yn y sied.  Dyn, a oedd yn siarad am bethau nad oeddwn i’n eu deall, gydag awdurdod nad oeddwn i’n gallu ei gwestiynu.  Roedd y baban yn arbennig. Roedd y baban yn ....

Roedd y baban i fod i gael ei eni ganol gaeaf.  Roedd yn rhaid i ni fynd i Fethlehem i gael ein cyfri bryd hynny.

Er ei bod hi’n dipyn yn freuddwydiol, gallai Mair fod yn ymarferol iawn.  Roedd hi wedi gweld digon o blant yn cael eu geni i wybod beth oedd yn mynd i ddigwydd.  Fe aethom ar ein taith, ac roedd hithau wedi rhoi cadachau a Duw a wyr beth arall, y cyfan mewn pecyn bychan.  Fe gariodd yr asyn hi’n o’i wirfodd - roedd yr asyn hwnnw wedi gwirioni arni, a’r bachgen ar ôl iddo gael ei eni.  Ond pan wnaethon ni gyrraedd, a hithau’n nosi, roedd hi mewn poen, doedd dim lle yn unman, er gwaetha’r ffaith bod pobl yn gallu gweld beth oedd yn digwydd.  Roedd pawb yn feddw a phrysur. ‘Ewch i weld a oes lle drws nesa’ meddai pawb.

Diolch i Dduw am wraig gwr y dafarn.  Fe welodd hi, ac roedd hi’n deall.  ‘Dewch ar unwaith,’ meddai, ‘rownd i’r cefn - mae gennym stabl y gallwch chi gysgu ynddi.  Mae hi angen cael mynd i rywle, neu mi fydd hi’n rhoi genedigaeth i’r babi yma yn y stryd!’

Doedd hynny ddim ymhell o’r gwir.  Rhoddodd y ddynes help i Mair gyda’r enedigaeth, ac o fewn dwy awr, cafodd y baban ei eni – clamp o faban braf, swnllyd ond prydferth iawn, iawn.  Ond wedi dweud hynny, mae bron bob babi felly, yn dydi?

Fe aeth hi yn ôl i’r dafarn, ac fe ddaeth hi’n ôl gydag ychydig o fwyd i ni’n dau.  Fe aeth y mul i gysgu, a ninnau hefyd. Ond yna fe gyrhaeddodd y bugeiliaid.

Bugeiliaid, ym Methlehem.  Roedden nhw wedi gadael eu praidd ar ochr y bryn, ac fe ddywedodd y bugeiliaid rheini eu bod nhw wedi cael eu hanfon i Fethlehem i addoli baban newydd.  A dyna lle’r oedden nhw!  Sut roedden nhw’n gwybod? Angylion, medden nhw.

Fe wnaethon ni aros am fis neu ddau.  Fe gymerodd Mair dipyn o amser i ddod ati ei hun ar ôl yr enedigaeth, ac roedd hi’n oer i deithio, felly fe wnes i ychydig o waith atgyweirio o amgylch y dref, a phan oedd hi’n teimlo’n well, fe wnaethon ni ymadael â’r lle.

Rydw i’n meddwl am y ddynes honno weithiau - gwraig gwr y dafarn.  Rydw i’n gorwedd yma heddiw, ar ddiwedd fy mywyd, ac yn gobeithio ei bod hi wedi cael ei gwobrwyo gan y Bod Mawr am y caredigrwydd a ddangosodd tuag atom y noson honno.

Fe wnaeth Joshua, y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei alw’n Iesu erbyn hyn, dyfu yn freuddwydiwr, yn union fel ei fam.  Roedd yn un da am adrodd storïau, ond yn hoffi bod ar ben ei hun.  Wnaeth o ddim priodi – dywedodd mai dyna oedd o’n ei ddymuno.  Roedd yn saer da iawn, cofiwch.  Sgwn i beth wnaiff o â’i fywyd?  Rydw i’n gwybod bod ei frodyr a’i chwiorydd yn ei garu, yn union fel y mae Mair yn ei garu – gan mai ei hunig fab oedd o.  Er gwaethaf ein holl flynyddoedd gyda’n gilydd, rhai hapus dros ben, chafodd hi ddim plentyn arall.  Oni bai am wraig gwr y dafarn, tybed a fyddai o wedi goroesi – a tybed a fyddai ei fam wedi goroesi, hefyd.  Gall gweithredoedd bychan o garedigrwydd fod yn garedigrwydd mawr – yn dibynnu ar sut rydych chi’n edrych ar bethau.

Yn fuan, fe fyddaf yn gorffwys gyda fy Nghyndadau; a Mair a Joshua, a’r gweddill, fe fyddan nhw’n mynd yn eu blaenau.  Ymlaen i ddyfodol na fyddaf i’n rhan ohono.  Fe fyddaf yn gwylio o’r ochr arall, ac yn edrych beth fydd o flaen Mair a’i Iesu hi.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am yr holl fabanod a fydd yn cael eu geni heddiw, ac yn enwedig am y babanod sy’n cael eu geni i rieni sy’n ddigartref.

Meddyliwch hefyd am deuluoedd a fydd yn colli eu babanod heddiw, drwy salwch, newyn, neu trwy drais.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

yr un sy’n caru’r digartref,

ac yn gofalu am y gwan,

Bydd gyda phawb a fydd angen dy gariad a’th ofal di heddiw.

Amen.

Emyn 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>