Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Stori’r Nadolig

addasiad o wasanaeth gan  Jenny Tuxford

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Nod

Ystyried gwir ystyr y Nadolig.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

Llefarydd 1

Nawr ydych chi wedi clywed sôn am dalu trethi?

Wel, arian yw treth, y mae’n rhaid i oedolion ei dalu –

Mae fel rhoi arian i ffwrdd, a dim wedi cael ei brynu,

Treth incwm, treth cyngor, treth ar werth ac ati.

Rydyn ni’n dysgu am hanes sut roedd pobl yn byw,

Dysgu am fywyd fel yr oedd trwy’r holl oesau.

Hyd yn oed ganrifoedd yn ôl, fe dalai pobl drethi –

Roedd eu llywodraeth yn codi ar bawb, codi trethi a thollau.

Llefarydd 2

Nawr, awn yn ôl mewn amser ddwy fil o flynyddoedd,

I’r adeg pan gafodd Iesu Grist ei eni,

Roedd rhaid i bawb deithio i’w dref ei hun,

Doedd ganddyn nhw ddim dewis - roedd yn rhaid iddyn nhw fynd yno i dalu.

Llefarydd 3

Meddyliwch am y lle y cawsoch chi’ch geni,

Ble byddai’n rhaid i chi fynd yn eich tro?

Pe byddech chi’n mynd yn ôl i dref eich geni

Wyddoch chi ble byddai’r fan honno?

Dychmygwch y cerbydau fyddai ar y traffyrdd,

Ac yn y dinasoedd, a’r teithio a fyddai ar y môr, ac yn yr awyr!

Pe byddai’n rhaid i ni gyd fynd i dalu ein trethi ’run pryd,

Meddyliwch am y tagfeydd traffig fyddai trwy’r holl fyd!

Llefarydd 4

Roedd Mair yn disgwyl ei baban - unrhyw ddiwrnod,

Ond o ddinas Rhufain, fe ddaeth y gorchymyn,

Doedd ganddyn nhw ddim cerbyd cyfforddus i’w cludo yno,

Bu’n rhaid i Mair fynd i Fethlehem ar gefn yr asyn.

Ac felly, yno yr aeth Joseff a Mair

Roedd y pellter yn faith a’r siwrnai’n hir iawn.

Ond, yn y diwedd, pan wnaethon nhw gyrraedd y dref,

Fe welson nhw fod pob llety yn llawn.

Llefarydd 5

Curodd Joseff ar bob drws yn y lle.

‘Helpwch ni, plîs,’ meddai ef,

‘Mae Mair ar fin cael ei baban,

Rhaid i ni ddod o hyd i wely yn rhywle yn y dref.’

Llefarydd 6

O’r diwedd fe ddywedodd un landlord caredig.

‘Fe fyddwn i’n barod i’ch helpu, pe gallwn i.

Ond mae pob ystafell yn llawn yn y llety,

Does dim ond y stabl, cewch fynd yno os hoffech chi?’

Llefarydd 7

Ac yno yn y stabl y ganwyd y baban,

Nid mewn ysbyty glân na chartref clyd,

Nid mewn castell gwych na phalas crand,

Ond yng nghartref tlawd y creaduriaid mud.

Doedd yno ddim gwres canolog na thrydan,

Gwres y gwartheg oedd yn cadw’r lle’n dwym,

Doedd dim cerddoriaeth i’w suo i gysgu

Dim ond swn anadlu y defaid mwyn.

Llefarydd 8

Pwy feddyliech chi ddaeth i weld y baban,

Y baban bach arbennig, newydd, hwn?

Nid y Frenhines Elizabeth, na neb o’i theulu,

Ond rhywrai lawn mor bwysig, yn wir, fe wn!

Llefarydd 9

Beth a ddaeth y bobl rheini yn anrhegion i’r baban,

Wrth ymweld â’r un bychan ynghwsg yn y gwair?

Na, nid pethau ymolchi, na phowdr babi,

Na theganau meddal, yn wir, ar fy ngair!

Llefarydd 10

Fe ddaeth y bugeiliaid ag oen bach yn anrheg,

A gwlân y ddafad i’w gadw yn glyd.

Daeth y tri gwr doeth ag anrhegion hefyd,

Aur, thus a myrr i faban pwysicaf y byd.

Bachgen bach oedd hwn fel pob bachgen bach arall,

Ond mab i Dduw, a brenin Daear a Nef,

Ac ar adeg y Nadolig, fel yma, bob blwyddyn,

Fe fyddwn ni’n dathlu ei eni ef. 

(Y plant i aros yn llonydd ar ffurf tablo.)

Carol: ‘I orwedd mewn preseb’

Amser i feddwl

Gweddi

Pobl yn dawnsio, yn chwerthin a chwarae

Oddi amgylch y goeden, ac yn cael cymaint o bleser,

Mor hapus a diddan ar Wyl y Nadolig,

Gweddïwn mai fel hyn y bydd pethau bob amser.

Teuluoedd yn hapus, yn gofalu a rhannu,

Tangnefedd y Nadolig o gwmpas pob plentyn,

Pawb yn rhoi cymaint mwy nag anrhegion,

O, na fyddai bob amser fel hyn.

Ffrindiau gorau yn helpu ei gilydd,

Rhoi a rhoi benthyg, gwenu a chanu,

Nawr yw’r amser i aros a meddwl

Am y llawenydd y gallwn ei rannu.

Pobl yn gweithio’n galed ac yn gweddïo

Mewn gwledydd ym mhob man ledled y byd,

Fe hoffem fyw ynghyd mewn tangnefedd,

Yn ein dwylo ni mae ein dyfodol i gyd.

Gadewch i ni oedi a meddwl am foment

Yng nghanol y gwario a’r mwstwr a’r miri,

A meddwl o ddifrif am y Nadolig cyntaf,

Meddwl am wir ystyr y dathlu ar Wyl y Geni.

Amen.

Emyn      

 


Gwasanaethau Cynradd >>