Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

CLYCHAU’R NADOLIG


gan Rebecca Parkinson


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg


Nod

Ystyried tarddiad cysyniad clychau’r Nadolig a beth yw eu harwyddocâd.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, chwaraewch y clip fideo o ganu clychau. Ar ôl i bawb eistedd, gofynnwch i’r plant beth oedd y clip yn ei ddangos. Holwch oes un o’r plant yn gwybod rhywbeth am ganu cylchau eglwys. Ychwanegwch y bydd y gwasanaeth heddiw’n ymwneud â chanu clychau.
  2. O ran diddordeb, cyflwynwch y pwyntiau canlynol i’r plant:

    (a) Mae clychau wedi bod yn rhan o’r traddodiad Cristnogol ers amser maith. Mae cyfeiriad at glychau’n gynnar yn y Beibl. Yn llyfr Exodus (39.25-6) mae sôn bod gan offeiriaid yn y Deml glychau bach wedi’u gwnïo ar eu gwisg rhwng lluniau brodwaith o bomgranadau! “Gwnaethant o amgylch godre’r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi’i nyddu. Gwnaethant hefyd glychau o aur pur, a’u gosod  rhwng pomgranadau o amgylch godre’r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses.” Fe fyddai’r clychau’n canu gyda phob cam y byddai’r offeiriad yn ei wneud. Y syniad oedd y byddai tincial y clychau’n cynrychioli moliant, moliant y byddai Duw’n gallu ei glywed.

    (b)  Yn yr ychydig gannoedd o flynyddoedd ar ôl gweinidogaeth Iesu, doedd y grefydd Gristnogol ddim yn gyfreithlon mewn llawer rhan o’r byd. Bryd hynny, fe fyddai negeswyr arbennig yn mynd o dy i dy i ddweud wrth y Cristnogion pa bryd y byddai’r gwasanaeth yn cael ei gynnal. Yn ddiweddarach, fe fyddai’r negeswyr hyn yn curo’n ysgafn ar ddrysau’r tai gyda morthwyl pren. Wrth i Gristnogaeth ddod yn fwy derbyniol, fe fyddai’r negeswyr yn defnyddio  morthwylion i daro darn o fetel i alw’r bobl i’r gwasanaethau.

    (c) Wrth i Gristnogaeth ddod yn fwy sefydledig, roedd dilynwyr Iesu’n awyddus i adeiladu eglwysi i addoli ynddyn nhw. Fe wnaethon nhw adeiladu eglwysi gyda thyrau uchel yr oedd pobl yn eu gweld o bell, ac fe wnaethon nhw osod clychau yn y tyrau i alw’r bobl ynghyd i addoli. Mewn rhai llefydd, roedd y clychau’n cael eu canu gan rywun yn taro’r gloch â morthwyl, mewn llefydd eraill fe fyddai rhaffau’n cael eu gosod i helpu’r broses o ganu’r clychau.

    (d) Ar y dechrau, pwrpas y clychau mewn eglwys oedd rhoi gwybod i’r bobl ei bod bron yn amser i’r gwasanaeth ddechrau - yn y dyddiau hynny doedd gan y bobl ddim clociau a watsys fel sydd gennym ni heddiw, felly roedd hi’n fwy anodd cadw’r amser. Yn ddiweddarach, roedd y clychau’n cael eu canu i nodi digwyddiadau eraill hefyd, fel priodas, buddugoliaeth (e.e. diwedd y rhyfel), digwyddiadau neu gyhoeddiadau pwysig (fe fyddai’r bobl yn clywed y  clychau’n canu ac fe fydden nhw’n mynd i’r eglwys lle byddai rhywbeth neilltuol yn cael ei gyhoeddi), neu er mwyn atgoffa pobl am ddathliadau neilltuol.

    (e) Fe fyddai’r Nadolig a Sul y Pasg yn ddathliadau pwysig, ac fe fyddai’r clychau’n cael eu canu’n egniol iawn ar yr achlysuron hynny. Oherwydd hyn, mae llawer o emynau a charolau Nadolig yn cynnwys cyfeiriadau at glychau’n canu.
  3. Yn dilyn mae addasiad syml o dri phennill o gerdd gan Henry Wadsworth Longfellow, ‘Christmas Bells’, sy’n sôn am glychau’r Nadolig. Darllenwch y rhain i’r plant, a thrafodwch ystyr y penillion. (Os hoffech chi, fe allech chi drafod ymhellach y gerdd fel y mae yn Saesneg gyda’r plant hynaf, a gweld beth oedd yn mynd trwy feddwl y bardd pan ysgrifennodd hi. Mae’n gerdd eithaf cyfarwydd, a ysgrifennwyd gan fardd a oedd yn byw tua dau gan mlynedd yn ôl.)

    Canai’r clychau ddydd Nadolig,
    Canent garolau hen a hyfryd,
    Yr un hen gân
    O’r clychau glân,
    Tangnefedd ac ewyllys da!

    Meddyliais wrth glywed y clychau hynny,
    A holl glychau’r wlad yn canu,
    Canu ynghyd
    Am heddwch trwy’r byd,
    Tangnefedd ac ewyllys da!

    Fe ganai’r clychau yn glir eu hiaith:
    ‘Nid yw Duw’n farw nac ynghwsg ychwaith!
    Bydd y Drwg yn methu,
    Fydd y Gwir ddim yn ffaelu,
    Tangnefedd ac ewyllys da!’
  4. Atgoffwch y plant bod llawer o garolau a chaneuon Nadoligaidd yn sôn am glychau. Gofynnwch i’r plant enwi rhai. (‘Clywch y clychau’n canu, Ding Dong .... ‘Jingle bells’, ‘Ding dong merrily on high’, ‘I heard the bells’, ac ati.)
  5. Dros gyfnod y Nadolig, pan fydd y plant yn clywed clychau’n canu neu’n clywed sôn am glychau, awgrymwch y gallen nhw gofio’r ffaith y byddai clychau’r Nadolig yn cael eu canu’n wreiddiol i atgoffa’r bobl ei bod hi’n ddiwrnod Nadolig, a’i bod hi’n amser iddyn nhw ddathlu genedigaeth Iesu.

Amser i feddwl

Mae mor hawdd ymgolli yng nghyffro dathliadau’r Nadolig, ac anghofio am wir ystyr yr wyl. Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am stori’r Nadolig, a meddwl sut y gwnaeth dyfodiad Iesu i’r ddaear newid y byd yn llwyr.

Gweddi

Annwyl Dduw, diolch i ti am y Nadolig.

Diolch bod gennym ni’r adeg arbennig hon i’n hatgoffa dy fod wedi anfon Iesu i’r byd oherwydd dy fod ti’n ein caru ni gymaint.

Yng nghanol yr hwyl a’r cyffro, helpa ni i beidio ag anghofio’r pethau rheini yn ein bywyd sy’n cyfrif o ddifrif.


Emyn

Canwch unrhyw garol y mae cyfeiriad ynddi at glychau.

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>